Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd
Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod. Os hoffech fynychu un o'n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i'r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk.Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud. Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Nid oedd unrhyw sylwadau wedi eu cyflwyno.
|
|
Strategaeth Toiledau Lleol PDF 663 KB Craffu ar y datblygiad polisi diweddaraf.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd David Jones wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau’r Aelodau gyda’r Aelod Cabinet Sara Burch. Her: Nid oes yna gyfeiriad at doiledau sydd yn hygyrch o ran Stoma – a oes modd cynnwys hyn yn y cynllun gweithredu? e.e. arwyddion ar y drysau? Nid ydym yn sicr ar hyn o bryd pa addasiadau sydd angen eu gwneud ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl doiledau yn hygyrch i bawb, ac felly, byddwn yn ymchwilio’r mater hwn. Mae adrannau eraill yn ymwybodol (e.e. Gwasanaethau Landlordiaid); byddem yn croesawu’r wybodaeth angenrheidiol gan y Cynghorydd. Fel rhan o’r cynllun gweithredu, byddwn yn darparu’r arwyddion priodol. Mae’r rhestr o doiledau sydd ar gael yn hen e.e. mae Llyfrgell Stryd Baker yn y Fenni a’r amgueddfa ar Stryd y Priordy wedi eu cau. Ac nid oes sôn am amseroedd agor y toiledau – byddai hyn yn ddefnyddiol iawn. Mae yna ddolen ar ddiwedd y strategaeth sydd yn rhoi’r wybodaeth hon ond rydym yn derbyn y pwynt fod angen diweddaru’r rhestr. Nid yw’r ddolen yn gweithio ar hyn o bryd a byddwn yn datrys hyn. Nid oes yna asesiad o ble y mae cyfleusterau newid babi a ph’un ai eu bod yn doiledau ar gyfer menywod neu ddynion - nid yw hyn yn cael ei ystyried yn yr Asesiad Effaith Integredig. Mae’r cyfleusterau yma wedi eu mapio yn y ffynhonnell sydd ar gael drwy’r ddolen a sonnir amdani uchod, ond bydd yn cael ei adolygu gyda Map Data Cymru eleni er mwyn rhoi darlun mwy eglur o’r hyn yw’r cyfleusterau a ble yn union mae’r cyfleusterau yma. Dylai cyfleusterau newid y ddau rhyw fod ar fael gan fod hyn yn ofynnol yn ôl Llywodraeth Cymru ond byddwn yn cadarnhau hyn. Bydd darpariaeth ‘Gofodau Newid’ yn cael ei ‘ystyried’ - mae’ gair yma yn rhy wan o feddwl am ein huchelgais a’r gofyniad i wella ein cyfleusterau. A oes modd cynnwys rhywbeth cryfach? Oes – mae modd cryfhau hyn. Dywed yr arolwg fod 67% yn ystyried bod darpariaeth ar gyfer yr anabl yn annigonol. Beth sydd yn digwydd er mwyn mynd i’r afael gyda hyn – nid oes dim byd yn y strategaeth? Mae mynediad at doiledau anabl yn medru bod yn anodd gan fod ceisio cyrraedd y Safonau Prydeinig yn medru achosi rhai ohonynt i gael eu cau gan nad yw’r dimensiynau yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau. Bydd Gwasanaethau Landlordiaid yn medru cynnig cyngor am hyn, ond mae’r arolwg yn dangos fod dau draean yn annigonol. Rydym wedi cyfeirio at ‘Ofodau Newid’ ond byddai unrhyw berson anabl yn medru cael mynediad at hyn. Byddai gwahaniaethu’r data yn yr arolwg am ba mor fodlon yw dynion a menywod a grwpiau eraill yngl?n â’r cyfleusterau yn ddefnyddiol iawn. Dilynwyd canllaw Llywodraeth Cymru ar y pryd yngl?n â chynnwys yr adroddiad ond mae modd i ni edrych unwaith eto o bosib ar ba mor fodlon yw defnyddwyr wrth i ni ystyried y pwynt hwn. Nid oes unrhyw sôn am ystyried gwneud rhai toiledau yn niwtral ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
I ddarparu diweddariad fel y gofynnwyd amdano.
Cofnodion: Roedd Cath Fallon wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau gan yr Aelodau, gyda’r Aelod Cabinet Paul Griffiths. Her: Mae nifer o aelwydydd dal yn teimlo na fyddant yn derbyn band eang am sbel eto. Byddai’n ddefnyddiol pe bai Aelodau yn cael gwybod am y lleoedd ym mhob un ward lle nad oes band eang fel bod modd i ni weithio’n rhagweithiol gyda swyddogion. Yn 3.20, mae yna ddolen yn nodi pryd a ble ydym yn adeiladu sydd yn medru rhoi gwybodaeth i Aelodau am y lleoedd sydd yn mynd i dderbyn ffeibr llawn Openreach. Nid yw’n broses syml yn anffodus, ac mae cyfarfodydd wythnosol gennym gyda Broadway ar gyfer prosiectau penodol ac rydym yn medru gofyn iddynt rannu eu cynlluniau i gyflwyno band eang. Felly, os nad yw cymunedau yn cael eu gwasanaethu fel y dymunir, mae modd i ni ofyn am ddiweddariad a dechrau sefydlu perthynas gyda’r peirianwyr sydd yn gweithio yn yr ardal honno. Mae modd i Aelodau felly i wirio hyn drwy ddenfyddio’r ddolen neu drwy e-bostio’r Swyddog sydd wedyn yn medru cysylltu’r Aelodau gyda’r darparydd. A oes modd i ni weld data Broadway yn yr un modd â data Openreach? A oes yna ddolen? Byddwn yn rhoi gwybodaeth i Aelodau am y person sy’n bwynt Cyswllt Cymunedol ar gyfer Partneriaid Broadway, gan fod y fath ddeialog yn fwy defnyddiol ac uniongyrchol na chwilio ar wefan. Mae yna bryderon yngl?n â pha mor gadarn yw’r cynlluniau e.e. mae yna drigolyn na sydd yn elwa o ffeibr llawn gan fod BT wedi rhedeg allan cyn cyrraedd ei th? ac wedi gwrthod delio gyda’r broblem, ac felly, nid yw’r etholwr yn medru derbyn cysylltiad ychwanegol ac mae wedi bod yn y sefyllfa hon ers blynyddoedd. A fydd y ffigyrau ar gyfer y sir gyfan yn golygu bod rhai trigolion dal mewn limbo yn y ffordd hon? Ar gyfer yr eiddo hwn, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Swyddogion gyda gwybodaeth benodol a byddwn yn cwestiynu hyn yn uniongyrchol gyda BT. Trigolion gwledig yw’r pryder allweddol. Sut ydym yn medru sicrhau bod yr ardaloedd mwyaf amddifad – o ran cysylltedd – yw’r rhai sydd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cysylltiadau newydd, yn enwedig gan fod yr un ardaloedd yma yn dueddol o fod yn rhai sydd heb signal ffôn? Rydym yn cytuno yngl?n â ffocysu ar ardaloedd sydd wedi eu hamddifadu’n ddigidol/mwy gwledig. Yn sgil hyn, rydym wedi bod yn rhan o brosiect peilot ar gyfer prosiect 5G sydd newydd i ddod i ben gan ystyried Castell Rhaglan ac ysgol ac amgylchedd ffermio. Rydym felly ar flaen y gad pan fydd yna gyfle i roi cynnig ar dechnoleg amgen, gan weithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn ymwybodol nad oes modd sicrhau bod y ffeibr yn cyrraedd y cabinet mewn ardaloedd gwledig yn sgil y tirwedd - dyna pam ein bod yn gweithio gyda Broadway, gan fod y cwmni yn defnyddio technoleg amgen fel technoleg ddiwifr, lle y mae cysylltiad gyda’r ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd PDF 512 KB I gynnal craffu cyn penderfynu ar y newidiadau arfaethedig i'r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd yr Aelod Cabinet Catrin Maby a Carl Touhig wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau gan Aelodau. Her: A fydd yna ddulliau talu amgen fel nad oes yna ffi un tro? A oes yna gymorth ar gyfer teuluoedd incwm isel? Nid yw rhai Cynghorau yn codi ffioedd am y gwasanaeth – os yn wir, ac felly, sut y mae modd iddynt wneud hyn? Nid ydym yn gwybod beth fydd yr incwm tan ein bod yn dechrau’r cynllun. Rydym yn gobeithio gosod y ffi yn £50, a hynny’n seiliedig ar yr adborth yr ymgynghoriad a’r arolwg – os yw’r arolwg yn gywir, byddwn ond yn sicrhau bod y £720k sydd angen er mwyn gweithredu’r cynllun. Os yw hyn yn newid a’n bod yn gorgyflawni, mae modd i ni ystyried fersiynau eraill. Os ydym yn cyrraedd 17k o finiau mewn cyllideb sydd yn gorgyflawni, ni fyddem am godi ffioedd am finiau yn y flwyddyn ddilynol ar gyfer y cwsmeriaid yma a byddem yn ceisio talu’r costau ychwanegol. Ni ddylem fod yn gorgyflenwi ‘ta beth (nid oes hawl gennym i wneud hyn) ac nid ydym am godi ffi mwy nag sydd angen ar drigolion am wasanaeth. Pan gyflwynwyd y biniau, roedd yna bryder y byddem yn colli llawer o gwsmeriaid, ond rydym wedi cynyddu’r nifer gyda 2,000 o bobl ychwanegol. Byddai’n anodd gyda’r system Civica sydd gennym ein bod yn cynnig taliadau misol neu chwarterol ond byddai modd i ni ystyried hyn ar gyfer y flwyddyn ganlynol os ydym yn gorgyflawni. Ac os ydym dal yn gorgyflawni yn ystod y flwyddyn ganlynol, bydd modd i ni ystyried gostyngiadau ar gyfer pobl sydd ar incwm isel. Y drafferth eleni yw nad ydym yn gwybod y nifer o gwsmeriaid ac rydym yn gwybod bod cynyddu i £50, a hynny o £28, yn naid sylweddol. A yw cyflwyno bin ffi isel wedi lleihau tipio anghyfreithlon? Nid ydym wedi gweld unrhyw effeithiau negatif o ran tipio anghyfreithlon. Mae newidiadau ym maes Gwastraff yn aml yn cael eu cysylltu gyda’r bygythiad o tipio anghyfreithlon ond anaml iawn y mae hyn yn digwydd. Nid yw’r bobl sydd yn tipio’n anghyfreithlon fel arfer yn defnyddio ein safleoedd CA neu wasanaethau’r Cyngor ‘ta beth, ac felly, nid ydynt yn cael eu heffeithio fel arfer gan y newidiadau yr ydym yn gwneud. A ddylem fod yn fwy rhagweithiol yn annog garddwyr i gompostio yn eu cartrefi? A oes yna arian dros ben yn y gyllideb fel ein bod yn medru rhoi’r offer angenrheidiol i bobl? Byddwn yn sicr yn ystyried hyn. Rydym yn cynnig biniau am bris sylfaenol (heb ychwanegu dim byd i wneud elw) drwy ein siopau ailddefnyddio a’r casgenni d?r ond mae hyn yn ffordd o helpu pobl eto gan eu bod yn cael eu cynnig am bris sy’n is na’r gost o’u cynhyrchu. Dyma’r math o syniadau yr ydym am eu hystyried fel rhan o’r broses graffu dros y flwyddyn sydd i ddod. A oes modd esbonio’r ffigyrau ymhellach e.e. £6 y cwsmer, cwsmeriaid ychwanegol, costau posib ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Blaenraglen Waith a Rhestr Weithredu’r Pwyllgor Craffu Lle PDF 12 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mae’r cyfarfod ar 2ail Chwefror am 2pm. Cytunwyd ar ddydd Mercher 29ain Mawrth fel y cyfarfod Arbennig. Cytunwyd ar 10am fel amser dechrau’r cyfarfod ar 13eg Ebrill.
|
|
Cynllunydd Gwaith y Cyngor a'r Cabinet PDF 247 KB Cofnodion: Noder fod hon yn ddogfen fyw: bydd Gwasanaethau Democrataidd yn ei diweddaru’n wythnosol.
|
|
Cofnodion: Cadarnhawyd y cofnodion a’u harwyddo fel cofnod cywir.
|
|
I nodi dyddiad y cyfarfod nesaf fel 3ydd Mawrth 2023 a Chyfarfod Arbennig ar 2il Chwefror 2023 (Cyllideb) Cofnodion: Mae’r cyfarfod nesaf ar 2ail Mawrth ond bydd yn cael ei symud i’r 1af Mawrth.
|