Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Shirenewton Church Room, Shirenewton

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Etholiad Cadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Sir D.L.S. Dovey fel Cadeirydd.

 

2.

Apwyntiad Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Sir A. Webb fel Is-gadeirydd

 

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir P. Farley fuddiant personol, manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau yn gysylltiedig ag eitem 6a Canolfan Gymunedol Bulwark gan fod ei briod yn aelod o Bwyllgor Rheoli Canolfan Gymunmedol  Bulwark. 

 

Datganodd y Cynghorydd Sir D.L.S. Dovey fuddiant personol, manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau yn gysylltiedig ag eitem 6a Canolfan Gymunedol Bulwark gan fod ei briod yn aelod o Bwyllgor Rheoli Canolfan Gymunmedol  Bulwark. 

 

 

 

 

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 30 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ardal Rhannau Isaf Afon Gwy dyddiedig 13eg Ionawr 2016 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.

 

5.

Diweddariad ar Gorsaf Pwer Oldbury.

Cofnodion:

Darparodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Pwyllgor Ardal ynghylch Gorsaf B?er Oldbury.  Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae’r safle bellach yn rhydd o danwydd gyda’r gasgen olaf wedi’i symud yn Ebrill 2016.

 

·         Bydd digomisiynu’r safle yn digwydd cyn bo hir.

 

·         Dymchwelir yr ardal dan y ddaear i ganol y safle.

 

·         Adferir yr holl ardal ac fe’i gorchuddir gan  laswellt. Y terfyn amser ar gyfer cwblhau’r gwaith fydd tair blynedd.

 

·         Rhoddwyd ystyriaeth i nodi Gorsaf B?er Oldbury ar y safle yn dilyn y digomisiynu.

 

·         Mae cyllid ar gyfer cynlluniau cymunedol yn debygol o fod ar gael yn dilyn y digomisiynu. Gobeithid y cynhwysid Cas-gwent yn y cynllun hwn.

 

6.

Ceisiadau Cyllid Cyfalaf: pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned y weithdrefn y tu ôl i gyflwyno cyllid cyfalaf i sefydliadau sydd wedi cyflwyno ceisiadau i’r Pwyllgor Ardal am gyllid. Roedd cyllid cyfalaf o £5000 arf gael ar hyn o bryd o gyllideb 2015/16. 

 

Derbyniwyd y ceisiadau canlynol am gyllid ac fe’u hystyriwyd gan Y Pwyllgor Ardal:

 

Canolfan Gymunedol Bulwark

 

Gwnaed cais am:  £1000

 

Rheswm:  Disodli’r boeler yng Nghanolfan Gymunedol Bulwark.

 

Cynigiwyd ein bod o blaid cymeradwyo’r cais ar yr amod ein bod yn derbyn gwybodaeth ariannol.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo  -           3

Yn erbyn cymeradwyo           -           1

Atal pleidlais                           -            1

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom ein bod o blaid cymeradwyo’r cais ar yr amod ein bod yn derbyn gwybodaeth ariannol.

 

 

Cystadleuaeth Pentref Mwyaf Taclus Gwent

 

Gwnaed cais am:  £250

 

Rheswm:  Tuag at dreuliau beirniaid gwirfoddol a fyddai’n ymweld â’r pentrefi a gymerai ran yn y gystadleuaeth a’u beirniadu. Hefyd, tuag at brynu tlysau a fframiau ar gyfer y tystysgrifau i’r ysgolion a’r pentrefi buddugol.

 

Wedi trafod y cais, penderfynwyd nad oedd y cais yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol.

 

Cynigiwyd gwrthod y cais.

 

Wedi’r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

 

Gwrthod y cais                                    -           5

Yn erbyn gwrthod y cais                   - 0

Atal pleidlais                                        -           0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod y cais yn cael ei wrthod. Felly, penderfynasom beidio â chefnogi’r cais hwn.

 

 

Pwyllgor Canolfan Gymunedol Caerwent Cyf.

 

Gwnaed cais am: £2000

 

Rheswm:  Tuag at adnewyddu prosiect Canolfan Gymunedol Caerwent, sy’n cynnwys rhoi to newydd i’r ganolfan ac adnewyddu’r goleuadau crog.

 

Mae’r meini prawf ar gyfer y grant hwn yn golygu bod yn rhaid iddo gael ei wario o fewn 12 mis neu bydd yn rhaid ei ad-dalu. Felly byddai cymeradwyo’r cais yn golygu y byddai’n ofynnol i’r ymgeisydd roi sicrwydd dros raglenni a phroffiliau gwariant.

 

Cynigiwyd cymeradwyo’r cais ar yr amod bod yr ymgeisydd yn rhoi sicrwydd dros raglenni a phroffiliau gwariant i sicrhau bod y grant yn cael ei wario o fewn 12 mis.

 

O blaid cymeradwyo  -           5

Yn erbyn cymeradwyo           -           0

Atal pleidlais                           -            0

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynasom fod y cynnig yn cael ei gymeradwyo ar yr amod bod yr ymgeisydd yn rhoi sicrwydd dros raglenni a phroffiliau gwariant i sicrhau bod y grant yn cael ei wario o fewn 12.      

 

 

Nodwyd bod dau gais am arian nawdd a gafodd eu cyflwyno ond heb eu derbyn gan y Pwyllgor. Hysbysodd Pennaeth Cyflenwi a Arweinir gan y Gymuned y Pwyllgor y byddai hi’n ymchwilio i’r mater hwn.                                                                                    

 

7.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Hysbysodd un o breswylwyr St Arvans y Pwyllgor Ardal fod Cwrs Rasio Cas-gwent wedi cyflwyno cais cynllunio i ddymchwel un o’i eisteddleoedd a chodi adeilad newydd a ddefnyddir yn rhannol gan y Kennel Club.  Mynegodd y pryderon canlynol:

 

·         Bydd yn ddatblygiad o bwys o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).

 

·         Nid oes gwybodaeth ynghylch pa mor aml y bydd y Kennel Club yn defnyddio’r adeilad hwn.

 

·         Bydd yr adeilad yn disodli eisteddle 3 a bydd wedi’i leoli yn  agos i’r clwydi i’r heol. Bydd yr adeilad islaw lefel yr heol. Codir yr adeilad ar ongl i gadw llinellau’r safle.

 

·         Bydd yr adeilad newydd bum troedfedd yn uwch a bydd ar yr un lefel â’r heol.

 

·         Bydd llinell y toeon ar  wahanol lefel i doeon eraill.

 

·         Bydd yr adeilad yn amlwg iawn a bydd yn agos i’r heol.

 

·         Mae e, felly, yn gwrthwynebu’r cais ar sail maint, lleoliad ac ar y diffyg gwybodaeth ynghylch ei ddefnydd arfaethedig.

 

·         Ar ddiwrnodau rasio/cyngherddau mynegodd bryder ynghylch annigonolrwydd y ddarpariaeth rheoli traffig.

 

Nododd aelodau’r Pwyllgor y pryder a fynegwyd gan y preswylydd.

 

8.

I gytuno’r Rhaglen Gwaith am Pwyllgor Ardal Gwy Isaf am 2016/17.

Cofnodion:

Penderfynasom fod yr eitemau canlynol yn cael eu hychwanegu at y rhaglen waith:

 

·         Gwahodd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan i ddiweddaru’r Pwyllgor Ardal ar swyddogaeth Ysbyty Cas-gwent a’i swyddogaeth yn y gymuned.

 

·         Gwahodd Uwch Swyddogion o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan i ddiweddaru’r Pwyllgor Ardal ar Ddarpariaeth Gofal Iechyd yn Ne Cymru.

 

·         Diweddariad ar dlodi tanwydd yn yr ardal.

 

·         Perfformiad yr Hyb Cymunedol.

 

 

 

9.

I gadarnhau’r diwrnod a’r amser o’r cyfarfod nesaf:

 

Dydd Mercher 14eg Medi 2016 am 10.00yb.

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar ddydd Mercher 14eg Medi 2016 am 10.00am.