| Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb / Cyflwyniadau Cofnodion: Agorodd cyfarfod y Fforwm gyda RG yn mynd drwy’r trefniadau ymarferol cyffredinol.
Cafwyd ymddiheuriadau gan yr aelodau Philip Allsop, John Askew, Sara Burch, Anthea Fairey, Barbara Heys, Rhys Wynne-Jones, Sallie Roderick, Jack Thurston a gan Ruth Rourke, Cyngor Sir Fynwy. Cyflwynwyd Tony Easson fel y darpar aelod o’r cyngor sir a benodwyd i’r Fforwm Lleol – fe’i gwahoddwyd gan y Cadeirydd i gymryd rhan.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion cyfarfod 1 Chwefror 2025, Cynigiwyd gan: KV, Eiliwyd gan: AU
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Camau gweithredu yn deillio o'r cyfarfod blaenorol nad ydynt ar yr agenda: · Diweddariad ar recriwtio aelodau FfMLl ychwanegol Gwefan ar gyfer cofrestrau ar gamerâu gwe Cofnodion: Recriwtio aelod ychwanegol i’r Fforwm Lleol: Rhoddodd RG y sefyllfa ddiweddaraf yn ymwneud â chysylltu â Tillhill fel perchennog coedwig yn yr ardal, ni chafwyd ymateb gan gyswllt posibl ynghylch Undeb Amaethwyr Cymru, NFU na’r CLA. Argymellwyd fod aelodau’r Fforwm Lleol yn eu trosglwyddo i unrhyw berchnogion tir y gwyddant amdanynt.
GWEITHREDU: cysylltu neu drosglwyddo manylion darpar berchnogion tir/marchogwyr – aelodau’r Fforwm Lleol
Gwefan ar gyfer cofrestri ar wefan cams:
Mae hyn yn dal i fod gyda Swyddog y Gymraeg i brofi ochr Gymraeg newydd y wefan.
GWEITHREDU: Diweddaru’r Fforwm Lleol pan fydd ar gael yn gyntaf ar gyfer ei gweld - RG
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Diweddariad prosiect Traciau a Llwybrau (dolen i’r cofnodion:
Cofnodion: Ni fu cyfarfod ers cyfarfod diwethaf y Fforwm, bwriedir cynnal y nesaf ar 19 Mai, ac arhosir am adroddiad yr ymgynghorydd. Cynhaliwyd ymweliad safle – mae difrod d?r sylweddol i’r llwybr ceffylau. Mae problemau hinsawdd yn gyffredin gyda d?r yn effeithio ar lwybrau niferus, pwysau o ddefnydd, yn gyflymach nag y medrir eu cynnal. ST – Arfordir Penfro fel enghraifft o symud yn ôl/symud llwybrau ac yn y blaen.
Pryder gan y Fforwm Lleol nad yw’r prosiect yn symud ymlaen yn ddigon cyflym.
GWEITHREDU: Cylchredeg cofnodion a’r wefan i’r Fforwm Lleol pan mae ar gael – RG
GWEITHREDU: Cylchredeg adroddiad yr ymgynghorydd pan fydd ar gael – RG
GWEITHREDU – Diweddariad i gyfarfod nesaf y Fforwm Lleol – BH/Is-gr?p |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Diweddariad Cyfoeth Naturiol Cymru (Sarah Tindal, Uwch Swyddog Pobl a Lleoedd, De-ddwyrain Cymru/ Bob Campbell Uwch Swyddog Rheoli Tir, De-ddwyrain Cymru) Cofnodion: Diweddariad gweithredol gan BC/ST. Atodwyd nodiadau at agenda’r cyfarfod: - ymholiad am gyfrifoldeb coed ar dir Cyfoeth Naturiol Cymru – mae’r cyfrifoldeb am yr arwyneb fel arfer gan Gyngor Sir Fynwy, coed/twf ochr fel arfer gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Adrodd drwy fap rhyngweithiol Cyngor Sir Fynwy neu e-bost yn uniongyrchol at Cyfoeth Naturiol Cymru. Olrhain gwartheg ar Beacon Hill, Tryleg: gellir olrhain drwy ddolen cod QR i’r wefan. Mae hyn wedi ei gwneud yn bosibl cael gwared â chlwydi, ffensys ac yn y blaen gan wella hygyrchedd fel canlyniad. Llwybrau lluniau tirwedd cenedlaethol ar gyfer gwella hygyrchedd a chynllunio llwybr, yn bosibl ar gyfer coedwig Parc Cas-gwent. Gall gwirfoddolwyr Cyngor Sir Fynwy weithio ar stad Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn hyn. Proses newydd ar gyfer digwyddiadau di-dâl. Mae hyn yn symleiddio’r broses, a bydd yn mynd yn fyw yn y dyfodol agos. Ar hyn o bryd gellir anfon e-bost i Bob am ddigwyddiadau. Gofynnwyd am eglurhad am ba ddigwyddiadau sydd angen hysbysiad – mae grwpiau masnachol neu grwpiau mawr angen hysbysiad. Croesewir adborth gan y Fforwm Lleol pan fydd ar gael. Dylid rhoi gwybod am unrhyw broblemau gyda digwyddiadau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol neu anghyfreithlon drwy’r cysylltiadau hyn: Ar gyfer unrhyw ymholiadau, dylid defnyddio cyfeiriad e-bost y Tîm Rheoli Tir: forestsandnaturesoutheast@naturalresourceswales.gov.uk NODYN: Ar gyfer digwyddiadau/adroddiadau brys neu allan o oriau gwaith, dylid defnyddio’r Ganolfan Rheoli Digwyddiadau (ICC): 0300 065 3000 (24/7) Cyfoeth Naturiol Cymru/ Rhoi adroddiad am ddigwyddiad Rhoi adroddiad am gerbydau oddi ar y ffordd: contact@gwent.pnn.police.uk Ffonio 101 @gwentpolice ST- rhoddodd ddiweddariad ar ffocws Cyfoeth Naturiol Cymru ar swyddogaethau statudol. Bu gostyngiad mawr yn y tîm polisi/swyddogion mynediad a hamdden a chafodd cymorth ei ostwng ar gyfer Fforymau Mynediad Lleol ac yn gyffredinol. Nid yw’n hysbys sut y caiff y Fforwm Mynediad Cenedlaethol ei reoli ar hyn o bryd. Gobeithir y caiff pethau eu gwneud yn well neu yn fwy effeithiol dros y 6-9 mis nesaf a chaiff y Fforwm Lleol eu hysbysu am y newidiadau. Mae’r cymorth presennol oherwydd y gwerth y mae’r Fforwm Lleol yn ei roi i Cyfoeth Naturiol Cymru. Ymateb gan y Fforwm Lleol am ba mor bwysig yw ymgyfraniad Cyfoeth Naturiol Cymru fel dull cyfathrebu dwy ffordd, sy’n hygyrch i grwpiau/sefydliadau a gwirfoddolwyr digwyddiadau yn llawer mwy effeithlon oherwydd yr ymgyfraniad hwn. Mae llawer o Fforymau Lleol yn dal heb fod yn rhedeg gan nodi’r coll profiad a’r gefnogaeth gysylltiedig a rhoi adborth hyn i gr?p cadeiryddion Fforymau Lleol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Rhaglen Waith y Dyfodol FfMLl i'w hadolygu a'i diweddaru Cofnodion: Cafodd rhaglen waith y flwyddyn flaenorol ei hadolygu. Cafodd newidiadau am raglen y flwyddyn nesaf (2025/26) ei cynnwys isod:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol a lleoliad Cofnodion: Cyflwynwyd y dyddiadau canlynol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol: 9 Medi 2025 26 Tachwedd 2025
GWEITHREDU: Aelodau’r Fforwm Lleol i roi adborth os na fedrant fynychu – aelodau’r Fforwm Lleol
GWEITHREDU: anfon yr agenda 2 wythnos cyn y cyfarfodydd - RG
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||