Agenda and decisions

Cabinet - Dydd Mercher, 3ydd Mawrth, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copïau ynghlwm):

4.

STRATEGAETH CYFIAWNDER CYMDEITHASOL pdf icon PDF 500 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt:  Pob Un

 

Diben: Yn dilyn cymeradwyo ail gam y Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019, gofynnir i'r Aelodau ystyried y diwygiad trydydd cam o'r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd bellach yn defnyddio dull wedi'i dargedu'n fwy ac sy'n cynnwys mewnosod y Cynlluniau Gweithredu unigol canlynol wedi'u targedu, sef:

·       Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi ac Anghydraddoldeb;

·       Cynllun Gweithredu Datblygu Bwyd; a’r

·       Cynllun Pontio Digartrefedd

 

Awdur(on):

Cath Fallon (Pennaeth Menter ac Ysgogi Cymunedol)

Jude Langdon (Rheolwr Trechu Tlodi ac Anghydraddoldeb)

Deserie Mansfield (Swyddog Datblygu Bwyd y Rhaglen Wledig)

Ian Bakewell (Rheolwr Tai a Chymunedau)

 

Manylion Cyswllt:

cathfallon@monmouthshire.gov.uk/ 

judithlangdon@monmouthshire.gov.uk

deseriemansfield@monmouthshire.gov.uk 

ianbakewell@monmouthshire.gov.uk    

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cabinet yn cymeradwyo’r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol ddiwygiedig (Atodiad A) a’r Cynlluniau Gweithredu cysylltiedig (Atodiad B, C a D)

 

5.

ADRODDIAD I FFEDEREIDDIO CYRFF LLYWODRAETHU YSGOLION CYNRADD KYMIN VIEW A LLANEUDDOGWY pdf icon PDF 292 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Wyesham, Llaneuddogwy, Tryleg

Diben: Cwblhau'r broses statudol ar y cynnig i ffedereiddio Cyrff Llywodraethu Ysgol Gynradd Kymin View ac Ysgol Gynradd Llaneuddogwy.

 

Awdur: Sharon Randall-Smith – Pennaeth Gwasanaeth y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc.

 

Manylion Cyswllt:SharonRandall-Smith@monmouthshire.gov.uk 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn cytuno i ffedereiddio Cyrff Llywodraethu Ysgol Gynradd Kymin View ac Ysgol Gynradd Llandogo yn weithredol o 1 Medi 2021 ac yn unol â’r rhesymau a nodir yn yr adroddiad hwn.

 

6.

STRATEGAETHAU BUDDSODDIADAU A CHRONFEYDD Y GRONFA YMDDIRIEDOLAETH ADDYSG A CHRONFA’R DEGWM 2021/22 pdf icon PDF 1 MB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un

Diben: Diben yr adroddiad hwn yw cyflwyno strategaeth Buddsoddiadau a Chronfeydd 2021/22 ar gyfer y Gronfeydd Ymddiriedolaeth i'r Cabinet i'w chymeradwyo, lle mae'r Awdurdod yn gweithredu ar eu cyfer fel ymddiriedolwr unigol neu geidwadol i'w fabwysiadu, ac i gymeradwyo dyraniad grant 2021/22 i fuddiolwyr Awdurdodau Lleol Cronfa'r Degwm.

 

Awdur(on) Dave Jarrett – Uwch Gyfrifydd Cymorth Busnes; Nicola Wellington – Rheolwr Cyllid Plant a Phobl Ifanc

 

Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

Bod y Strategaeth Buddsoddiadau a Chronfeydd arfaethedig ar gyfer 2021/22 ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Ffermydd Sir Fynwy yn cael ei chymeradwyo.

 

Bod Strategaeth Buddsoddiadau a Chronfeydd 2021/22 arfaethedig Cronfa Eglwysi Cymru yn cael ei chymeradwyo.

 

Dirprwyo cyfrifoldeb am weithredu a gweinyddiaeth penderfyniadau rheoli trysorlys i’r Prif Swyddog Adnoddau (swyddog A151) a fydd yn gweithredu yn unol â’r Strategaeth Buddsoddiadau a Chronfeydd (Atodiad 2).

 

Cymeradwyo dyraniadau grant 2021/22 i fuddiolwyr yr Awdurdod Lleol i Gronfa Deddf Eglwysi Cymru Sir Fynwy o £210,000 i’w ddosbarthu yn unol â’r data poblogaeth yn y drafft Setliad Llywodraeth Leol 2021/22.

 

Bod Bwrdd Ymddiriedolaeth Ysgolion Ffermydd Sir Fynwy yn penderfynu ar ddyraniad grant 2021-22 yn ei gyfarfod yn Ionawr 2021 yn seiliedig ar ddychweliad buddsoddiad y blynyddoedd blaenorol hyd at ddiwedd Mawrth 2020, ac unrhyw danwario a gariwyd ymlaen o ddyraniad grant 2020-21, ac osgoi erydu’r gronfa yn gyffredinol.

 

Cymeradwyo Egwyddorion, Ystyriaethau Polisi a Meini Prawf Dyrannu Grantiau Cronfa Eglwysi Cymru 2021-22 (Atodiad 6) fel y’u hystyriwyd a’u cymeradwyo gan Bwyllgor Cronfa Eglwys Cymru ar 14 Ionawr 2021.

 

7.

CYNLLUN BUSNES Y GWASANAETH CYFLAWNI ADDYSG (GCA) 2021-2022 (ail ddrafft ar gyfer ymgynghori) pdf icon PDF 171 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un

 

Diben: Mae'r adroddiad hwn yn gofyn i aelodau ystyried cynnwys llawn Cynllun Busnes diwygiedig y GCA 2021-2022, fel rhan o'r broses ymgynghori ranbarthol. Drwy'r gweithgaredd hwn bydd aelodau'n sicrhau bod y cynllun yn galluogi cymorth priodol i ysgolion a lleoliadau yn Sir Fynwy.

 

Awdur: Debbie Harteveld (Rheolwr Gyfarwyddwr y GCA)

 

Manylion Cyswllt:ed.pryce@sewaleseas.org.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Busnes EAS 2020-2021.

 

8.

DATGANIAD MONITRO RHAGOLWG ALLDRO REFENIW A CHYFALAF 2020/21 - MIS 9 pdf icon PDF 713 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un

 

Diben: Rhoi rhagolwg diwygiedig i'r Aelodau o'r sefyllfa alldro refeniw a chyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith ariannol COVID-19 ar y Cyngor.

 

Awdur: Peter Davies, Prif Swyddog Adnoddau

Jonathan Davies, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro (Dirprwy Swyddog S151)

 

Manylion Cyswllt:peterdavies@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cydnabod bod y rhagolwg gwarged net heblaw Covid ym mis 9 o £142k yn cynrychioli gwelliant o £660k ers mis 7, yn bennaf fel canlyniad i gamau cadarnhaol a gymerwyd yn ystod y flwyddyn ariannol i gwtogi gwariant heb fod yn hanfodol a thrwy ostyngiadau cost.

 

Bod y Cabinet yn ei gwneud ofynnol i uwch swyddogion gwtogi costau ar gyfer gweddill y flwyddyn a lle bynnag sydd modd geisio cymryd mantais o arian grant sy’n dod i’r amlwg yn hwyr yn y flwyddyn i godi’r gwarged diwedd blwyddyn ymhellach a thrwy wneud hynny roi gofod i’r Cabinet ar gyfer dewis polisi ac mae hynny’n cynnwys balansau cronfeydd wrth gefn a derbyniadau cyfalaf cyfyngedig y Gall y cyngor eu defnyddio i ateb heriau ariannol y dyfodol.

 

Gellir rhoi sicrwydd rhesymol i’r Cabinet yn seiliedig ar ddialog barhaus gyda Llywodraeth Cymru a chyllid a dderbyniwyd hyd yma y caiff yr holl incwm, colledion a phwysau cost cysylltiedig a chymwys eu hariannu gan nodi:

 

a) Rhagolwg cyfanswm diffyg refeniw net ym mis 9 o £5.15m, gwelliant o £1.28m o fis 7 ac sy’n cynnwys rhagolwg diffyg o £5.28m sydd yn uniongyrchol gysylltiedig gyda’r pwysau ariannol arbennig oherwydd COVID-19;

 

b) Ers paratoi’r rhagolygon cyllideb ar gyfer mis 9 bod Llywodraeth Cymru wedi hysbysu’r Awdurdod y bydd swm pellach o £2.02m ar gael i’r Awdurdod yng nghyswllt hawliadau a wnaed i’r gronfa Caledi ar gyfer gwariant ychwanegol a gafwyd ym mis Rhagfyr 2020 a cholledion incwm a gafwyd yn ystod chwarter 3 y flwyddyn ariannol, ac y bydd hynny yn ei dro yn gostwng y rhagolwg diffyg cysylltiedig o £5.26m yn ymwneud â COVID-19 i £3.26m. Disgwylir hefyd y derbynnir £1.53m pellach ar gyfer eitemau a hawliwyd ond os nas cymeradwywyd hyd yma yn disgwyl eglurhad pellach i Lywodraeth Cymru.

 

Wrth ddilyn y dull gweithredu a nodir uchod, mae’r Cabinet yn cydnabod natur eithriadol y flwyddyn bresennol ac yn derbyn y cafodd pwysau cylchol sylweddol ar wasanaethau eu hymgorffori yn y broses gosod cyllideb barhaus ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 os na chânt eu lliniaru fel arall.

 

Mae’r Cabinet yn nodi maint y symudiadau a ragwelir yn nefnydd cronfeydd wrth gefn Ysgolion a roddir yn atodiad 1.

 

Mae’r Cabinet yn ystyried yr rhagolwg gwariant alldro cyfalaf o £22.38m wrth ochr llithriad sylweddol o £40.45m a’r tybiaethau a wnaed o amgylch y canlyniadau cyllido, fel yr amlinellir yn atodiad 1.

 

9.

CYNIGION TERFYNOL Y GYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF pdf icon PDF 725 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Pob un

 

Diben: Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am yr ymatebion i'r ymgynghoriad i gynigion y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ganddynt ar yr 20fed Ionawr mewn perthynas â'r cyllidebau Cyfalaf a Refeniw ar gyfer 2021/22.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am oblygiadau sy'n deillio o gyhoeddiad Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro Llywodraeth Cymru yn ogystal â rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyhoeddiad am y Setliad Terfynol disgwyliedig.

Gwneud argymhellion i'r Cyngor ar gyllidebau Cyfalaf a Refeniw a lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22.

Derbyn cyfrifiadau Dangosydd Darbodus y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar gyfer ariannu cyfalaf.

Derbyn adroddiad statudol y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar broses y gyllideb a digonolrwydd y cronfeydd wrth gefn.

Awdur: Peter Davies – Prif Swyddog Adnoddau (Swyddog S151)

Manylion Cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac yn argymell i’r Cyngor:

 

a) Cyllideb refeniw 2021/22 fel y’i hatodir yn Atodiad I1.

 

b) Rhaglen cyfalaf 2021/22 i 2024/25 fel y’i hatodir yn Atodiad J1.

 

Bod y Cabinet yn cydnabod bod y cynigion cyllideb terfynol a gynigiwyd yn mynd ati i gefnogi blaenoriaethau’r cyngor ac yn benodol yn anelu i gydnabod:

 

a) Yn llawn, yr holl bwysau cysylltiedig â chyflogau a phensiwn yn ein system ysgolion;

 

b) Y galw cynyddol a roddwyd ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant, gofal cymdeithasol oedolion a’n plant gyda chyllidebau anghenion dysgu ychwanegol;

 

c) Pwysau cost sylweddol o fewn yr uned cludiant teithwyr ac o fewn ailgylchu a gwastraff sy’n anelu i sicrhau fod y Cyngor yn cefnogi ac yn cynnal darpariaeth gwasanaethau allweddol;

 

d) Buddsoddiad sy’n sicrhau y caiff pobl ddigartref gymorth, cyngor a llety digonol ar eu hadeg o angen;

 

e) Ymrwymiad parhaus i gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniad y gweithlu a sicrhau na chaiff staff llywodraeth leol dâl nad yw’n ddim llai na’r cyflog a osodwyd gan y Sefydliad Cyflog Byw ac fel canlyniad bod benderfyniad y Cabinet ym mis Ionawr hefyd yn cel ei ymestyn i rolau prentisiaeth.

 

Y caiff cynnydd o 3.89% cyfwerth â Band “D” Treth Gyngor ei ddefnyddio fel y dybiaeth cynllunio yn y model cyllideb ac i’w weithredu ar gyfer dibenion y Sir yn 2021/22, wedi’i ostwng o’r cynnydd blaenorol a gynigiwyd o 4.95% ac fel canlyniad i ymgynghori â’r cyhoedd.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion diwygiedig ar arbedion a phwysau, a ddiweddarwyd yn dilyn ymgynghori â’r cyhoedd, craffu a bod gwybodaeth fwy cyfredol ar gael ers cyhoeddi’r drafft gynigion ar ymgynghoriad ar 20 Ionawr 2021.

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r newidiadau a buddsoddiad ychwanegol yn yng nghynigion drafft y gyllideb gyfalaf a rhaglen ar gyfer 2021/22 a chyllidebau cyfalaf dangosol o 2022/23 i 2024/25.

 

Bod y Cabinet yn argymell bod y Cyngor yn gwaredu ag asedau a ddynodwyd yn y papur cefndir eithriedig ar werth gorau.

 

Bod y Cabinet yn ystyried adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar gadernid y broses cyllideb ac ar ddigonolrwydd cronfeydd wrth gefn a gyhoeddwyd dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, ynghyd ag asesiad o’r risgiau ariannol cyfredol a dyfodol sy’n wynebu’r Cyngor.

 

Bod y Cyngor yn mabwysiadu adroddiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol ar ddangosyddion darbodus.

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo:

 

a)     Cynnal gwaith pellach i ddatblygu Cynllun Ariannol Tymor Canol cytbwys.

 

b)     Cynnal adolygiad rheolaidd o’r Cynllun Ariannol Tymor Canol i sicrhau ei fod yn parhau’n gyfredol a bod hynny’n cynnwys asesiadau o bwysau a risgiau seiliedig ar dystiolaeth, tybiaethau modelu sylfaenol a goblygiadau fforddiadwyedd parhaus y Cynllun Corfforaethol.