Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

County Councillor D. Dovey

Cofnodion:

O dan arweiniad y Cadeirydd, roedd  y Gr?p Strategol wedi cynnal munud o ddistawrwydd er cof am y Cynghorydd Sir D. Dovey,  a fu’n gyn-Gadeirydd diweddar o’r Gr?p. Gan ei ddisgrifio fel g?r bonheddig go iawn, roedd aelodau wedi talu teyrnged i’r Cynghorydd  Dovey gan sôn am eu hatgofion amdano, ei gyraeddiadau gan gynnwys ei gefnogaeth a’i anogaeth at Orsaf Rhodfa Magwyr, a’i ymroddiad at y Gr?p. Roedd y Cadeirydd, ar ran y Gr?p, wedi dymuno cofnodi eu cydymdeimlad i wraig y Cynghorydd  Dovey, Steph, ei fab Spencer, ei deulu a’i ffrindiau.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

3.

Trafodaeth ar yr adborth o'r holiadur a gylchredwyd yn ddiweddar

Mae'r Holiadur ar gael yma:

 

Gr?p Trafnidiaeth Strategol - Papur Trafod ar ei rôl yn y dyfodol (office.com)

 

Ymatebion i'w dychwelyd erbyn hanner dydd 5ed Chwefror 2021.

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd wedi rhoi diolch i’r Pennaeth Gwasanaeth  (Prosiectau Strategol) a’r Swyddog Cyfathrebu am lunio a rhannu’r holiadur ac i bawb a oedd wedi llenwi’r holiadur. 

 

Rôl y Gr?p yn wreiddiol oedd cynnig cefnogaeth i’r Aelod Cabinet drwy gynnig arbenigedd o’r  tu allan i’r awdurdod, a hynny gan unigolion sydd â diddordeb arbenigol yn datblygu trafnidiaeth o fewn y sir. Nid pwyllgor craffu yw’r Gr?p ond mae’n amhrisiadwy wrth ddarparu sylwadau a herio polisïau a strategaethau rhanbarthol a chenedlaethol.  Mae’r Gr?p wedi elwa o sawl cyflwyniad gan asiantaethau allanol.  Mae hyn yn cynorthwyo i lywio’r Cyngor wrth iddo ddatblygu strategaethau, blaenoriaethau, cyfleoedd a mentrau eraill. 

 

Roedd yr adborth a rannwyd fel a ganlyn yn seiliedig ar 13 ymateb: 

 

·         Cytunodd y mwyafrif fod amlder y cyfarfodydd yn addas gydag un neu ddau yn nodi  bod hyn yn rhy aml;

·         Credwyd fod hyd y cyfarfodydd yn briodol, gydag un ymateb yn nodi fod y cyfarfodydd yn rhy hir; a  

·         Credwyd fod hyd yr agenda yn addas gyda dau ymateb yn nodi fod yr agenda yn rhy hir. 

 

Roedd adborth arall yn cynnwys:

 

·         Credai’r mwyafrif y dylai’r gr?p barhau fel y mae gydag un ymateb yn nodi y dylai fod yn fwy strategol a’n llai gweithredol, gyda’r awgrym y dylid sefydlu is-bwyllgorau (e.e. ar gyfer bysiau a rheilffyrdd) sydd yn adrodd yn ôl i’r prif Gr?p gyda’r nod o reoli’r agenda yn well;

·         Derbyniwyd sylw fod yna ormod o bwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus a diffyg ffocws ar deithio llesol a lleihau’r defnydd o geir;

·         Gwnaed cais am ddealltwriaeth well o sut y mae’r Cyngor yn neilltuo cyllid;

·         Cafwyd awgrym y dylid trefnu cyfarfodydd yn seiliedig ar themâu. 

 

Wrth ystyried yr hyn sydd yn annog aelodau i fynychu a’r hyn y mae’n cynnig, roedd yr adborth yn cynnwys:

 

·         Pryder am drafnidiaeth gyhoeddus;

·         Awgrym y dylid mynd nôl at y fformat Gogledd/De gwreiddiol;

·         Cwestiynwyd a ddylai’r Gr?p fod yn is-bwyllgor o’r Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf;

·         Yn codi proffil trafnidiaeth gyhoeddus ac yn herio darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus;

·         Yn cynnig cyfleoedd i godi materion traws-ffiniol;

·         Helpu gwella trafnidiaeth gyhoeddus;

·         Mae cyflwyniadau gan fudiadau allanol yn fuddiol;

·         Rhwydweithio gyda Chynghorwyr a swyddogion er mwyn rhannu materion cyfredol;

·         Trafnidiaeth bws gwledig – cyfle i bartïon a chanddynt diddordeb  i gael eu clywed mewn gr?p strategol;

·         Ni fyddai amser gan Bwyllgorau Dethol i ganolbwyntio ar ddarpariaeth trafnidiaeth integredig;

·         Pwyllgor pwysig – gallai cynrychiolwyr y pwyllgor ardal fynychu ar gyfer materion ehangach sydd yn ymwneud gyda gwasanaethau bysiau, trenau, mynediad at orsafoedd rheilffordd, parcio ayyb;

·         Yn codi proffil materion a fyddai fel arall yn cael eu hesgeuluso; a

·         Dylai feddu ar fwy o wrthrychedd o ran ei bwrpas.

 

Rhannwyd crynodeb o’r adborth gyda’r Gr?p. Bydd y cylch gorchwyl yn cael ei ail-ddrafftio er mwyn adlewyrchu’r adborth. Bydd y cylch gorchwyl drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf. 

 

Cadarnhawyd fod Teithio Llesol  wedi ei ychwanegu at y portffolio ar gyfer y Gr?p. Roedd y Cadeirydd wedi atgoffa’r Gr?p fod  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Ymateb i Ddogfennau Ymgynghori (fel ar gael) pdf icon PDF 1 MB

Strategaeth trydanu Cerbydau Trydan (CT) ar gyfer Cymru

Cofnodion:

Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Masnachol  a Landlordiaid Integredig  wedi cyflwyno’r Ymgynghoriad ar gyfer Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan Cymru gan wahodd Aelodau’r Gr?p i gynnig sylwadau er mwyn eu hychwanegu at ymateb yr awdurdod. 

 

Awgrymodd Aelod Gr?p y dylid cael pwyntiau gwefru cyflym yng Ngorsaf Rhodfa Magwyr yn y maes parcio arfaethedig. Esboniwyd fod cynnig wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid yn y flwyddyn ariannol nesaf am strategaeth wefru ar gyfer cerbydau trydanol. Ychwanegwyd fod y rhwydwaith trydan yn Ne’r Sir wedi ei gyfyngu  ac o’r herwydd, mae Western Power Distribution yn medru diffodd y swîts ar gyfer unrhyw dechnoleg adnewyddadwy.  Rydym angen deall capasiti yn yr ardaloedd yma, er enghraifft defnyddio paneli solar a  batris.  Cytunwyd y byddai meysydd parcio cyhoeddus yn medru cynnig cyfleoedd i ddarparu mannau gwefru. Rhaid ystyried cydraddoldeb cymdeithasol hefyd wrth ystyried lleoliadau e.e. ni ddylid ymatal rhag gosod mannau gwefru ar y strydoedd.

 

Esboniodd Aelod Gr?p fod Karshare yn caniatáu perchnogion ceir i rentu eu ceir i bobl heb gerbyd. Mae  ‘Transition Chepstow’ yn ystyried prynu cerbydau trydanol er mwyn ychwanegu at y fflyd yma a fyddai’n caniatáu pobl i roi cynnig ar geir trydanol. At hyn,  efallai y bydd fflyd o feiciau trydanol yn cael ei brynu a bydd angen mannau gwefru ar gyfer beiciau.  

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Teithio Llesol fod rhai e-feiciau wedi eu prynu fel cynllun peilot yng Nghil-y-coed. Mae Covid wedi cyfyngu’r prosiect ar hyn o bryd.  Gwnaed cynnig i ystyried cefnogi prosiect tebyg yng Nghas-gwent. Bydd manylion pellach yn cael eu danfon at ‘Transition Chepstow’.

 

Roedd y Cadeirydd wedi atgoffa’r Gr?p o brosiect cerbydau hydrogen ‘River Simple’.

 

Anogwyd Aelodau i ymateb  i’r ymgynghoriad.  

 

5.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

·         Astudiaeth Pentrefi Dyffryn Gwy: Mae’r prosiect yn bwrw rhagddo a bydd ARUP yn cysylltu ag aelodau gr?p am eu sylwadau. Bydd yr astudiaeth yn cynnwys twristiaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus. 

·         Astudiaeth Trafnidiaeth Cas-gwent: Dylai adroddiad adolygu Cam 2 WelTAG fod ar gael ym Mawrth  2021.

·         Gorsaf Rheilffordd Y Fenni: Bydd astudiaeth yn ystyried yr opsiynau o ran y gyfnewidfa a Pharcio a Theithio.

·         Cynllun Trafnidiaeth Lleol (CTLl): Awgrymodd aelod o’r Gr?p fod yr Awdurdod yn creu CTLl newydd drwy broses ymgynghori a fydd yn nodi, mewn modd strategol, yr holl destunau a godir, yn meddu ar amcanion eglur ac yn adlewyrchu uchelgais yr awdurdod i gyrraedd ei dargedau    a’r cynllun defnyddio tir. Roedd y Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd, wedi cadarnhau fod ymgynghorydd wedi ei   apwyntio er mwyn llunio CTLl sydd wedi ei ddiweddaru. Bydd hyn yn adlewyrchu datganiad Argyfwng Hinsawdd y Cyngor. 

·         Gwefru cerbydau trydanol: Wrth ymateb i ymholiad, esboniwyd nad polisi’r Cyngor yw cael ceblau ar hyd palmentydd. Mae’r Awdurdod yn ystyried ffyrdd gwahanol o wefru cerbydau trydanol gan gynnwys gwefru ar y strydoedd.

·         ‘Transition Chepstow’: Dywedwyd wrth y Gr?p fod ‘Transition Chepstow’ wedi creu ei gynllun trafnidiaeth cynaliadwy cyntaf. Gobeithir y bydd hyn yn cynnig templed i drefi eraill. Cytunwyd y byddai’r cynllun yn cael ei rannu gyda’r Gr?p.  

·         Natur wledig: Cyfeiriodd Aelod at flaenoriaeth Llywodraeth Cymru i leihau’r angen i deithio ond nodwyd yr angen i sicrhau bod trigolion cymunedau gwledig yn medru cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a’r opsiwn o deithio mewn ceir er mwyn delio ag arwahanrwydd cymdeithasol, yn cael mynediad at wasanaethau, yn profi ymdeimlad o gymuned a’r budd cymdeithasol o gwrdd â phobl.  Cytunwyd mai’r nod yw teithio llai o filltiroedd, llai o teithio i gyrchfannau: mae hyn yn anodd mewn mannau gwledig. Cydnabuwyd bod oedran ac iechyd trigolion yn cyfyngu ar gyfleoedd i deithio’n llesol.

·         Amserlenni Bysiau: Nodwyd nad yw’r amserlenni ar  gyfer bysiau ar wefan y Cyngor. Cydnabuwyd fod y rhain wedi eu tynnu oddi yno yn sgil y newidiadau a wnaed i’r gwasanaeth yn ystod y pandemig a’r cyfnod clo.  Cytunwyd ychwanegu manylion ar gyfer bysiau 75 a 65 i’r wefan. Mae amserlenni ar gyfer Bws 65 ar gael yma: <https://friendsofthe65bus.org.uk/>

Mae cynllunydd teithio ar gyfer Cymru ar gael yma: <https://www.traveline.cymru/>

·         Gorsaf Y Fenni: Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynnig diweddariad ar y gwaith parhaus i wella Gorsaf Y Fenni. Mae’r Orsaf, sydd wedi gwasanaethu’r dref a’r gymuned ehangach ers Oes Fictoria Ganol,  yn mynd i newid wrth i rai o’r mannau gwag gael eu trawsnewid yn galeri celf. Darllenwch y datganiad i’r wasg isod.

 

https://news.tfwrail.wales/news/improvements-at-abergavenny-railway-station-thanks-to-investment-by-transport-for-wales

 

6.

Rhestr Weithredu o'r cyfarfod diwethaf pdf icon PDF 8 KB

Cofnodion:

Nodwyd y rhestr o gamau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf.

 

7.

Blaen Raglen Gwaith pdf icon PDF 497 KB

Cofnodion:

Gwahoddwyd Aelodau’r Gr?p i ddanfon eitemau posib i’w cynnwys at:wendybarnard3@monmouthshire.gov.uk

 

 

8.

Cadarnhau nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25ain Tachwedd 2020 pdf icon PDF 234 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cywrain. 

 

9.

I gadarnhau dyddiad y cyfarfod nesaf fel 14eg Gorffennaf 2021