Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim,

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud); neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o'n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i'r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk.Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau.

 

3.

Cynllun Lles Gwent Drafft pdf icon PDF 278 KB

Ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu ar Gynllun Llesiant Gwent drafft yn dilyn adborth gan y pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddogion ddrafft Gynllun Lles Gwent ac esbonio y cafodd y cynllun ei ddiwygio yn dilyn craffu yn y cyfarfod blaenorol ac y gofynnir i bob un o’r pump Cyngor yn ardal Gwent ei gymeradwyo, er mai dim ond Sir Fynwy oedd wedi dewis ei graffu  cyn ei fabwysiadu.

 

Her:

·         Mae’r ddogfen hon yn darllen fel unrhyw ddogfen gyffredinol arall ac nid yw’n teimlo ei bod yn berthnasol o gwbl i ardal Gwent. Mae’n teimlo fel datganiad o fwriad strategol, oherwydd y medrid canfod yr amcanion mewn unrhyw fan arall.

·         Os yw hyn yn gynllun, pam nad yw’n cynnwys unrhyw gamau gweithredu neu amserlenni i ni fonitro cyflenwi’r amcanion? Mae’n teimlo’n ysgafn iawn o ran sylwedd ac mae’n amheus sut y gellid ei ddefnyddio i werthuso perfformiad y bwrdd i gyflawni’r amcanion.

·         I ba raddau mae pob swyddog yn y bartneriaeth wedi cymryd rhan yn hyn ac yn nhermau’r broses llywodraethiant, lle caiff hyn ei gyflwyno ac a yw cynghorau eraill wedi ei graffu?

·         Nid oes unrhyw gyfeiriad at ffactorau diweddar sy’n cael effaith fawr ar bobl, tebyg i’r cynnydd mewn costau ynni a’r cynnydd mewn costau byw. Pryd y cafodd hyn ei lunio? A roddir ystyriaeth i’r ffactorau hyn i’w wneud yn fwy perthnasol a realistig?

·         Mae wyth egwyddor Marmot yn amrywio’n sylweddol ond i ba raddau mae’r cynllun yn cwmpasu eu hysbryd a’u hethos ac ar ba sail y cânt eu mesur?

·         Sut mae’r cynllun hwn yn alinio gyda ein Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol i sicrhau amcanion a darpariaeth cydnaws?

Ymateb Swyddog:

Diolch am eich adborth, y byddwn yn ei gyfleu yn ôl, gan ddeall y dymunwch hysbysu’r Arweinydd a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ffurfiol am hyn. Mae egwyddorion Marmot yn rhan o ddarn ehangach o waith sy’n mynd rhagddo gyda’r Sefydliad Iechyd a Thegwch i ddeall y camau gweithredu y gall y bwrdd eu cymryd i wella cydraddoldeb yn y rhanbarth, felly bydd argymhellion penodol yn deillio o’r adroddiad a ddylai wedyn cael eu hymwreiddio yn y cynllun hwn. Bydd mwy o gynlluniau cyflenwi a ddylai roi ystyriaeth i’r argymhellion hynny gyda chamau gweithredu penodol i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ganolbwyntio arnynt. Gall y Pwyllgor hwn graffu ar y cynlluniau cyflenwi hynny er mwyn dal y Bwrdd i gyfrif am gyflenwi y cynllun ehangach.

 

Mewn cyfeiriad at y cwestiynau am y dystiolaeth a lywiodd y cynllun hwn, defnyddiwyd Asesiad Llesiant Gwent a ddatblygwyd gan swyddogion ar draws y bartneriaeth, i lywio’r cynllun gwaith. Bydd gwaith yr Athro Marmot i drin tegwch yn dod ag arbenigedd a dirnadaeth i’r Bwrdd i lywio’r cynlluniau cyflenwi. Bu’r arbenigwyr yn bresennol ym mhob un o’r siroedd yn siarad gyda phobl i ddefnyddio’r wybodaeth i lywio eu gwaith.

 

Yn nhermau i ba raddau y bydd aliniad rhwng ein Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol a’r cynllun hwn, gan mai’r Asesiad Llesiant yw’r sylfaen tystiolaeth ar gyfer y ddau, dylai fod cysylltiad clir rhwng y camau gweithredu yng nghynllun cyflenwi Sir Fynwy â’n hamcanion yn y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol.

 

Yng nghyswllt y broses  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Gwasanaethau Bysiau Stagecoach

Gwahoddiad i Stagecoach i fynychu i drafod darpariaeth gwasanaethau yn Sir Fynwy.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod Stagecoach yn anffodus wedi gwrthod mynychu cyfarfodydd o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus. Dywedodd y Cadeirydd, gan mai gwaith y Pwyllgor Craffu yw gwasanaethu’r gymuned, gyda Stagecoach yn darparu gwasanaethau i’r gymuned, mae’n siomedig iawn nad oeddent yn fodlon cael sgwrs agored am yr heriau a wynebir gan ddarparydd masnachol wrth ddarparu cludiant mewn sir wledig mewn sefyllfa o gyllid gostyngol gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd fod Stagecoach yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau mewn ysgrifen a chytunodd y Pwyllgor y byddant yn dilyn yr opsiwn hwn.

 

Dywedodd Rheolwr Trafnidiaeth Cyngor Sir Fynwy wrth yr aelodau fod problemau tymor byr a hirdymor gyda darpariaeth trafnidiaeth. Y broblem tymor byr yw fod y cyllid ychwanegol a roddwyd iddynt gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig i gyllido gwasanaethau i ddod i ben a’r broblem tymor hirach yw fod gan Sir Fynwy fel sir wledig bryderon am drafnidiaeth hyd yn oed cyn y pandemig. Cytunodd y swyddog i baratoi adroddiad am gyfarfod o’r pwyllgor yn y dyfodol i hysbysu’r Pwyllgor fel y gallent wedyn gyfleu eu pryderon yn ysgrifenedig i Stagecoach (Gweithredu: Christian Schmidt).

 

5.

Troseddau casineb yn Sir Fynwy

Trafod y data ar gyfer Sir Fynwy.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Tîm Diogelwch Cymunedol y data ar gyfer troseddau casineb a gyflawnwyd yn Sir Fynwy, gan nodi:

 

·         Bu gostyngiad bach mewn troseddau casineb a adroddwyd eleni i gymharu gyda’r llynedd.

·         Dengys ein data yr adroddwyd llai o droseddau o gymharu gydag awdurdodau cyfagos.

·         Yn nhermau’r ardaloedd lle mae’r troseddau yn digwydd, maent wedi eu lledaenu’n wastad ar draws y sir.

 

Rhoddodd swyddogion gyd-destun ychwanegol am y ffigurau a roddwyd, gan esbonio eu bod yn gymharol ar gyfer ffigurau poblogaeth cyffredinol ym mhob un o’r siroedd, felly er enghraifft tra bod poblogaeth Sir Fynwy yn 93,000 a Thorfaen yn 92,300, mae niferoedd y troseddau casineb a adroddwyd yn Sir Fynwy yn hanner y rhai a adroddwyd yn Nhorfaen, er fod ganddynt lefelau poblogaeth tebyg ac mae ein niferoedd yn gymharol uchel o gymharu gyda’r awdurdodau eraill yng Ngwent.

 

Esboniodd y Tîm Diogelwch Cymunedol y cynhelir cyfarfodydd misol gydag ystod eang o bartneriaid, yn amrywio o addysg, diogelu, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, Ymddiriedolaeth Ambiwlans De Cymru a llawer arall ac nad yw’r Heddlu wedi tynnu sylw fod troseddau casineb yn broblem sy’n dod i’r amlwg. Hefyd yn eu cyfarfodydd wythnosol gyda’n swyddogion troseddu a gostwng, ni chafodd ei godi fel consyrn. Maent yn cydnabod, fodd bynnag, nad yw’r data ar ben ei hun yn rhoi’r darlun llawn, oherwydd tan-adrodd ar droseddau casineb oherwydd ofn dial a diffyg ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n cyfrif fel trosedd casineb. Dywedwyd y cynhelir digwyddiad ymwybyddiaeth ar gyfer gyrwyr tacsi, a all fod yn profi troseddau casineb ond nad ydynt yn gwybod am yr angen i wneud adroddiad amdano na sut i wneud hynny. Fe wnaethant hefyd yn esbonio nad yw troseddau casineb yn eistedd ar ei ben ei hun yn aml ond yn eistedd wrth ochr troseddau eraill.

 

Her/Trafodaeth:

Mae gennyf ddiddordeb yn sut y gallwn esblygu’r sgwrs o amgylch hyn a chynyddu ymwybyddiaeth yn ogystal â chael tystiolaeth fwy penodol am lle mae troseddau yn digwydd.

 

Os mai dim ond troseddau casineb a adroddwyd sydd yn y ffigurau ac y gwyddom nad yw rhai pobl yn eu hadrodd, yna nid oes gennym ddarlun llawn. Beth ydyn ni’n wneud gydag ysgolion i sicrhau eu bod yn ei adrodd?

 

Rydym yn gweithio gydag ysgolion ar yr agenda bwlio a sut maent yn cofnodi digwyddiadau ac mae casineb yn un o’r categorïau, felly gallwn weithio gydag ysgolion i ddeall beth sy’n digwydd a’u cefnogi wrth fynd i’r afael ag ef.

 

Ydych chi’n meddwl fod tan-adrodd sylweddol ar droseddau casineb?

 

Mae’n anodd dweud hynny yn benodol am droseddau casineb, gan y gallech ddadlau fod tan-adrodd gyda phob troseddu. Pan siaradwn gyda’r gymuned gofynnwn os ydynt yn siarad gyda’r heddlu am ddigwyddiadau a gofynnant “beth yw’r pwynt?” felly mae cyswllt y cyhoedd gyda’r heddlu yn teimlo fel thema. Y cyfan a wnaiff y data a gyflwynwyd yw dangos i bobl oedd yn ddigon dewr i wneud adroddiad amdano, felly mae’n debyg y caiff troseddau casineb ei dan-adrodd i raddau helaeth iawn.

 

Deallaf y gall pobl fod yn ofnus ac  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Blaenraglen Waith a Rhestr Weithredu’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus pdf icon PDF 351 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd y rhaglen waith a chytunwyd ar wahoddiadau ar gyfer y cyfarfod nesaf ar gyfer Llinellau Cyffuriau a Throseddau Casineb.

 

7.

Cynllunydd Gwaith y Cyngor a'r Cabinet pdf icon PDF 265 KB

Cofnodion:

Nodwyd.

 

8.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2022 pdf icon PDF 341 KB

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

9.

I nodi dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf: 24 Ebrill 2023

Cofnodion:

24 Ebrill 2024.