Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Gwasanaethau Bysiau yn Sir Fynwy:

a)         Cyfeillion Bws 65 - cyflwyniad

b)         Tynnu'r Severn Express yn ôl

c)         Gwasanaethau Bysiau National Express: sut y mae'n cyd-fynd â thrafnidiaeth gyhoeddus yn gyffredinol a sylwadau ar y penderfyniad i dynnu gwasanaethau yn ôl o Drefynwy

ch)       Newidiadau i wasanaeth X3

d)         Strategaeth Fysiau Arfaethedig Cyngor Sir Fynwy

 

Cofnodion:

a)    Cyfeillion Bws 65 - Cyflwyniad

Cafodd y Gr?p Trafnidiaeth Strategol gyflwyniad gan Brian Mahony, Cyfeillion Bws 65, i rannu profiadau’r Gr?p a arweiniodd at adfer gwasanaeth Bws 65. Cydnabu’r Cadeirydd waith ac ymroddiad y tîm. Cafodd sleidiau’r cyflwyniad eu cylchredeg yn dilyn y cyfarfod. Gwahoddwyd cwestiynau a sylwadau yn dilyn y cyflwyniad:

 

Gofynnodd aelod o’r Gr?p os oedd tystiolaeth o dwf ers adfer y gwasanaeth. Er nad oes unrhyw dystiolaeth benodol ar gael, cafodd peiriannau tocyn newydd eu gosod fydd yn ei gwneud yn bosibl rhannu data teithwyr. Credir bod nifer y teithwyr wedi cynyddu, ond mae bob amser le ar gyfer gwella; bydd gwell cyfle ar gyfer twf os gellir datrys problemau gyda’r amserlen.

 

Gofynnwyd cwestiwn am gostau a chymorthdaliadau, gan holi os yw hyn ar draul gwasanaethau eraill. Esboniwyd fod y gwasanaeth yn costio £100,000 y flwyddyn. Pe byddai’n cael ei ddileu, byddai’n costio £75,000 i sicrhau gwasanaethau eraill ar gyfer contractau ysgol a gwasanaeth Grass Routes. Mae’r gost net felly yn £25,000 (cyfwerth â £500 yr wythnos).

 

Cadarnhaodd Rheolwr Uned Cludiant Teithwyr y cafodd y bws newydd ei brynu yn defnyddio grant Llywodraeth Cymru (i annog a datblygu gwasanaethau bws gwledig/cymunedol). Mae’r bws newydd yn un allyriadau isel ac yn cynnig profiad brafiach i deithwyr. Cadarnhawyd y bu nifer yn nhwf teithwyr, gan nodi po fwyaf o deithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth y llai o gymhorthdal sydd ei angen. Cafodd y Gr?p ei atgoffa fod y gwasanaeth yn un “dim er elw” ac yn unig i gynnal ei gostau gweithredu ei hun. Gobeithir gwneud mwy o waith marchnata gyda Chyfeillion Bws 65. Bydd cais am arian seilwaith yn y flwyddyn ariannol nesaf, os yn llwyddiannus, yn galluogi darparu gwell blychau amserlenni a mannau cysgodi.

 

Croesawodd Aelod o’r Gr?p hefyd lwyddiant Bws 65 gan nodi fod angen i wasanaethau o’r fath fod yn gynaliadwy, yn gyson, yn berthnasol i anghenion cludiant teithwyr ac yn ddibynadwy. Awgrymwyd y gallai ap math-Uber gymryd lle amserlenni papur maes o law.

 

Gofynnwyd cwestiwn am wasanaethau ar gyfer ymwelwyr a cherddwyr, gan nodi fod llai o wasanaethau ar benwythnosau (hanner gwasanaeth ar ddyddiau Sadwrn a dim gwasanaeth ar ddyddiau Sul). Soniwyd hefyd am yr angen i gysylltu gyda threnau yng Nghas-gwent. Atebwyd fod Cyngor Sir Fynwy wrthi’n comisiynu adolygiad o bob agwedd o drafnidiaeth gyhoeddus yn y sir er mwyn deall problemau yn well. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo gyda Trafnidiaeth Cymru ar ap fydd yn galluogi teithwyr i archebu tocynnau wrth i’r bws symud. Mae’r gr?p Facebook yn ddull effeithlon o ddosbarthu gwybodaeth ond mae angen mwy o aelodau. Yng nghyswllt defnydd apiau yn y dyfodol, dywedwyd fod signal ffonau symudol/4G yn wael yn Nyffryn Gwy felly mae amserlenni papur yn dal yn ddefnyddiol iawn.

 

Holwyd os byddai’r gwasanaeth yn cael ei roi allan i dendr byth ac awgrymwyd nad yw gwasanaethau mewn ardaloedd eraill mor ddibynadwy pan gânt eu rhedeg gan weithredwyr masnachol ac mewn amgylchiadau llawer mwy cystadleuol. Cadarnhawyd i wasanaeth 65 gael  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Grantiau Trafnidiaeth

Christian Schmidt, Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni Trafnidiaeth

 

Cofnodion:

Esboniodd y Rheolwr Prosiectau a Rhaglenni Trafnidiaeth sut mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu grantiau ar gyfer Teithio Llesol. Bydd y Sir yn derbyn dyraniad creiddiol o £235,000 ar gyfer datblygu cynlluniau a chynlluniau llai y gellir eu gwario ar draws aneddiadau allweddol.

 

Yn ychwanegol, mae gan yr awdurdod hawl i gyflwyno cynigion am 3 cynllun Teithio Llesol arall. Cynigir cyflwyno cynigion am becynnau o gynlluniau yn gysylltiedig â:

 

·         Tref Cil-y-coed

·         Tref Trefynwy

·         Canol Tref Brynbuga

 

Yng nghyswllt y Grant Cronfa Trafnidiaeth Leol, gwahoddwyd cynigion ar gyfer cynlluniau presennol ynghyd ag un cynllun newydd. Mae Cyffordd Trefynwy/Pont Gwy (3ydd Lôn) yn gynllun sy’n parhau y prynwyd deunyddiau ar ei gyfer ac mewn storfa yna ni ddyfarnwyd cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Cyflwynir cynnig arall fel canlyniad. Ceisir cyllid hefyd i gyfrannu tuag at Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent.

 

Dyddiad cau y Gronfa Allyriadau Isel Iawn lle gwahoddir cynigion ar gyfer cerbydau trydan (nid yw’r manylion yn benodol ac mae’n aneglur os yw’n cynnwys mannau gwefru) yw 14 Chwefror 2020 a gall fod yn anodd cyflawni hynny. Yn anffodus nid yw’r gronfa a ddefnyddiwyd i brynu Bws 65 yn awr ar gael.

 

Mae Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cyflwyno cais ar gyfer rhaglen Metro Plus i ymestyn manteision y Metro i ardaloedd nad ydynt yn cael budd o’r ffransais rheilffyrdd.

 

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cyflwyno cynnig am uwchraddio gorsaf Cyffordd Twnnel Hafren i gynnwys cyllid i gyflwyno estyniad maes parcio, estyn y bont droed, llwybrau mynediad mwy diogel a gwell cyfleusterau i deithwyr. Yn ychwanegol, bydd Cyngor Sir Fynwy yn symud ymlaen gyda’r elfennau sydd ar goll o’r llwybr troed rhwng Gwyndy a Rogiet i hefyd gysylltu gyda phrosiect Cyffordd Twnnel Hafren.

 

Rhoddwyd gwybodaeth y bydd Metro Cam 2 ac y caiff cynigion eu cyflwyno fel sy’n dilyn ac mewn trefn blaenoriaeth:

 

      Datblygiad pellach ar Orsaf Llwybr Cerdded Magwyr;

      Cyfnewidfa a Gwelliannau Gorsaf y Fenni;

      Cyfnewidfa a Gwelliannau Gorsaf Cas-gwent;

      Coridor Bws Cas-gwent – Casnewydd;

      Coridor Bws Cas-gwent, Trefynwy a’r Fenni.

 

Dylai canlyniadau cynigion fod ar gael erbyn 31 Mawrth 2020. Mae’n debygol y dyfernir rhan-gyllid a gall fod yn rhaid ystyried penderfyniadau ar flaenoriaethau maes o law.

 

Mae hefyd grant rhanbarthol ar gyfer cefnogi gwasanaethau bws a hybu cludiant cymunedol ar gyfer pob cyngor. Cyngor Sir Fynwy yw’r awdurdod arweiniol.

 

Darperir mwy o wybodaeth pan fydd ar gael. Gofynnwyd cwestiynau fel sy’n dilyn: 

 

      Gofynnwyd os oedd unrhyw gwmpas i ychwanegu elfen traws-ffin at gynigion Teithio Llesol gan gyfeirio at bosibilrwydd agor twnnel Tidenham i Gas-gwent (gall peth arian cyfatebol ar gyfer prosiect traws-ffin fod ar gael). Esboniwyd y caiff cynigion Teithio Llesol eu cyfyngu i dri ac ar hyn o bryd mae Cas-gwent y tu allan i’r tri phrosiect a ddynodwyd. Er y cydnabuwyd fod y rhan fwyaf o’r dyraniad craidd wedi ei ymrwymo, gwnaed nodyn o’r syniad ac awgrymwyd hefyd y gellid ychwanegu hyn at broses ymgysylltu Astudiaeth Heol Cas-gwent.

      Gofynnwyd am ddiweddariad ar y bont Llan-ffwyst arfaethedig. Gwnaed cais hefyd i  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Rheilffyrdd

Nichole Sarra, Rheolwr Rhanddeiliaid, Trafnidiaeth Cymru

  • Sylwadau ar yr hyn yr ydym ei eisiau ar gyfer Sir Fynwy yn y tymor byr/canolig/hir. 
  • Materion amserlennu
  • Materion yn ymwneud â thocynnau
  • Y diweddaraf am y Rhaglen Cyflenwi Cerbydau 

 

Phil Inskip

·         Defnydd gorsafoedd lleol

 

 

 

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Nichole Sarra, Rheolwr Rhanddeiliaid (Gororau), Trafnidiaeth Cymru a esboniodd fod bellach 5 Rheolwr Rhanddeiliaid gyda’r rôl o annog ymgysylltu rhanddeiliaid ac wedyn roi adborth i’r cynllunwyr. Gwnaed y pwyntiau dilynol:

 

·         Newid amserlen mis Rhagfyr. Cynhelir gweithdy amserlen gyda rhanddeiliaid ym mis Tachwedd. Dilynwyd hyn gydag adroddiad ym mis Ionawr. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal gweithdai ddwywaith y flwyddyn. Cynhelir y nesaf ganol mis Mawrth 2020 gyda golwg ar well cysylltedd a gwasanaethau.

·         Cerbydau rheilffyrdd: mae mwyafrif trenau Dosbarth 170 nawr mewn gwasanaeth.

·         Gorsafoedd: Mae rhaglen o lanhau dwfn yn mynd rhagddi, i’w chwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Disgwylir Cynllun Gwella Gorsafoedd 2020 a 2021. Yng nghyswllt cynnig Grand Union Trains (dechrau o bosibl ym mis Mai 2021), gofynnwyd os gall trenau Trafnidiaeth Cymru gysylltu gyda threnau i mewn/allan o Lundain yng Nghyffordd Twnnel Hafren ym mis Mai 2021. Mae bylchau un a dwy awr ar hyn o bryd; bydd gan Grand Union fylchau 2 awr. Bydd problem mewn cysylltiadau oherwydd gwrthdaro yn Cheltenham gyda gwasanaeth presennol GWR. Byddai’r newid hwn yn arbed 50-100 ceir yn dod lawr o Lydney. Caiff y pwyntiau hyn eu trosglwyddo i’r tîm cynllunio trenau.

 

Yng nghyswllt cysylltiadau trên/bws yng Nghas-gwent, mynychodd Trafnidiaeth Cymru gyfarfod Trosiant Cas-gwent i glywed am y problemau a chydnabuwyd fod angen dull gweithredu aml-fodd. Mae Trafnidiaeth Cymru yn ymroddedig i edrych ar wasanaethau trên Cas-gwent i ddarparu gwasanaeth bob awr erbyn 2022 gyda gwell cysylltiadau. Awgrymwyd fod Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg y gwasanaethau bws a thren; caiff y pwynt hwn ei fwydo’n ôl.

 

Cododd Aelod fater yr angen am well cysylltiadau o Lydney i Fryste. Soniwyd am drydydd croesiad afon rhwng Lydney a Sharpness i roi cysylltiad rheilffordd i Fryste a Llundain. 

 

Trafodwyd y problemau hygyrchedd gyda Gorsaf y Fenni, gan nodi mai’r signalau yw’r ffactor sy’n achosi oedi. Mae Network Rail, yr Adran Trafnidiaeth a Trafnidiaeth Cymru wedi rhoi sicrwydd fod y cynllun yn mynd yn ei flaen ond mae’r gr?p gweithredu yn gofyn am amserlenni. Esboniwyd fod buddsoddiad sylweddol ar y gweill ar gyfer yr orsaf ac mae’r gwaith wedi dechrau ar storio beiciau, dylunio Mynediad i Bawb a lleoli’r signal. Cytunodd Nicholle i roi diweddariad ar amserlenni yn y cyfarfod nesaf (neu’n gynharach, os yw’r wybodaeth ar gael).

 

Gofynnwyd cwestiwn am y potensial am lacio’r canllawiau llwybr. Os yw teithwyr yn symud o Gil-y-coed i Fryste gallant fynd i Gasnewydd ac yn ôl i Fryste Parkway i Fryste Templemeads. Ni chaniateir i deithwyr fynd yn ôl o Lydney drwy Gaerloyw neu Cheltenham i Fryste i roi’r gwasanaeth cyflymaf i Fryste.  Byddai caniatáu hyn yn ychwanegu 13 gwasanaeth ychwanegol y dydd rhwng Lydney a Bryste heb unrhyw drenau, gwasanaethau neu stopio ychwanegol. Gofynnwyd i’r Aelod anfon yr wybodaeth berthnasol at Nichole.

 

Gwnaed pwynt am gostau cymharol, gan fod pobl mewn ardaloedd gwledig yn gorfod talu llawer mwy am deithio gan sôn am docyn £33 o’r Fenni i Ystrad Mynach a thocyn £11 o Gasnewydd i Ystrad Mynach. Y Fenni hefyd sydd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Materion lleol

A)   Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent: Cam 2 WelTAG

 

B)     Materion a godwyd gan Bwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy

 

1.     Parcio amhriodol yn Ysbyty Nevill Hall

2.    Materion iechyd a diogelwch i weithwyr trac sy'n ymwneud â defnydd toiledau agored.

3.     Ni fydd trenau newydd yn cynnwys darpariaeth toiledau.

4.     Materion parcio yng ngorsaf reilffordd y Fenni.

5.     Tynnu'r gwasanaeth bws X3 gynnar yn y bore.

6.     Ni chafodd llwybrau bysiau yn Llanelen eu graeanu

7.    Mater parhaus ynghylch diffyg arhosfan bysiau yn Park Road yn y Fenni i gymryd lle'r arhosfan bws Stryd Frogmore Is a ddilëwyd fel rhan o'r cynllun pedestreiddio sydd bellach wedi'i gwblhau.

 

Parthed: ad-drefnu cyfarfodydd y Gr?p Trafnidiaeth Strategol, penderfynwyd, gan y Pwyllgor Ardal, mai'r ffordd ymlaen fyddai ffurfio is-gr?p yn cynnwys aelodau o Bwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy a chyfarfodydd Pwyllgor Ardal Canol Sir Fynwy i edrych ar faterion trafnidiaeth leol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth, Prosiectau Strategol (Cyfnod Penodol) ddiweddariad ar Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent, gan nodi fod yr astudiaeth yn brosiect cydweithio traws ffin. Mae Cam 1 Canllawiau Gwerthuso Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) wedi ei orffen a chomisiynwyd Arup i gynnal Cam 2 WelTAG. Cynhaliwyd cyfarfod dechreuol. Cododd llawer o argymhellion o WelTAG 1; y tri phrif rai oedd ffordd osgoi, gwelliannau i drafnidiaeth cyhoeddus a chyffordd newydd i’r M48.

 

Derbyniwyd peth cyllid, neu disgwylir hynny, gan Lywodraeth Cymru, y Swyddfa Gymreig a Chyngor Swydd Caerloyw. Cafodd yr astudiaeth gyllid (£275,000) ac mae Cyngor Sir Fynwy yn gwarantu rhan ohono. Disgwylir y bydd angen cyllid ar gyfer gwaith astudio ychwanegol wrth i’r astudiaeth fynd rhagddi. Mae amserlen o 12 mis.

 

Mae’r astudiaethau eraill yn cynnwys:

·         Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu astudiaeth ar gylchfan High Beech yng Nghas-gwent yn y flwyddyn ariannol hon gyda’r diben o ostwng tagfeydd traffig.

·         Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru wedi comisiynu astudiaeth coridor Cas-gwent/Casnewydd i edrych ar faterion trafnidiaeth a gwelliannau yn ardal De Sir Fynwy/Casnewydd.

·         Mae Highways England wedi comisiynu astudiaeth i edrych ar y 2 groesiad ffordd o’r Hafren

·         Mae Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru wedi trefnu astudiaeth yn deillio o ganslo o Lwybr Du yr M4.

 

Cafodd y materion dilynol eu codi gan Bwyllgor Ardal Sir Fynwy:

 

·         Parcio amhriodol yn Ysbyty Nevill Hall: Esboniwyd bod problem gyda’r bysus yn teithio drwy lwybr crwn gorlawn yr ysbyty gydag enghraifft o fod bws yn methu symud am awr oherwydd rhwystr gan geir. Rhoddwyd diweddariad y trefnir cyfarfod gyda swyddogion, Stagecoach a’r Bwrdd Iechyd.

·         Problemau iechyd a diogelwch ar gyfer gweithwyr trac yn ymwneud â thoiledau fflysio agored ar y trenau: gofynnwyd i gynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru i fwydo’r wybodaeth yn ôl.

·         Ni fydd trenau newydd yn cynnwys darpariaeth toiledau: gofynnwyd i gynrychiolydd Trafnidiaeth Cymru fwydo’r wybodaeth hon yn ôl.

·         Problemau parcio yng ngorsaf reilffordd y Fenni. Cadarnhaodd cynrychiolydd Trafnidiaeth Cymru y cafodd y materion hyn eu dynodi eisoes ac y byddant yn cael blaenoriaeth ar gyfer gwella

·         Diddymu gwasanaeth bws X3 cynnar yn y bore. Roedd y mater hwn wedi ei godi yn gynharach yn y cyfarfod.

·         Nid yw llwybrau bws yn Llanelen yn cael eu graeannu. Cafodd y mater hwn ei drosglwyddo i’r swyddog perthnasol.

·         Problem parhaus parthed diffyg safle yn Heol Parc yn y Fenni i gymryd lle safle bws Stryd Frogmore Isaf wedi ei symud fel rhan o’r cynllun pedestraneiddio sydd bellach wedi ei gwblhau. Dywedwyd y cafodd y dyluniad ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Dywedwyd fod angen cwblhau’r prosiect cyn gynted ag sy’n bosibl. Nid oes amserlenni ar gael ond disgwylir penderfyniad ar gyllid erbyn mis Ebrill. Yn ychwanegol, dylid datrys ailgomisiynu safle bws Penypound yn y dyfodol agos.

 

Yng nghyswllt ailgyflunio cyfarfodydd y Gr?p Trafnidiaeth Strategol, cafwyd adborth gan Bwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy lle awgrymwyd y gallai fod isgrwpiau ar ardaloedd leol e.e. gogledd a de y sir. Awgrymwyd y gellid trefnu cyfarfod ar wahân gyda’r Cadeirydd, y Cynghorydd Woodhouse a’r Pennaeth Gwasanaeth, Prosiectau Strategol (Cyfnod Penodol) i drafod opsiynau.  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Blaengynllun Gwaith pdf icon PDF 422 KB

Cofnodion:

·         Diweddariad ar GovTech

·         Ymgynghoriad ar Astudiaeth Cas-gwent (WelTAG Cam 2)

·         Ailgyflunio cyfarfodydd

·         Cyflwr Heol Dyffryn Gwy: rhoddodd Pennaeth Gwasanaeth, Prosiectau Strategol (Cyfnod Penodol) ddiweddariad y caiff gwaith gosod wyneb newydd ei drefnu ar gyfer eleni. Gofynnir am fwy o fanylion a rhoddir adroddiad ar hynny maes o law.

·         Adnewyddu arwyddion cyflymder diogelwch yn Larkfield i gylchfan y draffordd: bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr ardal fel rhan o astudiaeth cylchfan High Beech

·         Seilwaith gorsaf bws yn Nhrefynwy

·         Canol tref Trefynwy: mynegwyd pryder y dylid sicrhau cynllun iawn ar gyfer gwyro gwasanaethau bws pan fydd y gwaith arfaethedig yn dechrau.

 

 

7.

Cadarnhau nodiadau'r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Medi 2019 pdf icon PDF 103 KB

Cofnodion:

    Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                          

8.

Cadarnhawyd dyddiad y cyfarfod nesaf fel 29ain Ebrill 2020