Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Lle - Dydd Iau, 6ed Chwefror, 2025 2.00 pm

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Siaradodd dau aelod o’r cyhoedd ar fater y ddeiseb. Fe wnaethant awgrymu gweithredu croesiad gweladwy, mewn du neu wyn i sicrhau y gellir ei weld o’r palmant a hefyd y ffordd. Fe wnaethant sôn am broblemau gyda’r croesiad presennol ger adeilad Cil-y-coed, yn cynnwys ceir heb fod yn stopio, bod y safle bws yn creu man dall a sôn nad yw’n rhwydd gweld y croesiad sebra llwyd, yn arbennig ar gyfer ymwelwyr, a roedd y ffordd yn ymddangos i fod ar yr un lefel â’r palmant, gan arwain at ddryswch. Fe wnaethant awgrymu fod angen croesiad sebra mwy amlwg a llinellau melyn dwbl i wella diogelwch.

 

 

3.

Deiseb: Deiseb ‘Dylunio dros Iechyd a Diogelwch?’, yn ymwneud â diogelwch y groesfan sebra ar Sandy Lane gyferbyn â thafarn The Cross, Cil-y-coed – Cytuno p’un ai i gyfeirio at y Weithrediaeth neu’r Cyngor llawn ar gyfer gweithredu pdf icon PDF 50 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd y ddeiseb gan y Cynghorydd Jackie Strong, yn tynnu sylw at bryderon diogelwch y croesiad sebra ar Sandy Lane, gan bwysleisio fod y croesiad yn anodd i’w weld a bod y parth dim parcio yn cael ei anwybyddu. Nododd y cafodd y begwn a ddifrodwyd ei drwsio a disgrifiodd y problemau gyda cherbydau yn parcio mewn ardaloedd dim parcio a’r angen am orfodaeth well. Awgrymodd y gallai dyluniad y croesiad o bosibl achosi damweiniau a galwodd am weithredu ar frys i fynd i’r afael â’r materion hyn. Cynigiodd y dylai’r cyngor adolygu a chyhoeddi canlyniadau unrhyw adolygiadau diogelwch a chynnal adolygiad o’r croesiad ar frys ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor craffu gyda mwy o wybodaeth.

 

Cydnabu’r Aelod Cabinet Sara Burch y pryderon a godwyd ac ymddiheurodd am yr oedi yn eu trafod, gan nodi y cafodd y problemau eu codi dros gyfnod. Soniodd fod adolygiad o’r archwiliadau diogelwch gwreiddiol o 2020 a 2023 yn mynd rhagddo, gyda chynllun i ddiweddaru’r archwiliad ac ystyried ymarferoldeb technegol newidiadau a awgrymwyd, a dywedodd fod gr?p o swyddogion wedi cerdded y llwybr i weld y problemau drostynt eu hunain. Cafodd gr?p gorchwyl a gorffen ei gynnull i fynd i’r afael â’r awgrymiadau a wnaed gan breswylwyr a chynghorwyr. Mae’n ymroddedig i ddod â chynllun gweithredu manwl yn ôl a gweithredu’r mesurau diogelwch sydd eu hangen fel mater o frys, a thanlinellodd bwysigrwydd cynnwys preswylwyr wrth ddylunio cynlluniau yn y dyfodol i sicrhau y caiff eu hanghenion eu diwallu.

 

Penderfyniad y pwyllgor oedd atgyfeirio i’r Aelod Cabinet i ymateb ar gynnydd -  GWEITHREDU

 

 

4.

Cynigion Cyllideb Refeniw a Chyfalaf – Craffu Cynigion Drafft Gyllideb Refeniw a Chyfalaf 2025/26 pdf icon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad a’r cyflwyniad gan yr Aelod Cabinet Ben Callard ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Deb Hill-Howells, Jonathan Davies a’r Aelod Cabinet Sara Burch.

 

  • Gan ystyried fod y cyngor yn gweithredu arbedion gwasanaeth, a fedrid rhoi rhai tuag at gadw Together Works yng Nghil-y-coed ar agor? Fe wnaeth yr Aelod Cabinet gydnabod gwerth Together Works a’i gyllid drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sydd tu allan i reolaeth uniongyrchol y cyngor. Er yr arbedion gwasanaeth, esboniodd fod y cyngor yn dal i wynebu bwlch cyllideb o £3 miliwn, gan ei gwneud yn anodd dyrannu cyllid ychwanegol i Together Works. Fodd bynnag, mae’r cyngor yn ymchwilio opsiynau cyllid grant i gefnogi Together Works. 

 

  • Mae’r cynigion am Hen Orsaf Tyndyrn yn siomedig iawn – bydd llawer o breswylwyr yn bryderus y gall gael ei werthu. Eglurodd yr Aelod Cabinet nad oes cynnig ar hyn o bryd i gau Hen Orsaf Tyndyrn. Pwysleisiodd y bwriad i ymchwilio gwahanol opsiynau stiwardiaeth, yn cynnwys y posibilrwydd y gallai’r safle fod yn fwy llwyddiannus dan reolaeth y sector preifat. Tanlinellodd bwysigrwydd cydbwyso rôl yr awdurdod lleol a’r sector preifat wrth weithredu atyniadau twristiaeth yn Sir Fynwy.

 

  • Mae’r colledion o £50k ar y Fferm Solar yn bryder. A fedrir esbonio’r toriad grid? Esboniodd yr Aelod Cabinet fod toriadau grid yn digwydd pan mae gan y National Grid ormod o ynni ac angen cydbwyso mewnbwn ac allbwn i gadw amledd. Gall hyn arwain at i’r fferm solar gael ei throi bant, gan arwain at golledion.

 

  • Pa gyfran o ffyrdd a gaiff eu categoreiddio fel rhai du a choch? Faint a gaiff eu hystyried ar gyfer cynnal a chadw? A yw’r un categori yn bodoli ar gyfer palmentydd? Cafodd cyllid ar gyfer rhoi wyneb newydd ar Bont Gwy ei ddyrannu a chaiff dyddiad y gwaith ei gadarnhau yn y dyfodol agos. – GWEITHREDU – rhoi manylion ffyrdd du a choch.

 

  • A gafodd unrhyw gyllid ei ddyrannu ar gyfer trwsio Pont Gwy a Heol Staunton? Ni chafodd cyllid ei ddyrannu ar gyfer Heol Staunton yng nghyllideb eleni na’r flwyddyn nesaf; mae’n dibynnu ar gais ffyrdd cydnerth i Lywodraeth Cymru, a disgwylir cael y canlyniad erbyn diwedd mis Mawrth.

 

  • A gafodd unrhyw ran o’r buddsoddiad hawl tramwy cyhoeddus ei ddyrannu i Lwybr Dyffryn Gwy sydd wedi dymchwel yn Wyesham neu welliant i’r rhan yn Redbrook? Os na, pa ardaloedd y bwriedir eu targedu gyda’r cyllid hwnnw? Mae’r sefyllfa yn ymwneud â’r hawl tramwy cyhoeddus yn gymhleth, gan gynnwys problemau gyda pherchnogaeth tir a chyfrifoldeb. Rhoddir ymateb ysgrifenedig gyda gwybodaeth fwy manwl - GWEITHREDU

 

  • Beth yw’r rhesymeg a’r amserlen ar gyfer yr adolygiad o barcio ceir? Bydd yr adolygiad o barcio ceir yn edrych yn eang ar barcio ceir yn y sir, yn cynnwys systemau talu. Caiff yr arian a godir o barcio ceir ei neilltuo ar gyfer priffyrdd, ond nid yw’r incwm yn ddigon i dalu am yr holl gostau cynnal a chadw.

 

5.

Blaenraglen Waith a Rhestr Weithredu Pwyllgor Craffu Lle pdf icon PDF 476 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffodd swyddogion yr aelodau i ddarparu cwestiynau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Gwaith ar y Nedern cyn y cyfarfod nesaf. Cytunwyd ar gyfarfod arbennig ar 5 Mehefin i graffu’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd – GWEITHREDU

 

Gofynnodd aelodau am eitem i edrych ar y prisiau a godir ar gyfer marchnadoedd a stondinwyr, ac ar farchnadoedd yn fwy cyffredinol - GWEITHREDU. Ategodd y Cynghorydd Brown y bwriad i graffu’r cynnig i’r Loteri am y Neuadd Sirol.

 

 

 

6.

Cynllunydd Gwaith Cyngor a Chabinet pdf icon PDF 117 KB

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 368 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion.

 

 

8.

Cyfarfod nesaf: Dydd Iau 27 Mawrth 2025 am 2.00pm

Cofnodion:

Dydd Iau 27 Mawrth 2025 am 2.00pm.