Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau Buddiant Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro – Cae yn Fferm Old Castle Court. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriwyd Hysbysiad Digwyddiad Dan Dro dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gyfer cae yn Fferm Old Castle Court, Pandy, Y Fenni, NP7 7PH. Gwnaed y cais hwn gan Samuel Southan, GemFestival Cyf.
Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chynrychiolydd i’r cyfarfod a chyflwynodd aelodau’r Is-bwyllgor a’r Swyddog oedd yn bresennol ac esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod. Roedd cynrychiolwyr Iechyd yr Amgylchedd a Heddlu Gwent yn bresennol.
Cadarnhaodd yr ymgeisydd a’r cynrychiolydd eu henw a’u cyfeiriad i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd yr ymgeisydd a’r cynrychiolydd iddynt ddarllen yr adroddiad a gweithdrefn y gwrandawiad.
Gofynnwyd i’r ymgeisydd a’r cynrychiolydd os y byddent yn symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol. Nid oedd yr ymgeisydd a’r cynrychiolydd yn barod i symud ymlaen gyda’r gwrandawiad a thynnwyd yn ôl yr Hysbysiad Digwyddiadau Dros Dro.
Daeth y gwrandawiad i ben.
|