Agenda and minutes

Pwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy - Dydd Mercher, 13eg Gorffennaf, 2016 2.00 pm

Lleoliad: Llanfair Killgeddin Village Hall Abergavenny Monmouthshire NP7 9BD

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Etholiad Cadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Sir D. L. Edwards fel Cadeirydd.

 

2.

Apwyntiad Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Sir M. Hickman fel Is-gadeirydd.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir R.G. Harris fuddiant personol ac anfanteisiol, yn unol â chod ymddygiad Aelodau, parthed eitem 11 Grantiau Cyfalaf Ardal – cais gan Fenter Gymunedol Y Fenni, gan ei fod yn aelod o fwrdd y Fenter. Felly fe adawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na bwrw pleidlais.

 

4.

Cydlynu Cymunedol a Mentrau Lleol Bach. pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad gwerthuso manwl o Gydlynu Cymunedol a Mentrau Bach Lleol o fewn Sir Fynwy. Roedd yr adroddiad wedi’i lunio dros gyfnod o ddwy flynedd. Nodwyd y bydd casgliadau o’r adroddiad yn cael eu defnyddio i ddatblygu model o gymorth yn seiliedig ar leoliad sy’n adlewyrchu gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ac fe’i hategir gan egwyddorion datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): hirdymor, integredig, cydweithredol, ataliol ac un sy’n denu pobl i greu’u datrysiadau eu hunain ar y cyd.

 

Wedi derbyn yr adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Hysbysodd y Cynghorydd Sir Prosser y Pwyllgor mai ef yw cadeirydd y prosiect Amaeth-Dinesig sy’n brosiect dwy flynedd a sefydlwyd i wella cynaliadwyedd i’r rhanbarth. Gwahoddodd Swyddog Arweiniol  a chydweithwyr Newid Arferion, Newid Bywydau i’r cyfarfod nesaf a gynhelir ar 27ain Gorffennaf 2016 am 5.30pm.

 

·         Byddai Swyddog Arweiniol Newid Arferion, Newid Bywydau yn cysylltu â’r Tîm Datblygu Gwledig gyda’r bwriad o ffurfio perthynas waith.  

 

·         Bydd y tîm yn parhau i gasglu data mor effeithiol â phosib.

 

·         Mae’r tîm wedi bod yn gweithio’n glos gyda’r sector gwirfoddol.

 

Penderfynasom:

 

(i)            dderbyn yr adroddiad a nodi’i gynnwys;

 

(ii)          fod Swyddog Arweiniol Newid Arferion, Newid Bywydauyn darparu diweddariad ynghylch Cydlynu Cymunedol a mentrau bach lleol i’r Pwyllgor Ardal ymhen blwyddyn.

 

5.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau’r cyhoedd oedd yn bresennol i osod cwestiynau i’r Pwyllgor Ardal, neu i godi materion oedd yn peri pryder:

 

Ymgynghori â’r Gymuned

 

Mynegodd Jenny Barnes, yn cynrychioli CAIR, bryder bod yr Awdurdod angen gwella’r ffordd roedd yn ymgynghori â’r cyhoedd yn gyffredinol ac yn arbennig, yn ymgynghori gyda grwpiau sy’n cynnwys pobl anabl.

 

Mynegwyd pryder hefyd na fydd Hyb Cymunedol Y Fenni yn hygyrch i bobl anabl. Cysylltwyd â swyddogion ond ni dderbyniwyd unrhyw ymateb hyd yn hyn ynghylch y mater.

 

Ystyriwyd bod yn rhaid i’r Hyb Cymunedol newydd gydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. Hysbyswyd Jenny Barnes y gallai gysylltu â’r Adran Gynllunio i weld dyluniadau’r lifft newydd arfaethedig yn yr Hyb Cymunedol gyda’r bwriad o asesu a yw’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

 

 

6.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 155 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm dyddiedig 20fed Ebrill 2016 a llofnodwyd hwy gan y Cadeirydd yn amodol ar y newid canlynol:

 

Roedd y Cynghorydd Sir M. Hickman yn bresennol ac wedi cadeirio’r cyfarfod.

 

Roedd y Cynghorydd Sir R.G. Harris wedi cyflwyno ymddiheuriadau dros fod yn absennol o’r cyfarfod.

 

7.

I dderbyn adroddiad diweddaru gan Dîm Fenni ynghylch cynnydd hyd yma. pdf icon PDF 152 KB

Cofnodion:

Derbyniasom adroddiad diweddaru oddi wrth Dîm Y Fenni. Yn y cyfarfod dosbarthwyd nodyn ychwanegol i’r Pwyllgor gan Dîm Y Fenni yn amlinellu mater, fel a ganlyn:

 

Roedd Tîm Y Fenni wedi cyflwyno achosion busnes i wario £30,000 mewn Arian Cychwynnol a gafodd ei ddyrannu i Dîm Y Fenni. Derbyniodd Tîm Y Fenni nad oedd wedi dilyn yn union y weithdrefn rheolau y mae cyflogeion y Cyngor yn rhwym wrthi, nac wedi cwrdd â’r meini prawf a amlinellir at ddefnydd yr arian.  Caniatawyd y £30,000 a ddaeth gyda chyfyngiadau a gweithdrefnau a’i gwnaeth yn anodd dod o hyd i ffyrdd defnyddiol o ddefnyddio’r arian.

 

Roedd trefn y digwyddiadau wedi dilyn y patrwm canlynol:

 

·         Hysbyswyd Tîm y Fenni fod y Cabinet wedi cytuno’r arian yn Ionawr 2016.

 

·         Ni chafodd cofnodion y cyfarfod i gadarnhau’r penderfyniad eu hanfon i dîm Y Fenni ond fe gyfeiriwyd atynt.

 

·         Ar 26ain Ebrill 2016, hysbyswyd Tîm Y Fenni fod yn rhaid i’r arian gael ei drosglwyddo erbyn Gorffennaf 2016. Aeth y Tîm ati i glustnodi meysydd lle gellid gwario’r arian, mewn partneriaeth ag eraill lle’n bosib.

 

·         Addawyd cymorth gan swyddog o’r Cyngor Sir i helpu gydag ysgrifennu amlinelliad gwaelod rhai ceisiadau. Fodd bynnag, ni dderbyniwyd y cymorth hwn.

 

·         Cyflwynwyd cynlluniau busnes gwerth £30,000 erbyn diwedd Mehefin 2016 ond fe’u gwrthodwyd am nad oeddent yn cwrdd â meini prawf y Cabinet.

 

Cwestiynodd Tîm Y Fenni a oedd y cyfrifoldeb ar wirfoddolwyr i ddod o hyd i fanylion y weithdrefn neu a oedd yn ddyletswydd ar Swyddogion y Cyngor Sir i sicrhau bod Tîm Y Fenni â’r wybodaeth gyflawn i symud ymlaen. Yn fyr, ystyriwyd bod angen gwella’r berthynas waith rhwng y Cyngor Sir a Thîm Y Fenni.

 

Wedi derbyn yr adroddiad a’r nodyn ychwanegol, cytunodd y Pwyllgor Ardal fod perthynas waith dda rhwng y Cyngor Sir a Thîm Y Fenni’n hanfodol a bod angen ei chynnal.

 

Nodwyd y bydd Pennaeth Democratiaeth, Ymgysylltu a Gwelliant yn cyflwyno adroddiad i’r Cyngor ynghylch Llywodraethu’r Awdurdod maes o law.

 

Penderfynasom:

 

(i)            dderbyn yr adroddiad a’r nodyn ychwanegol;

 

(ii)          bod y Pennaeth Democratiaeth, Ymgysylltu a Gwelliant yn cael ei hysbysu am y materion a godwyd gan Dîm Y Fenni a’r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor Ardal ynghylch y mater hwn.

 

 

8.

Adroddiad cynnydd ar yr Eisteddfod (diweddariad llafar).

Cofnodion:

Derbyniasom ddiweddariad ar lafar yngl?n â’r Eisteddfod.  Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Bydd Cyngor Sir Fynwy â’i ardal ei hun wedi’i lleoli o fewn yr Eisteddfod yn cynnwys Pafiliwn Caru Sir Fynwy, Parth Rhowch Gynnig Arni a Chegin Gwlad Dyffryn Wysg.

 

·         Hysbysir ymwelwyr bod Castell Y Fenni a Gerddi Linda Vista beth pellter i ffwrdd.

 

·         Bydd rhaglen eang ar gael o’r Maes.

 

·         Hyrwyddir ardaloedd eraill yn Sir Fynwy.

 

·         Bydd ‘Fy Niwrnod, Fy Mywyd’ ar y safle yn darparu dosbarthiadau gweithgareddau ar gyfer  ymwelwyr..

 

·         Bydd gweithdai theatr yno.

 

·         Bydd Cogyddion Lleol a chyflenwyr ar gael yn y Gegin Wlad.

 

·         Bydd Undeb Rygbi Cymru, Tennis Cymru, wal ddringo, gweithgarwch awyr agored a’r Sgowtiaid ar gael yn y ‘Parth Rhowch Gynnig Arni’.

 

·         Ar bob un diwrnod, bydd llwyfan saethu i fyny ar gyfer canu ar y pryd (10.00am – 2.00pm).  Bydd llwyfan ymarfer hefyd ar gael ar gyfer perfformwyr.

 

·         Darlleniadau barddoniaeth.

 

·         Cyfleoedd i Aelodau Etholedig gymryd rhan mewn amrywiol sesiynau.

 

·         Mae’r Tîm Cyfathrebu yn comisiynu arwydd yn croesawu ymwelwyr i mewn i Ddôl y Castell.

 

·         Bydd y digwyddiad yn ddwyieithog.

 

Wedi derbyn y diweddariad ar lafar, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae angen i Faer Y Fenni gael ei hysbysu o’i rôl yn y gweithgareddau.

 

·         Darperir hanner awr o WiFi yn rhad ac am ddim.

 

·         Anogir ymwelwyr i gyflwyno’u cyfeiriad e-bost er mwyn iddynt lenwi arolwg o’u hymweliad.

 

·         Bydd swyddogion priffyrdd yn trefnu cael gwared y chwyn o Bont Llan-ffwyst.

 

·         Eir i’r afael â mynediad i’r anabl a darperir sgwteri symudedd o fewn y Maes. Fodd bynnag, bydd angen i gerbydau ddod mewn i’r Maes i sicrhau sgwter.

 

·         Bydd dyfais gyfieithu ar gael i’r rheiny nad ydynt yn siarad Cymraeg. 

 

·         Fel rhan o waddol yr Eisteddfod, bwriedir i Bwyllgor yr Eisteddfod godi arian i godi cerrig coffaol yn Nôl yr Elyrch a Dôl y Castell.

 

·         Bydd yr Aelod Cabinet yn cydlynu gyda Llywodraeth Cymru parthed cyflwr gwael yr A4042.

 

·         Bydd holl gyfleusterau cyhoeddus Y Fenni ar agor ar gyfer yr Eisteddfod.

 

·         Bydd y goleuadau dros dro ger Tafarn Yr Angel wedi mynd cyn i’r Eisteddfod ddechrau.

 

Penderfynasom dderbyn y diweddariad ar lafar a nodi’r cynnwys.

 

9.

Datblygu’r Hyb yn y Fenni (i ddilyn).

Cofnodion:

Penderfynasom ohirio ystyried yr eitem hon tan gyfarfod nesaf Pwyllgor Ardal  Bryn y Cwm am fod y swyddog a drefnwyd i gyflwyno’r diweddariad yn methu â mynychu’r cyfarfod.

 

10.

Grantiau Cyfalaf Ardal. pdf icon PDF 195 KB

Cofnodion:

Amlinellodd y Rheolwr Cyfathrebu’r weithdrefn ar gyfer cyflwyno arian cyfalaf i sefydliadau sydd wedi cyflwyno ceisiadau i’r Pwyllgor Ardal am gyllid. Roedd £5000 mewn cyllid cyfalaf ar gael ar y pryd o gyllideb 2015/16. 

 

Derbyniwyd y ceisiadau canlynol am gyllid ac ystyriwyd hwy gan y Pwyllgor Ardal:

 

Partneriaeth Menter Gymunedol Y Fenni

 

Gwnaed cais am:  £350

 

Rheswm:  Prynu cyfrifiadur, cetris a deunydd ysgrifennu.

 

Wedi trafod y cais, penderfynasom gyllido prynu’r cyfrifiadur. Ni chytunodd y Pwyllgor ar swm ond gadawodd y penderfyniad yn agored i weld beth fyddai cost yr argraffydd.

 

 

Clwb Pêl-droed Athletig Gilwern

 

Gwnaed cais am:  £500

 

Rheswm:  Prynu pecyn meddygol, cludwely, cyfarpar hyfforddi.

 

Penderfynasom y byddai angen manylion ariannol cyn ystyried y cais.

 

 

Pentref Mwyaf Taclus Gwent

 

Gwnaed cais am:  £250

 

Rheswm:  Cystadleuaeth flynyddol – gofynnwyd am gyllid i dalu treuliau’r beirniaid a thalu am dlysau.

 

Wedi trafod y cais, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais gan nad oedd yn benodol ar gyfer Ardal Bryn y Cwm. 

 

 

Clwb Pêl-droed Athletig Iau Clydach

 

Gwnaed cais am:  £800

 

Rheswm:  Talu am gyngor cyfreithiol. Ceisiadau cynllunio ac adroddiadau cysylltiedig i greu gofod i’r gymuned.

 

Penderfynasom y byddai angen manylion ariannol cyn ystyried y cais.

 

 

Gardd Gymunedol Goytre

 

Gwnaed cais am:  £530

 

Rheswm:  Creu gardd synhwyraidd ar dir Eglwys Bresbyteraidd Capel Ed.

 

Wedi trafod y cais, penderfynasom gefnogi’r cais a chyfrannu £530. 

 

 

Neuadd Lesiant Goffa Bryn Llanelly

 

Gwnaed cais am:  £300

 

Rheswm:  Talu am gostau argraffu ar gyfer newyddlen y pentref, tocynnau a hysbysebu.

 

Wedi trafod y cais, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais gan nad oedd ar gyfer cyllid cyfalaf.

 

 

 

 

 

11.

Rhaglen Waith y Dyfodol. pdf icon PDF 10 KB

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i raglen waith y dyfodol Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm ar gyfer 2016/17.  Wrth wneud hynny, penderfynasom fod yr eitemau canlynol yn cael eu hychwanegu:

 

·         Y Cynghorydd Sir J. Prosser, mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, i ddarparu’r Cyngor â diweddariad ar lafar parthed y Rhaglen Amaeth-Ddinesig.

 

·         Derbyn diweddariad yn y cyfarfod nesaf parthed datblygu Hyb  yn Y Fenni.

 

·         Gwahodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i gyfarfod Y Pwyllgor Ardal yn y dyfodol i drafod cerbydau’n gyrru ar ras yn Ardal Bryn y Cwm.

 

 

 

12.

Cyfarfod nesaf.

dydd Mercher 12 Hydref 2016 am 2.00yf.

 

 

Cofnodion:

Penderfynasom y cynhelid  y cyfarfod nesaf ar ddydd Mercher 12fed Hydref 2016 am 2.00pm a’i fod yn cael ei gynnal yn Neuadd Bentref Llanddewi Skirrid (yn dibynnu ar argaeledd).