Agenda and decisions
Lleoliad: Conference Room - Usk, NP15 1AD. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: To view meeting:
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant |
|
I ystyried yr adroddiadau canlynol (copdau ynghlwm): |
|
Adroddiad ar yr Ymgynghoriad yn ymwneud gyda chynnig i gau Ysgol Arbennig Mounton House PDF 183 KB Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob un
Pwrpas:Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws ysgolion Sir Fynwy ac o fewn yr awdurdod er mwyn trefnu darpariaeth i gefnogi ein dysgwyr bregus. Elfen benodol o’r gwaith hwn yw ffocysu ar anghenion y plant sydd yn cyflwyno ymddygiad heriol.
Yn dilyn yr ymgynghoriad ar gau Ysgol Arbennig Mounton House, pwrpas yr adroddiad hwn yw cyflwyno’r adroddiad ar yr ymgynghoriad i’r Cabinet a gofyn am eu cymeradwyaeth i symud ymlaen i’r cam nesaf i gau Ysgol Arbennig Mounton House a chyhoeddi hysbysiadau statudol.
Bydd y papur hwn yn darparu manylion i’r sawl sydd yn gwneud penderfyniadau yngl?n â sut y mae’r awdurdod lleol yn cefnogi’r myfyrwyr hynny, sydd yn Mounton House ar hyn o bryd, ar ôl yr 31ain o Awst 2020.
Awdur: Will McLean, Prif Swyddog, Plant a Phobl Ifanc
Manylion Cyswllt: willmclean@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Yn cytuno i gyhoeddi hysbysiadau ar gyfer cau Ysgol Arbennig Mounton House.
Mae’r Cabinet yn cytuno i ddefnyddio arian wrth gefn sy’n rhan o’r gronfa Buddsoddi i Arbed er mwyn ymestyn y Gwasanaeth Atgyfeirio Disgyblion ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol. Bydd hyn yn cael ei ad-dalu yn y ddwy flynedd ariannol. |
|
CYNLLUN CYLLIDOL TERM CANOLIG REFENIW A'R BROSES GYLLIDEB 2020/21 - 2023/24 PDF 176 KB Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob un
Pwrpas:Amlygu’r cyd-destun ar gyfer datblygu’r Cynllun Cyllidol Term Canolig (MTFP) ar gyfer 2020/21 - 2023/24
Cytuno ar y rhagdybiaethau sydd i’w defnyddio er mwyn diweddaru’r MTFP, a darparu syniad cychwynnol o’r arbedion sydd i’w canfod yn y gyllideb.
Cytuno ar y prosesau a’r amserlen ar gyfer datblygu’r MTFP a’r gyllideb benodol ar gyfer 2020/21.
Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol
Manylion Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad: Mae’r rhagdybiaethau cyllideb sydd wedi eu hamlinellu ym mharagraffau 3.6 i 3.13 yn yr adroddiad i’w cytuno a’u diweddaru yn ystod y broses gyllideb os daw gwybodaeth well i’r amlwg.
Mae’r broses gyllideb a’r amserlen fel sydd wedi eu hamlinellu ym mharagraff 3.26 yn cael eu mabwysiadu gan gynnwys craffu’r gyllideb gan aelodau a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan seminarau aelodau, Grwpiau Gwaith yr Aelodau a Swyddogion, Ymgysylltu Cymunedol, cyfarfodydd Dethol ac Ymgynghoriad (at ddibenion Cyfraddau Busnes). |
|
TREFNIADAU RHEOLI TRETH AR WERTH PDF 94 KB Adrannau/Wardiau Sydd Wedi Eu Heffeithio: Pob un
Pwrpas:Cadarnhau’r effaith y bydd unrhyw fuddsoddiad arfaethedig yng nghyfleusterau hamdden yr awdurdod yn ei gael pan yn cyfuno hyn gyda phenderfyniad y Cyngor i fabwysiadu dyfarniad TAW Ealing ar yr hawl gyffredinol i adennill TAW ar holl gostau’r Cyngor.
Mae’r adolygiad yn modelu’r lefel gyfredol sydd yn cael ai hamcangyfrif ac yn cynghori y bydd angen talu TAW ar y cynigion i ail-ddatblygu’r cyfleusterau hamdden o ran unrhyw wariant TAW sydd wedi ei gynllunio neu’n rhan o’r gyllideb er mwyn cefnogi’r broses o ddarparu’r cynlluniau gwasanaeth cyfredol ar draws y Cyngor. Awdur: Peter Davies, Prif Swyddog Adnoddau
Manylion Cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: : Yn cyflwyno ceisiadau ôl-weithredol o ran y dyfarniad TAW Ealing.
Mae prosesau a systemau'r Cyngor wedi eu diwygio er mwyn caniatáu bod y Dyfarniad Ealing yn cael ei fabwysiadu o’r 1af o Dachwedd 019.
Dylid cynnal gwerthusiad i wneud cais i ddarparwyr allanol/trydydd parti i fuddsoddi yng nghanolfan hamdden Cil-y-coed.
Yn parhau i fonitro costau TAW yn agos, yn enwedig y costau sydd wedi eu gwario mewn meysydd sydd wedi eu heithrio o ran TAW, a lle bod angen, yn adnabod ac yn cynghori ar opsiynau gan ‘edrych ymlaen’ a lleihau unrhyw golledion TAW nad oes modd eu hail-hawlio yn sgil tramgwyddo cyfrifiad esemptiad rhannol y Cyngor a’r trothwy |