Skip to Main Content

Agenda

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copïau ynghlwm):

3a

GWASANAETH CYFLAWNI ADDYSG (GCA) - pdf icon PDF 180 KB

Rhanbarth/wardiau a effeithir:            Pob un

 

Diben: Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i Aelodau i gytuno ar Gynllun Busnes GCA ar gyfer 2022-2025.

 

Awdur: Debbie Harteveld (Rheolwr Gyfarwyddwr, GCA)

 

Manylion Cyswllt:

 

Edward Pryce (Cyfarwyddwr Cynorthwyol, GCA)

E-bost:ed.pryce@sewaleseas.org.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

3b

MONITRO REFENIW A CHYFALAF 2021/22 DATGANIAD O’R RHAGOLYGON - MIS 9 pdf icon PDF 630 KB

Rhanbarth/wardiau a effeithir:            Pob un

 

Pwrpas:  Darparu rhagolygon wedi’u diweddaru  i Aelodau ar y sefyllfa refeniw a chyfalaf ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

Bydd yr adroddiad hwn hefyd yn cael ei ystyried gan y Pwyllgorau Dethol fel rhan o’u cyfrifoldebau i,

 

     asesu a yw cyllidebau yn cael eu monitro yn effeithiol,

     monitro a yw’r cyllidebau yn cael eu gwario yn unol gyda’r gyllideb a gytunir a’r fframwaith polisi

     herio pa mor rhesymol yw unrhyw orwariant neu danwariant, a

     monitro a yw’r enillion a ragwelwyd yn cael eu sicrhau neu’r cynnydd sy’n cael ei wneud o ran yr hyn sydd wedi eu cynnig.

 

Darparu diweddariad ar effaith ariannol  Covid-19 ar y Cyngor.

Awduron:

 

Peter Davies, Prif swyddog Adnoddau (Swyddog Adran 151)

E-bost:peterdavies@monmouthshire.gov.uk

 

Jonathan Davies, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro (Dirprwy Swyddog Adran 151)

E- bost:jonathandavies2@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

3c

Cyllideb Refeniw a Chyfalaf 2022/23 Cynigion Terfynol yn dilyn y craffu a’r ymgynghoriad cyhoeddus pdf icon PDF 759 KB

Rhanbarth/wardiau a effeithir:            Pob un

 

Pwrpas:  Diweddaru’r Cabinet ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar y cynigion cyllideb drafft a gyhoeddwyd ar 19eg Ionawr yngl?n â’r cyllidebau Cyfalaf a Refeniw ar gyfer 2022/23.

Diweddaru Aelodau ar y goblygiadau sydd yn deillio o gyhoeddiad y Setliad Llywodraeth Leol Cychwynnol  ynghyd â manylion am y Setliad Terfynol  sydd i’w gadarnhau cyn hir.

Gwneud argymhellion i’r Cyngor ar y cyllidebau Cyfalaf a Refeniw a lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2022/23.

Derbyn  cyfrifiadau Dangosydd Darbodus y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar gyfer cyllid cyfalaf. 

Derbyn adroddiad statudol y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar y broses gyllideb a digonolrwydd yr arian wrth gefn.

 

Awduron:

Peter Davies – Dirprwy Brif Weithredwr, Prif Swyddog Adnoddau  (Swyddog A151)

Jonathan Davies –Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Dros Dro) (Dirprwy Swyddog A151)

Manylion Cyswllt:

 

E-bost:peterdavies@monmouthshire.gov.uk

E-bost:jonathandavies2@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

3d

CRONFA BUDDSODDI TAI – Cytundeb Cyllideb ar gyfer £5.21m o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd pdf icon PDF 265 KB

Rhanbarth/wardiau a effeithir:            Pob un

 

Pwrpas:  1.1    Pwrpas yr adroddiad hwn yw gofyn am  gymeradwyaeth y Cabinet fel bod Cyngor Sir Fynwy yn medru cytuno ar gytundeb cyllid ar y cyd gyda  Vistry Group am £5.21 miliwn ar gyfer Cronfa Buddsoddi Tai gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Awduron:  Craig O’Connor – Pennaeth Cynllunio

    Denzil Turbervill – Cyfreithiwr Masnachol

 

Manylion Cyswllt:  craigoconnor@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

3e

DIWEDDARIAD AR BAPUR GWYN CODI’R GWASTAD A’R CANLLAW CYN-CYHOEDDI AR GYFER Y GRONFA FFYNIANT GYFFREDIN GAN LYWODRAETH Y DU pdf icon PDF 877 KB

Rhanbarth/wardiau a effeithir:            Pob un

 

Pwrpas:  Derbyn diweddariad ar y Gronfa Codi’r Gwastad, Papur Gwyn Codi’r Gwastad a’r Canllaw Cyn-cyhoeddi ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin – oll gan Lywodraeth y DU  .

 

Awdur:  Frances O’Brien, Prif Swyddog Menter

 

Manylion Cyswllt:francesobrien@monmouthshire.gov.uk

 

 

3f

NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I’R FFORMIWLA ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL pdf icon PDF 155 KB

Rhanbarth/wardiau a effeithir:            Pob un

 

Pwrpas:  Yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddiwygio’r fformiwla cyllido ar gyfer dirprwy cyllid i ysgolion er mwyn cefnogi ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

 

Awdur:  Nikki Wellington - Rheolwr Gwasanaethau Cymorth Plant a Phobl Ifanc 

 

Manylion Cyswllt:  nicolawellington@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

3g

ASESIAD O DDIGONOLRWYDD GOFAL PLANT 2022-27 pdf icon PDF 399 KB

Rhanbarth/wardiau a effeithir:            Pob un

 

Pwrpas:  Hysbysu Aelodau o’r sefyllfa bresennol yngl?n â gofal plant yn Sir Fynwy.

Ymgymryd â’n dyletswyddau statudol i gwblhau Asesiad  o Ddigonolrwydd Gofal Plant bob pum mlynedd.  

Nodi unrhyw fylchau o ran darpariaeth gofal plant neu rwystrau sydd yn atal teuluoedd rhag cael mynediad at ofal plant ac yn datblygu cynllun gweithredu er mwyn mynd i’r afael gyda’r materion yma.  

Awdur:  Sue Hall – Rheolwr Blynyddoedd Cynnar

 

Manylion Cyswllt:  susanhall@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

3h

CYFLEUSTERAU CHWARAE AWYR AGORED A MEYSYDD CHWARAE YSGOL CAS-GWENT A’R GANOLFAN HAMDDEN pdf icon PDF 318 KB

Rhanbarth/wardiau a effeithir:  Pob un Ward yng Nghas-gwent

 

Pwrpas:  Yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet  er mwyn symud ymlaen i wneud cais llawn a derbyn grantiau Datblygu Chwaraeon Cymru a Chymdeithas Pêl-droed Cymru ar gyfer cyllid er mwyn uwchraddio’r cyfleusterau chwarae awyr agored a’r meysydd yn Ysgol Gyfun Cas-gwent a’r Ganolfan Hamdden a’n derbyn diweddariad ar fuddsoddiad pellach yng nghyfleusterau'r Ganolfan Hamdden.  

 

Awduron:    Ian Saunders, Prif Swyddog Gweithredol MonLife

      Nicholas John, Rheolwr Gwasanaeth Hamdden 

 

Manylion Cyswllt:  iansaunders@monmouthshire.gov.uk

    nicholasjohn@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

3i

TROSOLWG O’R CYNNYDD A’R CYLLID AR GYFER TEITHIOL LLESOL pdf icon PDF 667 KB

Rhanbarth/wardiau a effeithir:            Pob un

 

Pwrpas:  Diweddau’r Cabinet ar y cynnydd a wneir ar Deithio Llesol a throsolwg o'r cyllid cyffredinol. 

 

Awduron:  Ian Saunders - Prif Swyddog Gweithredol, MonLife

    Paul Sullivan - Rheolwr Ieuenctid, Chwaraeon a
                Theithio Llesol   

 

Manylion Cyswllt:  iansaunders@monmouthshire.gov.uk

                            paulsullivan@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

3j

MAES CHWARAE CASTLE DELL, CAS-GWENT pdf icon PDF 1 MB

Rhanbarth/wardiau a effeithir:  Pob un Ward yng Nghas-gwent

 

 

Pwrpas:  Yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet   i gyflwyno cais i Raglen Pobl a Llefydd y Loteri Fawr ar gyfer cyllid er mwyn uwchraddio maes chwarae plant yn  Castle Dell, Cas-gwent.

 

Awdur:  Mike Moran, Cydlynydd Seilwaith Cymunedol

 

Manylion Cyswllt:  mikemoran@monmouthshire.gov.uk

 

 

3k

PARC VELO Y FENNI pdf icon PDF 1007 KB

Division/Wards Affected:  Abergavenny and Llanfoist Wards

 

Purpose:  To receive an update on the Abergavenny Velo Park project and to commit S106 capital resources to the project in 2022/23.

 

Author:  Mike Moran, Community Infrastructure Coordinator 

 

Contact Details:  mikemoran@monmouthshire.gov.uk

 

 

3l

2022/23 EDUCATION AND WELSH CHURCH TRUST FUNDS INVESTMENT AND FUND STRATEGIES pdf icon PDF 1 MB

Rhanbarth/wardiau a effeithir:            Pob un

 

Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn y cyflwyno strategaeth Buddsoddi a Chyllid ar gyfer Cronfeydd Ymddiriedolaeth  2022/23 i’w gymeradwyo gan y Cabinet gan mai’r Awdurdod yw’r unig ymddiriedolwyr ar gyfer mabwysiadu a chymeradwyo dyraniad grant  2022/23 i fuddiolwyr yr Awdurdod o Gronfa’r Eglwys yng Nghymru.  

 

Awduron:  Dave Jarrett – Uwch Gyfrifydd, Cymorth Busnes

    Nicola Wellington – Rheolwr Cyllid Plant a Phobl Ifanc   

 

Manylion Cyswllt:  davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

3m

GWEITHGOR CRONFA’R EGLWYS YNG NGHYMRU pdf icon PDF 119 KB

Rhanbarth/wardiau a effeithir:            Pob un

 

 

Pwrpas:  Pwrpas yr adroddiad hwn yw gwneud argymhellion i’r Cabinet  ar gyfer yr Atodlen o Geisiadau ar gyfer Cyfarfod Gweithgor Cronfa’r Eglwys yng Nghymru ar 27ain Ionawr 2022.

 

Awdur:  David Jarrett – Uwch Gyfrifydd – Cyllid Canolog, Cymorth Buses  

 

Manylion Cyswllt:  davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol: