Agenda and minutes

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol - Dydd Mercher, 24ain Chwefror, 2021 10.00 am

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso ac ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i’r Parch J. Greaves sy’n ymuno â CYSAG gan gynrychioli Cyngor yr Eglwysi Rhyddion (Eglwys y Bedyddwyr) yn lle’r Parch P. Baines, sy’n ymddeol fel Gweinidog adeg y Pasg. Diolchwyd i’r Parch Baines am fod yn aelod o CYSAG a’i gyfraniad, a dymunwyd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blynyddol a gynhaliwyd ddydd Gwener 13 Tachwedd 2020 a materion yn codi pdf icon PDF 111 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf.

 

Cadarnhawyd y cafodd yr adroddiad blynyddol ei ddiwygio a’i anfon fel sydd angen.

 

Gofynnwyd bod pob swydd wag yn cael eu cofnodi ar yr Agenda.

 

3.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

4.

Diweddariad Aelodaeth SACRE

Cofnodion:

Cadarnhawyd y swyddi gwag dilynol::

 

Cynrychiolwyr y Cyngor Sir:

2 le gwag ar gyfer Cynghorwyr Sir – Hysbyswyd Arweinwyr Grwpiau’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Bydd y Cadeirydd yn dilyn lan ar y ceisiadau hyn.

 

Cynrychiolwyr Ffydd:

1 lle gwag ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru – i ddilyn Dr. A. Daly – bydd yr Eglwys yng Nghymru yn rhoi gwybod am aelod newydd maes o law

1 lle gwag Hind?aidd

1 lle gwag Iddewig

1 lle gwag Mwslimaidd

1 lle gwag Sikhaidd

 

Cynrychiolwyr Athrawon:

1 lle gwag i Athrawon yn lle Andrew Jones

1 lle gwag posibl yn lle Karen Christofi

 

2 le gwag ar gyfer Aelodau Cyfetholedig

 

5.

Diweddariad gan Gynghorydd Addysg Grefyddol EAS: pdf icon PDF 221 KB

·         Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) – cam 3

·         Fframwaith RVE

·         EAS –  Rhwydwaith Ysgolion Dysgu Proffesiynol a Dysgu Dyniaethau

·         Rhestr chwarae Cefnogi ein Hysgolion

·         Adnoddau Dysgu o Bell Hwb ar gyfer Addysg Grefyddol ac Astudiaethau Crefyddol

·         Asesiad allanol TAG/TGAU

 

Dolenni pellach i bapurau/gwybodaeth ar gyfer gwybodaeth ac ystyriaeth Eitem 5.

 

·         Cam 3 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) Erthygl newyddion Canolfan St Giles

·         CBAC – Gwybodaeth ar asesiad ar gyfer  2021

·         CBAC – Adnoddau am ddim ar ddysgu cyfunol ar gyfer Addysg Grefyddol

·         CBAC – Amserlen ar gyfer Athrawon

·         Estyn https://youtu.be/wYxIyKL88KA (fideo byr yn crynhoi dull gweithredu newydd)

·         Adolygiadau ac Ymgynghoriadau Estyn

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Addysg Grefyddol ddiweddariad a gefnogwyd gan gyflwyniad PowerPoint fel sy’n dilyn:

 

·         Bil Cwricwlwm i Gymru: Roedd y Pwyllgor Addysg Plant a Phobl Ifanc wedi gwneud ychydig o ddiwygiadau wrth gwblhau Cam 2 e.e. newid ‘Prydain Fawr’ am ‘Cymru’. Mae hefyd yn cynnwys adlewyrchu gofyniad bod amrywiaeth o gredoau damcaniaethol heb fod yn grefyddol a ddelir yng Nghymru. Yng nghyswllt aelodaeth, eglurwyd y byddai cynrychiolwyr heb fod yn grefyddol yn eistedd o fewn Pwyllgor A os y’i penodir i CYSAG. Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol roi ystyriaeth i unrhyw arweiniad a roddir gan Weinidogion Cymru pan maent yn penodi pobl i gr?p cynrychioladol. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol roi ystyriaeth i nerth crefydd a chredo yn ei ardal wrth wneud apwyntiadau i Gr?p A. Mae trafodaeth ar y cam 3 yn y Senedd ar 2 Mawrth 2021 a chaiff ei darlledu ar Deledu’r Senedd. Mae’r fframwaith ar gyfer Crefydd Gwerthoedd a Moeseg (RVE) yn y broses o gael ei golygu.

 

Gofynnodd Aelod os oes unrhyw ddiwygiad i adlewyrchu prif grefyddau a safbwyntiau. Esboniwyd y bydd yn rhoi ystyriaeth i brif grefyddau (yn cynnwys credoau diwinyddol heb fod yn grefyddol) heb eu rhestru’n benodol.

 

·         EAS: Mae adnoddau dysgu digidol a chyfunol ar gael ar wefan EAS ar gyfer RVE. Mae cyfarfodydd Rhwydwaith Dysgu Proffesiynol Dysgu a Dyniaethau yn parhau’n llwyddiannus. Caiff y cyfleoedd rhwydweithio a rhannu adnoddau eu cyfoethogi drwy gynnal cyfarfodydd o bell. Mae ysgolion cynradd yn edrych am ddysgu proffesiynol ac mae rhestr chwarae o ddeunyddiau yn cael ei datblygu. Bydd hyn ar gael i bob ysgol. Mae cefnogaeth bwrpasol hefyd ar gael ar gais. Addewir adnoddau ar gyfer dysgu o bell ar Hwb ond nid ydynt ar gael hyd yma.

 

·         TGAU: Mae tarfu yn parhau i fod ar TGAU ac eleni cânt eu dyfarnu ar fodel o raddau a benderfynir gan ganolfannau ar bapurau o’r gorffennol wedi eu diwygio. Ni fydd arholiadau. Mae adnoddau dysgu cyfunol hefyd ar gael gan CBAC.

 

·         Estyn: Caiff Aelodau eu hannog i ddefnyddio’r dolenni yn y cyflwyniad gan nodi nad oedd unrhyw arholiad y llynedd ac felly na all CYSAG gynnal monitro ar hyn o bryd. 

 

Gofynnodd Aelod pryd yr ymgynghorir â CYSAG ar fframwaith RVE yn cynnwys y fframwaith ar gyfer ysgolion ffydd. Credir fod cynlluniau i ymgynghori ar y fframweithiau ond nid oes unrhyw fanylion pellach ar gael.

 

 

6.

Ymateb i ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ‘Cymwys ar gyfer y dyfodol’ pdf icon PDF 807 KB

Dolenni pellach i Bapurau/Gwybodaeth ar gyfer gwybodaeth ac ystyriaeth

Eitem 6.

 

Dogfen ymgynghori Cymwysterau Cymru (gweler yn neilltuol t. 22-26 yn ymwneud â’r Dyniaethau)

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Gweminar - https://youtu.be/Y78x8Ut4GN8

Ffurflen archebu ar gyfer Gweminar Dyniaethau Cymwysterau Cymru  – (4 Mawrth)

 

 

Cofnodion:

Mae Cymwysterau Cymru yn ymgynghori ar gymwysterau ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae’n cynnig llunio’r ystod o gymwysterau ar gyfer Dyniaethau:

·         Adolygu a diwygio TGAU mewn Busnes, Daearyddiaeth, Hanes ac Astudiaethau Crefyddol;

·         Os yn ddichonadwy, creu TGAU newydd mewn Astudiaethau Cymdeithasol; ac

·         Os yn ddichonadwy, creu TGAU integredig mewn Dyniaethau.

 

Soniodd y Cynghorydd Adnoddau Dynol am rai pwyntiau posibl i’w trafod::

 

·         A ddylai cymwysterau ar wahân fod ar gael ar gyfer pob un o’r pum pwynt;

·         Effaith TGAU integredig mewn Dyniaethau ar y gofyniad gorfodol i addysgu Addysg Grefyddol yn 14-16, a’r cwrs llawn. Mae Addysg Grefyddol yn orfodol tan 16 oed;

·         Yr angen i gymwysterau fod yn hygyrch i bob dysgwr ac i gael eu gwobrwyo am ddwy flynedd o astudiaeth orfodol o Addysg Grefyddol;

·         A ddylai cwrs byr TGAU Addysg Grefyddol barhau;

·         Os caiff ei weithredu, byddai’r Bil Cwricwlwm ac Asesu yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhan fwyaf o ysgolion a gyllidir yn gyhoeddus i ddilyn maes llafur cyffredin a gytunwyd. A fyddai diwygio hyn i feysydd llafur a gytunwyd yn lleol?

·         Er yn caniatáu i rai ysgolion a gyllidir yn gyhoeddus gyda chymeriad crefyddol  ddilyn maes llafur enwadol, a fyddai unrhyw gymhwyster diwygiedig y bwriedir iddo gefnogi elfen RVE y cwricwlwm i Gymru yn ddigon hyblyg i gefnogi gwahanol ddulliau gweithredu lleol; a

·         Nid yw Cymwysterau Cymru wedi sôn am ymgynghori gyda CYSAG ac awdurdodau lleol.

 

Y cwestiynau yw:

 

1.       I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’n cynigon i adolygu ac ad-drefnu TGAU mewn Busnes, Daearyddiaeth, Hanes ac Astudiaethau Crefyddol?

2.    I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’n cynnig i greu TGAU newydd mewn Astudiaethau Cymdeithasol, os yw’n ddichonadwy?

3.    I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno gyda’n cynnig i greu cymhwyster TGAU Dyniaethau newydd integredig, os yw’n ddichonadwy?

 

Cyfrannodd Aelodau CYSAG eu sylwadau fel sy’n dilyn:

 

·         Mae Cymwysterau Cymru yn cyfaddef na ystyrir bod cymhwyster cyfun Dyniaethau yn ddichonadwy. Ychydig o gefnogaeth sydd mewn ysgolion gan e.e. adrannau Hanes a Daearyddiaeth;

·         Pryder y byddai’r cynnwys Addysg Grefyddol mewn Dyniaethau integredig yn cael ei wanhau;

·         Pryder am ddefnyddio athrawon heb fod yn arbenigol i addysgu’r elfen Addysg Grefyddol. Mae ychwanegu Astudiaethau Cymdeithasol yn ychwanegu at y pryder hwn; 

·         Mae’n bwysig cadw TGAU Addysg Grefyddol a chynnwys cwrs byr i gynnwys y maes llafur a gytunwyd; mae cymhwyster yn bwysig ar ddiwedd cwrs astudiaeth;

·         Dylai pynciau dyniaethau fod ar wahân. Bydd yn rhy anodd i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio ymhellach i deimlo’n barod a hyderus i ddechrau ar gwrs Lefel A mewn pwnc nad ydynt wedi ei astudio ar gyfer TGAU;

·         Pryder y byddai cynnwys pob pwnc sy’n rhan yn cael eu gwanhau;

·         Mae astudiaethau Estyn yn dangos fod defnydd da ar Addysg Grefyddol yng Nghymru a chanlyniadau da;

·         Dylai ysgolion Gwladol a Ffydd gael yr opsiwn i wneud TGAU os dymunant yn ôl ymagwedd enwadol. Mewn ysgol wladol, byddai’n ddefnyddiol os yw myfyriwr eisiau gwneud math ysgol ffydd o TGAU, y dylent gael yr opsiwn hwn yn hytrach na’r TGAU arferol  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddariad CYSAG Cymru a nodi dyddiadau cyfarfodydd CYSAG Cymru yn y dyfodol a chadarnhau cynrychiolwyr:

·         Gwanwyn – Cyfarfod rhithiol a groesewir gan CYSAG Caerffili – Dydd Mawrth 23 Mawrth

·         Haf – Powys (i’w gadarnhau)

 

 

Cofnodion:

Cynhelir cyfarfod nesaf CYSAG Cymru ar 23 Mawrth 2021 (y noddwyr yw CYSAG Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili). Gall tri chynrychiolydd fynychu. Mynegodd Dr. L. Brown, Mrs S. Cave a’r Cynghorydd Sir T. Thomas ddiddordeb.

 

Mae CYSAG Cymru wedi cynnal arolwg mawr o staff addysgu sydd wedi dangos yr angen am ymagwedd genedlaethol at ddysgu proffesiynol ar gyfer RVE. Cyflwynir papur i Lywodraeth Cymru.

 

Gobeithir lansio gwefan newydd CYSAG Cymru yng nghyfarfod 23 Mawrth.

 

Anogwyd Aelodau i ddilyn CYSAG Cymru ar Twitter a  Facebook.

 

8.

Cadarnhau dyddiad cyfarfod nesaf CYSAG fel dydd Mercher 19 Mai 2021 am 10.00 am.

Cofnodion:

Nodwyd dyddiad y cyfarfod nesaf. Cytunwyd y byddai dull o bell y cyfarfod yn parhau gyda’r golwg ar arbed amser teithio a chostau staff llanw.

 

Cytunwyd hefyd i gynnal cyfarfod wyneb-i-wyneb achlysurol, efallai blynyddol. Ystyriwyd hefyd yr opsiwn hybrid o gael rhai pobl yn ymuno â chyfarfodydd wyneb i wyneb o bell.