Skip to Main Content

Agenda and decisions

Lleoliad: Steve Greenslade Room, County Hall, Usk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

3.

I ystyried yr adroddiadau canlynol (copïau ynghlwm):

3a

MONITRO REFENIW A CHYFALAF 2020/21 pdf icon PDF 379 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Rhoi rhagolwg i Aelodau o sefyllfa all-dro refeniw a chyfalaf ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Rhoi diweddariad ar effaith ariannol COVID-19 ar y Cyngor.

 

Awdur: Peter Davies, Prif Swyddog Adnoddau

 

Manylion Cyswllt: peterdavies@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Cabinet yn cydnabod rhagolwg diffyg refeniw net ym mis 7 o £6.43m, gwelliant o £995k o fis 5 ac sy’n cynnwys

a)              Rhagolwg diffyg heb fod yn gysylltiedig â COVID-19 o £518k i gael ei reoli yn y flwyddyn, sy’n ostyngiad o £713k ers mis 5, gyda £675k yn ganlyniad uniongyrchol i’r penderfyniad i gyfalafu gwariant cymwys a chyllid o dderbyniadau cyfalaf dan gyfarwyddeb defnydd hyblyg o dderbyniadau cyfalaf.

b)              Rhagolwg diffyg o £5.91m sy’n uniongyrchol gysylltiedig gyda’r pwysau ariannol anghyffredin yn gysylltiedig â COVID-19 a lle tybir y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido’r holl golledion incwm a phwysau cost cymwys. Mae hyn yn welliant bach o £282k o’r rhagolwg sefyllfa ym mis 5.

 

Mae’r Cyngor yn cydnabod ers cynhyrchu rhagolygon y gyllideb ar gyfer mis 7 bod Llywodraeth Cymru wedi hysbysu’r Awdurdod y bydd swm pellach o £1.78m ar gael i’r Awdurdod ar gyfer colledion incwm ar gyfer chwarter 2 y flwyddyn ariannol a bydd yn ei dro yn gostwng rhagolwg diffyg cysylltiedig â Covid o £5.91m i £4.13m.

 

Mae’r Cabinet yn parhau i wneud sylwadau cryf i Lywodraeth Cymru i gadarnhau ad-daliad llawn o golledion incwm cysylltiedig â COVID o £4.13m a phwysau cost cyn gynted ag sydd modd ac i ddileu risg ariannol yn mynd i ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Mae’r Cabinet yn nodi y caiff diffyg heb fod yn gysylltiedig â COVID o £518k ei reoli drwy ostwng costau a chymryd camau ar unwaith i ostwng gwariant heb fod yn hanfodol, gan gydnabod y bydd gostyngiadau cost wedi’i dargedu ac wedi’i gynllunio yn her yn yr amgylchedd gweithredu presennol a gan y bydd y Cyngor bob amser yn mynd ati i ostwng effaith ar gyflenwi gwasanaeth.

 

Wrth ddilyn yr ymagwedd a nodir uchod, mae’r Cabinet yn cydnabod natur anghyffredin y flwyddyn bresennol ac yn derbyn y bydd angen i bwysau gwasanaethau sylweddol gael eu hymgorffori yn y broses barhaus o osod cyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/os na chânt eu lliniaru fel arall.

 

Mae Cyngor yn nodi maint y symudiadau a ragwelir yn nefnydd cronfeydd wrth gefn Ysgolion yn atodiad 1.

 

Mae’r Cabinet yn ystyried y rhagolwg o wariant all-dro cyfalaf o £25.3m wrth ochr llithriad sylweddol o £37.4m a’r tybiaethau a wnaed o amgylch y canlyniadau cyllido, fel yr amlinellir yn atodiad 1.

 

Mae’r Cabinet yn cydnabod y bydd yn rhaid ailystyried y rhagolwg os nad yw Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r disgwyliad yn llawn i ddigolledu’r Cyngor am gostau a cholledion incwm cysylltiedig â COVID.

 

3b

DEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIADOL 2000 (RIPA) pdf icon PDF 122 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo polisi RIPA Cyngor Sir Fynwy.

.

Gofynnir i’r Cabinet nodi Aroddiad Arolygu diweddar IPCO.

 

Awdur: Matt Phillips SRO RIPA Pennaeth y Gyfraith a Swyddog Monitro

 

Manylion Cyswllt: matthewphillips@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Mae’r Cabinet yn cymeradwyo Polisi RIPA Cyngor Sir Fynwy.

 

Mae’r Cabinet yn nodi Adroddiad Arolwg diweddar IPCO.

3c

ASESIAD LLETY SIPSIWN A THEITHWYR pdf icon PDF 156 KB

Adrannau/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben: Gofyn i’r Cabinet fabwysiadu Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr 2021-2026 yn rhoi manylion anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Fynwy.

 

Ceisio cymeradwyaeth am ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Awdur: Stephen Griffiths, Swyddog Strategaeth a Pholisi (Tai a Chymunedau)

 

Manylion Cyswllt: stephengriffiths@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

Mae’r Cabinet yn mabwysiadu Asesiad Llety Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn (GTAA) 2021 – 2026 a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.