Agenda and minutes

Pwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy - Dydd Mercher, 20fed Tachwedd, 2019 1.00 pm

Lleoliad: LIttle Mill Village Hall, Berthon Road, Little Mill, NP4 0HJ

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sirol M. Powell fuddiant personol, nad yw'n rhagfarnol, yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas ag eitem 7 ar yr agenda - Mind Sir Fynwy, gan ei bod yn llywodraethwr Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII.

 

Datganodd y Cynghorydd Sirol S. Woodhouse fuddiant personol, nad yw'n rhagfarnol, yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau mewn perthynas ag eitem 7 ar yr agenda - Mind Sir Fynwy, gan ei bod yn un o sefydlwyr gwreiddiol Mind y Fenni, ond nid yw'n aelod cyfredol.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o'r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Y diweddaraf ynghylch ailddatblygu Hyb y Fenni. pdf icon PDF 51 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cawsom adroddiad diweddaru ynghylch ailddatblygu Hyb y Fenni.   Wrth wneud hynny, nodwyd bod y rhaglen adeiladu wedi wynebu rhai heriau dros y misoedd diwethaf.   Fodd bynnag, cyflawnwyd y canlynol:

 

  • Mae pob achos o ddymchwel drwy'r waliau wedi'i gwblhau ar y llawr isaf, yr ardal gyntaf a'r theatr ar y llawr gwaelod.

 

  • Mae'r trwsio offer Mecanyddol a Thrydanol cyntaf yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar yr islawr, y theatr ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf.

 

  • Mae plastro newydd wedi'i gwblhau ym mhob ardal weithredol.

 

  • Mae plastro calch ar hen waliau ar y gweill.

 

  • Mae paentio waliau wedi cychwyn ar yr ardal theatr ar y llawr gwaelod.

 

  • Cloddiwyd y pwll lifftiau ac mae'n cael ei lenwi ar hyn o bryd.

 

  • Mae'r gwaith dur wedi dechrau ac yn mynd rhagddo ar gyfer y mesanîn.

 

Bydd cam nesaf y gwaith yn cynnwys y Siop Un Stop, ardal Heddlu Gwent a'r Ganolfan Groeso yn symud i mewn i ardal theatr y llawr gwaelod i allu dechrau gweithio yn y Siop Un Stop / ardal Heddlu ar y llawr gwaelod.

 

Y dyddiad gorffen a ragwelir ar gyfer y rhaglen gyffredinol yw Mawrth 2020 ar hyn o bryd.

 

Ar ôl derbyn yr adroddiad, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Bydd y brif fynedfa yn cael ei hagor ar 2il Rhagfyr 2019.

 

·         Parheir i fonitro nifer yr ymwelwyr â'r farchnad gyda'r nod o sicrhau bod masnachu o fewn y farchnad yn dychwelyd i'r arfer cyn gynted â phosibl.

 

·         Roedd nifer o gwestiynau wedi'u codi o'r blaen ynghylch ailddatblygu Hyb y Fenni.  Dywedodd y swyddogion a oedd yn bresennol fod y cwestiynau hyn wedi cael eu hymateb yn uniongyrchol i Is-gadeirydd Cymdeithas Ddinesig y Fenni.

 

·         Y flaenoriaeth oedd ailddatblygu Hyb y Fenni cyn mynd i'r afael â safle Stryd Baker (y llyfrgell flaenorol).

 

Fe wnaethom nodi’r adroddiad;

 

 

4.

Gwahoddir cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Adran Briffyrdd Cyngor Sir Fynwy a Stagecoach i drafod materion Priffyrdd yn Ysbyty Nevill Hall (bysiau'n rhwystro ambiwlansys rhag cael mynediad/gadael oherwydd darpariaeth priffyrdd annigonol).

Cofnodion:

Cyfarfuom â chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Stagecoach ac Adran Briffyrdd Cyngor Sir Fynwy i drafod materion yn ymwneud â phriffyrdd sy'n digwydd yn Ysbyty Nevill Hall bob dydd lle mae bysiau'n cael eu hatal rhag cael mynediad i'r safle ac ymadael ag ef ar amser oherwydd parcio amhriodol ar y safle.  Codwyd nifer o opsiynau posibl fel ffordd o fynd i'r afael â'r mater hwn.  

 

Penderfynwyd y dylai Adran Briffyrdd Cyngor Sir Fynwy ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Stagecoach gyda golwg ar ganfod ffordd ymlaen i fynd i'r afael â'r materion hyn.

 

 

5.

Y newyddion diweddaraf gan y Cynghorydd Sirol S. Woodhouse ynglŷn â'r cynnydd mewn perthynas â'r Grŵp Trafnidiaeth Strategol.

Cofnodion:

Nodwyd yr eitemau canlynol y gofynnodd y Pwyllgor Ardal i'r Gr?p Trafnidiaeth Strategol eu hystyried, wrth symud ymlaen:

 

  • Mae parcio amhriodol ar safle Nevill Hall yn arwain at oedi cyn gadael y safle.   Hefyd, diffyg darpariaeth parcio i gleifion allanol/ymwelwyr â'r ysbyty.

 

  • Materion iechyd a diogelwch i weithwyr trac sy'n ymwneud â threnau sy'n teithio ar y rheilffordd o'r Fenni sy'n dal i ddefnyddio toiledau agored.

 

  • Ni fydd y trenau newydd, pan gânt eu gweithredu, yn darparu cyfleusterau toiledau.

 

  • Mae angen i Network Rail fynd i'r afael â'r materion parcio yng ngorsaf reilffordd y Fenni er mwyn atal cerbydau rhag gorfod parcio ar strydoedd cyfagos pan ddaw'r maes parcio’n llawn.

 

  • Yr effeithiau negyddol a grëir gan y newidiadau i wasanaeth bws X3 h.y. cael gwared ar y gwasanaeth bws cynnar yn y bore sydd wedi achosi problemau i drigolion sy'n ceisio cyrraedd y coleg/gwaith ar amser.

 

  • Nid yw llwybr bws o fewn ward Llanelen yn cael ei graeanu ar hyn o bryd.  Hoffai'r Aelod lleol, y Cynghorydd Sirol G. Howard, i hyn gael ei ychwanegu at y llwybr graeanu am resymau diogelwch.

 

  • Mae angen datrysiad o hyd i fynd i'r afael â'r angen am arhosfan bysiau yn Heol y Parc, y Fenni ger Tesco.

 

Penderfynwyd bod yr Adran Briffyrdd/y Cynghorydd Sirol S. Woodhouse yn codi'r materion hyn yng nghyfarfod nesaf y Gr?p Trafnidiaeth Strategol.

 

 

6.

Ymgysylltu â Mudiadau yn y Sector Gwirfoddol - Diweddariad llafar gan Marcia Burford o'r Prosiect Llesiant Bad Achub.

Cofnodion:

Cawsom ddiweddariad gan Marcia Burford ynghylch y Prosiect Bad Achub Lles.

 

Wrth wneud hynny, dywedwyd wrth y Pwyllgor Ardal:

 

·         Mae'r Prosiect yn gr?p bach o therapyddion proffesiynol, cwnselwyr, athrawon, therapyddion cyfannol a grwpiau creadigol, sy'n rhoi o'u hamser i helpu lles y gymuned.

 

·         Bedair blynedd yn ôl, nodwyd bod diffyg cefnogaeth anffurfiol i bobl yn y gymuned yn profi amrywiaeth o anawsterau yn eu bywydau eu hunain, a oedd yn effeithio ar eu hiechyd meddwl.

 

·         Roedd Cyngor Sir Fynwy wedi darparu canolfan ar gyfer y sefydliad yng Nghanolfan Adnoddau Parc y Maerdy, y Fenni. 

 

·         Ni thelir treuliau i wirfoddolwyr.  Mae'r gwasanaethau am ddim i sicrhau cynhwysiant cymunedol.

 

·         Mae'r prosiect yn darparu cwnsela, Reiki, Adweitheg, Tylino cyfannol, Ymwybyddiaeth Ofalgar, gweithgareddau creadigol a chymorth i gael mynediad at asiantaethau a grwpiau cymunedol eraill.

 

·         Mae'r Prosiect yn darparu manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, addysgol a diwylliannol.

 

Ar ôl cael y wybodaeth ddiweddaraf, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae'r gwasanaethau a ddarperir ar gyfer oedolion 18 oed a throsodd.

 

·         Y flwyddyn nesaf, mae'r prosiect yn gobeithio darparu gwasanaeth i bobl ifanc o dan 18 oed.

 

·         Mae gan y prosiect gysylltiadau ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ysbyty Maindiff Court.

 

·         Mae'r prosiect yn cwmpasu ardal Sir Fynwy.

 

Fe nodom y diweddariad. 

 

7.

I dderbyn trosolwg o'r gefnogaeth y mae Mind Sir Fynwy yn darparu ar gyfer y gymuned leol. pdf icon PDF 123 KB

Cofnodion:

Cawsom drosolwg o'r cymorth sy'n cael ei ddarparu gan Mind Sir Fynwy.   Wrth wneud hynny, nodwyd y wybodaeth ganlynol:

 

·         Elusen iechyd meddwl leol annibynnol yw Mind Sir Fynwy a ffurfiwyd dros 40 o flynyddoedd yn ôl i gefnogi pobl Sir Fynwy, gan ddarparu gwasanaethau o ansawdd am ddim i bobl mewn angen. 

 

·         Mae gan yr elusen bartneriaeth gyda Mind Cenedlaethol, ac mae'n ennill cefnogaeth dda, ond mae'n elusen annibynnol leol.

 

  • Mae'r elusen yn cael ei chefnogi/hariannu gan ddau brif gontract sef, Is-adran Cefnogi Pobl Cyngor Sir Fynwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

·         Lleolir y swyddfeydd a'r staff yn Monk Street, y Fenni, ac maent yn gweithio ar draws y sir.

 

·         Mae'r elusen leol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau am ddim sy'n cynnwys: cwnsela, cefnogaeth tenantiaeth, cyngor a chymorth gwybodaeth, adferiad 1-1, cyrsiau seicoaddysgol/adfer, gr?p cerdded, ymgyrchu, byw â chymorth, cymorth hawliau lles ac mae'r elusen wedi dechrau prosiect ffermwyr yn ddiweddar i gefnogi'r rhai mewn angen.

 

·         Ni chaiff cyllid drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, o £140,000 y flwyddyn, ei adnewyddu ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21, a allai arwain at derfynu darpariaeth rhai gwasanaethau yn y dyfodol, wrth symud ymlaen.

 

·         Daw'r prosiect peilot ffermio i ben ym mis Mawrth 2020.   Fodd bynnag, mae nifer o achosion atgyfeirio cymhleth yn cael eu derbyn ar hyn o bryd.

 

·         Nodwyd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan o dan bwysau ariannol.  Fodd bynnag, pe bai gwasanaethau Mind Sir Fynwy yn cael eu lleihau oherwydd cyfyngiadau ariannol, byddai hyn yn creu effaith negyddol ar y rhai sydd angen y gwasanaethau hanfodol hyn.

 

·         Cynghorwyd Sir Fynwy i ysgrifennu at y cynghorau tref a chymunedol yn y Sir yn amlinellu eu cyfyngiadau ariannol gan fod y cynghorau hyn ar hyn o bryd yn adolygu eu praeseptau ar gyfer 2020/21 ac efallai y byddent yn gallu darparu rhywfaint o gymorth ariannol.

 

·         Mae Mind Sir Fynwy wedi sicrhau cyllid dros y ddwy flynedd ddiwethaf i roi cymorth iechyd meddwl a lles ychwanegol y mae mawr ei angen i ddisgyblion ysgolion uwchradd.  Oherwydd materion ariannu, mae'r gwasanaeth hwn bellach wedi dod i ben.  Fodd bynnag, mae'n amlwg bod angen y gwasanaeth hwn.  Mind Mae Sir Fynwy wedi gweithio gydag Ysgol Brenin Harri VIII i ysgrifennu cais ar y cyd gyda'r gobaith o sicrhau rhywfaint o gyllid.

 

Penderfynwyd:

 

(i)           gwahodd cynrychiolydd o Wasanaeth Trawsnewid Gwent i fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Ardal yn y dyfodol i drafod y ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl o fewn Sir Fynwy, yn benodol, i gael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau trawsnewid Gwent ac Iechyd meddwl plant drwy'r Rhaglen Mynydd Iâ newydd.

 

(ii)          bod Rheolwr Craffu Cyngor Sir Fynwy yn cael gwybod am y cyfyngiadau ariannol y bydd Mind Sir Fynwy yn eu hwynebu yn ystod y flwyddyn ariannol 2020/21, a gofyn bod gwahoddiad yn cael ei estyn i Mind Sir Fynwy i fynychu cyfarfod Pwyllgor Dethol gyda'r bwriad o drafod y mater hwn ymhellach.

 

 

 

 

8.

Adroddiad cynnydd gan Dîm y Fenni. pdf icon PDF 131 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd a nodwyd yr adroddiad gan Dîm y Fenni ar y cynnydd hyd yn hyn.  Fodd bynnag, ni wnaeth y Pwyllgor Ardal drafod yr adroddiad gan fod y Cyngor Sir wedi ymuno yn y cyfnod cyn yr etholiad mewn perthynas â'r etholiad cyffredinol arfaethedig ar 12fed Rhagfyr 2019 ac ystyriwyd y gellid dehongli bod peth o gynnwys yr adroddiad yn sensitif yn wleidyddol yn ystod y cyfnod hwn.

 

9.

Diweddariad gan Bwyllgor Cyswllt Gogledd Sir Fynwy. pdf icon PDF 45 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd a nodwyd yr adroddiad gan Bwyllgor Cyswllt Gogledd Sir Fynwy.

 

10.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 79 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y Pwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy dyddiedig 25ain Tachwedd 2019 eu cadarnhau a'u llofnodi gan y Cadeirydd yn amodol ar y diwygiad canlynol:

 

Cofnod 1 – Etholwyd y Cynghorydd Sirol M. Powell yn Gadeirydd.

 

Cofnod 8 – Gofynnodd Cyngor Tref y Fenni i'r Cynghorydd Sirol Woodhouse i roi'r newyddion diweddaraf i Gyngor y Dref ynghylch gorsaf reilffordd y Fenni.

 

11.

Rhaglen Waith Craffu Sir Fynwy. pdf icon PDF 607 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd a nodwyd y Rhaglen Waith Craffu.

 

12.

Blaenraglen Waith Busnes y Cyngor a'r Cabinet pdf icon PDF 296 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd a nodwyd Blaenraglen Waith Busnes y Cyngor a'r Cabinet

 

13.

Rhaglen Waith Pwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy pdf icon PDF 55 KB

Cofnodion:

Derbyniwyd a nodwyd blaenraglen waith Pwyllgor Ardal Gogledd Sir Fynwy.  Wrth wneud hynny, ychwanegwyd yr eitem ganlynol:

 

·         i wahodd cynrychiolydd o Wasanaeth Trawsnewid Gwent i fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Ardal yn y dyfodol i drafod y ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl o fewn Sir Fynwy, yn benodol, i gael y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau trawsnewid Gwent ac Iechyd meddwl plant drwy'r Rhaglen Mynydd Iâ newydd 

 

14.

Y Cyfarfod Nesaf: Dydd Mercher 22ain Ionawr 2020 am 1.00pm.

Cofnodion:

Dydd Mercher 22ain Ionawr 2020 am 1.00pm.