Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Chandler wedi datgan buddiant  na sy’n rhagfarnu fel cyn-weithiwr gydag Amnesty International.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Roedd Shaun Hartley wedi trafod y pwnc Stratgaeth a Ffefrir CDLlD. 

 

Roedd Hugo Perks wedi siarad am bwnc y ddeiseb o dan Eitem  4 sy’n ymwneud gyda defnydd y Cyngor o beirianwaith JCB.

 

3.

Deiseb: Goryrru ar Heol Birbeck, Cil-y-coed pdf icon PDF 394 KB

Cytuno a ddylid cyfeirio hyn at y  Weithrediaeth neu’r Cyngor llawn ar gyfer ei weithredu  

 

Cofnodion:

Deiseb wedi ei thynnu nôl.  Yn dilyn sgyrsiau gyda swyddogion, dywedodd y Cynghorydd Easson fod camau yn cael eu cymryd ar Ffordd Birbeck i leihau’r cyflymder, a monitro effeithiolrwydd y mesurau hynny. Diolchodd i’r swyddogion am eu gwaith.  

 

4.

Deiseb: Defnydd y Cyngor o Beiriannau JCB pdf icon PDF 135 KB

Cytuno a ddylid cyfeirio hyn at y  Weithrediaeth neu’r Cyngor llawn ar gyfer ei weithredu

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Davies wedi mynegi ei wrthwynebiad i’r mudiad  boicot a chosbau yn erbyn Israel. Tra’n cydnabod gwewyr pobl Palesteina, gobeithiodd y byddai’r Cyngor yn atgyfnerthu ei gefnogaeth tuag at Israel fel yr unig ddemocratiaeth yn y Dwyrain Canol,  a chynigiodd na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach.  

 

Roedd y Cynghorydd Callard hefyd wedi cynnig na ddylid cymryd camau pellach ac ni ddylai Cyngor wneud dim byd mwy.  

 

Roedd y Cynghorydd Chandler yn anghytuno gyda’r datganiad mai   Israel yw’r unig ddemocratiaeth yn y rhanbarth. Roedd wedi mynegi cydymdeimlad ar gyfer y rheswm dros y cynnig a nododd fod y gymuned ryngwladol wedi datgan dro ar ôl tro bod Israel yn meddiannu’r tir yn anghyfreithlon. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, mae’r cynnig yn rhy arwynebol ond hoffai nodi y byddai’r Cyngor ar ryw bwynt yn mynegi cadernid gyda phobl Palesteina, ac yn galw ar Lywodraeth Israel i dynnu nôl ac yn galw ar y busnesau rhyngwladol sydd yn gwneud busnes yno i dynnu nôl hefyd.  

 

 

5.

Trafodaeth o Flaenraglen Waith y Pwyllgor pdf icon PDF 396 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Chandler bod Band Eang Gwledig, a oedd ar agenda heddiw yn wreiddiol, yn cael ei ychwanegu at yr agenda wythnos nesaf.  Nododd y Cynghorydd Howarth  fod yna drafodaeth yn y Pwyllgor Buddsoddi yr wythnos hon am bapur sydd i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn cyn hir am fand eang y sir – efallai y bydd yn helpu i lywio’r drafodaeth ac ateb rhai cwestiynau. 

 

6.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30ain Mehefin 2022 pdf icon PDF 352 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion ac fe’u harwyddwyd fel cofnod cywir.  

 

Gofynnodd Chandler am y ‘materion sy’n codi’ a chytunodd swyddogion i ddarparu rhestr o’r camau gweithredu yn dilyn pob cyfarfod. Roedd y Cynghorydd  Brown wedi cytuno. Awgrymodd y Cynghorydd Strong y dylid cysylltu’r cynllun gweithredu gyda’r blaenraglen waith. 

 

7.

Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig: Strategaeth a Ffefrir pdf icon PDF 528 KB

Craffu cyn gwneud penderfyniad ar y Strategaeth a Ffefrir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths wedi cyflwyno’r eitem. Roedd Craig O’Connor a Mark Hand wedi rhoi cyflwyniad ac wedi ateb cwestiynau'r Aelodau gyda’r Cynghorydd Griffiths a’r Cynghorydd Burch. O ran y sylwadau a wnaed yn y Fforwm Agored Cyhoeddus, nododd  Mark Hand fod y Cynllun Trafnidiaeth Lleol a’r Cynllun Seilwaith hefyd i’w cyflwyno gyda’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyfnod adneuo hwyrach; dyma gam gyntaf o’r ymgynghoriad statudol. Mae swyddogion yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau ac yn datblygu pethau yn y ffordd gywir - bydd y materion sy’n codi yn cael eu hystyried yn llawn wedyn.  

 

Her:

 

A oes yna sicrwydd y bydd yna gyllid ar gyfer cysylltiadau teithio llesol i’r safleoedd newydd yma cyn bod y tai yn cael eu hadeiladu? E.e. mae safle’r Fenni yn agos at ffordd brysur a rheilffordd, ac mae’n annhebygol y bydd pobl yn cerdded neu’n seiclo i’r dref drwy gyffordd Hardwick, ac unwaith eu bod yn cael car, ni fyddant wedyn yn defnyddio dulliau teithio llesol. 

 

Nid ydym eto wedi cyrraedd y cam lle y mae modd i ni roi sicrwydd am y cyllid ond mae’r polisi cynllun cenedlaethol wedi ei ddiweddaru’n ddiweddar er mwyn cynnig eglurder am deithio llesol a’r amserlen ar gyfer datblygu a chyflenwi, fel bod hyn yn cefnogi datblygiadau newydd yn y ffordd a ddisgrifir.  Rydym yn gweithio’n agos gyda’r tîm Teithio Llesol. Roedd y safleoedd strategol yma hefyd wedi eu hystyried yn y mapiau rhwydwaith integredig fel bod modd cadw opsiynau yn agored ar gyfer blaenoriaethau’r dyfodol, ac mae’r mapiau rhwydwaith yma yn mynd i fod yn sylfaen ar gyfer ceisiadau am gyllid yn y dyfodol. Y bwriad yw sicrhau bod y llwybrau yma yn eu lle ar y dechrau a bod cyllid ar eu cyfer.  

 

Nid ydym yn medru dychmygu datblygu safle’r Fenni heb fod yna gysylltiad eglur ar draws y rheilffordd ac i’r dref. Rydym eisoes yn buddsoddi mewn llwybr teithio llesol i safle Cil-y-coed o’r canol, ac rydym yn gobeithio cwblhau hyn cyn bwrw ymlaen gyda’r datblygiad preswyl. Mae yna gynlluniau yn barod i gysylltu safle Bayfield gyda’r ysgolion a chanol tref Cas-gwent; rhaid i ni sicrhau  eu bod yn cael eu cwblhau cyn/neu ar y cyd gyda’r datblygiad preswyl. 

 

Mae yna lawer o ddatblygiadau gyda ystadau o dai yn cael eu defnyddio ond nid oes yna wasanaethau yn cael eu hadeiladu gyda hwy. Beth sydd yn bosib ei wneud er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus yma yn eu lle er mwyn creu cymunedau a chadw trigolion allan o’u ceir?

 

Rydym yn gweithio gyda mudiadau amrywiol ar agweddau gwanhaol.  Mae un yn cynnwys bod rhai safleoedd yn ddatblygiadau defnydd cymysg ac mae un arall yn ymwneud gyda lleoedd mewn ysgolion, sydd yn weddol syml gan ein bod ni fel awdurdod addysg lleol  yn medru delio gyda chapasiti ac angen. Y rhan fwyaf cymhleth yw’r seilwaith iechyd ac rydym yn gweithio gyda BIPAB e.e. yn y cyfarfodydd diweddar a’r rhai sydd i’w cynnal o’r grwpiau Meddygon Teulu yn Sir Fynwy. Byddwn yn parhau i ymgysylltu  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Terfyn Cyflymder o 20mya ar y B4245

Craffu cyn gwneud penderfyniad ar yr adroddiad ac ystyried yr ymatebion cymunedol sydd wedi eu derbyn. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Graham Kinsella a Mark Hand wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau gan Aelodau.  

 

Her:

 

Ai dyma’r unig newydd sydd yn cael ei gynnig ar gyfer peilot Glan Hafren neu a oes mwy yn debygol? 

 

O ran y Gorchymyn Diwygio presennol, sydd yn mynd i’r Aelod Cabinet ar 30ain Tachwedd, yr unig newidiadau yw’r 2 lain sydd ar y sleid ar y cyflwyniad (y rhai mewn gwyrdd, rhan amser gan ysgol gynradd Durand). Roedd aelodau Glan Hafren wedi gwneud cais am newid arall ar y rhan rhwng ochr ddwyreiniol Gwndy ac ochr orllewinol  Rogiet: mae’n 40mya ar hyn o bryd gyda darn bach 60mya yn y canol, gydag Aelodau yn awgrymu y dylai’r holl ffordd fod yn 40mya. Nid oedd hyn wedi ei gynnwys yng Ngorchymyn Diwygio  5 yn sgil camgymeriad ond bydd yn rhan o  Orchymyn Diwygio 7 yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

 

Mae’r ardal o gwmpas ysgol gynradd Durand yn bryder gan fod y meini prawf yn datgan na ddylid bod yna eithriad o fewn 100 metr o ysgol? Beth am amser cinio yn yr ysgol a’r amseroedd ar gyfer amrywio’r terfynau cyflymder?

 

Mae’r meini prawf o ran eithrio yn cyfeirio at y pellter i fynedfa’r ysgol. Yn yr achos hwn, mae mynedfa Durand oddi ar y B4245, ac arweiniodd hyn at gryn drafodaeth. Gan mai ysgol gynradd yw hon, credwyd mai prin iawn fydd yr achosion lle y mae plant yn gadael amser cinio heb gael eu goruchwylio.

 

Sut y bydd newid i 20mya yn cael ei gyfathrebu i’r gyrwyr?  

 

Y bwriad yw amlygu hyn drwy gyfrwng arwyddion sydd yn fflachio: bydd y  goleuadau oren sy’n fflachio yn fflachio yn ystod yr amseroedd hyn  a bydd yr arwydd yn dangos ‘20mya pan fydd y golau yn fflachio’, ac felly, bydd yn eglur i’r holl yrwyr. Roeddem wedi ymgynghori gyda’r ysgol a’r amseroedd y maent yn ffafrio.

Yn sgil y canllaw eithrio sydd newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, a yw’n bosib y bydd y 20mya arfaethedig yn Nhrefynwy yn newid?

 

Nid ydym yn medru ateb hyn eto ond byddwn yn ystyried hyn ac yn ateb y  cwestiwn y tu allan i’r cyfarfod. 

MARK HAND YN GYFRIFOL AM WNEUD HYN UNWAITH BOD YR ADOLYGIAD WEDI EI GYNNAL  

 

 

A fydd yn bosib cynnal adolygiad mewn blwyddyn? Yn enwedig o feddwl am y posibilrwydd o ganlyniadau na sydd wedi eu bwriadu e.e. gyda gyrwyr yn osgoi’r B4245 drwy fynd lawr ffyrdd cul, ac roedd bron yn achosi damweiniau. 

 

Rydym yn hapus i gynnal adolygiad holistaidd o’r  B4245 gydag Aelodau. Byddai’n werth cwrdd cyn hir er mwyn llywio hyn. Dylid nodi fodd bynnag y bydd llawer o’n hadnoddau yn y flwyddyn ariannol nesaf yn mynd i ffocysu ar weithredu’r newid deddfwriaethol ar draws Cymru.  

 

Nid oes arwydd ysgol ar y ffordd y tu allan i ysgol Durand– a oes modd edrych ar hyn?

 

Oes – mae hwn yn bwynt da a byddwn yn ystyried hyn.  

 

A fydd yna fonitro ar waith,  yn enwedig ymhlith gyrwyr sydd yn gyrru agos at  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Cytuno ar wahardd y wasg a’r cyhoedd ar gyfer yr eitemau canlynol

10.

Galw i Mewn: Tir Drws Nesaf i Ysgol Gyfun Cil-y-coed pdf icon PDF 223 KB

Ystyried cais i ‘alw i mewn’ y penderfyniad a wnaed ar 20fed Hydref 2022 yngl?n â Chyfle i Ddatblygu Tai.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorwyr Taylor a Howarth wedi amlinellu’r rhesymau dros alw i mewn:

 

  • Yn 2018, roedd y Cyngor wedi cytuno i greu cwmni datblygu er mwyn ymyrryd yn y farchnad dai leol. Yn 2020, roedd yna brofi a chafwyd trafodaeth bellach. 

 

  • Ein dealltwriaeth ni yw bod y safle yma wedi ei ystyried gan y Cyngor ar gyfer dysgu, adeiladu’r capasiti mewnol a’n datblygu ei ddealltwriaeth   yngl?n â darparu unedau fforddiadwy,  gyda’r bwriad i ddatblygu cwmni datblygu tai a’n defnyddio safle Cil-y-coed fel safle prawf.  

 

  • Roedd yr adroddiad i’r Cabinet yn ddiweddar  yn wahanol iawn. Nid oedd nifer o opsiynau a oedd ar gael wedi eu harchwilio’n llwyr ac rydym nawr yn wynebu sefyllfa ariannol wahanol iawn. 

 

  • Rydym o’r gred nadd yw’r broses sydd wedi arwain at y penderfyniad a wnaed gan y Cyngor  wedi bod yn gwbl dryloyw ac ni ystyriwyd yr holl opsiynau. 

 

  • Mae’r meysydd sydd angen eglurhad yn cynnwys: nid oedd yr opsiwn i wneud cynnig ar y safle yn gwbl agored; roedd maniffesto’r Blaid Lafur wedi addo sefydlu cwmni tai ac ymatal rhag cael gwared ar asedau; natur y derbynneb cyfalaf; dirprwyo i swyddogion ac aelod Cabinet unigol. 

 

  • A ydym wedi gwerthuso’r opsiwn yma fel yr opsiwn cywir mewn gwirionedd, o feddwl ei fod yn brif safle, nid yn safle eithriedig

 

  • Petawn yn symud ymlaen gyda'r safle hwn, byddem yn edrych am dderbynneb cyfalaf sylweddol – os nad yw hyn bosib, ni fyddai modd cyfiawnhau hyn i bobl Sir Fynwy. 

 

Yn dilyn trafodaeth rhwng Aelodau a swyddogion, roedd Aelodau wedi datgan nad yw’r adroddiad yn cynnwys digon o fanylion - yn enwedig o ran gwerthuso’r opsiynau - ond roedd y rhan fwyaf wedi eu cysuro o ran y canlyniad. Dymunai swyddogion gadarnhau y byddai yna dderbynneb cyfalaf yn sgil y cynnig hwn.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Roedd y Pwyllgor wedi cytuno i dderbyn penderfyniad y Cabinet, a hynny’n dilyn pleidlais o 5 i 2.

 

 

11.

Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf fel 12fed Ionawr 2023.