Lleoliad: County Hall, Rhadyr, Usk - Remote Attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiannau. Cofnodion: Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant wedi eu derbyn.
|
|
Cais am drwydded Safle Newydd ar gyfer Llanvetherine Court, Llanwytherin, Y Fenni. PDF 261 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio wedi ystyried cais ar gyfer Trwydded Eiddo o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 ar gyfer Llanvetherine Court, Llanvetherine Court Farm Road, Llanvetherine, y Fenni.
Roedd y Cadeirydd wedi croesawu’r ymgeiswyr, eu cynrychiolwyr cyfreithiol a’r gwrthwynebydd a chynrychiolydd o Gyfarwyddiaeth Iechyd Amgylcheddol Cyngor Sir Fynwy, i’r cyfarfod ac wedi cyflwyno Aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion a oedd yn mynychu ac wedi esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod.
Roedd yr ymgeiswyr a’r gwrthwynebydd wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn yr adroddiad a’r asesiad o Effaith y S?n. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi ymateb i sylwadau’r swyddog Iechyd Amgylcheddol.
Roedd y materion a’r manylion allweddol wedi eu rhannu ar lafar gyda’r Pwyllgor.
Wrth wneud hyn, nodwyd fod yna gais newydd ar gyfer trwydded mangre o dan Ddeddf Drwyddedu 2003 wedi ei dderbyn gan Llanvetherine Court Partnership ar gyfer Llanvetherine Court, Llanvetherine Court Farm Road, Llanvetherine, y Fenni ar gyfer y canlynol:
Cerddoriaeth Fyw, Cerddoriaeth Wedi’i Recordio – Tu Fewn ac yn yr Awyr Agored Gwerthu Alcohol– ar ac oddi ar y safle
• Dydd Gwener 12:00 - 00:00 • Dydd Sadwrn 00:00 - 08:00, yna 11:00 - 00:00 • Dydd Sul 00:00 - 08:00, yna 11:00 - 20:00 • Penwythnosau G?yl y Banc: Dydd Sul 00:00 - 08:00, yna 11:00 - 00:00 Dydd Llun 00:00 - 08:00, yna 11:00 - 20:00 • Nos Calan 16:00 - 08:00
Lluniaeth gyda’r Nos
· Dydd Gwener 23:00 – 00:00
· Dydd Sadwrn 00:00 – 05:00
· Dydd Sul 23:00 – 00:00
Penwythnosau G?yl y Banc:
Dydd Sul 23:00 – 00:00
Dydd Llun 00:00 – 05:00
Nos Calan 00:00 – 05:00
Yn dilyn hyn, roedd y gwrthwynebydd, sef cynrychiolydd o Adran Iechyd Amgylcheddol Cyngor Sir Fynwy, wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:
· Ar 8fed Chwefror 2022, roedd yr Adran Iechyd Amgylcheddol wedi cyflwyno gwrthwynebiad yn erbyn y cais am fangre drwyddedig ar gyfer Llanvetherine Court gan nad oedd yna wybodaeth ddigonol i gadarnhau amcan trwyddedu D, sef atal niwsans cyhoeddus, yn enwedig o ran sut y bydd y s?n yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau.
· Mae’r ymgeisydd wedi darparu Asesiad o’r Effaith S?n. Fodd bynnag, wedi adolygu’r cynnwys ac ystyried y cais yn ei gyfanrwydd, mae’r Adran Iechyd Amgylcheddol dal yn gwrthwynebu’r cais.
· Mae yna bryderon na fydd yna gydymffurfiaeth gyda’r amcan trwyddedu i atal niwsans cyhoeddus. Yn benodol, mae s?n o’r safle’r ymgeisydd yn meddu ar y potensial i achosi aflonyddwch i drigolion yn yr ardal ac arwain at gwynion.
· Mae hyn yn sgil yr oriau arfaethedig sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad, gyda chynllun i gynnal digwyddiadau dros sawl diwrnod ar y rhan fwyaf o benwythnosau, yn enwedig rhwng 1af Ebrill a chanol Medi 2022 a phryderon am effaith gyffredinol hyn oll ar drigolion yn yr ardal yn sgil y digwyddiadau sydd i’w cynnal yn y Barn, sydd yn rhan o’r cais hwn, a’r safle ehangach yn Llanvetherine Court, lle mae yna gynlluniau i gynnal 5 digwyddiad cerddorol mawr ar gyfer 2022 wrth i’r safle barhau i ddatblygu. ... view the full Cofnodion text for item 2. |