Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd datganiadau o fuddiant.
|
|
Nodi cofnod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2023 PDF 230 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blynyddol gyda’r gwelliant canlynol:
“Mynegodd yr Aelod bryder fod ysgolion eglwys yn cael eu cynrychioli heb gyfyngiad ac y dylent yn lle hynny gael ei seilio ar gymdeithasau proffesiynol athrawon.”
|
|
Diweddariad ar Ddysgu Proffesiynol Cofnodion: Cyflwynodd Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) EAS ddiweddariad ar ddysgu proffesiynol:
· Mae Sgyrsiau Addoli ar y Cyd yn parhau i gynorthwyo gyda syniadau ac adolygu darpariaeth mewn ysgolion. Mae darpariaeth wedi ei strwythuro a chynllunio yn dda ac mae’r Sgyrsiau yn rhoi cyfle i rannu syniadau ar draws y consortiwm. · Recordiad o sgwrs gyda mab un o oroeswyr yr holocost ac ychwanegir sesiwn Cwestiwn ac Ateb at restr chwarae ar sianel Teams y consortiwm fel adnodd ar gyfer ysgolion ar Diwrnod Cofio’r Holocost a’r Cwricwlwm i Gymru. Cadarnhawyd y gall rhai adnoddau holocost fod yn addas ar gyfer Blwyddyn 6 ac y gall rhai gael eu haddasu. Rhoddodd y Cynghorydd Pavia enw person yr oedd ei dad yn rhan o’r tîm cyfreithiol yn Achosion Nuremburg a all fedru cyfrannu at adnoddau. · Mae cyfres o weminarau dysgu proffesiynol yn cael eu datblygu i wella ymarfer, gwybodaeth a dealltwriaeth o’r chwe phrif grefydd ac argyhoeddiad athronyddol heb fod yn grefyddol i gynyddu sgiliau rhai heb fod yn arbenigwyr mewn CGM ar draws pob cyfnod. · Caiff mwy o adnoddau eu datblygu i’w rhannu gydag ysgolion i gyfnerthu cylch gorchwyl CGM a’r hyn y mae’n ei olygu i ysgolion (yn cynnwys yr ystyriaethau cyfreithiol). · Cynhaliwyd digwyddiad dysgu proffesiynol i rannu syniadau, addysgeg ac ysbrydoliaeth ar 28-29 Tachwedd 2023. Bu pump o ysgolion Sir Fynwy (allan o 37) yn bresennol (dim ohonynt o ysgolion uwchradd). Cafodd yr holl adnoddau eu lanlwytho i’r gofod Teams ar gyfer mynediad yn ddiweddarach. · Cyhoeddwyd rhifyn newydd o’r cylchgrawn Challenging Religions ar gyfer myfyrwyr Safon UG a Safon Uwch ac mae’n cynnwys llawer o erthyglau defnyddiol ar wahanol bynciau ac mae’n adnodd da. · Soniwyd yng nghyfarfodydd NAPFRE am ddiffyg graddedigion CGM yn dilyn hyfforddiant dechreuol i athrawon. Nodwyd fod ysgogiad o £10,000 ar gyfer hyfforddi athrawon yn Lloegr felly mae’n anodid cystadlu. Mae pryder y bydd diffyg arbenigwyr yng Nghymru yn y dyfodol. Holwyd Llywodraeth Cymru am y potensial am fwrsariaethau ond ymateb negyddol a gafwyd. · Gofynnwyd os gallai aelodau CYS gael mynediad i’r adnoddau sydd ar gael. · Holwyd sut y caiff ystod o argyhoeddiadau athronyddol heb fod yn grefyddol eu cynnwys yn y rhestr adnoddau. Esboniwyd bod Humanism UK wedi cynnig rhoi cyflwyniad mewn gweminarau. Croesewid pe byddai cyrff cynrychioladol eraill NRPC ar gael i ehangu’r adnoddau sydd ar gael i ysgolion. Soniwyd fod ysgol gynradd wedi rhoi cyflwyniad i’r Cyngor ar Newid Hinsawdd. Os gwelir arfer da mewn ysgolion, gofynnwyd am gysylltu gyda’r Ymgynghorydd CGM i rannu gydag ysgolion eraill a CYS. · Cynigiodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol anfon dolen at y Cynghorydd Bond i esbonio barn yr uwch lysoedd wrth benderfynu ar gwmpas credoau.
|
|
Diweddariad CYSAG Cymru PDF 471 KB 1. Cynhadledd CYSAG Cymru 2024 (Wrecsam) Conference June 2024 (Wrexham)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynhadledd CYSAG Cymru
Esboniwyd y bydd CYSAG Cymru yn cynnal cynhadledd wyneb yn wyneb ar 13 Mehefin 2024 ym Mhrifysgol Wrecsam gyda Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn brif siaradwr. Bydd hefyd gyfres o seminarau ar-lein cyn ac ar ôl y gynhadledd. Mae’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim i bob CYS ac ymarferwyr. Mae’r archebion ar agor yn awr. Gall y rhai sydd â diddordeb archebu lle ar-lein.
|
|
Diwrnod Cofio’r Holocost – (Atgoffa ysgolion) Cofnodion: Soniwyd fod adnoddau ar gyfer ysgolion ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Cofio’r Holocost. Mae Gwersi i Auschtwitz ar agor os oes gan ysgolion ddiddordeb mewn rhoi eu henwau ar gyfer y trip i Auschwitz lle gall dau ddisgybl gael eu henwebu ac ymweld â Gwlad Pwyl mewn diwrnod.
Gofynnir i ysgolion gysylltu os gall CYS neu’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol gynorthwyo.
|
|
Aelodaeth y Panel Apwyntiadau/Recriwtio PDF 345 KB Cofnodion: Cafodd yr eitem ei dileu o’r agenda heddiw. Cytunwyd ceisio cael dyddiad ym mis Ionawr 2024 i ystyried yr eitem hon.
|
|
Diweddariad gan Estyn Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Cyflawniad a Gwasanaethau Estynedig ddiweddariad pan fo arolygwyr Estyn yn ymweld ag ysgolion, y byddant yn edrych ar holl ystod gwaith ysgolion yn nhermau’r pump dangosydd, gan ganolbwyntio ar gryfderau a meysydd ar gyfer gwella. Er y gallai arolygwyr weld addoli ar y cyd/CGM, efallai na fydd ganddynt ffocws ar hynny ac efallai na fyddant yn sôn am ddim byd mewn ysgrifen. Bydd yr arolygwyr yn canolbwyntio ar ansawdd a chynnydd dysgwyr.
Mae’r sefyllfa hon yn ei gwneud yn anodd i SAC werthuso ansawdd darpariaeth CGM mewn ysgolion yn gyson. Mae’r gweithredu diwydiannol cyfredol hefyd yn cyfyngu cyfleoedd i fonitro darpariaeth. Mewn ymateb i gwestiwn, esboniwyd fod y Cynghorydd CGM yn cynnal cyswllt da gydag ysgolion drwy ddysgu proffesiynol. Awgrymodd y Cynghorydd CGM y gall fod yn bosibl rhoi adroddiad ar drosolwg o waith clystyrau os yw clwstwr ysgolion yn fodlon ymgysylltu drwy e.e. Teams.
Mae Estyn yn cyhoeddi adroddiadau thema yn gyfnodol a deuir ag unrhyw adroddiadau diweddar a pherthnasol i sylw CYS.
|
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: · Aelodaeth: Cadarnhawyd na chafwyd ymateb gan y Gr?p Annibynnol parthed lle gwag ar gyfer cynrychiolydd o’r Cyngor Sir. Nid yw hyn yn hanfodol o ran cydbwysedd gwleidyddol ond byddai’n arfer da cynrychioli cydbwysedd gwleidyddol. Yng nghyswllt cynrychiolwyr Athrawon, cadarnhawyd y cafwyd pump enwebiad am saith lle. Gofynnir i gymdeithasau proffesiynol os gellir llenwi’r ddau le arall. Os na, gofynnir i benaethiaid ysgolion am enwebiadau.
|
|
Dyddiad Cyfarfodydd y Dyfodol 13 Mawrth 2024 am 3pm
12 Mehefin 2024 am 3pm
Cofnodion: 13 Mawrth 2024 am 3.00pm
|