Agenda and minutes

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol - Dydd Mercher, 23ain Mehefin, 2021 10.00 am

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.  

 

2.

Ystyried ymateb i'r ymgynghoriad ar y Fframwaith Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai’r unigolion a oedd yn bresennol yn ffurfio Gweithgor er mwyn darparu sylwadau ar y ddogfen ymgynghori, gyda’r nod o lunio ymateb ffurfiol erbyn y dyddiad cau, sef 16eg Gorffennaf 2021.

 

Cwestiwn 1 – Pa mor dda y mae’r canllaw yn esbonio sgôp Gwerthoedd, Crefydd, Moeseg (GCM) a’i gyd-destun oddi mewn i’r Maes  Dyniaethau?

 

Roedd sylwadau yn cynnwys:

 

·         Gellir gwella’r ddogfen ac roedd y fersiwn flaenorol yn fwy hawdd ei deall ac yn llai cyfreithiol. Anghytunwyd y dylid cyfyngu’r elfen gyfreithiol i  droednodyn.

·         Rhaid bod yn eglur o ran y gofynion cyfreithiol, yn enwedig gyda’r traddodiadau crefyddol sydd yn rhai Cristnogol yn bennaf a’r prif grefyddau eraill. Mae defnyddio’r ymadrodd “Amrywiaeth o grefyddau” yn anghywir gan ei fod ond yn cynnwys Cristnogaeth a’r prif grefyddau yng Nghymru.  

·         Mae angen bod yn eglur i CYSAGau/SAC bod arolygon o ysgolion ffydd dal yn cael eu cynnal gan ysgolion ffydd eu hunain ac nid rôl y CYSAGau yw hyn.

·         Mae unrhyw  GCM sydd ei angen yn gorfod cael ei bennu gan yr Esgob.

·         Mynegwyd cefnogaeth i dud. 6, para. 4 “bydd deall y cysyniad o addysg yn caniatáu dysgwyr i adeiladu dealltwriaeth gadarn o grefydd a phwysigrwydd y ffyrdd gwahanol y caiff ei ddiffinio” ond awgrymwyd ychwanegiad: “o fewn Cristnogaeth a’r prif grefyddau sydd i’w canfod yng Nghymru”.

·         Angen mwy o bwyslais er mwyn adlewyrchu’r ffaith mai’r prif draddodiad yng Nghymru yw Cristnogaeth a sut y mae modd ei ystyried o sawl persbectif gwahanol.

·         Hoffem weld Cymdeithas Cymru o’r CYSAGau yn rhoi canllawiau i’r CYSAGau eraill ac ysgolion ar bob un prif ffydd arall. Rhaid bod pob un ffydd ar y CYSAG yn cael ei gynrychioli er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth well o sawl ffydd wahanol o gwmpas y byd. Mae arbenigwyr ffydd yn medru cynnig arbenigedd ar gyfer dysgu proffesiynol.

·         Nid oes un grefydd yn fwy pwysig nag un arall. Mae’n dda fod plant yn cael dysgu am grefyddau gwahanol.

·         Mae’r diffiniad o brif grefyddau yn gyfrifoldeb i’r ysgolion – rhaid cael hyblygrwydd yn y cwricwlwm er mwyn caniatáu hyn. Gyda chredoau athronyddol, na sy’n grefyddol, yn cael eu dysgu, mae yna bryder bod crefydd yn cael ei gywasgu o’r cwricwlwm. 

·         Nid yw’r canllaw yn adlewyrchu’r berthynas rhwng GCM a Dyniaethau yn gyffredinol. Mae yna gyfeiriadau annigonol e.e. datganiadau “beth sy’n bwysig”. Mae angen cryfhau rôl GCM o fewn Dyniaethau.

·         Roedd yna syndod bod y canllaw i’w osod o fewn y canllaw Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn newid natur y ddogfen. Mae’n dod yn statudol ar y cam yma, yn hytrach na’n cael ei fabwysiadu fel maes llafur cytunedig.

·         Nid yw rhannau o’r canllaw yn gyson gyda’r canllaw Dyniaethau. Mae’n llawer iawn mwy  cyfarwyddol na gweddill y canllaw.  Wedi symud o leol i genedlaethol.   Mae’r berthynas rhwng GCM a Dyniaethau wedi newid. Nid yw’n gyson gyda’r canllawiau ar gyfer enghreifftiau o’r testunau eraill. Mae’r ddogfen hon yn statudol, ac felly, bydd ysgolion yn credu mai’r ysgolion (teithiau) yw’r unig ddull o wneud hyn. Nid yw testunau eraill yn cynnwys  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

I gadarnhau dyddiad y cyfarfod nesaf fel yr 20fed Hydref 2021