Agenda and minutes

Pwyllgor Craffu Lle - Dydd Iau, 22ain Mai, 2025 2.00 pm

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Cynigiwyd y Cynghorydd Lucas gan y Cynghorydd Murphy, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Brown. Nid oedd unrhyw enwebiad arall. Penodwyd y Cynghorydd Lucas yn Gadeirydd.

 

 

2.

Penodi Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Cynigiwyd y Cynghorydd Dymock gan y Cynghorydd Brown, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Lucas. Nid oedd unrhyw enwebiad arall. Penodwyd y Cynghorydd Lucas yn Is-gadeirydd.

 

 

3.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb.

Cofnodion:

Y Cynghorydd Dymock, y Cynghorydd Murphy fel dirprwy. Y Cynghorydd Thomas, y Cynghorydd Easson fel dirprwy.

 

 

4.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant

 

 

5.

Blaenraglen Waith a Rhestr o Gamau Gweithredu'r Pwyllgor Craffu Lleoedd. pdf icon PDF 460 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodi y cafodd y Cynlluniau Creu Lle eu symud o 10 Gorffennaf i 6 Tachwedd; yn eu lle, bydd craffu ar y Strategaeth Llifogydd ar 10 Gorffennaf. Atgoffwyd aelodau i annog preswylwyr i fynychu’r Fforwm Agored i’r Cyhoedd ar y dyddiad hwnnw.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Strong am ddiweddariad ar ymatebion gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymwneud ag Afon Nedern – mae’r ymatebion yn yr arfaeth – GWEITHREDU. Gofynnodd y Cynghorydd Bryn am ddiweddariad ar yr Adolygiad o Barcio Ceir – cafodd ei ddodi mewn pensel ar gyfer craffu ar 10 Gorffennaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Brown am ychwanegu eitem at y rhaglen waith yn ymwneud â chraffu ar yr asedau a ddatganwyd yn warged a chyfle i graffu arnynt cyn penderfyniadau’r Cabinet, gan nodi 8.2.2. o’r Cyfansoddiad sy’n dweud mai’r Cylch Gorchwyl ar gyfer Lle yw ‘Sicrhau fod polisi a gwasanaethau yn ymateb i anghenion busnesau ac ymwelwyr ac yn hyrwyddo gweithgaredd economaidd.’ - GWEITHREDU

 

6.

Blaengynllunydd Gwaith y Cyngor a'r Cabinet. pdf icon PDF 151 KB

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 282 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cofnodion, cynigiwyd gan y Cynghorydd Lucas ac eiliwyd gan y Cynghorydd Bryn.

 

8.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Rhoddodd Felicity Branigan, Cadeirydd Gr?p Promobility (y Fenni) anerchiad i’r pwyllgor am faterion mynediad i’r anabl yn y Fenni, gan sôn yn bennaf am heriau symudedd, rhwystrau, baw c?n, cyrbiau isel a phalmentydd botymog a chynigiodd fod aelodau o’r cyngor yn mynd gydag oedolion anabl i brofi’r heriau hyn drostynt eu hunain, a chytunodd y pwyllgor i hynny – GWEITHREDU

 

 

9.

Teithio Llesol - I graffu ar agweddau gwahanol ar Deithio Llesol. pdf icon PDF 207 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Paul Sullivan yr adroddiad, rhoddodd gyflwyniad ac atebodd gwestiynau aelodau gyda’r Aelod Cabinet Sara Burch a Geraint Roberts:

 

  • Holodd aelod am anhawster sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau fel Pont y Fenni a chynlluniau eraill, o gofio’r gostyngiad o bedwar i un cynllun strategol a’r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cyflenwi .

 

Cydnabu’r swyddog yr her a achoswyd gan y newid mewn meini prawf cyllid, gan danlinellu pwysigrwydd cydweithio ar draws adrannau i sicrhau cyllid o wahanol ffynonellau, yn cynnwys llwybrau diogel a chyllid cymunedol a chynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol. Pwysleisiodd bwysigrwydd cael prosiectau i gam parod am dendr i’w cyflwyno ar gyfer cyfleoedd cyllid, gan sicrhau eu bod yn barod i’w gweithredu pan ddaw cyllid ar gael. Soniodd yr Aelod Cabinet am fuddion posibl cyllid aml-flwyddyn drwy bartneriaethau rhanbarthol CJC, a fedrai roi dull mwy cyson a chynlluniedig at gyflenwi prosiect.

 

  • Holodd aelod am amserlen y data yn dangos gostwng traffig yn Ysgol Gwndy a mynegodd bryderon am gam-drin cau dros dro gan rieni. Nododd fod ysgolion yn gwneud ymdrechion i blismona’r sefyllfa ond tanlinellodd yr angen am orfodaeth mwy effeithiol i fynd i’r afael â’r cam-drin parhaus ar gau dros dro.

 

Esboniodd y swyddog y casglwyd y data cyn ac ar ôl gweithredu strydoedd ysgol, gyda’r data diweddaraf o fis Mai yn dangos gostyngiadau sylweddol mewn traffig. Soniodd y caiff swyddogion gorfodaeth eu hanfon i’r safle i siarad gyda rhieni am barcio sy’n achosi problemau ac annog parcio ymhellach i ffwrdd. Cynhelir arolygon i gasglu adborth a chynllunio’r camau nesaf i ostwng traffig ymhellach o amgylch yr ysgol.

 

  • Mynegodd aelod rwystredigaeth am anhawster cael ymyriadau llai fel cwrb isel a llyfnu palmentydd wedi eu gwneud a gofynnodd am system i adrodd a rhoi blaenoriaeth i’r ceisiadau hyn. Holodd faint o ysgolion sy’n gweithio tuag at gynlluniau teithio llesol ac effeithlonrwydd y cynlluniau hyn. Gofynnodd pa ganran o fyfyrwyr Sir Fynwy sy’n cymryd rhan yn y sesiynau hyn a’r canran o fyfyrwyr sy’n cerdded neu’n seiclo i’r ysgol, a gwybodaeth am y canran o blant sy’n derbyn hyfforddiant seiclo ar ôl Cam 2.

 

Roedd swyddogion yn cydnabod yr angen i flaenoriaethu ac maent wedi ymroi i weithio ar system i adrodd a rhoi blaenoriaeth i enillion cyflym gan ystyried galluedd mewnol a chyfyngiadau cyllid. Dywedwyd fod cynlluniau teithio llesol gan 21 allan o 34 ysgol. Mae’r cynlluniau hyn yn ddogfennau treigl a chânt eu diweddaru yn flynyddol. Nid yw union nifer yr ysgolion sy’n gweithio ar gynlluniau ar hyn o bryd ganddynt ond fe wnaethant ymrwymo i roi’r wybodaeth honno – GWEITHREDU. Esboniodd swyddogion y caiff y sesiynau Pontio Diogelwch Ffordd eu cynnig i bob disgybl blwyddyn chwech ar draws Sir Fynwy, gan fod â ffocws ar lwybrau diogel i ysgolion cyfun. Cynigir hyfforddiant seiclo lefel un i bob ysgol, a chaiff hyfforddiant lefel un a dau ei ddarparu i bedair neu bump ysgol bob blwyddyn, gyda ffocws ar y rhai sy’n agos i ysgolion cyfun sy’n hyrwyddo seiclo. Rhannodd swyddogion ddata o arolwg 2021 yn dangos fod 63% o ddisgyblion  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Iau 5 Mehefin 2025 am 2.00pm (Cyfarfod Arbennig).

Cofnodion:

Dydd Iau 5 Mehefin 2025 am 2.00pm (Cyfarfod Arbennig).