Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Sir R. Roden wedi datganiad buddiant personol, na sy’n rhagfarnu yn unol gyda’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau gan ei fod yn adnabod y gwrthwynebydd yn y cyfarfod heddiw. Mae’r Cynghorydd Roden a’r gwrthwynebydd yn mynychu’r un eglwys.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio wedi ystyried cais o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 am Drwydded Mangre ar gyfer “The Club” 15 Stryd Whitecross, Trefynwy, Sir Fynwy, NP25 3BY.
Roedd y Cadeirydd wedi croesawu’r ymgeisydd a’r gwrthwynebydd i’r cyfarfod ac wedi cyflwyno Aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion a oedd yn mynychu ac wedi esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod.
Roedd yr ymgeisydd a’r gwrthwynebydd wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn yr adroddiad ac yn fodlon parhau heb unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol.
Cyflwynwyd y materion a’r manylion allweddol i’r Pwyllgor.
Rhoddwyd cyfle wedyn i’r ymgeisydd i annerch y Pwyllgor er mwyn cynnig unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, roedd Aelodau’r Pwyllgor wedi gofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a chafwyd trafodaeth.
Yn ystod y drafodaeth, gwnaed y pwyntiau canlynol:
· Cyn y pandemig Covid-19, roedd Clwb Ceidwadol Sir Fynwy ar fin cau gan fod y model busnes yn methu ac nid oedd yn hyfyw i barhau ar agor.
· Yn ystod y pandemig, roedd y safle wedi ei ailwampio.
· Roedd yn anodd i ddenu aelodau newydd o bob math yn sgil cysylltiadau gwleidyddol y clwb.
· Roedd yr ymgeisydd wedi datgysylltu ei hun o’r Blaid Geidwadol ac wedi ail-enwi’r safle yn ‘The Club’.
· Roedd angen denu mwy o aelodau newydd er mwyn sicrhau bod y model busnes newydd yn medru bod yn hyfyw a thalu am y gwaith adnewyddu.
· Ail-agorodd ‘The Club’ ym Mai 2021 gyda 195 o geisiadau newydd i ddod yn aelodau.
· Y model busnes yw creu clwb preifat i aelodau.
· Yn ystod y cyfnod, gwnaed cwyn anhysbys gan aelod bod unigolion eraill – na sydd yn aelodau – wedi bod yn mynychu ac wedi bod yn camymddwyn. Roedd cyngor gan y swyddogion trwyddedu yn datgan fod yn rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio gyda’r drwydded bresennol a sicrhau bod yna lyfr ar gyfer gwesteion er mwyn iddynt gofrestru tra’n ymweld gyda’r clwb. Os oedd unigolion – na sy’n aelodau – yn cael eu hannog i ymweld gyda’r clwb, yna byddai’n rhaid i’r ymgeisydd i wneud cais am drwydded mangre trwyddedig.
· Mae ‘The Club’ ar agor o ganol dydd tan 11.00pm saith diwrnod yr wythnos.
· Fel Clwb Ceidwadol, roedd hawl gan Aelodau i ddefnyddio’r safle o 8.00am ar gyfer gweithgareddau na sydd yn cynnwys alcohol, fel defnyddio’r byrddau snwcer.
· Mae cegin newydd yn y clwb a’r nod yw cynnig ciniawau dydd Sul.
· Roedd grwpiau lleol yn cael eu hannog i barhau i ddefnyddio’r clwb fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.
· Mae’r stiwardes yn byw ar y safle a hi yw deiliad y drwydded.
· Mae unrhyw gamymddwyn yn cael ei ddelio ag ef yn briodol.
· Mae gardd gwrw gan y safle ac mae wedi bod ar agor cyn hired â’r clwb.
· Mae’r ardd gwrw wedi ei hail-wampio ac mae wedi annog mwy o bobl i ddefnyddio’r rhan hon o’r clwb yn ystod misoedd yr haf.
· Mae angen i unigolion na sydd yn aelodau i gael eu cofrestru gan aelodau’r Clwb.
· Mae staff y bar a deiliad y drwydded yn ymwybodol o’r angen i ymweld â’r ardd gwrw ... view the full Cofnodion text for item 2. |