Agenda and minutes

Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy - Dydd Gwener, 21ain Ionawr, 2022 11.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Ni wnaed datganiadau o fuddiant.

 

2.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. pdf icon PDF 111 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2021.

 

3.

Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy ar gyfer y flwyddyn sydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021 ac Archwiliad Blynyddol o’r Adroddiad Datganiad Ariannol - Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. pdf icon PDF 332 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid y cyfrifon blynyddol ar gyfer y flwyddyn yn dodd i ben yn 2021.

 

Wrth wneud hynny, nodwyd y byddai’r Rheolwr Cyllid yn trefnu cyfarfod gydag Ymddiriedolaeth Roger Edwards yn haf 2022 i drafod ymwneud gydag Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo’r cyfrifon.

 

4.

Ystyried a ddylid gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried yr eitem ganlynol o fusnes yn unol gydag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygir, ar y sail ei fod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth esempt fel sydd wedi ei ddiffinio ym Mharagraffau 12 a 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf. (Mae barn y Swyddog Priodol wedi ei atodi). pdf icon PDF 188 KB

Cofnodion:

Cafodd y wasg a’r cyhoedd eu gwahardd o’r cyfarfod pan roddwyd ystyriaeth i’r eitem ddilynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn ymwneud â datgeliad tebygol gwybodaeth a eithriwyd fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

5.

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc sydd yn ymwneud â’r ceisiadau a dderbyniwyd gan y Gronfa Ymddiriedolaeth ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2021/22.

Cofnodion:

Ystyriwyd chwe chais a dderbyniwyd yn erbyn y Gronfa Ymddiriedolaeth, a gyflwynwyd ar ran y Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc.

 

Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth:

 

(i)            rhoi dyfarniadau i’r chwech ymgeisydd, fely  cytunwyd, yn amodol ar gael derbynebau priodol a thystiolaeth o bresenoldeb;

 

(ii)           y bydd Swyddogion Cyllid Cyngor Sir Fynwy yn cydlynu gyda rhai o’r ymgeiswyr i drafod cyfyngiadau ar wariant yng nghyswllt rhaii eitemau o offer y gwnaed cais amdanynt, yn ogystal â thrafod gofynion meddalwedd un o’r ymgeiswyr.

 

 

6.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

Y dyddiad sydd ar yr amserlen ar gyfer cyfarfod nesaf Ymddiriedolaeth Gwaddol Fferm Sir Fynwy yw dydd Llun 18 Gorffennaf 2022 am 11.00 a.m. Fodd bynnag, gan fod y cyfarfod hwn yn debygol o gyd-daro â Sioe Frenhinol Cymru, efallai na fyddai rhai Ymddiriedolwyr yn medru mynychu’r cyfarfod.

 

Penderfynwyd fod y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn ymchwilio dyddiad arall ym mis Gorffennaf 2022 ar gyfer cyfarfod nesaf Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy.