Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Chepstow Town Council Offices

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Fe ddatganodd y Cynghorydd Sir P. Farley fuddiant personol, di-ragfarn fel Aelod o Gyngor Tref Cas-gwent.

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Fe groesawodd y Cadeirydd Hilary Phillips, yn cynrychioli Croeso i Gerddwyr, i’r cyfarfod ac fe’i gwahoddwyd i godi ei phwyntiau trafod yn ystod yr eitem berthnasol ar yr agenda.

3.

Derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2016 pdf icon PDF 95 KB

Cofnodion:

Fe gadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2016 ar fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd fel cofnod cywir.

 

Fe ddarparwyd y diweddariadau canlynol yn ymwneud â Cheisiadau Cyllid Cyfalaf:

  • Canolan Gymunedol Bulwark:  Cadarnhawyd bod y wybodaeth a dderbyniwyd wedi bod yn foddhaol a bod y taliad o £1000 wedi cael ei brosesu.
  • Pwyllgor Canolfan Gymunedol Caerwent Cyf:  Fe nodwyd bod y cais wedi cael ei basio i Wasanaethau Eiddo. 
  • Doedd dim diweddariad pellach ar gael yn ymwneud â’r ymchwiliad i’r ddau gais a gyflwynwyd ond a oedd heb gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Ardal. Mae’r cam gweithredu hwn yn cael ei gario ymlaen.

 

 

4.

Diweddariad ar Briffyrdd:

·         Ffordd Gyswllt Cas-gwent

·         Datblygiad Newydd – Cynlluniau Traffig

 

Cofnodion:

Fe ddarparodd y Cadeirydd ymateb y Gr?p Peirianneg (Priffyrdd a Rheoli Llifogydd) ar y materion canlynol:

 

·         Cynnydd a wnaed gyda ffordd gyswllt yr A466.  Fe nodwyd y gosodwyd yr arwyddion rhybudd dros dro a ddarparwyd gan Gyngor Sir Fynwy ym mis Mehefin a bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn adolygu drafft cynnar o’r Arolwg Diogelwch Seiliedig ar Lwybr ar yr A466. Mae ychydig o waith yn parhau ar yr arolwg gan gynnwys ei diweddaru yn dilyn cyfarfod rhwng Cyngor y Dref a WSP | Parsons Brinckerhoff.

 

Fe esboniwyd, yn ychwanegol at yr adroddiad ar yr astudiaeth, bod Llywodraeth Cymru yn dal i ystyried cau cilfannau dros dro am gyfnod prawf.

 

·         Cynlluniau traffig ar gyfer y datblygiad newydd ar waelod Cas-gwent. Fe nodwyd bod disgwyl y bydd cais cynllunio yn cael ei wneud yn fuan ar gyfer cyn safle Fairfield Mabey ac y bydd yr adran briffyrdd yn paratoi adroddiad llawn ar yr adeg honno. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymateb ar y cynigion ac wedi dynodi eu bod yn fodlon gyda’r modelu traffig sy’n dangos na fod angen unrhyw welliannau i’r drefn ffyrdd gyfredol a’r gyffordd ar yr A48 yn Tesco tan fod pobl yn byw ym mwyafrif y tai. Mae manylion y gwelliannau i’r gyffordd hon i’w gadarnhau, fodd bynnag, fe ragwelir y byddant yn cynnwys uwchraddio’r cyswllt i gerddwyr ar yr A48, gan gysylltu’r dref â’r datblygiad newydd.

 

Ar ben hynny, bydd Cyngor Sir Fynwy yn ceisio sicrhau gwelliannau ar y rhwydwaith priffyrdd lleol yn ogystal â cheisio sicrhau cyfraniadau tuag at wasanaethau bysiau a gwelliannau i Orsaf Drenau Cas-gwent (bydd Gr?p Trafnidiaeth Strategol Sir Fynwy yn mynd i’r afael â hyn.)

 

Fe awgrymwyd y dylid bod wedi ymdrin â’r cynlluniau fel rhan o’r cais cynllunio er mwyn galluogi cwblhau yn gynharach.

 

·         Fe drafododd y Pwyllgor y cyfarfod a’r adroddiad ar Ansawdd Aer yng nghyd-destun yr A48 a’r problemau traffig. Fe gytunwyd bod y materion hyn yn effeithio ar nifer o feysydd ac y dylid eu hystyried gyda’i gilydd. Fe gytunwyd bod rhaid blaenoriaethu’r opsiynau ar gyfer gwella’r A48 (gan gynnwys y cylchdro). Fe bwysleisiwyd y byddai effaith y gwelliannau yn dda ar gyfer yr economi leol a chenedlaethol. Fe rybuddiwyd y Pwyllgor am effaith sylweddol posib y gostyngiad arfaethedig yn nhollau Pont Hafren, a’r angen i ystyried hyn mewn unrhyw gynlluniau, oherwydd bydd llai o gymhelliant i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a allai arwain at fwy o draffig. 

 

Fe drafodwyd y cymhlethdodau o symud ymlaen gyda gwelliannau i’r Orsaf Drenau. Fe gadarnhawyd bod hyd at 400 car yn parcio yng Ngorsaf Cyffordd Twnnel Hafren bob dydd.

5.

Diweddariad ar Ganolfan Groeso Cas-gwent pdf icon PDF 77 KB

Cofnodion:

Fe gyflwynodd y Swyddog Datblygu Busnes Twristiaeth adroddiad i ddarparu diweddariad y materion yn ymwneud â gweithrediad Canolfan Groeso Cas-gwent a’r opsiynau a oedd yn cael eu hystyried ar gyfer darpariaeth y gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Fe nodwyd bod dim ffurflenni adborth o bartïon â diddordeb wedi cael eu derbyn hyd yn hyn. Fe nodwyd mai’r modd dewisol o barhau byddai i gadw’r Canolfan Groeso ble mae hi. Fe ychwanegwyd bod yna broblemau gyda’r brydles i’w datrys ac unrhyw effaith ar y rhent a godir yn sgil hyn. Roedd cydnabyddiaeth o’r angen i ymgynghori yn ehangach cyn gwneud unrhyw benderfyniadau a bod angen meddwl am ffordd o ddod â’r partïon a diddordeb ynghyd. Fe nodwyd na fod rhai partïon yn y dref yn ymwybodol o’r arolwg a bod angen bod yn fwy rhagweithiol.

 

Fe siaradodd Hilary Phillips, Cadeirydd Croeso i Gerddwyr, o blaid y Ganolfan Groeso, gan gyfeirio at ei phryder bod y Cyngor yn methu â fforddio’r costau gweithredu o £65,000. Fe gyfeiriodd hi at y swm o elw ariannol am bob ymholiad gan dwrist, sy’n uwch na’r costau gweithredu. Fe holwyd beth fyddai’n digwydd i’r brydles pa fyddai parti newydd yn cymryd drosodd. 

 

Fe esboniodd Mrs. Phillips mai diben sefydliad Croesi i Gerddwyr yw annog ymwelwyr i’r ardal i wario arian trwy fwynhau cerdded. Fe awgrymwyd bod yr adeilad cyfredol mewn lleoliad ardderchog ac, o bosib, y gallai gael siop yn gwerthu bwyd, diod, celf a chrefft lleol. Fe dderbyniwyd na fod caffi yn opsiwn dichonadwy oherwydd bod costau gweithredu yn rhy uchel a’r incwm yn rhy isel i fod yn gynaliadwy. Roedd derbyniad bod y Ganolfan Groeso yn dod ag arian i mewn i’r dref ond fe nodwyd ei bod yn dychwelyd i fasnachwyr lleol, nid y Cyngor.

 

Fe nodwyd bod y model a ddefnyddiwyd i ddarparu Canolfan Groeso bwrpasol yn y Fenni yn esiampl ardderchog o weithio mewn partneriaeth, ond roedd cydnabyddiaeth hefyd bod yna amgylchiadau gwahanol yn yr ardal megis cefnogaeth o’r Parc Cenedlaethol. Mae ffordd ymlaen yn cael ei cheisio gyda phartneriaid e.e. trafodaeth gyda CADW a thrafodaethau gyda pherchnogion busnes â diddordeb yng Nghas-gwent.

 

6.

Adroddiad Llywodraethiant Cymunedol pdf icon PDF 337 KB

·         Diweddariad ar yr Hybiau Cymunedol

·         Diweddariad ar y Lle Cyfan

 

Cofnodion:

Adroddiad Llywodraethiant Corfforaethol:

Fe ddarparodd y Pennaeth Llywodraethiant, Ymrwymiad a Gwelliant adroddiad i ddiweddaru Aelodau ar sut mae’r Cyngor yn newid ei berthynas gyda’r Cynghorau Trefi a Chymunedau.

 

Fe dynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol:

 

  • Fe benderfynodd Aelodau sefydlu gweithgor aml-blaid, dan arweiniad Aelodau i ystyried argymhellion a phenderfynu ar strwythur ar gyfer llywodraethiant ac ymrwymiad cymunedol.
  • O’r saith opsiwn a awgrymwyd, Opsiwn 2 i sefydlu pum cymuned ardal yn hytrach na’r pedair gyfredol oedd yr hoff fodel – Y Fenni, Trefynwy, Brynbuga, Cil-y-Coed a Chas-gwent.
  • Roedd Chris Jones wedi cael ei gomisiynu i wneud darn o waith gyda’r Lle Cyfan a’r holl Aelodau i edrych ar enw’r gr?p, cylchoedd gorchwyl, pa mor aml dylai’r grwpiau gwrdd, lefel o b?er a chyfranogiad. 
  • Blaenoriaeth yw gwella cyfathrebu rhwng y Cyngor Sir a’r Cynghorau Trefi a Chymunedau.
  • Mae Aelod o’r Uwch Dîm Rheoli wedi cael ei benodi fel swyddog cyswllt ar gyfer pob un o’r pum ardal. Mae cyfarfod Cas-gwent wedi cael ei gynnal.

 

Fe nododd Aelodau y pwyntiau canlynol:

 

·         Fe holwyd sut byddai’r diwygiadau i lywodraeth leol yn effeithio ar y cynigion.

·         Roedd cyfarfod ardal Cas-gwent yn werthfawr ac yn un cadarnhaol.

·         Fe fynegwyd pryder bod gan ward un Cynghorydd dau gyngor cymunedol a fyddai mewn ardaloedd gwahanol o dan y cynigion ac fe holwyd a fyddai hyn yn achosi unrhyw anawsterau.

·         Fe fynegwyd pryder bod dim sôn am ddarpariaeth gyllidebol ar gyfer y pwyllgorau newydd ac y byddai’r cyhoedd yn parhau i beidio â mynychu cyfarfodydd. Fe holwyd pan mor ffrwythlon a rhagweithiol byddai’r cyfarfodydd a’i bod o bosib yn haen arall o fiwrocratiaeth neu siop siarad.

·         Fe awgrymwyd ail-sefydlu’r ymagwedd o gynghorau trefol a gwledig fel dewis amgen. 

·         Fe nodwyd na fod y cynigion yn diffinio rôl Cynghorwyr Sir, Cynghorwyr Trefi a Chymunedau.

·         Fe godwyd y cyfle i siarad am faterion lleol ar gyfer ardal fel blaenoriaeth, tra’n derbyn na fydd y cyhoedd o reidrwydd yn mynychu pan maen nhw’n gan fwyaf yn fodlon gyda’r gwasanaethau maen nhw’n eu derbyn.

·         Fe awgrymwyd y dylid cadw mewn cof y byddai unrhyw ymgais i gael gwared ar gynghorau cymunedau yn anodd oherwydd bod eu haelodaeth yn cynnwys gwirfoddolwyr ymroddedig gydag ysbryd cymunedol.

·         Fe nodwyd bod y cyfalaf cyfyngedig ar gael i bwyllgorau ardal o dan y trefniadau cyfredol yn gyfyngiad ac y dylid eu hystyried fel rhan o fanylion y cynigion newydd y gallai gynnwys sut i wario cyllid Adran 106 a gwelliannau i’r broses grantiau hefyd.

·         Mae’n anodd penderfynu ar y ffordd orau o annog cyfranogiad oni bai bod y cynigion yn effeithio yn uniongyrchol ar y cyhoedd.

 

Hyb Cymunedol:

Fe galonogwyd Aelodau o’r cynnydd ac roedd yr ymweliadau wedi creu argraff dda arnynt. Mae arwyddion gwell ac ymestyn ardal y ddesg ar fin digwydd. Fe ddarparwyd cadarnhad bod y llyfrgell yn parhau i gael ei gefnogi gan lyfrgellwyr proffesiynol, sydd hefyd yn gweithio yn yr Hyb. Gofynnwyd am adborth ar amrediad yr ymholiadau ar wasanaethau ac ymyriadau. Ar ben hynny, fe ofynnwyd bod Cynghorwyr yn derbyn adborth  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf, sef dydd Mercher 14 Rhagfyr 2016 am 10.00am

Cofnodion:

Cadarnhawyd dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf, sef dydd Mercher 14 Rhagfyr 2016 am 10.00am yn y Caffi, Canolfan Hamdden Cas-gwent.

 

Agenda i gynnwys:

 

·         Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan,

·         Simon Griffiths am y Polisi Tanwydd