Agenda and minutes

Special Call in Meeting, Pwyllgor Craffu Lle - Dydd Mercher, 11eg Mehefin, 2025 5.30 pm

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Emma Bryn, gyda’r Cynghorydd Simon Howarth yn dirprwyo drosti.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

3.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd pump siaradwr yn y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, yn cynnwys dau gyfraniad gan aelodau o Gyngor Tref y Fenni a thri cyfraniad ar wahân gan aelodau o’r cyhoedd. Cafodd fideo a gyflwynwyd gan breswylydd cyn y cyfarfod hefyd ei ddangos a chafodd sylwadau ysgrifenedig eu darllen yn uchel gan y Rheolwr Craffu ar ran preswylydd arall. Roedd nifer sylweddol o’r cyhoedd yn bresennol y cyfarfod yn yr oriel gyhoeddus a hefyd ar ben y grisiau lle gallai pobl weld y ffrwd fyw.   

 

Rhoddodd y gwahanol gyfraniadau a wnaed i’r Fforwm Agored i’r Cyhoedd sylw i’r canlynol: 

 

Cyngor Tref y Fenni: 

 

  • Mynegodd Cyngor Tref y Fenni gefnogaeth gref i gynlluniau’r Gymdeithas Fwslimaidd (MMCA), gan sôn am draddodiad y Fenni o oddefgarwch crefyddol a phwysigrwydd cydraddoldeb pob ffydd. Nodwyd fod MMCA wedi ymrwymo i gynnal a chadw yr adeilad a’i gadw ym mherchnogaeth y gymuned. Dywedwyd fod MMCA eisoes yn weithredol yn y dref ac yn anelu i greu canolfan gynhwysol sydd ar agor i bawb . 

 

  • Dywedwyd y bu y Fenni yn dref nodded i gymunedau amrywiol, yn cynnwys teuluoedd o Syria, Afghanistan ac Wcráin. 

 

Preswylwyr a Busnesau: 

 

  • Cododd nifer o siaradwyr gwestiynau am ailbwrpasu Llyfrgell Carnegie, adeilad hanesyddol bwysig a fwriadwyd yn wreiddiol ar gyfer defnydd y cyhoedd fel llyfrgell. 

 

  • Beirniadodd nifer o siaradwyr y broses gan ddweud ei bod yn brin o dryloywder ac awgrymwyd fod angen ymgynghoriad cyhoeddus. 

 

  • Dywedodd rhai preswylwyr ac ymddiriedolwyr mai dim ond drwy’r cyfryngau cymdeithasol y daethant i wybod am y cynnig. 

 

  • Siaradodd preswylwyr am yr effaith arnynt a chodi pryderon am s?n, llygredd golau a tharfu ar breswylwyr oedrannus a bregus mewn elusendai cyfagos, ac ailadrodd pryderon am ddiogelwch, yn arbennig liw nos. 

 

  • Soniodd nifer o siaradwyr am dagfeydd parcio presennol a phroblemau posibl gyda thraffig, fyddai’n tarfu ar fusnesau lleol a dosbarthu nwyddau.  

 

  • Cododd siaradwr gwestiwn am degwch rhoi prydles 30-mlynedd i MMCA o gymharu â phrydlesau byrrach i wasanaethau cymunedol eraill. 

 

  • Galwodd siaradwr am atal y broses nes y cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus llawn. 

 

4.

Galw mewn benderfyniad y Cabinet ar 21 Mai 2025 yng nghyswllt gosod cyn Lyfrgell y Fenni. pdf icon PDF 356 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r cyhoedd am eu cyfraniadau ac esboniodd y byddai’r Pwyllgor yn awr yn dechrau ar ddadl ffurfiol am y galw mewn. Gofynnodd i’r Rheolwr Craffu roi esboniad byr o’r broses galw mewn fyddai’n cael ei dilyn yn y cyfarfod, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor. Dywedodd y Rheolwr Craffu y bwriedid i’r cyfarfod drafod penderfyniad a wnaed ond na ddaeth i rym yn ymwneud â gosod hen lyfrgell y Fenni. Rhoddwyd esboniad i bawb oedd yn bresennol am y broses galw mewn a threfn siarad.

 

Mae adroddiad penderfyniad y Cabinet yn rhoi cyd-destun llawn y materion allweddol yn gysylltiedig â’r penderfyniad a gymerwyd ar 21 Mai 2025, sydd ar gael drwyAgenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Mercher 21 Mai 2025, 4.30pm – Cyngor Modern.  Ar gyfer cyd-destun serch hynny, y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 21 Mai 2025 oedd derbyn yr argymhellion canlynol:

 

Bod y Cabinet yn cytuno ar y canlynol:

 

  1. Dyfarnu tendr y brydles i Gymdeithas Gymunedol Fwslimaidd Sir Fynwy (MMCA).

 

  1. (ii) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Swyddog Adnoddau i negodi’r brydles yn unol â’r dyfarniad tendr.? 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r aelodau oedd wedi galw’r penderfyniad i mewn i gyflwyno eu rhesymau dros wneud hynny, fel a nodir yn y Ffurflen Gais am Alw Mewn:??? 

 

  1. Diffyg Craffu Cywir/Proses Briodol ac Ymgynghori â’r Gymuned: 
  • Cafodd y penderfyniad hwn ei gymryd heb gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor(au) Craffu priodol cyn ei gymeradwyo gan y Gabinet. O gofio am sensitifrwydd, maint a hyd y brydles, mae hyn yn fethiant sylweddol o oruchwyliaeth ddemocrataidd.
  • Dylai penderfyniadau diddordeb cyhoeddus o’r maint hwn fynd drwy graffu llawn i sicrhau ymgynghori â’r gymuned a thryloywder.
  • Mae angen ymgysylltu democrataidd â’r gymuned oherwydd diffyg craffu cyhoeddus oherwydd nad oedd angen caniatâd cynllunio felly nad yw preswylwyr/busnesau/sefydliadau ffydd a’r cyhoedd yn gyffredinol yn cael y cyfle arferol i roi sylwadau ar faterion megis tagfeydd traffig, parcio, s?n a chyfyngiadau ar oriau gweithredu.
  • Cafodd y Cyngor a’r Blaengynllun ei ddiwygio ar 21 Hydref 2024 ar Ddyfodol Llyfrgell y Fenni ar gyfer adroddiad i’r Cabinet ar 6 Tachwedd 2024. Nid oedd ar agenda’r Pwyllgor Lle ar 21 Hydref 2024, a roedd y cyfarfod nesaf ar 7 Tachwedd 2024 ar ôl yr Adroddiad i’r Cabinet ar 6 Tachwedd 2024 . 
  • Mae’r adroddiad i’r Cabinet ar 6 Tachwedd 2024 yn rhoi manylion yr effaith gadarnhaol na chafodd ei adlewyrchu yn y gwahoddiad i dendro gyda’r cynnig i gynnig y safle ar gyfer defnydd cymunedol neu fasnachol i gynyddu’r cyfleoedd agored sydd ar gael ac sydd o ddiddordeb i bobl o bob oedran a gallu.
  • Yn ychwanegol, ni chafodd yr eitem ei chadw ar flaengynllunydd y Cyngor a’r blaengynllunydd am y cyfnod a ddylai ac nid oedd hyd yn oed wedi ei gynnwys yn agenda’r Pwyllgor Lle ar 22 Mai pan gafodd adroddiadau eraill y Cabinet ar 21 Mai eu cynnwys.
  • Mae’r Gwahoddiad i Dendro yn tanlinellu’r statws cynllunio gyda’i ddosbarth defnydd D1 cyfredol (fel llyfrgell) ond nid yw’n rhoi manylion llawn yr opsiynau  ...  view the full Cofnodion text for item 4.