Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Cynghorydd Armand Watts, a enwebwyd gan y Cynghorydd Rooke ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bond.

 

2.

Apwyntio Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Cynghorydd Penny Jones a enwebwyd gan y Cynghorydd Butler ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Lane.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Select Committee Public Open Forum ~ Guidance

 

Our Select Committee meetings are live streamed and a link to the live stream will be available on the meeting page of the Monmouthshire County Council website

 

If you would like to share your thoughts on any proposals being discussed by Select Committees, you can submit your representation via this form

 

·      Please share your views by uploading a video or audio file (maximum of 4 minutes) or;

·      Please submit a written representation (via Microsoft Word, maximum of 500 words)

 

You will need to register for a My Monmouthshire account in order to submit the representation or use your log in, if you have registered previously.

 

The deadline for submitting representations to the Council is 5pm three clear working days in advance of the meeting.

 

If representations received exceed 30 minutes, a selection of these based on theme will be shared at the Select Committee meeting.  All representations received will be made available to councillors prior to the meeting.


If you would like to suggest future topics for scrutiny by one of our Select Committees, please do so by emailing
Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw  gyflwyniadau gan y cyhoedd.

 

5.

Trafodaeth am rôl y Pwyllgor yn Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – cyflwyniad.

Cofnodion:

Roedd Hazel Ilett wedi rhoi cyflwyniad i’r pwyllgor, a chynigiwyd sylwadau ychwanegol gan  Matthew Gatehouse. Roedd Sharran Lloyd a Matthew Gatehouse wedi ateb cwestiynau’r Aelodau.

 

Her:

 

Pa ddylanwad cyffredinol sydd gennym ar y Cynllun Llesiant? A fyddwn yn diweddaru Cynllun wrth iddo gael ei weithredu?

 

Y ffactor allweddol wrth lunio’r Cynllun Llesiant rhanbarthol ar y lefel ranbarthol, a chylch gorchwyl Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, yw ymatal  rhag colli’r  lleoliaeth. Wrth i ni ddechrau datblygu’r cynllun, rydym yn gwneud cysylltiadau drwy’r gr?p cyflenwi lleol, yr is-gr?p ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarthol. Mae pob un o’r 5 lleoliad yn meddu ar fwrdd - ein bwrdd ni yw Bwrdd Rhaglen Sir Fynwy, sydd yn cysylltu gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn sicrhau ein bod yn gyrru’r hyn sydd yn bwysig i Sir Fynwy. Bydd yn derbyn unrhyw argymhellion o’r pwyllgor hwn ac yn sicrhau ein bod yn gwrando ar lais y pwyllgor wrth ddatblygu’r cynllun nesaf.  Mae swyddogion yn gweithio ar sefydlu proses craffu  Gwent;  efallai y bydd aelodau o’r pwyllgor hwn yn aelodau o’r bwrdd rhanbarthol hefyd, a’n meddu ar y gallu wedyn i ddylanwadu ar y darlun lleol. 

 

A yw’r 5 awdurdod yn mynd i gael Pwyllgor Craffu?

 

Rydym yn cynnal ein craffu ar lefel leol ond byddwn yn parhau i weithio gyda’r trefniadau craffu rhanbarthol. 

 

A fydd pob awdurdod lleol yn canolbwyntio ar ei agwedd lleol?

 

Cywir. Rydym am weld y pwyllgor yma yn ffocysu ar yr hyn sydd yn bwysig i Sir Fynwy ac yn sicrhau bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn cyflawni’r hyn sydd angen ar ran y sir. Mae yna fecanweithiau eraill ar gyfer cynnig adborth os nad yw’r pwyllgor yn teimlo bod ein dinasyddion yn elwa o’r trefniadau yma.  

 

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar Sir Fynwy. A fydd yna adroddiad cyffredinol a 5 adroddiad penodol ar gyfer pob ardal?

 

O bosib ond nid yw’r atebion gennym ar hyn o bryd gan nad yw’r cynllun rhanbarthol wedi ei gwblhau. Bydd yna gynllun lleol ac adroddiad yn cael eu cyflwyno: rydym nawr yn trafod sut y mae’r adroddiad rhanbarthol yn cydweddu gyda hyn. Efallai y bydd yna 2 adroddiad ond byddwn ni’n ceisio eu symleiddio a’u cyfuno yn un adroddiad ar gyfer y pwyllgor hwn - os yw hyn yn bosib. 

 

A oes cynrychiolaeth gennym ar y byrddau yma sydd ar wahân? Beth mae ‘ar wahân’ yn golygu?  

 

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent wedi dod yn fwrdd rhanbarthol  gyda chynrychiolwyr o’r 5 awdurdod lleol a phartneriaid. Er mwyn sicrhau bod yna elfen o gysondeb, mae yna 5 gr?p cyflenwi lleol ym mhob awdurdod - dyma’r grwpiau cyflenwi strategol ar gyfer y 5 ardal yma. Yn Sir Fynwy, mae ein gr?p ni yn fwrdd rhaglen, sydd yn ei hanfod yn is-gr?p o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a bydd yn rhannu’r hyn sydd yn bwysig i Sir Fynwy ar lefel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

A oes swyddogion neu aelodau gennym ar y bwrdd cyflenwi lleol?

 

Mae’n adlewyrchu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r holl bartneriaid gennym  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Craffu Cyn Gwneud Penderfyniad ar Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 276 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Richard Jones a Sharran Lloyd wedi cyflwyno’r adroddiad  ac ateb cwestiynau’r Aelodau gyda Matthew Gatehouse.

 

Her:

 

A yw’r amcanion sefydledig yma yn mynd i gael eu trosglwyddo i’r amcanion rhanbarthol newydd?

 

Mae’r alinio rhwng y lleol a’r rhanbarthol yn eglur. Mae ein blaenoriaethau yn cael eu llywio gan ein data lleol a’n tystiolaeth a helpodd i lywio’r cynllun rhanbarthol. Mae’r themâu y maent yn ystyried yn gwbl gyson gyda’r hyn sydd gennym yn Sir Fynwy.

 

A yw Aelodau yn medru cyfeirio pobl at weithwyr cymdeithasol sydd yn gwneud gwaith brysbennu yn y gymuned?

 

Mae yna gyfeiriad e-bost a byddwn yn gallu rhannu hyn wedyn ond mae’n bwynt canolog ar gyfer cyfeirio pobl.  

 

Yn y tabl ar dudalen 9, beth yw’r meini prawf ar gyfer cydnabod y cysylltiadau rhwng y camau yma? A oes yna gyswllt sy’n pontio’r cenedlaethau gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod?

 

Mae hyn yn amlygu pwynt pwysig am integreiddio, un o’r pum ffordd o weithio sydd wedi ei nodi yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r tabl yn dangos yn eglur sut y mae cam penodol yn medru cyfrannu at, neu’n gweithio gyda cham arall, fel nad yw’r gwaith yn cael ei wneud ar wahân. Wrth gymryd  Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod fel enghraifft, mae iechyd meddwl yn rhan bwysig iawn o’r achosion isorweddol. Felly, dylai arweinwyr y camau hynny weithio gyda’i gilydd er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfraniadau y maent yn gwneud i wella lles yn y maes yma. Mae hyn wedyn yn mynd drwy wead y tabl, sy’n ceisio amlygu’r integreiddio mwyaf sylweddol. 

 

Sut y mae’r eiconau yn berthnasol i’r 4 Amcan?

 

Bydd allwedd yn cael ei ychwanegu er mwyn ei gwneud yn fwy eglur. Mae hyn er mwyn dangos yr integreiddio ymhlith yr amcanion ar lefel uwch yn hytrach na’r camau. Bydd yna gynlluniau mwy manwl y tu nôl i hyn sydd yn esbonio’r integreiddio a sut y mae’n gweithio.  

 

A oes modd gwneud rhywbeth ar lefel oedolion cyn bod profiadau niweidiol i blant yn digwydd?

 

Eleni, roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo rhaglen trawsnewid blynyddoedd cynnar. Hefyd, fel rhan o’r cam Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod  yn y Cynllun Llesiant hwn, rydym wedi bod yn ystyried y 1000 diwrnod cyntaf, gan feddwl am y blynyddoedd ffurfiannol rhwng beichiogrwydd a dechrau’r ysgol. Nid yw hyn wedi ei gyfeirio ato’n llawn yn yr adroddiad ond bydd yn dod yn fwy amlwg wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.  

 

A oes unrhyw sgôp tuag at edrych at wneud rhywbeth sydd yn elwa’r busnesau bach iawn, yr entrepreneuriaid lleol sydd yn cael trafferth yng Nghas-gwent, yn enwedig ar ôl  Covid ac o feddwl am gyfraddau busnes a rhenti sylweddol y dref?

 

Nid yw yn debygol o fod yn berthnasol i’r pwyllgor neu’r adroddiad penodol hwn, er ei fod o bwys sylweddol.

 

Sut allwn ni adnabod a gwireddu addewid y Llywodraeth i ddarparu 50% o dai fforddiadwy yn yr holl safleoedd newydd? Sut ydym yn gweithio tuag at lenwi cartrefi gwag a’n mynd i’r afael  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Blaenraglen Waith – Yn ystyried yr Adroddiad Blaenraglen Waith ac yn adnabod meysydd i’w craffu yn y dyfodol, ac wrth wneud hyn, yn cytuno ar Flaenraglen Waith drafft. pdf icon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Hazel Ilett yr adroddiad gyda sylwadau ychwanegol gan y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd. Roedd y pwyllgor wedi cynnig y testunau canlynol:

 

  • Gofyn i Ofal Dementia Oedolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am ei gynlluniau ar gyfer Sir Fynwy a delio gyda’r her ddemograffeg ddifrifol sydd i ddod, er mwyn darparu gofal i bobl ac estyn allan i gymunedau 
  • Adolygiad Stagecoach o’i wasanaeth bysiau yn Rhanbarth-Prifddinas Caerdydd – yr hyn sydd yn digwydd, yn enwedig o ran pobl yn teithio i’r gwaith a gartref 
  • BIPAB: Deintyddiaeth ar gyfer pobl ifanc
  • Rhaglen brechiadau Covid: cynlluniau BIPAB ar gyfer y Gaeaf, lleoliad y canolfannau, cyhoeddusrwydd
  • Effaith iechyd meddwl Covid a’r effeithiau addysgol
  • Diwylliant ysgolion ac addysg yn ymwneud gyda’r amgylchedd a newid hinsawdd.  

 

Nododd Hazel Ilett fod yna ffyrdd eraill i fynd i’r afael gyda rhai o’r pryderon yma e.e. mae angen gweithredu ar y mater sy’n ymwneud gyda brechiadau, ac felly, gall y Cadeirydd ysgrifennu llythyr at Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd yn gofyn am gadarnhad o ran y cynlluniau.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Bydd Trafnidiaeth (Stagecoach) a Dementia yn cael eu trin fel blaenoriaethau. O ran diwylliant amgylcheddol ac addysg ysgolion, cynigiodd y Cadeirydd ysgrifennu at y Prif Swyddog ar gyfer Addysg fel man cychwyn. 

 

 

8.

Yn cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 8fed Chwefror 2022. pdf icon PDF 466 KB

Cofnodion:

Nodwyd y cofnodion gan nad oedd yr Aelodau yn bresennol.

 

9.

Cyfarfod Nesaf: Dydd Llun 10fed Hydref 2022 am 2.00pm.

Cofnodion:

Dydd Llun 10fed Hydref 2022 am 2.00pm.