Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd datganiadau o fuddiant.
|
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar y cofnodion.
|
|
|
Blaenraglen Gwaith a Rhestr Gweithredu y Pwyllgor Craffu Lle. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Atgoffwyd aelodau am ymweliadau D?r Cymru yn Nhrefynwy a Phwllmeurig ar 24 Ebrill. Gofynnwyd i aelodau roi manylion cyswllt ar gyfer cynrychiolwyr anabledd ac i’r cyhoedd gysylltu, cyn yr eitem Teithio Llesol yn y cyfarfod nesaf.
|
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd. Cofnodion: Darllenodd y Cynghorydd Strong gyflwyniad ar ran preswylydd yn ymwneud ag Afon Nedern, Eitem 8. Nododd y preswylydd nad oedd problem gyda’r Nedern tan ganol y 1990au pan ddechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ail Bont Hafren. Mae’r afon yn rhedeg drwy’r twnnel dan Draffordd yr M4, a gaiff ei ddiogelu gan sgrîn. Mae’r sgrîn yn aml yn tagu gydag ysgyrion, gan achosi llifogydd yn yr afon. Yn y 1980au arferai’r afon gael eu charthu i gael gwared â chwyn a llaid ond nawr dim ond chwyn gaiff eu tynnu, sy’n arwain at broblemau ychwanegol. Mae’r afon yn rhedeg wrth ochr hen safle T? Pill, sy’n awr yn safle busnes ailgylchu concrit. Mae’r busnes yn cadw llawer o agregau ger yr afon, sy’n achosi risg tywallt heb ddull cywir i’w dynnu. Gallai llifogydd yn y gaeaf ar y Nedern achosi mynediad i’r llwybr cerdded o Gastell Cil-y-coed i’r prosiect Cae ?d. Adeiladwyd sianel draeniad newydd i dynnu d?r o’r cynlluniau i adeiladu tai yn yr ardal. Fodd bynnag, gyda lefelau uchel yr afon, mae bellach lifogydd mewn ardaloedd a arferai fod yn sych. Gellid datrys y broblem drwy osod fflap dim-dychwelyd ar ben afon y sianel draeniad. Croesewir y cynnig i adeiladu tua 100 o gartrefi ond mae’n bwysig y bydd hyn ystyried y bydd hyn yn arwain at i fwy o dd?r ddraenio i’r afon. I fynd i’r afael â’r problemau hyn, awgrymodd y preswylwyr ailddylunio neu addasu sgriniau twnnel yr M4 i’w gwneud yn fwy effeithiol, i weithredu system rhybudd cynnar ar gyfer lefelau uchel yn yr afon ac i sefydlu gwell rhaglen cynnal a chadw afon.
Rhoddodd preswylydd gyflwyniad yn amlinellu pryderon am ddiogelu ystlumod, yn ymwneud ag Eitem 9. Codwyd pryderon fod Cyngor Sir Fynwy yn dileu mesurau diogelu allweddol ar gyfer ystlumod, a holwyd am y rhesymau am hynny. Tanlinellwyd pwysigrwydd mesurau diogelu trylwyr ar gyfer datblygiadau ym mharhau cynhaliaeth craidd ystlumod, fel yr argymhellwyd gan ymgynghorwyr amgylcheddol. Pwysleisiwyd yr angen am arolygon penodol ar ystlumod a mesurau lliniaru i ddiogelu poblogaethau ystlumod a beirniadwyd y cyngor am roi geiriad amwys ym mholisi NR1 yn lle gofynion penodol yr arolwg. Rhoddwyd gwybodaeth ar yr ystlum pedol mwyaf, ei ofynion cynefin a’i statws dan fygythiad a thrafodwyd effaith datblygiadau arfaethedig ar gynefinoedd ystlumod, yn arbennig safle Nant Lease ger Cwrt Newton. Awgrymwyd fod y cyngor yn dileu’r lleihau mewn mesurau diogelu ar gyfer ystlumod ac ychwanegu geiriad penodol i sicrhau nad oes unrhyw effeithiau niweidiol ar ystlumod o ddatblygiadau. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd diogelu parthau cynhaliaeth creiddiol ystlumod a sicrhau fod mesurau yn eu lle ar gyfer arolwg llawn a lliniaru.
Rhoddodd Andy Karraen, Rheolwr Tystiolaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, sylwadau ar Eitem 9, yn benodol ar safle HA4 yn Nhrefynwy. Mynegwyd pryderon am yr effaith ar y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig a phoblogaeth ystlumod pedol mwyaf. Nododd Andy na chaiff y parth cynhaliaeth iau 1 cilometr ei ddefnyddio fel arfer yng Nghymru a chyfeiriodd at ei ddefnydd yng nghanllawiau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
|
Cynnal Cyfarfod Nedern – Trafod cynnal a chadw y Nedern, yn arbennig drwy dir Castell Cil-y-coed. Cofnodion: Atebodd James Galsworthy (Cyfoeth Naturiol Cymru) gwestiynau aelodau gyda Ross Price.
Mae’r rhaglen cynnal a chadw ar gyfer yr Afon Nedern yn cynnwys torri glaswellt yn flynyddol tua mis Medi-Hydref a symud tyfiant yn y sianel tua mis Rhagfyr-Ionawr. Caiff y gwaith ei wneud gan gontractwyr ac arferid ei wneud bob yn ail flwyddyn ond caiff bellach ei wneud yn flynyddol.
Nid yw’r cyfrifoldeb am iechyd afon ac atal llygredd o fewn cylch gorchwyl y siaradwr o Cyfoeth Naturiol Cymru a dylai cwestiynau o’r fath gael eu cyfeirio at eu tîm ymholiadau, gan mai perchennog y tir sydd yn gyfrifol yn y pen draw am iechyd afon.
Perchennog y tir sy’n gyfrifol am gynnal a chadw cyrsiau d?r. Ar gyfer tir cyhoeddus, byddai’n gyfrifoldeb yr awdurdod perthnasol, tebyg i Gyngor Sir Fynwy.
Cytunodd James i fynychu cyfarfod ar wahân i drafod y materion hyn ac awgrymwyd y dylai David Penny o’r tîm ardal draeniad mewnol hefyd gymryd rhan .
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod effaith sylweddol llifogydd ar fusnesau lleol. Mae’r rhaglen cynnal a chadw bresennol yn cynnwys torri glaswellt a symud tyfiant yn yr afon bob blwyddyn, a chynyddwyd hyn o’i wneud bob yn ail flwyddyn i’w wneud bob blwyddyn. Mae hyn wedi gwella’r effeithlonrwydd wrth atal llifogydd.
Mae risgiau y lefel bresennol o gynnal a chadw yn cynnwys posibilrwydd llifogydd os nad yw’r cynnal a chadw yn ddigonol i reoli risgiau llifogydd sylweddol, yn arbennig mewn ardaloedd gyda nifer cyfyngedig o eiddo.
Mae perthynas effeithlon rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir Fynwy ac English Highway yn hollbwysig ar gyfer rheoli risg llifogydd, yn arbennig ynghylch asedau fel y glwyd sbwriel. Mae angen cydlynu a chyfathrebu ymysg y cyrff hyn i drin risgiau llifogydd yn effeithiol.
Perchennog y tir sy’n gyfrifol am gynnal a chadw yr afonydd, ond mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru bwerau i ganiatáu i wneud y gwaith lle mae risg sylweddol o lifogydd. Mae hyn yn weithredol ar gyfer tir y mae’r cyngor yn berchen arno a hefyd dir preifat.
Byddai unrhyw waith ym mhrif gwrs d?r yr afon, yn cynnwys y Nedern drwy’r Parc Gwledig, ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
|
Cofnodion: Rhoddodd Craig O’Connor sylwadau cyflwyno, pan danlinellwyd ymroddiad Cyngor Sir Fynwy i’r argyfwng hinsawdd a natur a sicrhau fod cynigion datblygu yn gynaliadwy a chytbwys. Eglurodd nad yw Cyngor Sir Fynwy yn dileu mesurau diogelu ar gyfer ystlumod a’i fod yn anelu i ddiogelu a chyfoethogi buddiannau ecolegol a bywyd gwyllt. Esboniodd Craig mai nod dull y cyngor o eirio polisi yw osgoi bod yn rhy rhagnodol, gan roi hyblygrwydd i ofyn am arolygon ystlumod ac asesiadau ecolegol ar gyfer pob math o ddatblygiad ac ardal, nid dim ond o fewn parthau cynhaliaeth creiddiol. Sicrhaodd aelodau y cynhelir proses ymgynghori fanwl ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn cynnwys mynd i’r afael â phryderon a godwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru am fethodoleg asesu rheoliadau cynefinoedd. Soniodd Craig y caiff y cynllun ei adolygu gan arolygydd cynllunio annibynnol fydd yn archwilio’r asesiad rheoliadau cynefin a gwneud penderfyniad gwybodus os yw’r datblygiad yn dderbyniol ai peidio.
Rhoddodd Kate Stinchcombe gyflwyniad yn amlinellu ymatebion Cyngor Sir Fynwy i’r pryderon a godwyd. Cafodd cwestiynau aelodau eu hateb gan Craig O’Connor a Kate Stinchcombe:
Dywedodd Mr Karran ne chredai y bu unrhyw leihau yn y mesurau diogelu ar gyfer ystlumod pedol. Esboniodd y gwnaed y newidiadau mewn geiriad i sicrhau y caiff yr effeithiau ar ystlumod ei asesu ym mhob rhan o Sir Fynwy mewn gwahanol amgylchiadau. Mynegodd bryderon am arwyddocâd yr ardal ddatblygu arfaethedig o fewn y parth cynhaliaeth creiddiol, gan nodi y gall ardaloedd sy’n agos at fan clwydo mamolaeth fod yn fwy gwerthfawr. Tanlinellodd yr angen i edrych os yw’r ardal ddatblygu arfaethedig yn dal i fod yn arwyddocaol er mai canran fach o’r ardal cynhaliaeth yw hi.
Eglurwyd fod safle Redlands yn Drenewydd Gellifarch o fewn parth dau cilometr o safle gaeafgwsg, sydd angen gwahanol ystyriaethau arolwg i safleoedd mamolaeth. Esboniwyd mai gwerth ecolegol isel sydd gan safle Redlands, gyda gwrychoedd a gaiff eu rheoli’n agos, a soniodd am bwysigrwydd asesiad achos-wrth-achos. Tanlinellwyd yr angen am hyblygrwydd yng ngofynion yr arolwg i fynd i’r afael ag amodau penodol i’r safle. Sicrhawyd aelodau y caiff mannau clwydo gaeafgwsg eu hystyried yn yr atodiad i’r asesiad rheoliadau cynefinoedd.
· Dywedodd yr aelod fod tynnu manylion penodol am arolygon ystlumod a lliniaru’r polisi yn ei wanhau. Awgrymwyd y dylai polisïau lleol atgyfnerthu polisïau cenedlaethol i danlinellu pwysigrwydd lleol
Esboniwyd fod yn rhaid i’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd fod yn gydnaws ag arweiniad Llywodraeth Cymru, sy’n golygu fod angen osgoi dyblygu polisïau cenedlaethol. Maent yn cydnabod yr her ond pwysleisiwyd fod y Cynllun hwn y rhan o fframwaith polisi cynllunio ehangach, yn cynnwys polisïau cenedlaethol a rhanbarthol. Rhoddwyd sicrwydd y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
|
Cyfarfod nesaf: Dydd Iau 22 Mai 2025 am 2.00pm. Cofnodion: Dydd Iau 22 Mai 2025 am 2.00pm.
|