Lleoliad: Remote Meeting. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Cadarnhad o benodiad yr Aelod Cabinet dros Addysg gan Gyngor y Cabinet fel Cadeirydd CYSAG Cofnodion: Cadarnhawyd mai’r Cynghorydd Sir P. Pavia, Aelod Cabinet Addysg, yw’r Cadeirydd a benodwyd gan y Cyngor Sir.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn brseennol.
|
|
Diweddariadau Aelodaeth CYSAG Cofnodion: Rhoddodd y Clerc ddiweddariad ar yr aelodaeth fel sy’n dilyn
Cynghorwyr Sir: Cynghorydd Sir L. Brown: Wedi symud o fod yn cynrychioli’r Eglwys Fethodistaidd Cynghorydd Sir T. Thomas Cynghorydd Sir P. Pavia Cynghorydd Sir M. Powell (newydd): Penodwyd 12 Mai 2021 Lle gwag (yn flaenorol Cynghorydd Sir A. Webb) Lle gwag (yn flaenorol Cynghorydd Sir J. Watkins)
Cynrychiolwyr Ffydd: Cynrychioli’r Eglwys yng Nghymru (1): Lle gwag (Sharon Randall-Smith i gysylltu Cynrychioli’r Eglwys Gatholig (1): A. Szwagrzak Cynrychioli Cyngor yr Eglwysi Rhyddion (4) · Lle gwag (Cynghorydd Sir L Brown i wneud trefniadau i lenwi’r lle gwag) · Suzanne Gooding (Eglwys Bresbyteraidd/Eglwys y Bedyddwyr) · Parch J Greaves · Nick Pryor (Byddin yr Iachawdwriaeth) Cynrychioli’r Ffydd Baha’i: Mrs. S. Cave Cynrychioli’r Ffydd Bwdhaidd: Ngakpa Namgyal Chatral Cynrychioli’r Ffyrdd Hind?aidd: Lle gwag Cynrychioli’r Ffydd Iddewig: Lle gwag Cynrychioli’r Ffydd Mwslimaidd: Lle gwag Cynrychioli’r Ffydd Sikhaidd: Lle gwag
Cynrychioli Cymdeithasau Athrawon (7)
Lle gwag Mr. N. Jenkins Lle gwag - Ms. C. Smith: yn awr yn gweithio tu allan i’r sir Lle gwag posibl - Ms. K. Wilding: ar secondiad Lle gwag - Ms. K. Christofi: Gormod o ymrwymiadau – hapus i gamu lawr. Ms. M. Millington Mrs. S. Hamar
GWEITHREDU: Sharon Randall -Smith i godi mater lleoedd gwag gyda JAG
Aelodau Cyfetholedig (2) Lle gwag Lle gwag
Ymgynghorydd Addysg Grefyddol Paula Webber
Cynrychioli’r Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc Sharon Randall-Smith
Mynegwyd pryder am y diffyg amrywiaeth yn y ffyddau a gaiff eu cynrychioli a phenderfynwyd cysylltu â’r Cyngor Rhyng-ffydd i gael cymorth wrth lenwi lleoedd gwag. Cytunwyd y gellid enwebu person ifanc fel Aelod Cyfetholedig drwy’r Fforwm Ieuenctid (gyda sicrwydd asesiad risg diogelu perthnasol). Cytunwyd hefyd i gynnig lle cyfetholedig i’r Cyngor Rhyng-ffydd.
CAMAU GWEITHREDU: Y Clerc/Paula Webber i gysylltu â Chyngor Rhyng-ffydd Cymru yng nghyswllt cynrychiolaeth ffydd. Sharon Randall-Smith i wneud trefniadau ar gyfer cynrychiolydd pobl ifanc.
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf gan Ymgynghorydd Addysg Grefyddol y GCA Cofnodion: Rhoddodd Paula Webber, Cynghorydd Addysg Grefyddol, gyflwyniad i ddiweddaru pawb ar ddatblygiadau ers y cyfarfod blaenorol gan roi sylw i’r dilynol: · Datblygu Cwricwlwm ac Asesiad: gwnaed rhai addasiadau yn dilyn derbyn ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’r Bil Cwricwlwm ac Asesu yn awr yn gyfraith. Mae’n rhaid i’r maes llafur a gytunwyd gennym roi ystyriaeth i’r Cwricwlwm i Gymru a maes dysgu a phrofiad Dyniaethau. Cylchredwyd y sleidiau’n amlinellu’r prif newidiadau. · Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol: Mae EAS wedi dechrau dysgu proffesiynol Uwch Arweinyddiaeth. bydd hyfforddiant Arweinyddiaeth Ganol yn dechrau ar ôl hanner tymor. Trefnwyd cyfarfodydd gyda Phenaethiaid Dyniaethau a Phenaethiaid Crefydd Gwerthoedd a Moeseg (RVE). Mae Paula ar gael i gwrdd gydag ysgolion yn y Sir, hefyd yr arweinwyr cwricwlwm o Rhwydwaith Dysgu Ysgolion ar gyfer datblygu cwricwlwm. · Cyllid ar gyfer rhaglen o Ddysgu Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer RVE: Croesawyd y newyddion y rhoddwyd cyllid ar gyfer dysgu proffesiynol. · Fframwaith cefnogi RVE – credir y cafodd y drafft ei gwblhau. Disgwyliwn hysbysiad am drefniadau ymgynghori. · Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru: nid oes diweddariad ar gael. Cyflwynwyd ymateb CYSAG a disgwylir y canlyniad. · TGAU a Lefel A: cydnabyddir fod athrawon dan bwysau sylweddol wrth gynnal asesiadau ar y ddwy lefel. · Rôl CYSAG mewn Monitro a Chefnogi RVE: Disgwylir canllawiau. Cytunwyd y dylai CYSAG drafod y cyfrifoldeb hwn ac yn y cyfamser gofynnwyd am fynediad i’r Hwb ar gyfer aelodau CYSAG sy’n dymuno cael mynediad i adnoddau. · Estyn: Holwyd am ddulliau arolygu’r dyfodol a rôl CYSAG. Cytunwyd y dylid gofyn i CYSAG Cymru os oes cynlluniau i gwrdd gydag Estyn. Rhoddwyd diweddariad am newidiadau i arolygu oherwydd y pandemig ac i newidiadau yn y rheoliadau ar gyfer casglu a chofnodi data. Ni fydd arolygiadau yn cynnwys barn a rhoddir enghreifftiau yn y testun o safonau a welwyd. Bydd hunanarfarnu yn allweddol. Dylai CYSAG ei fodloni ei hun am reolaeth ysgolion wrth gyflwyno’r cwricwlwm yn RVE. Fel man cychwyn, byddwn yn gofyn am ddatganiad safle a hwyluswyd gan EAS [GWEITHREDU: SRS]. · Gweithgor Gweinidogol (cyfraniadau BAME, y gymuned a Cynefin yn y cwricwlwm newydd). Bydd y Cynghorydd Addysg Grefyddol yn canfod os oes dolen ar gael i’r recordiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 51 argymhelliad gyda £500,000 ar gyfer gweithredu yng Nghymru. Rhaid bod dull gweithredu ysgol gyfan a bydd RVE yn ffurfio rhan sylweddol. Mae angen i CYSAG drafod yr hyn y gall ei wneud i gefnogi ysgolion. · Podlediadau Dyniaethau EAS: Mae detholiad ar gael yn gyfleus ar wefan EAS. · Adnoddau ar gyfer ysgolion: Mae’r adnoddau a argymhellir ar gael i’r Rhwydwaith Rhyng-ffydd (DU). Dylid anfon y ddolen i ysgolion ond gall fod yn rhaid addasu’r cynnwys er mwyn cydymffurfio.
Gwnaeth Aelod o’r gr?p y pwyntiau dilynol:
· Gofynnwyd am y sleidiau cyflwyno. · Yng nghyswllt BAME, dywedwyd nas ymgynghorwyd â Grwpiau Ffydd. Cytunwyd fod hwn yn bwynt pwysig. Holwyd os bydd ymgynghoriad tebyg gyda ffydd a chredo. Byddir yn codi’r pwynt hwn gyda CYSAG Cymru. · Ar gyfer yr ymgynghoriad ar ddrafft fframwaith RVE, gofynnwyd am i ddolen gael ei chylchredeg at bob aelod. · Yng nghyswllt ymgynghoriad Estyn a ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau ategol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Llywodraeth Cymru (mwy o wybodaeth i ddilyn) Dolenni pellach i Bapurau/Gwybodaeth er gwybodaeth ac ystyriaeth · Adnoddau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gan sefydliad Inter Faith Network UK (Blynyddoedd 7 – 9) - wedi’u cynllunio i'w defnyddio yn Lloegr ond gellir eu haddasu i gyd-fynd â chwricwlwm Dyniaethau/Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar lefel eich ysgol. Gweithgaredd Rhyng-Ffydd yn y DU: adnodd athrawon ar gyfer disgyblion uwchradd 11-14 oed - Adnoddau - y sefydliad Inter Faith Network UK
Cofnodion: Nodwyd y bu oedi yn y dyddiad ymgynghori. Gobeithir y bydd ar gael ar gyfer i ni ei ystyried yn y dyfodol agos. Caiff ei gylchredeg cyn gynted ag y bydd ar gael.
Cytunwyd y byddai angen i ni roi ystyriaeth fanwl i’r canllawiau cefnogi RVE a chynigwyd cynnal cyfarfod arbennig (gofynnwyd am gyfarfod wyneb i wyneb). Gofynnwyd i Aelodau ddarllen ac anodi’r ddogfen cyn y cyfarfod.
Tanlinellwyd pwysigrwydd ymgynghori ar y canllawiau gan mai hyn yn y pen draw fydd y sail ar gyfer y gynhadledd ar y maes llafur a gytunwyd.
|
|
Busnes CYSAG Cymru · i. Derbyn cofnodion cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar Ddydd Mawrth, 23ain Mawrth, 2021 (ynghlwm) ii. Pleidlais Etholiad Gweithredol CCYSAGauC (papurau i'w hanfon ymlaen pan gânt eu derbyn) iii. Nodi dyddiadau cyfarfodydd CCYSAGauC yn y dyfodol a chadarnhau cynrychiolaeth:
Cofnodion: Bydd Sue Cave a’r Cynghorydd Sir Louise Brown yn mynychu cyfarfod CYSAG Cymru o bell ar 16 Mehefin 2021. Mae un lle arall ar gael felly gofynnwyd am ddatganiadau diddordeb.
|
|
Cofnodion cyfarfod CYSAG Cymru a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2021 Cofnodion: Derbyniwyd y cofnodion. Dan ‘Cyflwyniad NAPfRE – Bil Cwricwlwm’ nodwyd y dylai’r ddilynol ddarllen:
“Yn y ddeddfwriaeth ar gyfer y ddeddf cydraddoldeb maent
yn rhoi eithriad ar gyfer gwahaniaethu yng nghyswllt
|
|
Cofnodion: Nodwyd y cofnodion.
|
|
I gadarnhau dyddiad cyfarfod nesaf CYSAG fel yr 20fed Hydref 2021 |