Agenda and draft minutes

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol - Dydd Mercher, 19eg Mawrth, 2025 3.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

3.

Nodi cofnod y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Medi 2024 pdf icon PDF 138 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf ar ôl tynnu enwau a ddyblygir o’r rhestr presenoldeb.

 

Materion yn codi

 

i)                 Sleidiau EAS: Gwahoddwyd sylwadau a diwygiadau yn y cyfarfod blaenorol. Roedd y Cynghorydd Brown wedi anfon sylwadau ond heb gael adborth hyd yma. Cadarnhaodd y Cynghorydd Crefydd Gwerthoedd a Moeseg (CGM) y caiff y sleidiau eu diwygio i adlewyrchu’r sylwadau a gafwyd ar gyfer y set gyffredinol a hefyd y set benodol ar gyfer ysgolion Sir Fynwy. Cytunwyd y caiff y drafft sleidiau wedi eu diwygio eu cylchredeg i CYSAG ac y cânt eu hadolygu gan y Cyfreithiwr.

 

4.

Diweddariad ar Aelodaeth pdf icon PDF 269 KB

Cofnodion:

Dywedwyd fod lleoedd gwag fel sy’n dilyn:

 

Yr Eglwys yng Nghymru

Yr Eglwys Gatholig

Yr Eglwys Rydd (2)

Y Ffydd Iddewig

Y Ffydd Hind?

Y Ffydd Bwdhaidd

Y Ffydd Sikh

Credo athronyddol anghrefyddol

Cynrychiolwyr athrawon (6)

 

Yn anffodus, ni fedrai’r Pennaeth Cyflawniad a Gwasanaethau Estynedig fynychu’r cyfarfod ond rhoddodd ddiweddariad byr y bu adroddiad ar Aelodaeth CYSAG i’r Cyngor drwy’r Cabinet Busnes ac y bydd yn mynd i’r Cyngor llawn nesaf sydd ar gael. Mae’r adroddiad yn cynnwys enwebiadau yn cynrychioli Cyngor yr Eglwys Rydd, Credo Athronyddol Anghrefyddol ac Athrawon.

 

Dywedodd Aelod fod rhai pobl oedd wedi dangos diddordeb mewn ymuno â CYSAG wedi gorfod amser yn hir iawn i gael eu penodi, a bod hynny yn anfoddhaol.

 

Cytunwyd y bydd cael mwy o Aelodau wedi eu cymeradwyo yn cynorthwyo gyda chworwm cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Nodwyd fod Panel Recriwtio CYSAG yn dilyn cyfarfod heddiw i ystyried cynrychiolydd o’r Eglwys Gatholig. Anogwyd y gellid ychwanegu’r enwebiad (os y’i cymeradwyir) at yr adroddiad.

 

5.

Derbyn diweddariad gan Gynghorydd Addysg Grefyddol EAS yn cynnwys:

6.

Dysgu Proffesiynol EAS

Cofnodion:

Rhoddodd Cynghorydd EAS adroddiad ar yr ystod eang o ddysgu proffesiynol a ddigwyddodd dros y tymor diwethaf, tebyg i:

·        Addysgu mewn CGM: Mae hyn wedi cynnwys dwy sesiwn a bu ar agor i bob ysgol. Mynychodd ychydig o ysgolion cynradd o Sir Fynwy (yn cynnwys rhai ysgolion ffydd).

·        Addysgeg: Edrychodd y cwrs hwn ar wahanol ymagweddau at y cwricwlwm newydd ac ystyried cynllunio ar gyfer dilyniant. Sefydlwyd gr?p CGM o’r cwrs. Cynhelir y sesiwn gyntaf gydag athrawon cynradd yn nhymor yr haf a bydd yn ystyried sut olwg sydd ar ddilyniant. Mae Ysgol Gynradd Tryleg ac ysgol arall wedi cynnal rhai prosiectau bach a gobeithir y byddant yn rhoi adborth i ddangos enghreifftiau o ddilyniant. Mae pynciau yn cynnwys y Nadolig a’r Pasg a bwriedir symud ymlaen i gysyniadau mwy tebyg i faddeuant ac yn y blaen.

·        Cafodd sesiwn terfynol Athroniaeth ar gyfer Plant ei chwblhau. Mae llawer o ysgolion wedi dilyn yr hyfforddiant hwn a bydd yn ddiddorol gweld sut mae’n trosi i’r ystafell ddosbarth.

·        Mae’r gwaith wedi dechrau ar Chwarae Duwiol o ymagwedd ffydd. Yn yr un modd ag Athroniaeth i Blant, mae ffocws hyn ar ofyn y cwestiynau mawr gyda straeon ffydd am ddamhegion yn hytrach na thrafodaeth gyffredinol.

·        Bu peth hyfforddiant ar ddiweddariadau mewn CGM ar gyfer penaethiaid ysgolion a sesiynau gwybodaeth ar gydaddoli gyda nifer dda yn bresennol.

·        Bu cyfarfodydd rhwydwaith cyffredinol a byddir yn dechrau edrych ar lythrennedd o fewn CGM yn nhymor yr haf.

 

7.

Cymwysterau CBAC

TGAU Astudiaethau Crefyddol | Gwnaed i Gymru

Trafodaeth am Samplau o Ddeunyddiau Asesu.

 

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd CGM y cyhoeddwyd manyleb newydd TGAU yn llawn gan CBAC. Mae ar gael ar ei wefan ac yn cynnwys canfyddiadau ymgynghoriad, opsiwn deunyddiau gyda’r nos i helpu ysgolion gyda hyrwyddo, sampl o ddeunyddiau asesu a chanllawiau ar gyfer athrawon. Mae’r fanyleb newydd ar gyfer cyflenwi o fis Medi 2025.

 

Mae newidiadau i’r ffordd y gofynnir cwestiynau gyda e.e. dwy elfen nad oes arholiad arnynt. Mae CBAC yn dweud fod y cynnwys yn debyg i’r cwricwlwm gwaddol ond nid oes unrhyw addysgu am ryfel.

 

Cynhaliwyd deuddeg digwyddiad Dysgu Proffesiynol i hyrwyddo’r TGAU newydd a darparu hyfforddiant staff. Bydd hyfforddiant pellach yn nhymor yr haf.

 

O fewn y fanyleb, mae ysgolion fel arfer yn dewis Cristnogaeth ac un grefydd arall. Mae Ysgol Gyfun Cil-y-coed wedi dewis Cristnogaeth ac Iddewiaeth. Mae Ysgol Gyfun Trefynwy ac Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII wedi dewis Cristnogaeth a Hind?aeth. Nid yw Ysgol Cas-gwent yn cynnig TGAU CGM.

 

Bydd ysgolion sy’n astudio dewisiadau tebyg yn cydweithio i rannu adnoddau.

 

Parthed asesu, bydd arholiadau yn parhau am awr a 15 munud ac mae dau arholiad. Rhoddodd y Cynghorydd CGM enghreifftiau o’r ystod a mathau o gwestiynau. Maent yn cynyddu mewn cymhlethdod a’r nifer o farciau sydd ar gael. Esboniodd am yr elfennau nad oes arholiad arnynt.

 

Dywedodd Aelod o CYSAG fod athrawon wedi codi pryderon eu bod eisiau parhau gyda’r TGAU gwaddol ar hyn o bryd, a hyfforddiant. Cytunwyd y dylai CYSAG feddwl am y pwysau ar athrawon yn y cyfnod pontio, yn arbennig o gofio am y nifer fach o arbenigwyr mewn CGM. Caiff ysgolion, gyda chymorth EAS, ar draws y rhanbarth a ledled Cymru, eu hannog i rwydweithio i greu a rhannu adnoddau ac i drafod a chefnogi ei gilydd ar yr asesiad lle nad oes arholiad.

 

Wrth gyfeirio at y newidiadau mewn cynnwys a ffocws, gofynnodd Aelod o CYSAG os yw athrawon wedi codi fod ehangu safbwyntiau anghrefyddol yn fater o gonsyrn e.e. materion hawliau dynol, hawliau LHDTC+, cydraddoldeb rhywedd, hawliau ffoaduriaid ac yn y blaen, hefyd bynciau newydd ar gyd-berthynas a moeseg teulu. Cadarnhawyd nad oes unrhyw athrawon wedi codi unrhyw faterion penodol o gonsyrn eto. Cafodd y pynciau hyn eu haddysgu yn hanesyddol bob amser. Dim ond ers ychydig wythnosau y cyhoeddwyd yr wybodaeth felly bydd athrawon angen amser i bori’r cynnwys ac i ystyried darpariaeth. Byddai’n ddefnyddiol edrych eto ar gynnwys a chyflenwi yn y cyfarfod nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Cynghorydd CGM yn bendant na chaiff y fanyleb newydd ei gohirio a’r disgwyliad yw y bydd yr addysgu yn dechrau ym mis Medi 2025. Cytunodd y Cadeirydd i godi cwestiwn yn ei gyfarfod nesaf gyda CBAC.

 

8.

Prifysgol Bangor: Adroddiad ar ddarpariaeth addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yng Nghymru (Ebrill 2024)

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd CGM fod Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi adroddiad ar addysgu CGM yn ysgolion Cymru. Dynododd yr adroddiad rai pethau cadarnhaol tebyg i wneud CGM yn orfodol rhwng 3-16 oed ac integreiddio CGM i ardal Dyniaethau dysgu a phrofiad gan roi cyfle i gysylltu CGM gyda e.e. Hanes a Daearyddiaeth.

 

Mae’r adroddiad hefyd yn codi materion o gonsyrn tebyg i broblemau cydymffurfiaeth lle nad yw ysgolion yn cyrraedd yr isafswm gofynion cyfreithiol ar gyfer addysgu CGM ar draws cyfnodau allweddol 3 a 4, adnoddau cyfyngedig yn cynnwys adnoddau Cymraeg, rhai heriau mewn dulliau addysgu a’r gefnogaeth/hyfforddiant a roddir i athrawon i wneud yn si?r fod ansawdd CGM yn ddigonol.

 

Holwyd os oes gan athrawon ddealltwriaeth dda o CGM yn awr o gymharu ag addysg grefyddol fel yr oedd, yn nhermau cynnwys a sut y dylid ei addysgu.

 

Dywedwyd nad yw CGM yn cael ei addysgu fel pwnc ar wahân mewn rhai ysgolion ond ei fod wedi ei integreiddio i’r cwricwlwm Dyniaethau ehangach. Roedd yn bosibl y gellid lleihau’r dyraniad amser a’r pwysigrwydd a roddir i CGM o gymharu â phynciau Dyniaethau eraill.

 

Ymatebodd CYSAG Cymru gyda phryderon am y ffordd y cynhaliwyd yr arolwg gan dderbyn ei fod yn codi rhai pwyntiau dilys. Nodwyd fod cwmpas yr ymchwil wedi ei seilio ar 45 ysgol uwchradd (yn bennaf) yng Nghymru ond nid oedd unrhyw eglurdeb am sut y dewiswyd yr ysgolion na sut y rhoddwyd yr ymatebion. Canfuwyd ymhellach fod yr adroddiad yn seiliedig ar arolwg ar Facebook. Mae’n bosibl nad yw’r honiadau o ddarpariaeth CGM annigonol yn gydnaws gyda phrofiadau ysgolion a rhanbarthau eraill.

 

Ychydig o gydnabyddiaeth sydd mai dim ond i flwyddyn 7 o 8 yr oedd CGM yn weithredol yng Nghymru adeg yr arolwg, eto holwyd ysgolion am CGM o flwyddyn 7 i 9.

 

Awgrymwyd fod dysgu proffesiynol yn brin tu allan i un awdurdod lleol penodol ac mai dim ond un brifysgol oedd yn rhoi cefnogaeth ansawdd uchel gyda CGM. Fodd bynnag, caiff pob ysgol eu cefnogi i rwydweithio a rhannu adnoddau a chyfleoedd. Nid oedd dim cydnabyddiaeth i ddigwyddiadau a dysgu proffesiynol a gynigir gan EAS a chonsortia eraill i ysgolion, yn cynnwys sesiynau pwrpasol.

 

(3.43pm – gadawodd y Parch J. Greaves y cyfarfod, a ohiriwyd am 10 munud. Gan nodi nad oedd cynrychiolydd Ffydd a Chredo ar ôl, gwiriodd y Cyfreithiwr y cylch gorchwyl a Chyfansoddiad y Cyngor yngl?n â cworwm. Er mai arfer SAC fu fod y cworwm angen aelod o bob gr?p cynrychioladol (Cynghorwyr, Ffydd a Chredo ac Athrawon), nid yw’r cylch gorchwyl yn dweud fod cworwm gorfodol o ran fod yn rhaid i rywun o bob gr?p fod yn bresennol. Oherwydd hynny, byddai’r ddarpariaeth gyffredinol yn y Cyfansoddiad yn weithredol y byddai cworwm y cyfarfod yn chwarter holl nifer yr Aelodau. Gan fod chwarter o holl nifer yr Aelodau yn bresennol, cytunwyd symud ymlaen. Gall CYSAG adolygu’r cylch gorchwyl i egluro gofynion cworwm ar gyfer y dyfodol).

 

Dywedodd Aelod fod yr adroddiad yn tynnu sylw at ddiffyg  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Prosiect Llais Athrawon: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm i Gymru

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd CGM fod prosiect newydd Cwricwlwm i Gymru gyda ffocws ar Lais Athrawon. Caiff athrawon sy’n gweithio gyda myfyrwyr 3 i 16 oed ledled Cymru eu hannog i ateb holiadur ar weithredu, cyflenwi a’r gefnogaeth maent eu hangen i sicrhau fod CGM yn brofiad cadarnhaol ar gyfer athrawon a hefyd ddisgyblion mewn ysgolion. Gobeithir cael safbwynt eang a chytbwys.

 

Caiff yr astudiaeth ei harwain gan ymchwilwyr o Ganolfan St Giles, Prifysgol Esgob Grosseteste, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cymorth Addysg Castell-nedd Port Talbot ac Ysgol Uwchradd Llanisien gan gydweithio gyda CYSAG Cymru a CYSAGau.

 

Gofynnir i’r sawl sy’n cymryd rhan i lenwi arolwg gwirfoddol, dienw 25 i 30 munud am eu profiadau o CGM. Gobeithir y caiff y canfyddiadau eu rhannu gyda phob corff addysgol, CYSAG Cymru/CYSAGau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiadau pellach yn y cwricwlwm a datblygu proffesiynol.

 

Dywedodd Aelod y dylid nodi fod y prifysgolion y sonnir amdanynt yn gysylltiedig gyda swyddogion gweithredol CYSAG Cymru yn hytrach na phrifysgolion hollol annibynnol ac y dylid cofio am hyn wrth ystyried deilliannau.

 

Cadarnhawyd fod yn rhaid i brifysgolion gydymffurfio gyda chod moeseg cadarn wrth gynnal ymchwil.

 

 

10.

Adborth i ysgolion ar y Cyfrifiad (ffydd a chredo)

Cofnodion:

Nododd Aelod o CYSAG fod tybiaeth fod Cristnogaeth yn gostwng yng Nghymru ond bod 1.4 miliwn o bobl ar draws Cymru yn dal i uniaethu fel Cristnogion. Er bod nifer debyg heb grefydd, nid yw’n hysbys beth mae’r rhai heb grefydd yn ei gredu.

 

Atgoffodd yr Aelod fod CYSAGau yn gyrff lleol ac mae’n bwysig gwybod fod e.e. yn Sir Fynwy fwy o bobl yn uniaethu fel bod â ffydd Gristnogol nag mewn rhai awdurdodau lleol eraill. Yng nghyswllt credoau anghrefyddol, mae’n bosibl y cafodd nifer y bobl gyda chredoau athronyddol anghrefyddol eu gorddatgan yn y boblogaeth leol. Awgrymodd yr Aelod ei bod yn bwysig i ysgolion wybod beth yw’r union niferoedd/canrannau i’w cymharu gyda gweddill Cymru.  Cytunwyd y gellir anfon yr wybodaeth hon at ysgolion.

 

11.

Busnes CYSAG Cymru pdf icon PDF 493 KB

1.     Busnes CYSAG Cymru

                 i.          Derbyn a nodi drafft gofnodion cyfarfod rhithiol CYSAG Cymru Tachwedd 2024. (atodir)

 

                ii.          Nodi dyddiadau cyfarfodydd CYSAG Cymru yn y dyfodol a chadarnhau cynrychiolwyr:

·       Cyfarfod y Gwanwyn – Rhithiol ar 6 Mawrth 2025, 10.30am (atodir agenda)

             iii.          Enwebiadau ar gyfer aelodau newydd Pwyllgor Gwaith CYSAG Cymru – cyfnod swydd cynrychiolydd Sir Fynwy yn dod i ben (Atodir papurau)

 

             iv.          Gwybodaeth bwysig gan CYSAG Cymru:

·       E bost gan A.Parry/L.Jones.

·       Llythyr i Gadeirydd CYSAG Cymru.

·       Gwariant: Cynhadledd CYSAG Cymru – Mehefin 2024.

·       Gohebiaeth Adnodd a Miller Research

·       Adroddiadau Blynyddol CYSAG Cymru.

·       Cod Ymddygiad diwygiedig drafft ar gyfer CYSAG Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                 i.          Derbyn a nodi drafft gofnodion cyfarfod rhithiol CYSAG Cymru Tachwedd 2024. (atodir)

 

Cafodd y cofnodion eu derbyn a’u nodi.

 

                ii.          Nodi dyddiadau cyfarfodydd CYSAG Cymru yn y dyfodol a chadarnhau cynrychiolwyr:

Nodwyd dyddiad Cyfarfod y Gwanwyn – Rhithiol ar 6 Mawrth 2025, 10.30am.

                    iii.               Enwebiadau ar gyfer aelodau newydd Pwyllgor Gwaith CYSAG Cymru – cyfnod swydd cynrychiolydd Sir Fynwy yn dod i ben (Atodir papurau)

Gan bleidleisio mewn grwpiau ar wahân, penderfynwyd enwebu’r Cynghorydd Sir Rachel Buckler ar gyfer etholiad i Bwyllgor Gwaith CYSAG Cymru.

                    iv.               Gwybodaeth bwysig gan CYSAG Cymru:

·       E bost gan A.Parry/L.Jones – nodwyd hyn.

·       Llythyr i Gadeirydd CYSAG Cymru – nodwyd hyn

·       Gwariant: Cynhadledd CYSAG Cymru – Mehefin 2024 – nodwyd hyn.

·       Gohebiaeth Adnodd a Miller Research – nodwyd hyn.

·       Adroddiadau Blynyddol CYSAG Cymru – noddwyd hyn.

·       Cod Ymddygiad diwygiedig drafft ar gyfer CYSAG Cymru. Nododd Aelodau y cod ymddygiad diwygiedig drafft ar gyfer CYSAG Cymru a thrafod os oedd angen i CYSAG Cymru gael cod ymddygiad oherwydd fod gan gynghorwyr eu cod ymddygiad eu hunain a bod gan athrawon safonau proffesiynol. Holwyd os mai dim ond i’r cynrychiolwyr ffydd a chredo y byddai’r cod ymddygiad yn berthnasol. Awgrymwyd y byddai’n well i awdurdod lleol yr unigolyn a’r CYSAG lleol drafod unrhyw broblemau yn hytrach na CYSAG Cymru.

 

Caiff y cod drafft ei ystyried yn CCB ym mis Mehefin a chroesawir adborth gan CYSAGau cyn y cyfarfod. Cytunwyd y dylid anfon yr adborth hwn at CYSAG Cymru.

 

12.

Ystyried creu Cynllun Gweithredu

i.                 Gosod targedau a blaenoriaethau

ii.               Sut i fonitro a rhoi adborth ar Gyd Addoli

iii.             Adnoddau ar gyfer ysgolion ar gyfer credoau athronyddol anghrefyddol

 

Cofnodion:

Awgrymwyd sefydlu Blaengynllun Gwaith/Cynllun Gweithredu. Caiff yr eitem hon ei rhoi ar agenda’r cyfarfod nesaf gyda golwg ar osod nodau tymor byr, tymor canol a thymor hir ar gyfer CYSAG. Cytunodd cynghorydd CGM i rannu rhai enghreifftiau o CYSAGau eraill fel sail ar gyfer trafodaeth.

 

 

13.

Dyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd y dyfodol:

11 Mehefin 2025 am 3.00pm

10 Medi 2025 am 3.00pm

3 Rhagfyr 2025 am 3.00pm

4 Mawrth 2026 am 3.00pm

 

Cofnodion:

Nodwyd.