Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Lisa Dymock.

 

2.

Penodi Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Derbyniwyd enwebiadau ar gyfer y Cynghorydd McConnell a'r Cynghorydd Lucas (a'r Cynghorydd Brown - wedi gwrthod).

 

Cafodd y Cynghorydd Lucas ei benodi'n Is-gadeirydd, yn dilyn pleidlais.

 

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dymock ddiddordeb yn neiseb Dolydd y Castell, fel y cyn-aelod Cabinet dros BywydMynwy, ac wedi cwrdd â Ffrindiau Dolydd y Castell.

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau cyhoeddus.

 

5.

Trafodaeth ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor. pdf icon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yr eitemau a gynigiwyd gan y pwyllgor oedd cau Stryd Fawr Cas-gwent, cynlluniau'r Cyngor i atal ac amddiffyn rhag llifogydd, y modd y gwneir trefniadau teithio llesol, sut mae'r ysgol newydd yn y Fenni i gael ei defnyddio fel hyb cymunedol a bod gwybodaeth yn cael ei chyfathrebu, y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, adfywio'r strydoedd mawr, Stryd Mynwy yn Nhrefynwy (gyda rhan o'r cais Ffyniant Bro yn dod), Teithio Llesol, dull y Cyngor o greu lleoedd, sut i drosoli cyfalaf dinesig sylweddol y sir er budd y sir a'r boblogaeth ehangach, gan edrych ar rai o'r materion sy'n syrthio o dan y gweithgorau, cefnogi ôl-osod ac insiwleiddio ar gyfer tai, a thai fforddiadwy.

 

Ymatebodd Mark Hand fod y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid yn wir yn eistedd yn dda yn y pwyllgor hwn, a bod llawer o waith yn dod i fyny arno. Eleni mae'n rhaid i'r Cyngor greu strategaeth Llifogydd newydd, fydd yn ddarn delfrydol i'r pwyllgor graffu arno; gallai'r papur diweddaru ar Adran 19 (adroddiadau ymchwilio i lifogydd) fod o ddiddordeb. Mae strydoedd mawr yn mynd drwy amrywiol brosesau e.e. Trawsnewid Uwchgynllun Cas-gwent - bydd gwaith i ddod. Mae llawer o waith Teithio Llesol rhwng Priffyrdd a BywydMynwy. O ran Teithio Llesol a Dolydd y Castell, bydd angen i'r pwyllgor sicrhau nad oes gorgyffwrdd â Chynllunio. Ar gwestiwn am faterion lleol yng Nghas-gwent a'r Fenni.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Chandler a fydd materion lleol hefyd yn dod o dan bwyllgorau ardal. Nid oedd gan Mark Hand y manylion, a bydd yn dod yn ôl at y Cynghorydd â‘r ateb.

 

 

6.

Craffu cyn gwneud penderfyniad ar Gynllun Dyfodol Pentrefi Dyffryn Gwy. pdf icon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Roger Hoggins yr adroddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau gyda Mark Hand.

 

Her:

 

A allem ni gael eglurhad pellach ar gyllid a chostau?

 

Ystyriwyd bod astudiaeth Dyffryn Gwy yn gyfle i ddod â chynghorau cymuned at ei gilydd. Edrychwyd arno fel arbrawf, ar un ystyr, a chafodd y fantais ychwanegol o gael ffin gorfforol gan ei fod wedi'i leoli yn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy - roedden nhw wedyn yn cael mewnbwn ac yn helpu'n sylweddolgyda'r cyllid. Daeth yr holl waith a’r ymgynghoriad i £49m, ond efallai na fyddai angen i adroddiadau eraill fod mor helaeth ac felly mor gostus. Mae'r cynghorau cymuned dan sylw wedi codi eu praeseptau er mwyn codi arian i gyfrannu tuag at arwyddion newydd.

 

 

Efallai bod gan bentrefi eraill ddiddordeb, felly beth yw manteision ac anfanteision y dull hwn?

 

Drwy ddod â'r cynghorau cymuned at ei gilydd, roedden nhw'n gweithredu gyda'i gilydd, a helpodd hyn hwy i weithio tuag at nod cyffredin. Un o wendidau'r dull gweithredu yma yw os yw un o'r cynghorau cymuned yn dweud nad ydyn nhw'n cytuno nac yn dymuno cymryd rhan bellach.

Does dim sôn amdano ar hyn o bryd, ond mae'n risg. Roedd arwyddion yn enghraifft dda o waith cydweithredol cadarnhaol, er ar fater cymharol fach: erbyn hyn mae arwyddion ym mhobman yn hysbysu'r cyhoedd eu bod yn yr AHNE, pob un â chefndiroedd yn gysylltiedig â'r pentrefi unigol, ac felly'n helpu i greu hunaniaeth i'r AHNE a'r pentrefi o’i mewn.

Rydym wedi gallu gweithredu ar y cyd wrth gyflwyno'r pentrefi ar gyfer y materion rheoli cyflymder; yn yr un modd, gyda'r neuaddau pentref, byddwn ni'n gallu gweithio ar draws ardal Dyffryn Gwy. Mae p'un a yw cynghorau cymuned eraill am weithredu ar y cyd yn rhywbeth y gellid ei archwilio ond yn yr achos hwn, roedd bod yn yr AHNE yn dod â nhw at ei gilydd yn haws ac yn rhesymegol. Mae'n ymddangos ei fod yn dod â mwy o hyder i'r cynghorau cymuned i fod yn fwy rhagweithiol yn eu hardaloedd. Rydym yn ceisio creu diwylliant lle mae cynghorau cymuned a thref yn rhagweithiol wrth weithio gyda'r Cyngor Sir, yn hytrach na gweithredu fel unigolion.

 

Mae cyllid Teithio Llesol yn tueddu i ganolbwyntio ar ganol trefi, yn hytrach na phentrefi - nid yw'n ymddangos bod ystyriaeth am Deithio Llesol yn cysylltu pentrefi â threfi?

 

Dylid fod wedi datgan y term 'Teithio Llesol' fel cerddwyr a seiclwyr. Mae uno pentrefi i drefi yn bwynt da. Mae'n debyg bod angen ei godi mewn mannau eraill rywbryd ond ie, ar hyn o bryd, mae cyllid wedi'i anelu'n bennaf tuag at ganol trefi.

 

Faint gymerodd i wneud y gwaith?

 

Dechreuodd y broses ym mis Hydref 2019 yn Nhyndyrn pan wnaethom lunio agenda a gofyn am gymorth gan gynghorau cymuned. Aethom i Catbrook i ysgrifennu'r cylch gorchwyl, yna gweithio o gwmpas pentrefi lleol mewn cyfarfodydd amrywiol. Fe wnaeth y broses arafu rywfaint gyda'r pandemig. Digwyddodd rhywfaint o ymgysylltu â rhanddeiliaid dros Dimau ac roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus ehangach  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Craffu cyn gwneud penderfyniad ar y Cynllun Cyllido a Chyflawni ar gyfer Adfywio 2022-2025 (cyn mynd gerbron y Cabinet ar 27ain Gorffennaf 2022) (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 288 KB

Cofnodion:

Mark Hand a Daniel Fordham gyflwynodd yr adroddiad ac ateb cwestiynau'r aelodau

 

Her:

 

Pam nad oes sôn am Gas-gwent yn yr argymhelliad cyntaf, pan mae wedi'i restru yn Atodiad B?

 

Nid yw'r argymhelliad cyntaf yn cynnwys Cas-gwent gan y cytunwyd arno'r llynedd, gyda'r gwaith eisoes ar y gweill a'r bwriad o'i gwblhau yn dybiedig. Mae'r ail argymhelliad yn ymwneud ag oedi ar benderfyniad ynghylch prosiectau strategol nes ein bod yn gwybod penderfyniad ar ariannu yn yr Hydref. Y trydydd argymhelliad yw cymeradwyo'r rhestr yn Atodiad B, sy'n cynnwys y prosiectau hynny yng Nghas-gwent.

 

Beth mae 'Chepstow Shopfront enveloping' yn ei olygu? Oes 'na grantiau ar gyfer gwella blaen siopau neu bethau fel trwsio'r cloc ar adeilad Herbert Lewis? Beth sydd wedi digwydd gyda'r cais cynllunio ar gyfer yr adeilad hwnnw?

 

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fframwaith diwygiedig ar gyfer y Grant Trawsnewid Trefi ar gyfer y tair blynedd nesaf. Ymdrinnir ag ystod eang o brosiectau, gan gynnwys grantiau ar gyfer eiddo masnachol ac adnewyddu preifat posibl ohonynt, grantiau ar gyfer cynlluniau  tir cyhoeddus cymharol fach, potensial ar gyfer ariannu prosiectau seilwaith gwyrdd, prosiectau cysylltedd sy'n canolbwyntio ar ganol tref, ac eraill. Mae ein prosiectau yn y rhestr hon yr un mor eang, sy'n adlewyrchu hyn.

 

O ran ‘enveloping’ , dros y 2-3 mlynedd diwethaf rydym wedi darparu cyllid ar gyfer rhaglen o ffrynt siopau yng Nghil-y-coed; Mae 3 neu 4 prosiect wedi'u cwblhau i wella adeiladau masnachol, gyda 2-3 yn fwy o grantiau posib yn yr arfaeth ar gyfer eleni. Cyflwyno'r cynnig hwn yw dull grantiau o redeg adeiladau masnachol mewn canol trefi i'r Fenni, Trefynwy a Chas-gwent. Mae cynhyrchu'r nifer sy'n derbyn y cynnig yn heriol felly mae'r symiau sy'n cael eu ceisio yn gymharol isel. Nid oes prosiectau penodol yn ymwneud ag eiddo gwag sydd wedi'u rhestru ar hyn o bryd yng nghynigion grantiau Creu Lleoedd, er ei fod ar ein radar i fynd i'r afael â mecanweithiau eraill efallai. Y llynedd fe ddaethom ni ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd 'yn y cyfamser' - byddai hynny'n opsiwn eto, neu mae opsiynau yma i'w defnyddio'n hwy. Er enghraifft, yng Nghil-y-coed, mae prosiect i ddod â defnydd eiddo gwag hirdymor yn adeilad 7-43 Ffordd Casnewydd, fel rhan o gynigion cronfa Ffyniant Bro.

 

Ydyn ni'n edrych i fynd allan i aelodau newydd am eiddo maen nhw'n poeni amdanyn nhw?

 

Ddim yn benodol. Mae arolygon blynyddol ar unedau manwerthu gwag ac mae'r Siambrau Masnach yn rhoi gwybodaeth reolaidd i ni. Fe wnaethom gynnal cyfres o gyfarfodydd chwarterol gyda chynrychiolwyr y Cyngor Siambr a Thref yn ystod Covid yr hoffem eu hatgyfodi: dyma ofod lle gall aelodau ddweud wrthym am bethau sy'n digwydd a materion yn eu trefi.

 

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Cytunwyd ar yr argymhellion.

 

 

 

8.

Deisebau a Dderbyniwyd - i argymell camau gweithredu i'r Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y deisebau. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y bydd y pwyllgor yn cyfeirio'r deisebau at yr Aelod Cabinet a'r Prif Swyddog ond yn gofyn am adborth ysgrifenedig i'r Pwyllgor Craffu Ar Le ar y camau a fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y deisebau a sut y bydd y gymuned a deisebwyr yn cael eu diweddaru ar y camau hynny.

 

 

9.

I gadarnhau'r cofnodion canlynol:

9a

Pwyllgor Dethol yr Economi a Datblygu - 3ydd Chwefror 2022. pdf icon PDF 379 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Economi a Datblygu ond nid oedd yr un o'r aelodau heddiw yn bresennol. Cynigiwyd fel cofnod cywir gan y Cynghorydd Davies, gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Lucas.

 

9b

Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf - 10fed Mawrth 2022. pdf icon PDF 476 KB

Cofnodion:

Cynigiwyd Cymunedau Cryf gan y Cynghorydd Dymock, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Lucas.

 

10.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Iau 15ain Medi 2022 am 10.00am.

Cofnodion:

Dydd Iau 15fed Medi 2022.

 

Bydd amser y cyfarfod nesaf yn newid i 12.30, gyda chyn--gyfarfod am 12:00