Agenda and minutes

Pwyllgor Ardal Sir Fynwy Canolog - Dydd Mercher, 22ain Mehefin, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Etholiad Cadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Sir S. White fel Cadeirydd.

 

2.

Apwyntiad Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Sir B. Strong gennym fel Is-gadeirydd.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir P. Jones fuddiant personol, manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed cais am Grant Pwyllgor Ardal oddi wrth Neuadd Bentref Rhaglan, gan ei bod yn aelod o Weithgor Neuadd Bentref Newydd Rhaglan.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir B. Strong fuddiant personol, manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed ceisiadau am Grant Pwyllgor Ardal oddi wrth Gystadleuaeth Pentref Taclus Gorau’r Flwyddyn Gwent ac Eglwys Fedyddiedig Brynbuga gan ei fod yn aelod o’r ddau bwyllgor.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir B. Strong fuddiant personol, manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed ceisiadau am Grant Pwyllgor Ardal oddi wrth Gystadleuaeth Pentref Taclus Gorau’r Flwyddyn Gwent a Neuadd Gymunedol Tt. Thomas gan mai hi yw warden yr eglwys yn Eglwys Tt. Thomas ac yn aelod o Bwyllgor Pentref Taclus Gorau’r Flwyddyn Gwent

 

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd gan y cadeirydd gofnodion Pwyllgor Ardal Canol Sir Fynwy, dyddiedig 9fed Mawrth 2016.

 

5.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Ystyriwyd mater a godwyd gan aelod o’r cyhoedd dan gofnod 6.

 

6.

Deiseb – Pryderon am ddiogelwch ffordd yn Stryd Porthycarne / Heol y Fenni, Brynbuga. pdf icon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cynghorwyd ni ynghylch y ddeiseb a gyflwynwyd i Gyngor Sir Fynwy yn gwneud cais ar i’r Cyngor fynd i’r afael â materion yn ymwneud â diogelwch ffordd ar Stryd Porthycarne / Heol Y Fenni, Brynbuga.

 

Cyn ystyried yr adroddiad, caniataodd y Cadeirydd i Mr. G. Perry, gwirfoddolwr cynllun gwarchod cyflymdra Cymuned Brynbuga, gyfarch y  Pwyllgor. Wrth wneud hynny, nodwyd bod y gr?p yn cyfarfod unwaith yr wythnos a’i fod yn monitro cyflymdra cerbydau ar amrywiol adegau. Roedd y data a gasglwyd yn wahanol i’r rheiny a grybwyllwyd yn adroddiad y swyddog.

 

Mae dadansoddiad o’r data rhwng 00:01 awr ar 12fed Rhagfyr 2015 a 23:59 awr ar 25ain Rhagfyr 2015 yn dangos:

 

Cyfanswm y cerbydau 21857

 

Cyflymder troseddol = 54%

 

Cyflymdra cyfartalog 31milltir yr awr

 

54% o’r cerbydau dros 30 milltir yr awr

 

3% o’r cerbydau dros 45 milltir yr awr

 

Cyflymdra uchaf 65 milltir yr awr ar 23:46 awr ar 18/12/15.

 

V85 = 39 milltir yr awr

 

 

(CYFARTALEDD 7 NIWRNOD) dadansoddiad o 00:01 awr ar 12/12/15 i 23:59 awr ar 18/12/15.

 

Cyfanswm y cerbydau 11372

 

Cyflymder troseddol = 56%

 

Cyflymdra cyfartalog 31milltir yr awr

 

56% o’r cerbydau dros 30 milltir yr awr

 

3% o’r cerbydau dros 45 milltir yr awr

 

Cyflymdra uchaf milltir yr awr ar 23:46 awr ar 18/12/15.

 

V85 = 39 milltir yr awr

 

 

(CYFARTALEDD 7 NIWRNOD) dadansoddiad o 00:01 awr ar 19/12/15 i 23:59 awr ar 25/12/15.

 

Cyfanswm y cerbydau 10483

Cyflymder troseddol = 52%

 

Cyflymdra cyfartalog 30 milltir yr awr

 

53% o’r cerbydau dros 30 milltir yr awr

 

3% o’r cerbydau dros 45 milltir yr awr

 

Cyflymdra uchaf milltir yr awr ar 01:16 awr ar 22/12/15.

 

V85 = 39 milltir yr awr

 

 

Wedi derbyn yr adroddiad a’r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae gorfodi’r terfyn cyflymdra yn fater i’r heddlu.

 

·         Mae croesi’r heol yn y lleoliad hwn yn beryglus.

 

·         Roedd yr Aelod lleol dros Lanbadog wedi rhoi cynnig gerbron y Cyngor Llawn yn Nhachwedd  2015 ynghylch y terfyn cyflymdra 60 milltir yr awr drwy lonydd gwledig. Fodd bynnag ni dderbyniwyd unrhyw adborth. 

 

·         Mae cerbydau sydd wedi’u parcio ar hyd y stryd yn tueddu i arafu lawr traffig, yn gweithredu fel mesur gostegu traffig.

 

·         Defnyddir cyflymdra cyfartalog i gytuno terfynau cyflymdra ar heolydd. Fodd bynnag, mae’r heddlu’n defnyddio gwahanol feini prawf i’r rheiny a ddefnyddir gan y gr?p gwarchod cyflymdra cymunedol.

 

·         Rhagwelir y bydd yr Heddlu’n mynd yn ôl i’r safle ac yn cyflawni arolygon cyflymdra pellach.

 

·         Mae’r dystiolaeth gyfredol yn dangos bod y terfyn cyflymdra presennol yn gywir.

 

·         Mae datrysiadau posib yn cynnwys culhau’r heol, gosod arwyddion rhybudd sy’n fflachio.

 

·         Byddai swyddogion yn hoffi hyrwyddo llwybr troed ar ochr arall yr heol drwy gyfrwng Cais Teithio Llesol.

 

·         Bydd yr Heddlu’n monitro’r safle’n fuan. Cyflawnir arolygon a defnyddir y wybodaeth a gesglir i gymryd camau gweithredu priodol. 

 

·         Bydd aelodau’r cynllun gwarchod cyflymdra’n parhau i gyflawni’u monitro eu hunain. 

 

Penderfynasom:

 

(i)            Nodi’r ddeiseb a’r camau gweithredu i’w cymryd hyd yn hyn, gan gynnwys nodi’r Gr?p Gwarchod Cyflymdra a ffurfiwyd gan  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Ceisiadau Grant Pwyllgor Ardal: pdf icon PDF 4 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned y broses ar gyfer cyflwyno cyllid cyfalaf i sefydliadau sydd wedi cyflwyno ceisiadau am gyllid i’r Pwyllgor Ardal. Roedd £5000 o gyllid cyfalaf ar gael ar y pryd o gyllideb 2015/16. 

 

Derbyniwyd y ceisiadau canlynol am gyllid ac fe’u hystyriwyd gan y Pwyllgor Ardal:

 

Pentref Taclus Gorau Gwent

Gwnaed cais am:  £250

 

Rheswm:  Tuag at dreuliau teithio beirniaid gwirfoddol ar gyfer ymweld â’r pentrefi’n cystadlu a’u beirniadu. Hefyd, tuag at brynu tlysau a fframiau ar gyfer y tystysgrifau i’r ysgolion a’r pentrefi buddugol.

 

Wedi trafod y cais ystyriwyd nad oedd y cais yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol.

 

Penderfynasom fod y cais yn cael ei wrthod. Felly, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais hwn.

 

 

Ymddiriedolaeth Cadwraeth Gerddi Nelson

 

Gwnaed cais am:  £5000

 

Rheswm:  Adfer a chadw tirwedd hanesyddol (Gradd II).  Adfer Cofgolofn Nelson gyda’r sedd yr eisteddodd Nelson arni yn 1802, trwsio’r wal boeth hanesyddol a phlannu coed, gosod toiled i’r anabl i wella adnoddau i ymwelwyr.

 

 

Wedi ystyried y cais, penderfynodd y Pwyllgor beidio â chefnogi’r cais hwn.

 

 

Eglwys Fedyddiedig Brynbuga

 

Gwnaed cais am:  : £2000

 

Rheswm:  cadeiriau newydd i’r byrddau eisoes wedi’u prynu – gan roddion. Cadeiriau sy’n addas ar gyfer pob gr?p oedran o bob gallu. Gorchudd llawr newydd – ar faterion yn ymwneud â glendid a diogelwch.

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi‘r cais a chyfrannu £1000.  Hefyd, cydgysylltu â Morley Sims i weld a oes unrhyw gadeiriau y gallai fod yn weddill i’r gofynion ac a ellid eu rhoi yn rhodd i Eglwys Fedyddiedig Brynbuga.

 

 

Pwyllgor Rheoli Neuadd Bentref Llanisien

 

Gwnaed cais am:  :  £4800

 

Rheswm:  Prynu 100 o gadeiriau pentyradwy ar ddull cadeiriau cynhadledd throlïau y gellir eu storio’n hylaw ac 20 cadair blastig bentyradwy bellach.

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi‘r cais a chyfrannu £1000. Hefyd, cydgysylltu â Morley Sims i weld a oes unrhyw gadeiriau y gallai fod yn weddill i’r gofynion ac a ellid eu rhoi yn rhodd i bwyllgor Rheoli Neuadd Bentref Llanisien.

 

 

Cymdeithas Neuadd Bentref a Hamdden Rhaglan

 

Gwnaed cais am:  :  £1068.01

 

Rheswm:  Hwyluso darparu Wi-Fi yn yr Hen Ysgol Eglwys. 

 

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi‘r cais a chyfrannu £1000. 

 

 

Y Cynghorydd Sir R. Edwards

 

Gwnaed cais am:  :  £200

 

Rheswm:  Dathlu pen-blwydd y Frenhines yn 90 oed â pharti yn Neuadd Llanvaply ar 11eg Mehefin 2016.

 

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais hwn am ei fod yn gais am gyllid refeniw.

 

 

Gr?p Sgowtiaid 1af Wyesham

 

Gwnaed cais am:  :  £1009.11

 

Rheswm:  Matiau campfa, troli a  gazebo.

 

Wedi ystyried y cais, nodwyd bod angen gwybodaeth bellach. Bydd Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned yn ysgrifennu at yr ymgeisydd gan awgrymu bod y cais yn cael ailgyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Ardal yn nhymor yr Hydref.

 

Penderfynasom yn unol â hynny.

 

 

Gr?p Amgylcheddol Brynbuga

 

Gwnaed cais am:  £1000

 

Rheswm:  Adeiladu llwybr solet ar draws Cae Owain Glynd?r.

 

Wedi ystyried y cais, penderfynasom gefnogi‘r cais a chyfrannu £1000.

 

 

Neuadd Pelham,  ...  view the full Cofnodion text for item 7.