Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywrain. Nid oes yna faterion eraill wedi eu codi.
|
|
Adroddiad Blynyddol PDF 464 KB Cofnodion: Roedd CYSAG/CYS wedi adolygu’r Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2021/22. Gwnaed ychydig o ddiwygiadau. Roedd yr adroddiad wedi ei gymeradwyo ar gyfer ei rannu.
|
|
Diweddariad ar y Cyfansoddiad Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Cyfreithiol ar gyfer CYSAG/CYS wedi nodi bod darn o waith angen ei wneud yn sgil y newidiadau cyfansoddiadol diweddar. Mae’r cylch gorchwyl yn golygu bod angen gwneud newidiadau o ganlyniad i ffurfioli’r broses o symud i’r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) a chyfrifoldebau gwaddol CYSAG. Wrth weithio gyda’r Partner Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) a’r Pennaeth Cyraeddiadau a Gwasanaethau Estynedig, mae gwaith yn parhau i baratoi adroddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf er mwyn argymell fod y Swyddog Monitro yn gweithredu’r newidiadau cyfansoddiadol angenrheidiol.
Cytunwyd y bydd fersiwn ddrafft o’r adroddiad yn cael ei rannu ag Aelodau mewn digon o amser cyn rhannu’r agenda fel bod modd gwneud sylwadau. Eglurwyd y bydd angen gwneud newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor Sir.
Gofynnodd yr Aelod am y datganiad ar yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a oedd yn rhan o’r adroddiad diwethaf i’r Cyngor, gan ddatgan ei fod yn fwy perthnasol i Addysg, Cydberthynas a Rhywioldeb yn hytrach na’r CGM gan nodi nad oes yna gyfle wedi bod i’r CYSAG/CYS i wneud sylwadau.
Esboniodd y Cynghorydd Cyfreithiol nad yw adolygu’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb o fewn cylch gorchwyl CYSAG ar hyn o bryd. Mae’r Asesiad yn cael ei baratoi gan y swyddog perthnasol fel rhan o’r adroddiad i lywio gwaith yr Aelod i wneud penderfyniadau er mwyn medru cydymffurfio gyda dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus yr Awdurdod. Mae cynnwys yr Asesiad yn rhywbeth ar wahân i unrhyw ddatrysiad.
Yn yr achos hwn, gwnaed penderfyniad gan y Cyngor i gymeradwyo Maes Llafur CGM fel na fyddai’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn agored i’w adolygu neu’i ddiwygio ar ôl y digwyddiad. Cydnabuwyd y dylid fod wedi darparu’r Asesiad ynghynt. Er mwyn osgoi hyn yn digwydd yn y dyfodol, bydd CYSAG/CYS yn cael gweld yr Asesiad cyn bod unrhyw adroddiad sy’n gwneud argymhellion yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor.
Awgrymodd yr Aelod y dylai fod yn bosib i’r Cyngor Llawn i dderbyn dogfen ddiwygiedig gan gyfeirio at Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Atgoffwyd Aelodau nad yw CYSAG yn Bwyllgor o’r Cyngor.
Roedd y Cadeirydd wedi gwneud cais fod y Cynghorydd Cyfreithiol yn paratoi adroddiad byr ar gyfer y cyfarfod nesaf er mwyn gwyntyllu sut i fynd i’r afael gyda’r pryderon yma ac i gynnig sicrwydd bod y materion yma wedi eu hystyried.
|
|
Diweddariad ar yr Aelodaeth PDF 108 KB - Nodi dyddiad ar gyfer Dysgu/Anwytho proffesiynol CYS
Cofnodion: Nodwyd fod Kate Wilding, Cynrychiolydd Athrawon, wedi ymddiswyddo o’r CYSAG/CYS ac mae pedair swydd wag nawr ar gyfer Cynrychiolwyr Athrawon. Bydd y Partner CGM a Phennaeth Cyraeddiadau a Gwasanaethau Estynedig yn chwilio am Gynrychiolwyr Athrawon newydd i lenwi pob un o’r rolau yma.
Bydd yr aelodaeth yn cael ei adolygu fel rhan o’r newidiadau cyfansoddiadol. Mae’r gwaith hwn yn parhau. Awgrymwyd bod modd adolygu amseru’r cyfarfod er mwyn annog mwy o staff o’r ysgolion i fedru mynychu.
Roedd Aelod wedi gofyn pwy y dylai ysgolion gysylltu gyda hwy yn lleol am agweddau o’r cwricwlwm e.e. a oes yna Ddyneiddwyr yn ymweld ag ysgolion. Cadarnhawyd y byddai cynrychiolydd Dyneiddiol yn ymuno gyda’r CYSAG/CYS o’r cyfarfod nesaf. Roedd y Partner CGM wedi cynnig cefnogaeth a chysylltiadau i ysgolion ar destunau ac mae’r cynrychiolydd o’r Eglwys yng Nghymru hefyd yn medru cynnig cefnogaeth.
Roedd Aelod yn deall apwyntio cynrychiolydd o daliadau athronyddol na sydd yn grefyddol ond wedi gofyn cwestiwn am apwyntio cynrychiolydd Dyneiddiol gan ddatgan fod y ddeddfwriaeth yn cyfeirio at gymesuredd yn yr ardal leol. Gofynnwyd a oedd grwpiau eraill hefyd o bosib yn gymwys felly e.e. Newid Hinsawdd ac o Blaid Bywyd a gofynnwyd a oedd yna Gr?p Dyneiddwyr yn Sir Fynwy.
Eglurodd y Cynghorydd Cyfreithiol fod cynrychiolydd Dyneiddiol eisoes wedi ei ychwanegu at y CYSAG/CYS gan y Cyngor Llawn. O ran cynrychiolydd o daliadau athronyddol na sydd yn grefyddol, mae modd ystyried cynrychiolaeth fesul achos, gan ddibynnu ar unrhyw ddiddordeb sydd wedi ei fynegi. Amlygwyd hefyd fod yna gyfle i gyfethol Aelodau yn y tymor byr, tra’n aros am newidiadau cyfansoddiadol.
|
|
GCA CGM – Diweddariad Partner PDF 355 KB - Adnoddau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Llywodraeth Cymru - Diweddariad Estyn - Darpariaeth monitro a’r ffordd ymlaen - HMD 2023 HMD – Pobl Gyffredin
Cofnodion: Roedd y Partner CGM wedi cynnig diweddariad ein bod yn aros am adnoddau Llywodraeth Cymru a dylai’r CCYSAGauC dderbyn y manylion yn y cyfarfod nesaf ar 16eg Tachwedd 2022.
Mae adroddiad cryno o’r arolygon Estyn sydd wedi eu cynnal ar yr agenda. Mae adran ar wahân wedi ei hychwanegu er mwyn delio gydag addoli ar y cyd. Mae CCYSAGauC a CYSAGau wedi nodi nad oes yna ddigon o sylw wedi ei roi i addoli ar y cyd ac mae hyn wedi ei godi ag Estyn. Yn y dyfodol, bydd adroddiadau arolwg yn cael eu cyflwyno i’r CYSAG/CYS bob tymor.
Roedd Aelodau CYSAG/CYS wedi eu gwahodd i rannu syniadau am sut i fonitro’r ddarpariaeth gyda’r Partner CGM.
Cytunwyd y byddai’n ddefnyddiol pe byddai modd danfon crynodeb a’r ddeddfwriaeth statudol i'r holl ysgolion am y gwahaniaeth rhwng addoli ar y cyd a CGM gan fod yna gamsyniadau ar draws y proffesiwn addysgu gan gynnwys Penaethiaid yngl?n â’r hyn sydd angen ei gyflenwi. Bydd y Partner CGM yn codi’r mater hwn gyda’r cyfarfod NAPFRE a gyda’r CCYSAGauC er mwyn gwneud cais am ganllawiau priodol. Roedd Aelod wedi dweud nad oedd y cwricwlwm wedi gwneud newidiadau i addoli ar y cyd. Dylai fod yn Gristnogol ei natur.
Bydd CYSAG/CYS yn danfon gwybodaeth i ysgolion am Ddiwrnod Cofio’r Holocost. Mae gwybodaeth am Wythnos Ryng-ffydd wedi ei rannu ag Aelodau CYSAG/CYS. Mae ceisiadau am Ysgoloriaethau Farmington ar gael i ysgolion ar gyfer prosiectau yn y brifysgol neu’r ysgol.
|
|
- Derbyn a nodi’r cofnodion drafft o’r cyfarfodydd CCYSAGauC - Nodi dyddiadau’r cyfarfodydd CCYSAGauC ar gyfer y dyfodol a’n cadarnhau cynrychiolaeth:
Hydref – Blaenau Gwent (Dydd Mercher, 16eg Tachwedd am 1.00p.m, Microsoft Teams)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd cofnodion drafft y cyfarfod CYSAGauC diwethaf wedi eu derbyn. Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 16eg Tachwedd 2022.
Ar 24ain Tachwedd 2022 am 10.00am, bydd yna Seminar Aelodau ar CYSAG/CYS a bydd yr holl Aelodau etholedig ac Aelodau CYSAG yn cael eu gwahodd.
|
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Roedd y Cadeirydd wedi annog holl Aelodau CYSAG /CYS i fynychu’r hyfforddiant ar 24ain Tachwedd 2022.
Y bwriad yw cynnwys trosolwg o’r cwricwlwm newydd yn y Seminar Aelodau.
|
|
Cadarnhau dyddiad y cyfarfod CYS nesaf – 15fed Chwefror 2023 Dyddiadau arfaethedig 2023/24
14eg Mehefin 2023 8fed Medi 2023 8fed Rhagfyr 2023 8fed Mawrth 2024
Cofnodion: Cadarnhawyd dyddiad y cyfarfod nesaf fel 15fed Chwefror 2023. Mae’r dyddiadau amodol ar gyfer y flwyddyn fel a ganlyn:
14eg Mehefin 2023, 3.00pm 8fed Medi 2023, 3.00pm 8fedRhagfyr 2023, 3.00pm 8fed Mawrth 2024, 3.00pm
|