Agenda and minutes

Grŵp Trafnidiaeth Strategol - Dydd Mercher, 10fed Tachwedd, 2021 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau buddiant.

 

2.

Cyffordd Twnnel Hafren [15 munud] pdf icon PDF 438 KB

Trafnidiaeth Cymru:  Simon Le Good a Gareth Potter, Uwch Reolwr Prosiect

Swyddogion Cyngor Sir Fynwy:  Christian Schmidt, Swyddog Cynllunio a Pholisi Trafnidiaeth a Hywel Price, Peiriannydd Cynorthwyol

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Leanne Farrow, Cynllunydd Trafnidiaeth, Mott MacDonald a Gareth Potter, Uwch Reolwr Prosiect, Trafnidiaeth Cymru i’r cyfarfod i roi diweddariad a throsolwg o Ganllawiau Gwerthuso Trafnidiaeth Cymru 1 (WelTAG1) i wella mynediad i’r orsaf yng Nghyffordd Twnnel Hafren ac argymhellion ar gyfer WelTAG2, prosiect ar y cyd gyda Chyngor Sir Fynwy. Cylchredwyd sleidiau cyflwyniad yn dilyn y cyfarfod. Gofynnodd aelodau’r gr?p gwestiynau a gwneud sylwadau yn dilyn y cyflwyniad.

 

Cwestiynodd Aelod y cynnig i ymestyn y bont droed a chyflwynodd opsiwn rhatach. Yn ychwanegol, cyflwynwyd cynnig yn lle pont droed dan do. Bydd Christian Schmidt yn codi’r pwyntiau hyn gyda Network Rail.

 

Holodd Aelod os yw’r ddolen gyda’r B4245 ar gyfer bysus yn unig. Esboniwyd y byddai’r ddolen ar gael i bob math o drafnidiaeth gyda blaenoriaeth i fysus. Yng nghyswllt pryderon am draffig a pharcio yn Rogiet, esboniwyd y caiff ceir eu cyfeirio at y maes parcio newydd ac y bydd pwynt gollwng i ffwrdd o flaen yr orsaf ar gyfer bysus yn unig.

 

Cydnabyddir fod rhai o safonau’r Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig (RICS) wedi newid ers y cynllunio gwreiddiol.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r potensial ar gyfer llifogydd yn yr ardal, rhyngwyneb gyda’r rhwydwaith seiclo a’r ffordd orau i roi mynediad i deithwyr i’r orsaf.

 

Soniodd Aelod o’r Gr?p am yr angen am fesurau i ostwng defnydd ffyrdd:

·         Cyfnewidfa bws/coets (National Express, coetsis twristiaid ac yn y blaen)

·         Cysylltiad i Faes Awyr Bryste

·         Gostwng tagfeydd yng nghanol Cas-gwent

·         Parcio a theithio ar gyfer pobl yn teithio i’r gwaith yng Nghasnewydd/ Caerdydd

 

Eglurwyd y bydd gwaith ar y maes parcio ar ochr Parc Gwledig y lein yn dechrau’n fuan iawn. Mae hyn yn waith ar wahân i waith Trafnidiaeth Cymru. Mae astudiaeth ar y gweill i ymchwilio ymarferoldeb maes parcio ar yr ochr ogleddol.

 

Cyflwynwyd datblygiad tai rhwng Rogiet a Chil-y-coed fel awgrym i’w gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol newydd ac mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymgynghori ar hynny fel opsiwn twf strategol posibl, ond nid oes penderfyniad hyd yma ar ei ddyraniad yn y Cynllun Datblygu Lleol tra’n sicrhau y caiff opsiynau eu cadw ar agor ac nad yw opsiynau’n atal eu gilydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd y dechreuwyd astudiaeth ecolegol ym mis Ebrill ac y bydd yn parhau drwy fisoedd y gaeaf.

 

Caiff cyfleoedd ar-lein ar gyfer ymgynghoriad ar yr opsiynau a ffafrir ym mis Chwefror 2022 eu hysbysebu cyn hir.

 

3.

Gorsaf Dramwyfa Magwyr [15 munud]

Cyflwyniad Papur Briffio:  Cynghorydd Sirol F. Taylor

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Sir F. Taylor, gyda Ted Hand, ddiweddariad ar orsaf Magwyr Rhodfa. Yn wythnos COP26 (Cynhadledd Newid Hinsawdd 2021 y Cenhedloedd Unedig), tanlinellwyd y gall gorsaf Magwyr Rhodfa drin blaenoriaethau hinsawdd pwysig o ran teithio lleol a gostwng y defnydd o geir yn y cynllun cyntaf o’i fath ar gyfer Sir Fynwy, Cymru a’r Deyrnas Unedig.

 

Mae’n gadarnhaol y gall y prif leiniau a’r leiniau wrth gefn fynd ymlaen heb unrhyw waith ei angen ar y leiniau wrth gefn. Cytunwyd y dylid anfon nodiadau’r Arolygydd Cynllunio at Trafnidiaeth Cymru.

 

Mae gwaith yn mynd rhagddo i astudio pa wasanaethau fydd yn medru stopio a bydd yr wybodaeth hon ar gael yn gynnar  yn y flwyddyn newydd. Bydd Gr?p Gweithredu Magwyr ar Reilffyrdd (MAGOR) yn parhau ei ymrwymiad i gefnogi’r proseict ac yn rhoi diweddariad pellach ar gynnydd.

 

Fe wnaeth y Gr?p longyfarch MAGOR a  diolch i’w aelodau am eu holl waith ac amser i gyrraedd y sefyllfa hon.

 

4.

Parthau 20 MYA [15 munud]

Swyddogion Cyngor Sir Fynwy: Graham Kinsella, Rheolwr Traffig a Diogelwch y Ffyrdd a Mark Hand, Pennaeth Creu Lleoedd, Adfywio, Priffyrdd a Llifogydd

 

Cofnodion:

Rhoddodd Graham Kinsella, Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd a Mark Hand, Pennaeth Creu Lleoedd, Adfywio, Priffyrdd a Llifogydd gyflwyniad PowerPoint i roi diweddariad ar gynnydd cynlluniau i gyflwyno parthau 20mya mewn ffyrdd preswyl yng Nghymru ym mis Ebrill 2023.

 

Cadarnhawyd na fydd fawr o effaith weledol gydag arwyddion Porth a Therfynell mewn unedau preswyl. Gosodir arwyddion ailadrodd os nad oes goleuadau stryd.

 

Tanlinellwyd pwysigrwydd hysbysu cymunedau peilot am fwriadau a chynnydd. Cytunwyd fod hyn yn ddull pwysig arall o ostwng defnydd ceir o blaid cerdded a seiclo.

 

Gofynnwyd cwestiwn am reoli goryrru ar y B4245 a chadarnhawyd bod hyn yn fater i’r Heddlu (Go Safe). Yn nhermau dyluniad, gall yr awdurdod ddefnyddio arwyddion a llinellau, er enghraifft i annog defnyddwyr ffyrdd i barchu’r terfyn cyflymder a gyrru yn dibynnu ar amodau’r briffordd.

 

5.

Diweddariad Teithio Llesol [15 munud]

Paul Sullivan, Rheolwr Ieuenctid, Chwaraeon a Theithio Llesol:  Trosolwg o ganlyniadau a chynigion Mapiau'r Rhwydwaith Integredig

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Ieuenctid, Chwaraeon a Theithio Llesol ddiweddariad ar Deithio Llesol. Esboniwyd y bu 3 mis o ymgysylltu gyda’r cyhoedd a 3 mis o ymgynghoriad yn canolbwyntio ar farn plant a phobl ifanc a defnyddio amrywiaeth o ddulliau.

 

Yn dilyn y cyflwyniadau, nodwyd fod yr ymgynghoriad gyda phobl ifanc yn gynhwysfawr a bod y sylwadau a dderbyniwyd yn galonogol. Mae’r Gr?p yn gwerthfawrogi lefel y manylion a roddir yn yr adroddiad ac roeddent yn falch y bydd y data a roddir yn helpu i lywio cynigion cyllid y dyfodol a gwelliannau i’r rhwydwaith.

 

Dywedodd Aelod o’r Gr?p nad oes unrhyw ofod/cyfleusterau penodol i adael beiciau yng Ngorsaf Cyffordd Twnnel Hafren. Atebwyd y nodwyd y pwynt hwn ac y caiff hynny ei ychwanegu i’r archwiliad presennol o’r safle.

 

Diolchodd y Gr?p am yr wybodaeth a roddwyd ac edrychant ymlaen at ddiweddariadau yn y dyfodol.

 

6.

Gwasanaethau Bws [15 munud]

Y diweddaraf gan Swyddogion Cyngor Sir Fynwy

 

Cofnodion:

·         Safle Bws A40: Rhoddwyd diweddariad y cynigiwyd dyluniad gwahanol ar gyfer safle ar y lôn cerbyd. Cafodd y cynnig ei dderbyn yn gadarnhaol mewn cyfarfod rhanddeiliaid.

·         Grassroutes: Mae bysus trydan yn rhedeg ym mhob ardal. Mae’r defnydd 35% yr hyn oedd cyn Covid gan ddangos pryder y cyhoedd am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gobeithir y bydd brechiadau hwblyn yn codi hyder y cyhoedd.

·         Gwasanaethau Bws: Mae colli a gostwng gwasanaethau ar ddyddiau Sul a gwasanaethau eraill yng nghyfnod y pandemig yn fater o ofid a bydd yn effeithio ar dwristiaeth. Mae diffyg gwybodaeth amserlen ar hyn o bryd (Cyngor Sir Fynwy, Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy ac Ymweld â Sir Fynwy) ac mewn safleoedd bws a gorsafoedd bws. Rhoddwyd gwybodaeth fod prinder gyrwyr ynghyd â llai o olwg.

·         Cynnal a chadw safle bws. Gofynnir i gynghorau tref a chymuned restru ble mae’r safleoedd bws, pwy sy’n gyfrifol e.e. am gynnal a chadw a defnydd.

 

 

7.

Unrhyw Fater Arall

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent:  Roger Hoggins, Pennaeth Gwasanaeth – Prosiectau Strategol (Cyfnod Penodol)          

 

Cofnodion:

·         Cyngor Tref Cil-y-coed: Cytunodd y Cynghorydd Easson i godi mater gosod dwy gysgodfa bws yn y dref gyda swyddogion.

 

8.

Rhestr Weithredu o'r cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 115 KB

Cofnodion:

a)    Arolwg Gr?p Trafnidiaeth Strategol: Cytunwyd y dylid ailddrafftio’r Cylch Gorchwyl a chytuno arno ar ôl yr etholiadau i’r Cyngor Sir.

b)    Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent: Dywedwyd fod WelTAG Cam 2 wedi ei gwblhau a’i gyhoeddi. Mae’r adran yn awr yn rhannu i’r elfennau dilynol:

·         Astudiaeth Teithio Llesol (ardal Cas-gwent ynghyd â Tutshill, Beachley and Sedbury). Ni chafodd hyn ei gomisiynu hyd yma. Mae’n derbyn cyllid o gyllideb Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy. Nid oes unrhyw gylch gorchwyl hyd yma ond bydd yn dilyn o WelTAG 2 ac yn edrych ar symud traffig yn y dref a’r cylch;

·         Astudiaeth Trafnidiaeth Gyhoeddus yn edrych ar y potensial i ddatblygu hyb trafnidiaeth; ac

·         Astudiaeth Ffordd: Mae’n aneglur sut i symud ymlaen gyda’r elfen hon ond trefnwyd cyfarfod ym mis Ionawr i ystyried hyn.

 

Holwyd pam na roddwyd mwy o ystyriaeth i waith i gylchfan High Beech i lacio tagfeydd.

 

 

9.

Blaengynllun Gwaith/Eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf

·         Network Rail:  Caeadau llinell Cas-gwent-Caerloyw

·         Teithio Llesol: Diweddariadau Manwl ar Brosiect y Bont; Llan-ffwyst (Paul Keeble, Peiriannydd Gr?p, Priffyrdd a Rheoli Llifogydd) a Phont Gwy (Hywel Price, Peiriannydd Cynorthwyol)

 

10.

Cadarnhau nodiadau'r cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 148 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd nodiadau’r cyfarfod blaenorol.

 

11.

Cadarnhau dyddiad y cyfarfod nesaf ar 26 Ionawr 2021