Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau ar gyfer Absenoldeb

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Rebecca Morteo, cynrychiolydd Ffydd newydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru a Charlotte Skinner, cynrychiolydd newydd Athrawon.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau buddiant.

 

3.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

4.

Cylch Gorchwyl CYSAG a gyfer Cynhadledd y Maes Llafur Cytunedig (gweler y ddolen) pdf icon PDF 436 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth: Cyflawniad a Gwasanaethau Estynedig yr adroddiad newydd i ystyried Cylch Gorchwyl CYSAG ar gyfer Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig. Bydd y cwricwlwm newydd yn golygu y bydd angen alinio maes llafur cytunedig newydd i’w gyflwyno yn ysgolion Sir Fynwy o 1 Medi 2022.

 

Rhaid trefnu Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig yn dilyn gweithdrefn a osodir gan Lywodraeth Cymru i gytuno ar y cyd ar faes llafur a gaiff wedyn ei gadarnhau gan y Cyngor. Caiff aelodaeth y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig hefyd ei nodi’n glir mewn canllawiau. Rhoddwyd yr amserlen ar gyfer y broses.

 

Wrth ystyried y Cylch Gorchwyl diwygiedig (Opsiynau 1 a 2) awgrymwyd gwneud y newid dilynol:

 

          Bydd enwadau Cristnogol ac enwadau crefyddol eraill sydd, ym marn yr awdurdod, yn adlewyrchu mewn modd priodol y prif draddodiadau crefyddol yn yr ardal, ynghyd â lle ar gyfer gr?p sydd â chredoau heb fod yn grefyddol “credoau athronyddol heb fod yn grefyddol”. Sylweddolir y bydd achlysuron pan fo budd effeithiolrwydd yn drech na’r gofyniad am gynrychiolaeth uniongyrchol gymesur (13 aelod).

 

Cytunodd y Swyddog Monitro gyda’r addasiad i’r geiriad i fod yn gyson â Deddf Addysg 1996 fel y’i diwygiwyd ac awgrymodd nad oedd diffiniad pellach o gredoau athronyddol heb fod yn grefyddol.

 

Dywedwyd fod CYSAG ar hyn o bryd yn brin o gynrychiolaeth o brif draddodiadau crefyddol eraill. Cytunwyd y byddai newid o CYSAG i CYS yn rhoi cyfle i geisio cynrychiolaeth o brif draddodiadau crefyddol eraill ar CYS. Yn y cyfamser, unwaith y cymeradwywyd y cylch gorchwyl, gellir anfon llythyrau i ychwanegu unigolion i’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig. Nodir fod hefyd opsiwn i gyfethol ymgynghorwyr.

 

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer cynrychiolaeth athrawon a byddai Opsiwn 1 yn parhau i ganiatáu cymdeithasau proffesiynol i wneud enwebiadau ond lle nad yw’n bosibl sicrhau cynrychiolwyr a bod swyddi yn dal yn wag, caniateir cysylltu gyda phenaethiaid ysgol. Dywedwyd fod a31 Deddf Addysg 1996 yn sôn am gymdeithasau athrawon a byddai cysylltu â phenaethiaid ysgol yn symud i ffwrdd oddi wrth hyn. Awgrymodd y Swyddog Monitro y byddai’n rhesymol a chymesur symud i ffwrdd er mwyn sicrhau prif nod y ddeddfwriaeth. Cadarnhawyd y bu’n anodd sicrhau cynrychiolaeth drwy’r cymdeithasau athrawon ac y byddai’n bosibl derbyn enwebiadau gan benaethiaid ysgol i’r cymdeithasau eu cymeradwyo.

 

Holodd Aelod am gynrychiolaeth credoau athronyddol heb fod yn grefyddol gan gyfeirio at yr ystod eang ohonynt a ph’un ai a ddylid cysylltu am gynrychiolwyr, a holodd pa newidiadau y mae’r Eglwys yng Nghymru a’r Eglwys Gatholig yn eu cynnig i’r canllawiau Crefydd Gwerthoedd a Moeseg. Dywedodd yr Aelod fod y crynodeb deddfwriaethol yn cyfeirio at ystod o gredoau crefyddol ac yn ei gysylltu gyda chyfraith achos Ewropeaidd. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn dal i nodi Cristnogaeth a phrif grefyddau fel y’u cynrychiolir yng Nghymru (wedi newid o’r Deyrnas Unedig) tra bod yr ystod yn dal yn weithredol i gredoau athronyddol heb fod yn grefyddol. Mae’n bwysig dynodi’r gynrychiolaeth fydd yn ein cynorthwyo i lunio’r maes llafur.

 

Cadarnhawyd fod gan yr Eglwys yng Nghymru  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cynhadledd y Maes Llafur Cytunedig – Llinell Amser pdf icon PDF 634 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd esboniad o’r camau a’r amserlen ar gyfer Cynhadledd Maes Llafur a gytunwyd.

 

Gofynnwyd cwestiwn am y nifer a all gymryd rhan mewn Cynhadledd a chadarnhawyd nad oes cyfyngiad.

 

6.

Diweddariad Ysgolion

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Crefydd Gwerthoedd Moeseg ddiweddariad fel sy’n dilyn:

·         Hysbyswyd ysgolion yr ychwanegwyd Addysg Grefyddol/ Astudiaethau Crefyddol at y rhestr o bynciau fydd yn cael gwybodaeth ymlaen llaw (meysydd pwnc cyffredinol, cwestiynau neilltuol) yn ogystal â’r gostyngiad o 25% yn y cynnwys a aseswyd. Gellir cyfeirio ymholiadau at y Cynghorydd Crefydd Gwerthoedd Moeseg.

·         Mae CYSAG Cymru yn datblygu dysgu proffesiynol ar gyfer Crefydd Gwerthoedd Moeseg yn seiliedig ar y canllawiau. Bydd tîm o ddeg o ymarferwyr yn cael 9 diwrnod llawn i greu’r adnoddau cyn diwedd tymor yr haf. Caiff modiwlau ar-lein ac adnoddau cysylltiedig eu cynnwys.

 

7.

Busnes CYSAG Cymru pdf icon PDF 565 KB

Enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd fod cyfnod swydd Mrs. S. Gooding ar Bwyllgor Gwaith CYSAG Cymru yn dod i ben. Mynegodd y Cynghorydd Sir L. Brown ddiddordeb yn y swydd a darllenodd ei datganiad personol.

 

Pleidleisiodd y tri gr?p mewn ystafelloedd gr?p a chadarnhau enwebiad y Cynghorydd Sir L. Brown.

 

Cafodd y Cynghorydd Sir L. Brown ei llongyfarch gan Mrs Gooding am ei henwebiad a dywedodd iddi fwynhau ei chyfnod ar Bwyllgor Gwaith CYSAG Cymru.

 

Diolchodd y Cadeirydd, ar ran CYSAG, i Mrs Gooding am ymgymryd â’r swydd am y tair blynedd ddiwethaf.

 

8.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Roedd Cylch Gorchwyl CYSAG wedi ei gylchredeg a chytunwyd y dylid gwneud ychwanegiad i alluogi cyfarfodydd hybrid. Bydd y Clerc yn pasio’r awgrym hwn ymlaen.

 

9.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf icon PDF 147 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

           

10.

Cadarnhau dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol

·         9fed Mawrth 2022 am 10.00am - CYSAG / Cynhadledd y Maes Llafur  Cytunedig

·         28ain Mawrth 2022 - Gweithdai

·         26ain Ebrill 2022 am 10.00am - CYSAG

 

Cofnodion:

9 Mawrth 2022 – 1) Cynhadledd Maes Llafur Gwaddol

                              2) Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig

 

28 Mawrth 2022 – Gweithdai SC

 

26 Ebrill 2022 - CYSAG