Agenda and minutes
Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Is-gadeirydd Cofnodion: Penodwyd Mr. A Szwagrzak fel Is-gadeirydd. |
|||||||||||||||||||||||
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol |
|||||||||||||||||||||||
Adroddiad Aelodaeth Cofnodion:
|
|||||||||||||||||||||||
Cadarnhau Adroddiad Blynyddol 2020/21 Cofnodion: The Cadarnhawyd yr adroddiad drafft fel y’i cyflwynwyd yn amodol ar y diwygiadau canlynol:
i. Y Parchedig Greaves i gynrychioli Eglwys y Bedyddwyr nid Cyngor yr Eglwysi Rhyddion. . ii. Roedd angen gwelliant i wneud yn glir bod y llythyr oddi wrth y Gweinidog, a dderbyniwyd ym mis Mai 2018,yn rhoi canllawiau i aelodau lleol ar ddisgresiwn ynghylch cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n cynrychioli credoau anghrefyddol fel Dyneiddwyr i eistedd ar Bwyllgor A.draft report was confirmed as presented subject to the following amendments:
i. Revd Greaves to represent the Baptist Church not the Free Church Council. ii. An amendment was required to make clear that the letter from the Minister, received in May 2018, provided guidance to local authorities on discretion concerning representatives from organisations representing non–religious beliefs such as Humanists to sit on Committee A.
|
|||||||||||||||||||||||
Diweddariad Cwricwlwm Diweddariad asesiadau CBAC
• Asesiadau TGAU ar gyfer 2022 • Asesiadau TAG ar gyfer 2022
Canllawiau ar ddylunio a chyflwyno Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gorfodol – diweddariadau Cofnodion: Rhoddodd Hayley Jones Ymgynghorydd RVE ddiweddariad ar yr addasiadau asesu a gyhoeddwyd gan CBAC. Nodwyd bod yr addasiadau TGAU yr un peth â'r llynedd. Ar gyfer TAG Safon Uwch, bu rhywfaint o symleiddio o ran amser/cynnwys addysgu oherwydd y pwysau sy’n deillio o Covid 19 ochr yn ochr â chadw cydbwysedd fel y bydd asesiad yn galluogi mynediad i addysg bellach.
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi rhai cynlluniau i baratoi pe bai lefelau Covid yn cynyddu. Mae’r Gweinidog Addysg hefyd wedi ysgrifennu datganiad y bydd cymwysterau disgyblion yn cael eu dyfarnu drwy Radd a Benderfynir gan y Ganolfan (CDG). Dywedwyd bod angen bod yn ofalus gan fod llawer o blant i mewn ac allan o'r ysgol ac y bydd arholiadau'n anodd eleni. Croesawyd y newidiadau. |
|||||||||||||||||||||||
Diweddariadau Cwricwlwm Cymru Cofnodion: Mae modiwlau ar gyfer gwahanol gyfnodau cynllunio’r cwricwlwm yn cael eu cyflwyno’n genedlaethol i gefnogi uwch arweinwyr. Cafodd y sesiynau eu recordio ac roeddent ar gael er mwyn i'r rhai nad oeddent yn gallu bod yn bresennol eu gweld. Mae’r ffocws nawr ar gyflwyno rhaglen ddatblygu Cwricwlwm i Gymru ar gyfer arweinyddiaeth ganol sy’n rhoi’r cyfle i arbenigo mewn Meysydd Profiad Dysgu.
Mae presenoldeb wedi bod yn isel iawn oherwydd yr amgylchiadau dan bwysau a phroblemau rhyddhau staff i fynychu. Bu dull hyblyg o ran pryd a sut y darperir sesiynau i sicrhau mynediad i gynifer o staff â phosibl. Cydnabuwyd bod dibyniaeth ar ewyllys da staff sy'n cael eu llethu.
Mae gr?p dylunio eilaidd ychwanegol wedi'i sefydlu i fynd i'r afael â'r ffaith bod y ffocws wedi bod yn bennaf ar y sector cynradd; rhwydweithiau rhanbarthol a chenedlaethol yw’r cam nesaf.
Mae'r GCA wedi sefydlu grwpiau gorchwyl a gorffen ar wahanol agweddau ond mae argaeledd staff ysgol i fynychu yn parhau i fod yn anhawster.
Gofynnodd Aelod a ellid gohirio’r cyflwyniad oherwydd y pwysau. Cadarnhawyd bod cyflwyno Cwricwlwm i Gymru wedi ei ohirio am flwyddyn ar gyfer ysgolion uwchradd ond nid ar gyfer ysgolion cynradd. Holwyd pam fod gwahaniaeth rhwng uwchradd a chynradd. Mae'n bosibl ei fod oherwydd y pwysau sy'n ymwneud â Graddau a Benderfynir gan y Ganolfan. Bydd y Cadeirydd yn codi'r pwynt hwn mewn cyfarfod o Arweinwyr Cabinet gyda CLlLC. Cadarnhawyd bod treialon o'r cwricwlwm yn cael eu cynnal eleni gyda B7 yn cymryd rhan mewn prosiect Dyniaethau Maes Dysgu a Phrofiad ar y cyd yn Ysgol Gyfun Brenin Harri’r VIII. Cytunwyd y byddai CYSAG yn ysgrifennu llythyr at y Gweinidog (gan sicrhau copi i Aelodau'r GCA ac aelodau CYSAG) i bwyso ar ymestyn y gohirio i'r cyfnod cynradd.
Gofynnodd Aelod sut mae’r canllawiau statudol RVE drafft yn dod yn eu blaen gan gofio bod CYSAG wedi argymell y dylai’r elfennau cyfreithiol fod yn statudol ond y dylai’r elfennau addysgu mwy goddrychol fod yn ganllawiau anstatudol. Mae'r fframwaith AG presennol yn ganllawiau anstatudol.
Mae'n rhaid cael maes llafur cytunedig CYSAG. Trafododd CCYSAGauC yn ddiweddar a allai hyn fod yn llai rhagnodol er mwyn caniatáu mwy o ddisgresiwn i benaethiaid. Roedd pryderon ynghylch peidio ag ymgynghori'n briodol â'r CYSAGau.
Eglurwyd bod gan CYSAGau ddiweddariadau tymhorol yn cynnwys e.e. RVE ac unrhyw newidiadau i addoli ar y cyd. Bydd y canllawiau RVE newydd yn cael effaith sylweddol ar y maes llafur cytunedig. Gall CYSAG fabwysiadu'r arweiniad fel ei faes llafur cytunedig, ei ddiwygio neu wneud rhywbeth gwahanol. Ni ellir cymryd unrhyw gamau hyd nes y cyhoeddir y canllawiau terfynol. Disgwylir y diweddariad nesaf ym mis Rhagfyr 2021. Cytunwyd i ystyried cyfarfod ychwanegol os digwydd hyn. |
|||||||||||||||||||||||
Cynhadledd Maes Llafur a Gytunwyd Dyddiadau cyfarfodydd 2022
Cofnodion: Cytunwyd i ailedrych ar yr eitem hon yng nghyfarfod mis Mawrth pan fyddai mwy o wybodaeth ar gael.
|
|||||||||||||||||||||||
i. Derbyn nodiadau a chofnodion cyfarfod 16/06/2021 ii. Derbyn a nodi Adroddiad y Trysorydd a’r Datganiad Ariannol iii. Cyfarfod 23 Chwefror 2021: Cyfarfod ar-lein, gwahoddir hyd at 4 aelod CYSAG
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: i. Derbyniwyd y nodiadau a’r cofnodion o gyfarfod CYSAG Cymru a gynhaliwyd ar 16/06/2021. ii. Derbyniwyd Adroddiad a Datganiad Ariannol y Trysorydd. iii. Cyfarfod CYSAG Cymru 23 Tachwedd 2021: Cytunwyd ar ein cynrychiolwyr fel y Cynghorydd L. Brown, Mrs S. Gooding a Mrs B. Quinlan |
|||||||||||||||||||||||
Diwrnod Coffau’r Holocost Diwrnod Coffau’r Holocost: dydd Iau 27 Ionawr 2022 – Thema “Un Diwrnod” https://www.hmd.org.uk/what-is-holocaust-memorial-day/
https://www.hmd.org.uk/what-is-holocaust-memorial-day/this-years-theme/
Cofnodion: Cytunodd Sharon Randall – Smith fynd ar drywydd trefniadau i goffáu Diwrnod Cofio’r Holocost. |
|||||||||||||||||||||||
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Hysbyswyd yr aelodau bod Cynhadledd Addysg Grefyddol Chweched Dosbarth Ysgol Gyfun Trefynwy ar 18 Tachwedd 2021 gyda gweithdai amrywiol. Mrs S. Cave a'r Parchg J. Greaves fydd yn cyfrannu at y digwyddiad.
|
|||||||||||||||||||||||
Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd dilynol: i. 19 Mai 2021 ii. 23 Mehefin 2021
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19eg Mai 2021 fel rhai cywir.
Cadarnhawyd cofnodion 23ain Mehefin 2021 yn amodol ar y newid teipograffyddol a ganlyn i eitem 2: Rhaid bod yn glir ar ofynion cyfreithiol yn enwedig gan mai Cristnogol yn bennaf yw’r traddodiadau crefyddol a’r prif grefyddau eraill. Mae defnyddio’r ymadrodd “Ystod o grefyddau” yn anghywir gan ei fod ond yn ymdrin â Christnogaeth a phrif grefyddau Cymru. |
|||||||||||||||||||||||
Nodi mai dyddiad y cyfarfod nesaf yw 9 Mawrth 2022 Cofnodion: Nodi mai dyddiad y cyfarfod nesaf yw 9 Mawrth 2022 |