Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 14eg Ebrill, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copïau ynghlwm):

3a

ASESIAD RISG STRATEGOL AWDURDOD CYFAN pdf icon PDF 1 MB

Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Rhoi trosolwg i’r Cabinet o’r risgiau strategol presennol sy’n wynebu’r awdurdod.

 

Ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i’r asesiad risg strategol awdurdod cyntaf.

 

Awduron: Matthew Gatehouse, Pennaeth Polisi a Llywodraethiant

Emma Davies, Swyddog Perfformiad

Richard Jones, Rheolwr Perfformiad

 

Manylion Cyswllt: matthewgatehouse@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Bod aelodau’r Cabinet yn cymeradwyo’r asesiad risg strategol a ddangosir yn atodiad 2 fel gwerthusiad realistig a gyda thystiolaeth o’r risgiau strategol sy’n wynebu’r awdurdod dros y tair blynedd nesaf.

.

3b

YSGOLION 21AIN GANRIF – YMGYNGHORIAD STATUDOL I SEFYDLU YSGOL POB OED (4-19) YN Y FENNI pdf icon PDF 195 KB

Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Holl wardiau’r Fenni.

 

Diben: Diben yr adroddiad yw ceisio caniatâd Aelodau i ymgynghori gyda’r rhanddeiliaid am fwriad yr Awdurdod i sefydlu ysgol pob oed gyda darpariaeth arbenigol ar gyfer plant gydag anghenion niwroddatblygiadol a dysgu cymhleth yn y Fenni ar safle Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII.

Bydd Aelodau yn gwybod y bydd cytundeb i symud ymlaen gyda’r proseict a’r cyllid cysylltiedig yn destun adroddiadau ar wahân yn y dyfodol. Mae’r adroddiad hwn i gytuno ar y llwybr trafnidaeth ysgolion fydd yn galluogi creu’r ysgol.

 

Awdur: Cath Saunders, Rheolwr Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif

Manylion Cyswllt: cathsaunders@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cytuno i ymrwymo i broses Ymgynghoriad Statudol fel y nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion (dogfen a gynhyrchir yn sgil Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013) i gael sylwadau ymgyngoreion ar sefydlu ysgol pob oed gyda darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion rhwng 4-19 oed yn y Fenni.

 

Cytuno a chymeradwyo’r drafft Ddogfen Ymgynghori Statudol (atodiad 1) sy’n cynnig sefydlu ysgol pob oed a darpariaeth arbenigol ar safle Ysgol Brenin Harri VIII.

 

Cytuno i gynnal yr ymgynghoriad yn unol â’r amserlen a gynigir dan atodiad 2.

3c

UWCHRADDIO CYFLEUSTERAU CANOLFANNAU HAMDDEN pdf icon PDF 442 KB

Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Hysbysu Aelodau am y gofyniad i uwchraddio’r cynnig yng Nghanolfannau Hamdden y Fenni, Cil-y-coed a Chasgwent i sicrhau eu bod yn parhau’n addas i’r diben ac yn ddeniadol i gwsmeriaid.

 

Awdur: Ian Saunders, Prif Swyddog Gweithredu Monlife; Nick John, Rheolwr Gwasanaethau Hamdden MonLife; Marie Bartlett, Rheolwr Cyllid ac Adnoddau MonLife; Richard Simpkins, Rheolwr Datblygu Busnes a Masnachol MonLife

 

Manylion Cyswllt: iansaunders@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cefnogi gwaith ymchwilio rhagarweiniol a symud ymlaen gyda’r astudiaeth dichonoldeb ar gyfer mân ailwampio ac uwchraddio cyfleusterau ffitrwydd yng Nghanolfannau Hamdden y Fenni, Cil-y-coed a Chas-gwent.

 

Atal prif gynllun “Ailwampio Canolfannau Canolfan Hamdden Cil-y-coed” dros dro nes byddir yn dychwelyd i amodau gweithredu arferol a bod peth cydnerthedd wedi ei adeiladu i’r farchnad. Cynhelir asesiad pellach i benderfynu ar lefelau cyllid unwaith yr adferir lefelau cwsmeriaid i lefelau cyn-Covid i benderfynu os y gellir sicrhau’r cyfraniad gofynnol o aelodaeth ychwanegol yn y dyfodol. 

3d

BUDDSODDIAD MEWN GWEITHGAREDDAU PRIFFYRDD AR GYFER RHWYDWAITH DRAENIAD CYNNAL A CHADW YN UNOL Â CHOD YMARFER ‘SEILWAITH PRIFFYRDD A REOLIR YN DDA’ pdf icon PDF 449 KB

Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Cyflwyno rhaglen cynnal a chadw yn unol â Chod Ymarfer ‘Seilwaith priffyrdd a reolir yn dda’. Newid o ddibyniaeth ar ganllawiau penodol ac argymhellion yn y Codau blaenorol i ddull seiliedig ar risg a benderfynwyd gan y dadansoddiad priodol, data cadarn ac adolygiad parhaus. Cynlluniwyd y Cod i hyrwyddo mabwysiadu dull rheoli ased integredig at seilwaith priffyrdd yn seiliedig ar sefydlu lefelau lleol o wasanaeth drwy asesiad seiliedig ar risg. Fel gyda’r codau blaenorol, mae’r Cod yn cydnabod fod “ataliaeth bob amser yn well na iachau”.

 

Buddsoddi mewn cynnal a chadw priffyrdd i sefydlu system ‘canfod a thrwsio’. Gwrthdroi effaith gostyngiadau cyllideb a pwysau arbedion sydd wedi arwain at raglen cynnal a chadw ymatebol ac ar sail system angen.

 

Mae 6 ffordd i helpu cadw’r asedau daeniad yn llifo’n rhydd ac yn glir:

  • Atal ysgyrion rhag gorchuddio’r mewnlif a chyfyngu llif
  • Atal ysgyrion rhag mynd i mewn i’r bibell a chyfyngu’r llif
  • Atal ysgyrion rhag mynd i mewn i’r all-lif a chyfyngu’r llif
  • Dynodi difrod i’r seilwaith yn gyflym
  • Cynnal cwrs wyneb y ffordd i atal colli deunydd i’r draeniau
  • Atal d?r rhag rhedeg o dir cyfagos fydd yn lleidio’r system draeniad.

 

Mae’r cynnig yn ceisio cyllid ychwanegol i:

 

·       Ysgubo ffyrdd addas i amodau lleol

·       Gwagu gwliau a phrofi fod pibelli ac all-lifau yn addas ar gyfer amodau lleol

·       Atgyweirio seilwaith a ddifrodwyd lle na fedrid ei glirio

·       Uwchraddio’r capasiti lle’n hyfyw

 

 

Awdur:Carl Touhig

 

Manylion Cyswllt: carltouhig@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cynyddu’r cyllid ar gyfer cynnal a chadw asedau draeniad priffyrdd yn unol â Chod Ymarfer ‘Seilwaith Priffordd wedi ei Reoli yn Dda’.

 

Cynyddu cyllid ar gyfer ysgubo’r llwybrau blaenoriaeth i gefnogi cynnal a chadw asedau draeniad.

 

Cyflwyno rhaglen gylchol o gynnal a chadw ar gyfer draeniad asedau ar hyd llwybrau blaenoriaeth y Sir.

 

Dynodi a llunio pob ased draeniad ar hyd y sir fel rhan o asesiad seiliedig ar risg a darparu cofnodion cynnal a chadw yng nghyswllt rheoli asedau.

 

3e

GWEITHGOR CRONFA EGLWYSI CYMRU pdf icon PDF 119 KB

Adran/Wardiau yr Effeithiwyd Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Diben yr adroddiad hwn yw gwneud argymhellion i’r Cabinet ar y Rhestr Ceisiadau i gyfarfod Gweithgor Cronfa Eglwysi Cymru 6 a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021.

 

Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd – Cymorth Busnes Cyllid Canolog

 

Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dyfarnu’r grantiau yn unol â’r rhestr ceisiadau.