Lleoliad: Room P3 - County Hall, The Rhadyr, Usk. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nodi penodiad y Cadeirydd fel yr Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc fel y'i penodwyd gan y Cyngor Cofnodion: Nodwyd y penodiad gan y Cyngor o’r Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc i swydd y Cadeirydd, sef y Cynghorydd Sirol R. John.
|
|||||||||||||||||||
Ethol Is-gadeirydd Cofnodion: Penodwyd Mr. A. Jones yn Is-gadeirydd |
|||||||||||||||||||
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|||||||||||||||||||
Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28ain Mawrth 2019 a'u llofnodi fel bod yn rhai cywir. Cadarnhawyd bod eitem 9 o'r cofnodion wedi'i hanfon fel yr ymateb i'r Papur Gwyn.
|
|||||||||||||||||||
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o'r cyhoedd yn bresennol.
|
|||||||||||||||||||
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am aelodaeth. Cofnodion: Darparodd y Clerc ddiweddariad aelodaeth fel a ganlyn:
Nodwyd y byddai llythyr yn cael ei anfon at Sefydliad Onyx i ofyn am gymorth i lenwi swyddi gwag y cynrychiolwyr ffydd. Bydd cyswllt hefyd yn cael ei wneud gyda sefydliad Cytûn.
Ceisiwyd arweiniad Llywodraeth Cymru ar gynrychiolaeth Ddyneiddiol ar bwyllgor CYSAG. Nodwyd nad yw'r mater hwn i CYSAG ei bennu; caiff adroddiad ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Gorffennaf i ddiwygio'r cylch gorchwyl ac i ystyried cynrychiolydd dyneiddiol.
Cynhaliwyd trafodaeth ar ddiffinio crefyddau a chredoau.
|
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyhoeddwyd bod CYSAGau ledled rhanbarth De-ddwyrain Cymru wedi cytuno i ffurfio gweithgor cydweithredol i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Gwricwlwm Cymru 2022. Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 19 Gorffennaf. Mae'n bwysig iawn bod barn CYSAGau yn cael eu clywed ar le ac amlygrwydd Addysg Grefyddol o fewn y cwricwlwm, yn enwedig o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Byddai gwahanol safbwyntiau'n cael eu cadw rhwng CYSAGau yn cael eu cofnodi yn yr ymateb cydweithredol.
Y bwriad yw annog cynifer o athrawon â phosibl i gymryd rhan yn y gweithgor hwn a hefyd bod pob CYSAG yn anfon o leiaf un aelod arall.
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnal y gweithgor hwn ar ddydd Mawrth 9fed Gorffennaf, 10.00am tan 3.00pm.
Rhoddwyd diweddariad bod rhai dyddiadau wedi'u trefnu i weithio ar y fframwaith Addysg Grefyddol. Fe'i cyhoeddir ar ffurf drafft ar gyfer ymgynghori â CYSAGau.
Rhoddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol gyflwyniad ar y Dyniaethau a chytunwyd y bydd yn cael ei ddosbarthu i'r holl Aelodau.
|
|||||||||||||||||||
Monitro Addysg Grefyddol ac Addoli ar y Cyd |
|||||||||||||||||||
Adroddiadau arholiadau TGAU a TAG (i'w cyflwyno) Cofnodion: Derbyniwyd yr adroddiad a gwnaed y sylwadau canlynol:
</AI9> <AI10>
|
|||||||||||||||||||
Adroddiadau Arolygu Estyn (i'w cyflwyno) Cofnodion: Ystyriodd CYSAG drosolwg arolygiad Estyn a nododd y bydd Estyn yn awr yn rhoi sylwadau ar ddatblygiad ysbrydol, lle o'r blaen roedd yn aml yn farn ar addoli ar y cyd. Mae Estyn wedi gofyn i NAPFRE am ragor o fanylion i'w helpu i lunio barn.
Ni nodwyd unrhyw faterion. Roedd cyfeiriadau da at ansawdd addoli ar y cyd, gan nodi bod gwasanaethau'n cael eu harwain gan ddisgyblion weithiau a bod cyfleoedd ar gyfer ymwybyddiaeth foesol megis gwrth-fwlio.
Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol wrth CYSAG ei bod hi'n trefnu bod hyfforddiant ar gael i godi proffil datblygiad ysbrydol ar draws y cwricwlwm.
Nodwyd bod y fframwaith arolygu wedi newid ac y bydd mwy o hunanwerthuso. Mae'r awdurdod lleol yn galw am adroddiadau manylach. Awgrymwyd bod angen ail-werthuso sut rydym yn adolygu Addysg Grefyddol mewn ysgolion a sut y byddwn yn monitro hyn hefyd. Bydd atal y cylch arolygu ym 2020 yn rhoi'r cyfle i gynnal adolygiad.
Bydd yr awdurdod yn aros i weld y newidiadau o adolygiad Estyn yna ystyried diwygio'r ffurflen hunan-arfarnu.
Eglurwyd bod y broses hunan-arfarnu yn cynnwys argymhellion o feysydd i'w datblygu a gellir ychwanegu'r rhain at Gynllun Datblygu'r Ysgol.
Awgrymwyd, fel dilyniant i dderbyn adroddiadau arolygu, y gellid danfon llythyron llongyfarch neu lythyron yn cynnig cymorth oddi wrth CYSAG.
Gellir gofyn i ysgolion hefyd a ydynt yn barod i rannu'r arferion gorau. Bydd CYSAG yn trefnu i ymweld ag ysgolion arfer gorau.
|
|||||||||||||||||||
Adroddiadau Hunan-arfarnu (i'w cyflwyno) Cofnodion: Dywedodd un aelod ei bod yn destun pryder gweld bod adroddiad Ysgol Cas-gwent yn nodi wrth fynd ymlaen nad oedd myfyrwyr AS ac nid oedd blwyddyn 9. Byddai wedi disgwyl gweld rhywfaint o'r opsiynau'n cael eu dewis. Rhoddwyd diweddariad mai'r adroddiad yw'r un hynaf a gyflwynwyd ac mae llawer wedi digwydd ers ei gyhoeddi. Mae trafodaeth ar y gweill am y potensial ar gyfer gwaith cydweithredol gydag Ysgol Cil-y-coed.
Cytunwyd y bydd adroddiad hunan-arfarnu Ysgol Cil-y-coed yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.
|
|||||||||||||||||||
CCYSAGauC |
|||||||||||||||||||
I dderbyn a nodi cofnodion drafft cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019 PDF 371 KB Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar yr 28ain Mawrth 2019.
Hysbyswyd CYSAG bod cyfarfod wedi'i gynnal gyda Kevin Palmer (Llywodraeth Cymru, Diwygio'r Cwricwlwm) i edrych ar ddysgu proffesiynol a chyllid ar gyfer Addysg Grefyddol. Roedd yr ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn bresennol yn y cyfarfod a gobeithiai mai un canlyniad fydd cyllid ar gyfer dysgu proffesiynol i athrawon Addysg Grefyddol.
|
|||||||||||||||||||
Ystyried enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith CCYSAGauC PDF 66 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ardystiodd CYSAG yr enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gweithredol CCYSAGauC fel: Mark Prevett, Andrew Jones a Matthew Maidment.
Cefnogwyd enwebiad Rachel Samuel i swydd yr Is-gadeirydd gan CYSAG.
|
|||||||||||||||||||
I nodi dyddiadau cyfarfodydd CCYSAGauC y dyfodol: Dydd Gwener 28ain Mehefin 2019 - Bae Colwyn, Conwy. Cofnodion: Nodwyd y byddai Paula Webber, Andrew Jones a Dr Louise Brown yn bresennol yn y cyfarfod; y lle dros ben i'w gynnig i Aelodau CYSAG eraill.
|
|||||||||||||||||||
Cofnodion: Derbyniodd CYSAG gopi o Fwletin Newyddion yr Haf. Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol at erthygl sydd wedi'i hepgor o'r rhifyn hwn. Bydd hwn yn cael ei chyhoeddi yn y bwletin nesaf.
|
|||||||||||||||||||
Diweddariad Gohebiaeth Cofnodion: Anfonwyd gwahoddiad i aelodau CYSAG i gynhadledd AREIAC ar y 1af Gorffennaf 2019.
Derbyniwyd y ddogfen Archwilio Seciwlariaeth. Cytunodd Andrew Jones i adolygu'r llyfryn ac adrodd yn ôl ar ei addasrwydd i gael ei gymeradwyo gan CYSAG.
Roedd Aelod o'r farn y dylid rhoi llai o bwyslais ar bynciau nad ydynt yn grefyddol er mwyn caniatáu mwy o amser ar gyfer Addysg Grefyddol, gan nodi bod cwricwlwm yr Alban yn cwmpasu prif grefyddau yn bennaf a bod ganddynt lai o gynnwys ar gredoau'r byd. Awgrymwyd y bydd dyraniad amser yn llai pwysig gan nad yw'r cwricwlwm yn ymestyn i gredoau anghrefyddol, gan fod y rhain eisoes mewn lle. Nid oedd y pryderon yn cael eu rhannu’n gyffredinol. Ychwanegwyd mai'r pwyslais o fewn y cwricwlwm newydd fydd y dylai addysgu am farn grefyddol ac anghrefyddol fod yn wrthrychol, beirniadol a lluosol.
|
|||||||||||||||||||
Effeithiolrwydd CYSAG (i gynnwys trafodaeth ar yr argymhellion a wnaed gan Estyn) PDF 41 KB Cofnodion: Trafododd CYSAG argymhellion yr adroddiad. Nodwyd bod y GCA yn cyflwyno hyfforddiant ar y Dyniaethau.
Gall CYSAG helpu gyda chyngor i ysgolion ar faterion sensitif yn ôl y gofyn a gall ysgolion gael eu cefnogi'n fwy cyffredinol ar faterion addysg grefyddol. Nodwyd bod rhai rhieni weithiau'n pryderu am ymweld â safleoedd crefyddol, er enghraifft. Gall CYSAG hefyd hwyluso'r broses i ysgolion gwrdd â phobl o grefyddau eraill drwy ddatblygu cysylltiadau. Cytunwyd y byddai'r ymweliadau a chanllaw ymwelwyr a awgrymwyd yn cael eu hailgyhoeddi i ysgolion ar y ddealltwriaeth nad yw hon yn rhestr gymeradwy.
GWEITHREDU (PW): Cytunwyd bod angen gwirio canlyniadau'r arolwg ar gyfer Sir Fynwy ar dynnu allan o addysg grefyddol.
|
|||||||||||||||||||
Nodi dyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd y dyfodol Cofnodion: Cytunwyd i bennu cyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn ac i'w dosbarthu i Aelodau yn unol â hynny.
|