Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Microsoft Teams Meeting

Nodyn: Please note that in order to watch this meeting online via Microsoft Teams you may need to download the Teams app to your device. The meeting will be available to watch after the event on our youtube channel. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

I ethol cadeirydd

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Tudor Thomas yn gadeirydd ar y cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant. 

 

3.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol ac nid oedd unrhyw geisiadau wedi eu derbyn i siarad yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  

 

4.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2020. pdf icon PDF 468 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y Pwyllgor Dethol a gynhaliwyd ar 11eg Mawrth 2020 fel cofnod cywir a chywrain o’r cyfarfod.  

 

5.

Craffu Cyn-penderfyniad ar Ddrafft Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. pdf icon PDF 256 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Pennaeth Perfformiad a Gwelliant wedi cyflwyno ail Adrodd Blynyddol drafft  y BGC a oedd yn cynnig trosolwg o berfformiad y bwrdd yn ystod Ebrill 2019-Mawrth 2020 ar yr amcanion yn ei gynllun lesiant, yn unol gydag anghenon y ddeddfwriaeth Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Esboniodd fod yr adrodd yn ymdrin â’r camau y mae BGC wedi eu dewis i gyflawni ei amcanion a’r rhesymau pam y dewiswyd y rhai hynny a sut y mae’r bwrdd wedi gweithredu’r 5 ffordd o weithio a amlinellir Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol  yn ei waith yn ystod y flwyddyn. Roedd y swyddog wedi esbonio fod yr adroddiad hefyd yn cynnig trosolwg o’r cynnydd sydd wedi ei wneud ar y 19 cam yn erbyn pedwar amcan llesiant sydd wedi eu dewis gan y bwrdd ac roedd yn cynnwys astudiaeth achos manwl o’r gwaith sydd wedi ei wneud gan Bartneriaeth Strategol Plant a Phobl Ifanc i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y dechrau gorau posib mewn bywyd. Roedd hefyd yn crynhoi'r gwaith craffu sydd wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn a throsolwg o’r gwaith rhanbarthol sydd wedi ei wneud a’r dystiolaeth a’r wybodaeth sydd wedi eu defnyddio er mwyn mesur cynnydd fel y dangosyddion cenedlaethol sydd wedi eu hamlinellu yn y ddeddf. 

 

Dywedodd y swyddog fod gwasanaethau cyhoeddus wedi bod ar flaen y gad wrth ymateb i’r pandemig covid-19 ac mae yna gyfeiriad o’r dystiolaeth sydd yn datblygu yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, bydd mwy o dystiolaeth fanwl ar yr effaith ar lesiant yn cael ei ddarparu mewn adroddiadau pellach. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod yr holl bartneriaid wedi cyfrannu at yr adroddiad  a byddai’n cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn y cyfarfod nesaf cyn ei gyhoeddi ar y wefan. 

 

Roedd y Rheolwr Partneriaethau wedi ymuno yn y cyflwyniad o’r adroddiad ac esboniodd tra bod yr adroddiad yn fyr gan fod yr holl bartneriaid wrthi’n brysur yn ymateb i’r pandemig covid-19, maent dal yn gobeithio ei fod yn cynnwys y brif wybodaeth ar ran y  Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a bod modd ffocysu ymdrechion y bwrdd nawr ar ymateb i’r heriau yma gyda’i gilydd.

 

Y prif bwyntiau i’w hamlygu yw:

 

·         Mae’r adroddiad ond yn cynnig cipolwg o’r gwaith a wneir gan bartneriaid cyngor tref ac mae llawer mwy yn cael ei wneud o ran hyn os oes diddordeb gan aelodau i ddysgu mwy.   

 

·         Un maes o arfer da yw bod y cynghorau tref sydd yn dod o dan ddyletswyddau’r ddeddfwriaeth wedi, dros y 12 mis diwethaf, eu cynnwys fel rhan o strwythur y BGC, fel bod cynrychiolwyr nawr yn rhan o fwrdd y rhaglen ac yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau cynnar ar ddatblygu gweithgareddau i ymateb i’r heriau gyda’n gilydd.  

 

·         Mae gwaith helaeth wedi ei wneud gan y cynghorau tref dros flynyddoedd a dyma eu cyfraniad ariannol a chydnabyddiaeth o’r gwaith o ddarparu gweithgareddau chwarae agored a hollol gynhwysol yn y sir.  Mae’r BGC wedi buddsoddi mewn hyn dros nifer o flynyddoedd, drwy arian grant ac amser swyddogion ac mae cynghorau  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Craffu ar Adroddiad Perfformiad ar Risgiau a Strwythur Ymateb Argyfwng Gwasanaethau Cyhoeddus COVID-19 (Atodiad 4 yr adroddiad i ddilyn) pdf icon PDF 1001 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor yn manylu’r risgiau a oedd yn ymwneud gyda’r pandemig coronafeirws  yn y sir, gan amlinellu’r rhai sydd angen ymateb gan wasanaethau cyhoeddus ynghyd ag ymateb gan y Cyngor a throsolwg o’r  strwythur aml-asiantaeth rhanbarthol ar gyfer ymateb i argyfyngau ac adferiad. Gofynnwyd i Aelodau ystyried a ydynt yn credu bod y risgiau allweddol wedi eu nodi, bod lefel y risgiau yn gymesur a phu’n ai bod y mesurau lliniaru priodol yn eu lle, gan wneud unrhyw argymhellion perthnasol i’r Cabinet neu’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus. 

 

Dyma osod y cyd-destun yngl?n â pham fod y pwyllgor yn derbyn yr ymateb aml-asiantaeth hwn heddiw. Bydd aelodau yn cofio ein bod wedi newid cylch gorchwyl y pwyllgor hwn y llynedd er mwyn caniatáu’r pwyllgor hwn i ystyried yr ymatebion aml-asiantaeth ehangach  i’r hyn y mae ein trigolion yn wynebu. Rôl y pwyllgor yw craffu’r strwythurau yma gan eu bod wedi eu creu yn unol gyda’r ddeddfwriaeth  argyfwng sifil cenedlaethol. Fodd bynnag, mae’n bwysig fod y pwyllgor yn deall y strwythurau yma. O ran yr asesiad risg, rydym yn teimlo y dylid eich cynnwys yn y broses o ystyried hyn cyn bod y Cabinet yn ei ystyried, a hynny yn sgil yr ystod o bartneriaid sydd yn rhan o hyn. 

 

Roedd yr adroddiad yn darparu trosolwg o’r trefniadau ymateb brys sydd yn eu lle ac mae Atodiad 1 yn darparu diagram o’r strwythurau adrodd. Cyn mis Mai, esboniwyd fod yna Dîm Ymateb Brys yn ei le. Fodd bynnag, mae’r rhain fel arfer yn delio gydag argyfyngau byrdymor, ac felly,  penderfynwyd atal y gr?p hwn a chreu Gr?p Cydlynu Covid 19 sydd yn cynnwys y Prif Swyddog ar gyfer Adnoddau, Prif Swyddog Cynllunio Brys a’r Pennaeth Adnoddau sydd yn atebol i’r Uwch Dîm Rheoli a’n bwydo i mewn i’r Gr?p Cydlynu Strategol  Gwent. Mae yna atodiadau pellach ar y risgiau a’r ddau gynllun sydd wedi eu rhannu ar draws y mudiad gan y Prif Weithredwr, a’r llythyr gan y gweinidog Julie James sydd wedi gofyn i’r BGC i ail-ystyried ei amcanion yn sgil y pandemig covid. Bydd y rhain yn cael eu hystyried gan y BGC yn ei gyfarfod ond rydym am roi gwybod i chi nawr er mwyn gofyn a ydych yn teimlo fod hyn yn gywir ac a oes unrhyw adborth gennych yr ydym am i ni ei rannu gyda’r BGC.

 

Tynnwyd sylw’r Aelodau at Atodiad 4 lle’r amlygwyd risg 3 o ran y risg i les economaidd  y sir, risg 6 o ran y niwed i blant ac oedolion bregus, risg 8 o ran methu diwallu anghenion dysgwyr gan gynnwys dysgwyr bregus. Tynnwyd sylw’r Aelodau hefyd at y pedair risg benodol, sef 15-18, fel y rhai sydd yn ymwneud yn benodol gyda’r pandemig, risg 17 sy'n cael effaith economaidd sydd yn arwain at golli swyddi a’r risg sydd yn cyfeirio at y feirws yn cynyddu tlodi mewn cymunedau. 

 

 

Heriau:

 

·         O ran risg 8 a dysgu, rhywbeth sydd wedi ei godi yn sgil trafodaethau yr  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Trafodaethau ar syniadau cynnar ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol. pdf icon PDF 152 KB

Cofnodion:

Daethpwyd â’r adroddiad hwn i’r pwyllgor er mwyn rhoi gwybod i’r aelodau am y trafodaethau sydd wedi eu cynnal yngl?n â’r  manteision o symud i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus  ar gyfer Gwent gyfan. Roedd y Pwyllgor Dethol Gwasanaethau Cyhoeddus  wedi cefnogi’r syniad o BGC rhanbarthol mewn cyfarfodydd blaenorol er mwyn lleihau dyblygu ymdrechion, gwella llywodraethiant a’n sicrhau dull cyson at ddarparu gwasanaethau o dan  ymbarél rhanbarthol. 

 

Clywodd Aelodau y byddai yna fanteision clir o ran arbedion maint ar gyfer partneriaid a fyddai ond yn gorfod mynychu 1 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ynghyd â manteision o ran cyflawni prosiectau a rennir fel Gwent Green Grid a phrosiectau eraill fel y rhai sydd yn ymwneud gyda gordewdra. Byddai yna fanteision hefyd o ran y blaenoriaethau rhanbarthol a rennir fel trais a chamdriniaeth yn y cartref. Fodd bynnag, bydd angen gweld canlyniadau diriaethol ar lefel leol.  Un peth allweddol i’w ystyried fyddai cadw mewn cof yr hyn sydd yn bwysig i Sir Fynwy a sut i hyrwyddo’r agenda leol. Byddai angen i ni ystyried hefyd sut y bydd swyddogion yn cael eu defnyddio mewn strwythur rhanbarthol ac o ran bwrdd y rhaglen. Nid oes llawer o fanylder  ar y cynnig hwn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r adroddiad wedi ei gyflwyno i aelodau er mwyn sicrhau bod aelodau yn deall y trafodaethau diweddaraf sydd yn cael eu cynnal ar drefniadau cydweithio a’n rhoi’r cyfle iddynt i gynnig unrhyw adborth os yw’r pwyllgor am wneud hyn.   

 

Casgliad y Cadeirydd:

 

Roedd yna gefnogaeth gan y pwyllgor tuag at symud tuag at BGC rhanbarthol am y rhesymau sydd yn cael eu hesbonio yng nghyflwyniad yr adroddiad. Roedd Aelodau wedi gwneud cais am restr o’r prosiectau cydweithredol sydd yn cael eu goruchwylio gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gan dderbyn fod yna nifer o wasanaethau eraill sydd yn cael eu darparu ar y cyd a’n cydnabod bod y rhain yn debygol o gael eu goruchwylio gan pwyllgorau dethol eraill.