Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod. Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud. Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Dim Aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
|
|
Strategaeth Rhianta Corfforaethol PDF 165 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod o’r Cabinet yr adroddiad a thrafododd y swyddogion y cynnwys yn fwy manwl.
Her:
Beth yw cyfanswm y nifer sy’n gadael gofal? A yw hyn tua’r un cyfartaledd mewn cymhariaeth ag awdurdodau eraill? Pa gefnogaeth ychwanegol ellir ei roi i’r plant yma?
Nid wyf yn si?r, ond gallaf gael y wybodaeth ar ôl y cyfarfod (Camau Gweithredu: Charlotte Drury), ond yr hyn fyddwn i’n ei ddweud yw bod gennym ddeilliannau da. Mae’r rhai sy’n gadael gofal yma yn dueddol o ddisgyn i ddau gr?p penodol, pobl ifanc y mae eu trawma a’u taith trwy ofal heb fod mor adferol ag y byddai rhywun yn gobeithio a gwneir llawer o waith gyda nhw o ran hyfforddiant a chymorth a mynediad at addysg ac addysg yn hwyrach mewn oes. O ran y nifer o blant sydd mewn gwirionedd mewn addysg a phrentisiaethau gwaith addysg tymor hir neu mewn prifysgolion, rydym yn gwneud yn eithaf da yng nghyswllt ein cydweithwyr yng Ngwent, er nad oes gennym gymaint yn gadael gofal â rhai o’r awdurdodau mawr.
Mae adroddiad mwyaf diweddar y Comisiynydd Plant 2021-22 yn awgrymu nad oes digon o ddarpariaeth i blant ag anghenion cymhleth, sydd, yn ei hanfod, hefyd â’r potensial i gael effaith negyddol ar bobl ifanc sy’n gadael y system ofal. Roedd hynny’n peri pryder i mi. A yw hynny wedi gwella ers 2021-22?
Os ydym yn sôn am ddarparu gofal, pan fyddwn yn dweud anghenion cymhleth, yn ddieithriad rydym yn sôn am blant â phroblemau iechyd meddwl sylweddol, plant ag anabledd neu blant sydd wedi profi llawer iawn o drawma, y mae eu hanghenion therapiwtig ac adferol yn fawr, gydag ymddygiad anodd weithiau. Rydym mewn lle anodd ac mewn gwirionedd, mae’r sefyllfa honno wedi gwaethygu, o ran datsefydlogi’r farchnad, ddim yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig a sut y bydd yr agenda dileu yn symud yn ei blaen. Mae gan Sir Fynwy gynlluniau i greu ei hunedau preswyl ei hun fel ein bod yn gallu cael mwy o reolaeth a mwy o oruchwyliaeth dros y deilliannau i bobl ifanc, ond mae’n broblem genedlaethol. Rydym wedi bod yn ddibynnol iawn ar asiantaethau annibynnol sy’n broblem benodol yn Sir Fynwy, ond o ran yr anhawster i leoli plant mewn lleoliadau maeth yn gyffredinol, rydym yn rhannu’r un her â gweddill Cymru a’r Deyrnas Unedig, sef nad oes gennym ddigon o ofalwyr maeth ac mae eu recriwtio yn mynd yn fwy heriol, ac nid yw’r ‘agenda dileu’ wedi ein helpu yn hyn o beth. Rydym yn cael trafferth dod o hyd i leoliadau i grwpiau o frodyr a chwiorydd, nad oes ganddynt efallai anghenion cymhleth na heriol ac i blant iau, yn rhannol oherwydd bod gennym ddemograffig h?n, gyda llawer o ofalwyr maeth yn ymddeol a hefyd nid oes gennym bobl iau yn dod i’r arena maethu oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio byw yma. Mewn rhai cymunedau yn y cymoedd, gall rhoi gofal maeth gynnal incwm pobl, os oes gan bobl ystafell ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Blaenraglen Waith a Rhestr o’r Camau Gweithredu ar gyfer Craffu Pobl PDF 350 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd y flaenraglen.
|
|
Rhaglen Waith y Cyngor a’r Cabinet PDF 328 KB Cofnodion: Nodwyd y rhaglen.
|
|
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2023 PDF 411 KB Cofnodion: Cymeradwywyd y cofnodion.
|
|
Cadarnhau dyddiad y cyfarfod nesaf fel 6 Mehefin 2023 Cofnodion: Cadarnhawyd dyddiad y cyfarfod nesaf ar 6 Mehefin 2023.
|