Agenda and minutes

Special Meeting, Pwyllgor Craffu Lle - Dydd Llun, 23ain Hydref, 2023 4.00 pm

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dymock fuddiant, gan fod dau safle yn ei ward.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Codwyd y materion dilynol gan y cyhoedd yn ystod y fforwm yng nghyswllt y safleoedd y mae’r Cabinet yn dymuno ymgynghori arnynt:

 

·         Mae gwallau yn y broses pam y cafodd rhai safleoedd eu gwrthod sy’n dangos gwneud penderfyniadau anghyson a simsan. Roedd diffyg hysbysiad am y safleoedd sy’n cael eu hystyried ac nid oedd y cyhoedd yn gwybod fod y Cabinet yn ystyried y safleoedd.

 

·         Mae’r safle a gynigir yn Langley Close yn ardal gadwraeth ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) gyda gwrych hynafol a bywyd gwyllt sefydledig. Mae pryderon am ddiogelwch ffordd a phryderon am fynediad, llygredd aer a llygredd s?n.

 

·         Mae’r cynigion hyn yn anghytbwys, oherwydd os cymeradwywyd y safleoedd yn Bradbury Farm ac Oak Grove Farm, byddai tri safle yn agos iawn at ei gilydd. Mae effeithiau gweledol niweidiol ar y tirlun, ac mae’r tir o werth amaethyddol uchel. Mae Gwastadeddau Gwent yn SSSI felly teimlid y byddai rhoi safle mewn golwg llawn yn groes i bolisi cynllunio H6 sy’n cyfeirio at yr effaith gweledol.

 

·         Mae pryderon sylweddol am ddiogelwch ffyrdd, gan nad oes unrhyw lwybrau troed, mae’r ffordd yn heol 60mya, eto mae’r adroddiad yn sôn am ‘gysylltiadau cerdded da’. Nid oes unrhyw gysylltiadau bws a chysylltiad gwael i wasanaethau cyhoeddus, tebyg i ysgolion a siopau. Dywedodd pobl fod y cynigion ar gyfer safleoedd yn beryglus ac mae rhwydweithiau gwael y byddent yn eu cynnig.

 

 

3.

Galwad i mewn o'r penderfyniad gan gyfarfod arbennig y Cabinet ar 4 Hydref 2023 mewn perthynas â diwallu Anghenion Caeau Sipsiwn, Roma a Theithwyr - Adnabod Tir. pdf icon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd y Pwyllgor Craffu y broses galw mewn, fel yr amlinellir yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Siaradodd y Cynghorydd Taylor fel yr Arweinydd Galw Mewn, gan roi manylion y rhesymau dros alw’r penderfyniad mewn, fel y nodwyd yn y cais i alw mewn. Fe wnaeth y Cynghorwyr Howarth a Jones hefyd amlinellu’r rhesymau dros alw i mewn.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau Galw i Mewn:

 

·         Pryderon am gadernid a gwrthrychedd y broses.

·         Pryderon am gysondeb gweithredu’r graddiadau Coch, Oren a Gwyrdd a’r rhesymeg dros dderbyn neu wrthod rhai safleoedd fel rhan o’r broses. Soniodd aelodau fod ffeithiau anghywir ac anghyson ar agweddau tebyg i agosatrwydd at brif ffyrdd.

·         Pryderon am ddiffyg asesiadau ar safleoedd cyn eu cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd a chyn ymgynghoriad cyhoeddus – y ddadl yw fod y broses yn teimlo’n wallus.

·         Pryderon yn gysylltiedig â’r goblygiadau cost ac amseroldeb cynnal asesiadau y teimlir eu bod yn anaddas ar sail llygredd aer, llygredd s?n a halogiad tir posibl, yn arbennig o gofio’r hinsawdd ariannol anodd.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths i’r pwyntiau yn y galw i mewn ac ateb cwestiynau aelodau gyda Mark Hand, Nicholas Keyse, Cath Fallon a Craig O’Connor.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau Pwyllgor:

 

·         Gofynnwyd i’r Aelod Cabinet gadarnhau ei fod ef a swyddogion wedi ymweld Gofynnwyd i’r Aelod Atebodd yr Aelod Cabinet, gan gadarnhau ei fod wedi ymweld â phob safle.

 

·         Cafodd pryderon a nodwyd gan y cyhoedd am y broses i lunio rhestr fer eu hadleisio gan Aelodau – clywsant yr argymhellwyd fod Gwndy yn y rhestr fer derfynol, ond y cafodd ei dynnu ers hynny oherwydd fod y tir wedi ei halogi. Holwyd sut y gellid sicrhau Aelodau fod y broses yn gadarn a fod y cynigion yn hyfyw. Mae gan Aelodau bryderon am addasrwydd y safleoedd eraill: yn benodol ddiogelwch ffordd a diffyg llwybrau teithio llesol, cysylltiad gwael gyda thrafnidiaeth gyhoeddus a diffyg mynediad i wasanaethau cyhoeddus hanfodol.

 

·         Mae Atodiad 1 yr adroddiad yn awgrymu bod anghysonderau, yng nghyswllt Oak Grove Farm (awgrymwyd mai Oakwell Farm oedd yr enw cywir), gyda’r adroddiad yn sôn am ‘fynediad rhwydd’ i’r pentref, gan awgrymu y daw o fewn y ffocws teithio llesol. Anghytunodd Aelod yn gryf gyda hyn, gan esbonio y byddai’n beryglus iawn cerdded ar hyd ymyl y B4245 heb unrhyw ffordd ddiogel o gyrraedd ysgolion a siopau. Awgrymwyd fod yr adroddiad yn gamarweiniol, gan fod yr agosatrwydd at lwybrau teithio llesol yn 1.6 milltir, sy’n beryglus ar gyfer cymunedau i gerdded heb lwybr troed. Enghraifft arall a roddwyd oedd Bradbury Way, lle dywedodd Aelod y gwrthodwyd caniatâd cynllunio i d? cyfagos am dramwyfa yn arwain i Heol Crug oherwydd y credai swyddogion ei bod yn rhy beryglus. Fodd bynnag mae’r Cyngor yn cynnig rhoi lleiniau fyddai angen mynedfa/allfan o’r ffordd hon, heb unrhyw lwybrau troed ar gyfer pobl i gael mynediad yn ddiogel i gyfleusterau lleol.

 

·         Adleisiwyd pryderon am addasrwydd cynnig Langley Close, a godwyd gan y cyhoedd, a siaradodd am bryderon diogelwch ffordd gyda ffyrdd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Iau 9 Tachwedd 2023 am 10.00am.

Cofnodion:

Dydd Iau 9 Tachwedd 2023 am 10.00am.