Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oess unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod. Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud. Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod llawer o gyflwyniadau/sylwadau wedi dod i law ac na fyddai'n bosibl eu darllen yn uchel yn y cyfarfod oherwydd y nifer sylweddol. Dywedodd fod cyflwyniadau ysgrifenedig a dderbyniwyd mewn da o bryd cyn y cyfarfod wedi'u rhannu â'r Pwyllgor, yr Aelod Cabinet a swyddogion, ac y byddai unrhyw gyflwyniadau a dderbyniwyd ers hynny, yn cael eu hanfon ymlaen at yr Aelod Cabinet a swyddogion i'w hystyried ymhellach.
Nododd y Cadeirydd ei bod wedi derbyn 15 cyflwyniad ysgrifenedig yn gwrthwynebu safle CS0270 yn y cynllun, a dau arall yn gwrthwynebu tir yn Heol Mounton a thir i'r gorllewin o Frynbuga, Penperllenni. Siaradodd tri Aelod o’r cyhoedd yn y cyfarfod am CS0270 gan godi nifer o bryderon:
· Digonolrwydd seilwaith, sut y bydd cartrefi yn ddi-garbon pan nad yw'r datblygwr wedi ymrwymo iddo tan 2050, cynnydd posibl mewn gollyngiadau ffosffad sydd eisoes yn uwch na'r lefelau a ganiateir, cwestiynu a fydd digon o arian ar gael, gan ofyn pam na all y 270 o gartrefi gael eu hychwanegu at y Fenni, ac awgrymu ei fod yn rhy bell o ganol y dref ar gyfer cerdded neu feicio tra yn Y Fenni byddai’r cartrefi yn nes at yr orsaf drenau.
·
Nodwyd fod CS0270 yn safle
arbennig o ystyried ei harddwch a'i leoliad, ei bwysigrwydd i'r
ystlumod pedol mwyaf, ei welededd o'r Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol a'i agosrwydd at heneb gofrestredig, a gwrthwynebu colli
tir amaethyddol o'r radd flaenaf – sy'n awgrymu Felly byddai
CS0274 yn ddewis amgen gwell. · Codwyd pryderon am allyriadau traffig a monitro ansawdd aer yn Nhrefynwy, gan awgrymu bod y fethodoleg bresennol yn ddiffygiol a bod diffyg data digonol ar allyriadau gwirioneddol neu ragamcanol.
Diolchodd y Cadeirydd i'r cyhoedd am eu mewnbwn, drwy anfon cyflwyniadau ysgrifenedig a thrwy gyfrannu at y cyfarfod trwy'r Fforwm Agored i'r Cyhoedd.
|
|
Cynllun Adnau y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA) PDF 520 KB Craffu Cynllun Adnau y Cynllun Datblygu Lleol Newydd cyn i’r Cyngor ei gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths yr adroddiad - rhoddodd gyflwyniad, ac atebodd gwestiynau’r Aelodau gyda Craig O’Connor. Yn ei gyflwyniad o’r adroddiad, cydnabu’r Cynghorydd Griffiths y canlynol:
·
Tueddiadau Demograffig:
Tynnodd sylw at y dirywiad mewn poblogaethau oedran ysgol ac oedran
gweithio yn Sir Fynwy, yn cyferbynnu â'r twf yn y boblogaeth
dros 65 oed, gan bwysleisio'r angen i wrthdroi'r tueddiadau hyn i
gynnal cymunedau cynaliadwy. · Tai a Fforddiadwyedd: Pwysleisiodd y pwysigrwydd o gynyddu'r cyflenwad o dai, yn enwedig tai fforddiadwy, i gadw pobl ifanc yn y sir, gan amlygu na all 50% o'r boblogaeth fforddio prynu tai ar y farchnad agored, gan olygu bod angen lefel uchel o dai fforddiadwy yn y cynllun.
· Cynigion y Cynllun: Amlinellodd y cynllun i ddarparu 2000 o gartrefi newydd dros 15 mlynedd, gyda 50% yn dai fforddiadwy, gan egluro y byddai 660 o'r rhain yn dai cymdeithasol i'w rhentu, gyda 330 yn opsiynau perchentyaeth cost isel.
· Tir Cyflogaeth: Trafododd y ddarpariaeth o 48 hectar o dir cyflogaeth i gefnogi twf swyddi a mynd i'r afael â'r diffyg tir ar gyfer ehangu busnes.
· Cynaliadwyedd a Seilwaith: Pwysleisiodd y bydd cartrefi newydd o fewn pellter cerdded i aneddiadau presennol, yn ddi-garbon net, ac yn cael eu cefnogi gan y seilwaith angenrheidiol.
· Gweledigaeth Gyffredinol: Eglurodd mai nod y cynllun yw creu cymunedau iau, mwy cynaliadwy drwy ddarparu tai priodol a chyfleoedd gwaith, tra'n gwarchod yr amgylchedd, a chefnogi canol trefi presennol.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod Cabinet am gyflwyno'r adroddiad ac aeth ymlaen i dderbyn cwestiynau a phwyntiau allweddol gan y Pwyllgor, gydag atebion yn cael eu rhoi gan yr Aelod Cabinet a’r swyddogion.
Cwestiynau a phwyntiau allweddol a godwyd gan y Pwyllgor:?
· Gofynnodd Aelod, mewn perthynas â safle ymgeisiol CSO270, beth fyddai effaith y mewnlifiad o drigolion yn deillio o'r safleoedd treigl o'r CDLl blaenorol o 280 o gartrefi, a sut y byddai hyn yn effeithio ar nifer y cerbydau ar y ffyrdd.
Fe'u hysbyswyd bod y tîm polisi cynllunio wedi adolygu'r safleoedd ac wedi ystyried yr effaith ar y seilwaith presennol a bod safle Heol Dixton wedi'i nodi fel yr opsiwn mwyaf priodol a chynaliadwy.
· Gofynnwyd a oedd y safle cyflogaeth ymgeisiol 5.8 hectar yn ddigon i ddarparu digon o gyfleoedd cyflogaeth i’r rhai sy’n byw yn y cartrefi newydd, er mwyn i drigolion Trefynwy gyflawni’r maen prawf o fyw bywydau cynaliadwy. Mynegodd yr Aelod ei bryderon ynghylch gwaethygu tagfeydd ffyrdd ymhellach.
Fe'u hysbyswyd bod 4.5 hectar o dir cyflogaeth wedi'i ddyrannu ar safle Heol Wonastow, ac y dylai hyn greu swyddi o fewn yr ardal i gydbwyso'r tai.
· Gofynnodd Aelod sut mae Trefynwy yn gymwys fel datblygiad cynaliadwy o ystyried y diffyg difrifol mewn cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus
Fe'u hysbyswyd bod safle wedi'i ddyrannu i Drefynwy i gadw'r gymuned yn gynaliadwy a sicrhau demograffeg gytbwys. Cadarnhaodd hefyd fod y datrysiad ffosffadau strategol ar gyfer Trefynwy yn galluogi datblygu cynaliadwy.
· Gofynnodd Aelod pam nad yw’r strategaeth trafnidiaeth leol wedi’i chynnwys yn y CDLlA a pham nad yw asesiadau trafnidiaeth yn cael eu cynnal tan ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Blaenraglen Gwaith a Rhestr Gweithredu y Pwyllgor Craffu Lleoedd PDF 467 KB Cofnodion: Nodwyd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a byddai'r amserlenni ar gyfer yr Adolygiad Parcio yn cael eu hegluro. |
|
Blaengynllun y Cabinet a’r Cyngor PDF 239 KB Cofnodion: Nodwyd y cynllun.
|
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfodydd blaenorol: PDF 256 KB 11 Gorffennaf 2024 24 Gorffennaf 2024 (Arbennig) 3 Medi 2024 (Arbennig)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
· 11eg Gorffennaf 2024 · 24ain Gorffennaf 2024 (Arbennig) · 3ydd Medi 2024 (Arbennig)
Cadarnhawyd y cofnodion - cynigiwyd gan y Cynghorydd Lucas ac eiliwyd gan y Cynghorydd Wright.
|
|
Cyfarfod Nesaf: 7 Tachwedd 2024 Cofnodion: Cadarnhawyd fel 7fed Tachwedd 2024 |