Skip to Main Content

Agenda

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copïau ynghlwm):

3a

CYNIGION CYLLIDEB REFENIW DRAFFT 2022/23 pdf icon PDF 627 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt:  Pob Un

 

Pwrpas: Nodi cynigion cyllideb refeniw drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.

 

Dechrau cyfnod o ymgynghori ar gynigion y gyllideb ddrafft am gyfnod o bedair wythnos i’r 16eg mis Chwefror 2022.

 

Ystyried cynigion cyllideb ddrafft 2022/23 yng nghyd-destun y Cynllun Ariannol Tymor Canolig 4 blynedd (CATC) a'r Cynllun Corfforaethol.

 

Awdur: Peter Davies, Dirprwy Brif Weithredwr / Prif Swyddog Adnoddau (Swyddog A151)

 

Manylion Cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

3b

CYNIGION CYLLIDEB CYFALAF DRAFFT 2022/23 I 2025/26 pdf icon PDF 222 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt:  Pob Un

Pwrpas: Nodi cynigion cyllideb Cyfalaf drafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 a'r cyllidebau cyfalaf dangosol ar gyfer y tair blynedd rhwng 2023/24 a 2025/26.

Dechrau cyfnod o ymgynghori ar gynigion y gyllideb gyfalaf ddrafft am gyfnod o bedair wythnos hyd at 16 Chwefror 2022.

 

Awdur: Jonathan Davies, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Dros Dro) (Dirprwy Swyddog A151)

 

Manylion Cyswllt: jonathandavies2@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

3c

UWCHGYNLLUN GWELLA BRYNBUGA (A WOODSIDE). pdf icon PDF 298 KB

Is-adrannau/Wardiau yr Effeithir arnynt:  Brynbuga a Llanbadog

 

Pwrpas: I dderbyn a mabwysiadu'n ffurfiol Uwchgynllun Gwella Brynbuga (a Woodside) (atodiad 1).

 

Awdur: Jane Lee, Rheolwr Prosiect Adfywio a Chreu Lleoedd

 

Manylion Cyswllt: janelee@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

3d

RHAGLEN YSGOLION YR 21AIN GANRIF CYNGOR SIR FYNWY - CANLYNIAD Y CYFNOD GWRTHWYNEBU STATUDOL I SEFYDLU YSGOL DRWODD (3-19) YN Y FENNI pdf icon PDF 1 MB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt:  Cantref, Castell, Croesonnen, Grofield, Landsdown, Maerdy, Priordy, Bryn Llanelli, Llanofer, Glanfa Goetre, Llanwenarth Ultra, Llan-ffwyst Fawr and Chrucornau

 

Pwrpas: Diben yr adroddiad yw rhoi canlyniad y cyfnod gwrthwynebu statudol i aelodau'r Cabinet sy'n ymwneud â bwriad yr Awdurdod i sefydlu ysgol drwodd gyda chanolfan arbenigol ar gyfer plant sydd ag anghenion niwroddatblygiadol a dysgu cymhleth yn y Fenni ar safle Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII.

 

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod cytundeb i fwrw ymlaen â'r prosiect a'r cyllid cysylltiedig yn destun penderfyniadau ar wahân.  Diben yr adroddiad hwn yw cytuno ar y llwybr trefniadaeth ysgolion a fydd yn caniatáu creu'r ysgol.

 

Awdur: Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc: 

 

Manylion Cyswllt: willmclean@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

3e

CRONFA ADNEWYDDU CYMUNEDOL Y DU / DIWEDDARIAD AR Y RHAGLEN DATBLYGU GWLEDIG / CYFLEOEDD ARIANNU YN Y DYFODOL pdf icon PDF 1 MB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt:  Pob Un

 

Pwrpas: Derbyn diweddariad ar ôl cymeradwyo cais £2.04M y Cyngor i Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU. 

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Datblygu Gwledig Dyffryn Wysg a fydd yn dod i ben ym mis Medi 2022.

Ceisio cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â rhaglenni datblygu economaidd gwledig ychwanegol a ariennir. 

Awdur: Cath Fallon - Pennaeth Menter ac Ysgogi Cymunedol

 

Manylion Cyswllt: cathfallon@monmouthshire.gov.uk

 

3f

CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG 2017-2020 pdf icon PDF 306 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt:  Pob Un

 

Pwrpas: Diben yr adroddiad yw rhoi i aelodau'r Cabinet Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) deng mlynedd cyntaf Sir Fynwy 2022-31.

 

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno CSGA 2022-31 Sir Fynwy i'r Cabinet ac yn ceisio eu cymeradwyaeth i gyflwyno'r cynllun i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion statudol. 

 

Dylai Aelodau adolygu'r camau gweithredu, y targedau a'r amserlenni a gynigir yn y CSGA Sir Fynwy 2022-31, mewn perthynas â phob agwedd ar waith corfforaethol a strategol yr awdurdod lleol.   Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn yr ehangu arfaethedig ar addysg cyfrwng Cymraeg yn y cyfnodau cynradd ac uwchradd, trefniadau cludiant ysgol, darpariaeth ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a chapasiti iaith Gymraeg y gweithlu.

 

Awdur: Sharon Randall-Smith - Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc

 

Manylion Cyswllt:

SharonRandall-Smith@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

3g

GWEITHGOR CRONFA'R DEGWM pdf icon PDF 122 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt:  Pob Un

 

Pwrpas: Diben yr adroddiad hwn yw gwneud argymhellion i'r Cabinet ar yr Atodlen Ceisiadau ar gyfer Cyfarfod 7 Gweithgor Cronfa’r Degwm a gynhaliwyd ar 22ain Rhagfyr 2021.

 

Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd – Cymorth Busnes Cyllid Canolog

 

Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol: