Agenda and minutes

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol - Dydd Mawrth, 12fed Rhagfyr, 2023 3.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd datganiadau o fuddiant.

 

2.

Nodi cofnod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2023 pdf icon PDF 230 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blynyddol gyda’r gwelliant canlynol:

 

“Mynegodd yr Aelod bryder fod ysgolion eglwys yn cael eu cynrychioli heb gyfyngiad ac y dylent yn lle hynny gael ei seilio ar gymdeithasau proffesiynol athrawon.”

 

3.

Diweddariad ar Ddysgu Proffesiynol

Cofnodion:

Cyflwynodd Ymgynghorydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) EAS ddiweddariad ar ddysgu proffesiynol:

 

·        Mae Sgyrsiau Addoli ar y Cyd yn parhau i gynorthwyo gyda syniadau ac adolygu darpariaeth mewn ysgolion. Mae darpariaeth wedi ei strwythuro a chynllunio yn dda ac mae’r Sgyrsiau yn rhoi cyfle i rannu syniadau ar draws y consortiwm.

·        Recordiad o sgwrs gyda mab un o oroeswyr yr holocost ac ychwanegir sesiwn Cwestiwn ac Ateb at restr chwarae ar sianel Teams y consortiwm fel adnodd ar gyfer ysgolion ar Diwrnod Cofio’r Holocost a’r Cwricwlwm i Gymru. Cadarnhawyd y gall rhai adnoddau holocost fod yn addas ar gyfer Blwyddyn 6 ac y gall rhai gael eu haddasu. Rhoddodd y Cynghorydd Pavia enw person yr oedd ei dad yn rhan o’r tîm cyfreithiol yn Achosion Nuremburg a all fedru cyfrannu at adnoddau.

·        Mae cyfres o weminarau dysgu proffesiynol yn cael eu datblygu i wella ymarfer, gwybodaeth a dealltwriaeth o’r chwe phrif grefydd ac argyhoeddiad athronyddol heb fod yn grefyddol i gynyddu sgiliau rhai heb fod yn arbenigwyr mewn CGM ar draws pob cyfnod.

·        Caiff mwy o adnoddau eu datblygu i’w rhannu gydag ysgolion i gyfnerthu cylch gorchwyl CGM a’r hyn y mae’n ei olygu i ysgolion (yn cynnwys yr ystyriaethau cyfreithiol).

·        Cynhaliwyd digwyddiad dysgu proffesiynol i rannu syniadau, addysgeg ac ysbrydoliaeth ar 28-29 Tachwedd 2023. Bu pump o ysgolion Sir Fynwy (allan o 37) yn bresennol (dim ohonynt o ysgolion uwchradd). Cafodd yr holl adnoddau eu lanlwytho i’r gofod Teams ar gyfer mynediad yn ddiweddarach.

·        Cyhoeddwyd rhifyn newydd o’r cylchgrawn Challenging Religions ar gyfer myfyrwyr Safon UG a Safon Uwch ac mae’n cynnwys llawer o erthyglau defnyddiol ar wahanol bynciau ac mae’n adnodd da.

·        Soniwyd yng nghyfarfodydd NAPFRE am ddiffyg graddedigion CGM yn dilyn hyfforddiant dechreuol i athrawon. Nodwyd fod ysgogiad o £10,000 ar gyfer hyfforddi athrawon yn Lloegr felly mae’n anodid cystadlu. Mae pryder y bydd diffyg arbenigwyr yng Nghymru yn y dyfodol. Holwyd Llywodraeth Cymru am y potensial am fwrsariaethau ond ymateb negyddol a gafwyd.

·        Gofynnwyd os gallai aelodau CYS gael mynediad i’r adnoddau sydd ar gael.

·        Holwyd sut y caiff ystod o argyhoeddiadau athronyddol heb fod yn grefyddol eu cynnwys yn y rhestr adnoddau. Esboniwyd bod Humanism UK wedi cynnig rhoi cyflwyniad mewn gweminarau. Croesewid pe byddai cyrff cynrychioladol eraill NRPC ar gael i ehangu’r adnoddau sydd ar gael i ysgolion. Soniwyd fod ysgol gynradd wedi rhoi cyflwyniad i’r Cyngor ar Newid Hinsawdd. Os gwelir arfer da mewn ysgolion, gofynnwyd am gysylltu gyda’r Ymgynghorydd CGM i rannu gydag ysgolion eraill a CYS.

·        Cynigiodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol anfon dolen at y Cynghorydd Bond i esbonio barn yr uwch lysoedd wrth benderfynu ar gwmpas credoau.

 

4.

Diweddariad CYSAG Cymru pdf icon PDF 471 KB

1.     Cynhadledd CYSAG Cymru 2024 (Wrecsam) Conference June 2024 (Wrexham)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynhadledd CYSAG Cymru 

 

Esboniwyd y bydd CYSAG Cymru yn cynnal cynhadledd wyneb yn wyneb ar 13 Mehefin 2024 ym Mhrifysgol Wrecsam gyda Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn brif siaradwr. Bydd hefyd gyfres o seminarau ar-lein cyn ac ar ôl y gynhadledd. Mae’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim i bob CYS ac ymarferwyr. Mae’r archebion ar agor yn awr. Gall y rhai sydd â diddordeb archebu lle ar-lein.

 

5.

Diwrnod Cofio’r Holocost – (Atgoffa ysgolion)

Cofnodion:

Soniwyd fod adnoddau ar gyfer ysgolion ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Cofio’r Holocost. Mae Gwersi i Auschtwitz ar agor os oes gan ysgolion ddiddordeb mewn rhoi eu henwau ar gyfer y trip i Auschwitz lle gall dau ddisgybl gael eu henwebu ac ymweld â Gwlad Pwyl mewn diwrnod.

 

Gofynnir i ysgolion gysylltu os gall CYS neu’r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol gynorthwyo.

 

6.

Aelodaeth y Panel Apwyntiadau/Recriwtio pdf icon PDF 345 KB

Cofnodion:

Cafodd yr eitem ei dileu o’r agenda heddiw. Cytunwyd ceisio cael dyddiad ym mis Ionawr 2024 i ystyried yr eitem hon.

 

7.

Diweddariad gan Estyn

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Cyflawniad a Gwasanaethau Estynedig ddiweddariad pan fo arolygwyr Estyn yn ymweld ag ysgolion, y byddant yn edrych ar holl ystod gwaith ysgolion yn nhermau’r pump dangosydd, gan ganolbwyntio ar gryfderau a meysydd ar gyfer gwella. Er y gallai arolygwyr weld addoli ar y cyd/CGM, efallai na fydd ganddynt ffocws ar hynny ac efallai na fyddant yn sôn am ddim byd mewn ysgrifen. Bydd yr arolygwyr yn canolbwyntio ar ansawdd a chynnydd dysgwyr.

 

Mae’r sefyllfa hon yn ei gwneud yn anodd i SAC werthuso ansawdd darpariaeth CGM mewn ysgolion yn gyson. Mae’r gweithredu diwydiannol  cyfredol hefyd yn cyfyngu cyfleoedd i fonitro darpariaeth. Mewn ymateb i gwestiwn, esboniwyd fod y Cynghorydd CGM yn cynnal cyswllt da gydag ysgolion drwy ddysgu proffesiynol. Awgrymodd y Cynghorydd CGM y gall fod yn bosibl rhoi adroddiad ar drosolwg o waith clystyrau os yw clwstwr ysgolion yn fodlon ymgysylltu drwy e.e. Teams.

 

Mae Estyn yn cyhoeddi adroddiadau thema yn gyfnodol a deuir ag unrhyw adroddiadau diweddar a pherthnasol i sylw CYS.

 

8.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

·        Aelodaeth: Cadarnhawyd na chafwyd ymateb gan y Gr?p Annibynnol parthed lle gwag ar gyfer cynrychiolydd o’r Cyngor Sir. Nid yw hyn yn hanfodol o ran cydbwysedd gwleidyddol ond byddai’n arfer da cynrychioli cydbwysedd gwleidyddol. Yng nghyswllt cynrychiolwyr Athrawon, cadarnhawyd y cafwyd pump enwebiad am saith lle. Gofynnir i gymdeithasau proffesiynol os gellir llenwi’r ddau le arall. Os na, gofynnir i benaethiaid ysgolion am enwebiadau.

 

9.

Dyddiad Cyfarfodydd y Dyfodol

13 Mawrth 2024 am 3pm

 

12 Mehefin 2024 am 3pm

 

Cofnodion:

13 Mawrth 2024 am 3.00pm