Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 21ain Gorffennaf, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2022 pdf icon PDF 344 KB

Cofnodion:

Cafwyd pleidlais ar y cofnodion a chytunwyd eu bod yn gofnod cywir o gyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar y 23ain Mehefin 2022.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim

 

3.

Cwestiynau Cyhoeddus

Cofnodion:

Dim

 

4.

Cyhoeddiadau y Cadeirydd pdf icon PDF 324 KB

Cofnodion:

Nodwyd.

 

5.

Cyhoeddiadau Aelodau Cabinet

5a

Cynghorydd Sir Catherine Fookes, Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu – Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a thlodi

Cofnodion:

Amlygodd yr Aelod Cabinet sut roedd y maniffesto yn datgan y byddai'r weinyddiaeth yn blaenoriaethu mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thlodi ac roedd yn falch o gyhoeddi y byddai hon yn eitem sefydlog ar agenda'r Cyngor er mwyn sicrhau y gellir cael adborth rheolaidd ar y materion hyn.

 

Nododd y Cynghorydd Sir Fookes bod chwyddiant a biliau bwyd ar eu huchaf erioed ac mae adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi canfod y bydd y cynnydd diweddar mewn Yswiriant Gwladol yn gadael y cartref yng Nghymru ar gyfartaledd yn waeth eu byd o £220 y flwyddyn.  Aeth ymlaen i egluro beth yr ydym yn ei wneud i liniaru effeithiau'r argyfwng costau byw.

 

Mae'r tîm Refeniw a Budd-daliadau, hyd yma, wedi cyhoeddi 17,746 o daliadau o £150, sef cyfanswm o £2.6m. Y camau nesaf yw rhoi talebau swyddfa bost, y gellir eu cyfnewid am arian parod, i'r rhai nad ydynt wedi cofrestru.  Darparodd Llywodraeth Cymru £500,000 mewn cyllid dewisol i MCC, a gwnaed y taliadau cyntaf, wedi’u targedu at deuluoedd sy'n cael prydau ysgol am ddim, yr wythnos flaenorol.

 

Mae cyfanswm o £475,000 o daliadau tanwydd gaeaf wedi'u rhoi.

 

Mae gwaith arall ym maes tlodi a chydraddoldeb yn cynnwys defnyddio taliadau tai dewisol i atal digartrefedd, a rhaglen gyfoethogi gwyliau ysgol Bwyd a Hwyl.

 

Bydd gweithgor trawsbleidiol yn cael ei sefydlu a fydd yn datblygu'r cynllun corfforaethol a chymunedol ac yn sicrhau bod pob barn a syniad yn cael eu clywed.

 

Croesawodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau.

 

Yn dilyn cwestiwn gan Arweinydd yr Wrthblaid, cydnabu'r Aelod Cabinet fod angen rhywfaint o waith diweddaru ac ailymweld â'r Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol a ddatblygwyd o dan y weinyddiaeth flaenorol ond roedd yn ansicr sut y byddai hyn yn edrych wrth symud ymlaen.  Mae hi wedi siarad â swyddogion am y Gr?p Tlodi a byddant yn ceisio penderfynu beth yw’r ffordd lanaf o weithio.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Sir Fookes ei bod yn cydnabod ac yn cefnogi'r cyflog byw go iawn.

 

Mynegwyd bod yn rhaid cydnabod tlodi yng nghefn gwlad.

 

 

 

 

 

 

 

5b

Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd – Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur

Cofnodion:

Eglurodd yr Aelod Cabinet bod y Cyngor eisoes wedi gwneud ymrwymiadau i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd, ac ar lygredd afonydd a phwysleisiodd bwysigrwydd ei gwneud yn glir ein bod yn cydnabod ein bod mewn argyfwng hinsawdd a natur. Am y rheswm hwn, bydd yr Aelod Cabinet yn adrodd ar y materion hyn yn rheolaidd gan eu gwneud yn eitem sefydlog ar raglen y Cyngor, gan sicrhau bod ein hymateb i'r materion brys hyn yn gydlynol a di-dor.

 

Gwnaeth yr Aelod Cabinet y pwyntiau canlynol:

 

Mae adroddiadau diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn gwneud dau beth yn glir iawn:

1.     Bod gweithgaredd dynol eisoes wedi gwneud newid hinsawdd di-droi’n-ôl yn anochel, bod hyn yn dod â chanlyniadau difrifol y bydd angen i ni addasu iddynt, ac y byddwn yn eu gweld yn gynyddol yn ystod y blynyddoedd i ddod.

2.     Os na fyddwn yn cymryd camau brys i liniaru newid hinsawdd pellach, rydym ar y llwybr tuag at wneud y blaned yn anhyfyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cadarnhaodd Asiantaeth yr Amgylchedd yn eu hadroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, fod yr argyfwng bioamrywiaeth yn ymuno â’r argyfwng hinsawdd fel risg dirfodol i’n goroesiad - mae bron i un rhan o bump o blanhigion y DU dan fygythiad o ddiflannu, ac mae traean o rywogaethau peillwyr Prydain wedi prinhau…. Mewn gwirionedd mae'r DU bellach yn un o'r gwledydd sydd wedi'i disbyddu fwyaf o ran natur yn y byd.

 

Yng Nghymru, cadarnhaodd adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 fod 30% o fywyd gwyllt i’w gael mewn llai o leoedd nag yr oedd yn 1970 gydag 1 o bob 6 rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu.  Gan ddod â’r ffocws yn ôl i’n hardal leol, mae’r angen am adfer byd natur yn glir:

·       Nododd adroddiad Sefyllfa Byd Natur Gwent Fwyaf fod gostyngiad i’w weld yn niferoedd 34% o rywogaethau.

·       Nododd arolwg 'Bugs Matter' yr Ymddiriedolaethau Natur ostyngiad o 40% mewn pryfed hedegog yng Ngwent ers 2004. (Ar raddfa’r DU, mae’r ffigur hwnnw mor uchel â gostyngiad o 60%.)

·       Mae targedau ffosffad ar gyfer afon Wysg yn cael eu methu ar gyfradd o 88% ac mae’r gyfradd ar gyfer Afon Gwy yn 68% - gan bod blodau algaidd yn mygu bywyd arall yn yr afonydd, yn enwedig mewn tywydd poeth. 

Mae cyflwr afonydd yn cael effaith uniongyrchol ar y rhywogaethau y mae’n darparu cynefin ar eu cyfer – a dangosodd astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd ddirywiad sylweddol mewn poblogaethau dyfrgwn yn 2021 am y tro cyntaf ers y 1970au.

Rydym yn byw mewn sir fendigedig, ac mae’n rhaid inni, ar bob cyfrif, warchod ein hamgylchedd naturiol, sy’n cael ei chydnabod am ei phwysigrwydd. Er enghraifft:

·       Mae gan Sir Fynwy 7 safle gwarchodedig o bwysigrwydd rhyngwladol (ACA, AGA a safle Ramsar).

·       Mae ganddi 67 o SSSIs a bron i 700 o Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur gan gynnwys nifer fawr o laswelltiroedd sy’n cynnwys llu o rywogaethau bychain a choetiroedd hynafol.

·       Mae gan Sir Fynwy 24 o Gynefinoedd (gan gynnwys Morol) a  ...  view the full Cofnodion text for item 5b

6.

AMSERIAD CYFARFODYDD Y CYNGOR pdf icon PDF 29 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad er mwyn i'r Cyngor ystyried argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, yn unol â Mesur Llywodraeth Leol Cymru, i adolygu amseriad cyfarfodydd y Cyngor Llawn ar gyfer tymor presennol y Cyngor.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Ben Callard welliant i'r argymhelliad

 

Mae'r Cyngor hwn yn gofyn i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gyflwyno opsiynau ar gyfer amseriad cyfarfodydd y Cyngor Llawn yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Hydref y gellir eu hystyried a phleidleisio arnynt.

 

Bod pwyllgorau unigol yn rhydd i bennu amseriad eu cyfarfodydd sy’n gweddu i’r pwyllgor ac i’w aelodau.

 

Sylwadau a wnaed:

 

·        Os bydd newidiadau’n cael eu gwneud, fel ddylai cyfnod o rybudd gael ei roi, 3 mis o bosib

·        Tecach y dylid ymgynghori â'r holl aelodau ar yr argymhelliad

·        Roedd Pwyllgor DS wedi trafod y mater yn llawn ac roedd argymhelliad teg yn cael ei gyflwyno

·        Cynllun Corfforaethol i'w ddadorchuddio ym mis Hydref ac efallai na fydd cyfarfodydd gyda'r nos yn briodol.

·        Rhaid cymryd gofal i sicrhau cyngor amrywiol

·        Bydd cyfarfodydd gyda'r nos yn effeithio ar fywyd teuluol

·        Cyfarfodydd gyda'r nos yn well i rieni sy'n gweithio

·        Gellid ystyried bod y gwelliant yn tanseilio argymhelliad y Pwyllgor DS

 

Yn dilyn trafodaeth lawn, fe drechwyd y gwelliant mewn pleidlais.

 

Dychwelodd y ddadl at yr argymhelliad gwreiddiol.

 

Ar ôl cael pleidlais, penderfynodd y Cyngor dderbyn yr argymhellion:

 

Bod cyfarfodydd y Cyngor Llawn yn aros am 14:00 er mwyn rhoi amser i gynghorwyr newydd eu hethol gael dealltwriaeth lawn o rôl ac effaith bod yn gynghorydd. Gall y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd adolygu’r trefniadau eto ac adrodd yn ôl i’r Cyngor ar cyfnod o 12 mis o leiaf.

 

Bod pwyllgorau unigol yn rhydd i bennu amseriad eu cyfarfodydd sy’n gweddu i’r pwyllgor ac i’w aelodau.

 

 

 

 

 

7.

Cynigion i’r Cyngor

7a

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Jill Bond

Cynnig Argyfwng mewn Costau Byw

 

Mae ein preswylwyr yn wynebu argyfwng mewn costau byw. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dywedodd 88% o oedolion ym Mhrydain Fawr y bu cynnydd yn eu costau byw ym mis Mai 2022, oherwydd amrywiaeth o ffactorau yn cynnwys cynnydd mewn chwyddiant, cynnydd mewn prisiau ynni a chynnydd yn nhrethi’r llywodraeth. Ar gyfartaledd bydd aelwydydd Cymru o leiaf £600 yn waeth eu byd eleni yn ôl adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

 

Bu costau byw yn cynyddu ar draws y Deyrnas Unedig ers dechrau 2021. Ym mis Ebrill 2022 cyrhaeddodd chwyddiant y lefel uchaf a gofnodwyd ac mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif ei fod yn awr yn uwch nag ar unrhyw amser ers tua 1982, gan effeithio ar ba mor fforddiadwy yw nwyddau a gwasanaethau ar gyfer aelwydydd.

 

Mae’r Cyngor yn nodi:

 

Bod yr argyfwng costau byw yn fater allweddol i ni yng Nghyngor Sir Fynwy, mewn sefyllfa o ffactorau ariannol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, tebyg i’r rhyfel yn Wcráin.

 

Yr angen i ni fel awdurdod lleol sicrhau y caiff ein preswylwyr eu cefnogi yn ystod y cyfnodau cynyddol anodd hyn, yn arbennig wrth i ni fynd i’r hydref a’r gaeaf.

 

Effaith anghymesur yr argyfwng ar aelwydydd incwm isel, fydd yn gwario cyfran uwch o’u hincwm na’r cyfartalog ar ynni a bwyd ac y bydd cynnydd mewn prisiau felly’n effeithio mwy arnynt, gan arwain at lai o incwm gwario.

 

Y gwaith a wnawn ar hyn o bryd fel cyngor ym mhob adran i gefnogi ein preswylwyr mwyaf bregus, yn cynnwys:

  • Y taliadau £150 i’r preswylwyr hynny sy’n byw ym mandiau A i D y Dreth Gyngor
  • Taliadau dewisol o £150 i aelodau mwyaf bregus ein cymunedau
  • Cefnogi elusennau fel Cyngor Ar Bopeth a MIND a all helpu rhai o aelodau mwyaf bregus cymdeithas
  • Cyfeirio preswylwyr at ble gallant gael help drwy ein hymgyrchoedd gwybodaeth

 

Mae’r Cyngor yn penderfynu:

 

Ein bod yn ymrwymo ein hunain fel Cyngor i weithio gyda’n teuluoedd a’n cymunedau, gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cymorth ymarferol i’r rhai sydd fwyaf ei angen.

 

Ein bod yn sicrhau y byddwn yn parhau i weithredu mewn dull cydlynus i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw.

 

Cofnodion:

Mae'r Cyngor yn penderfynu ein bod yn ymrwymo ein hunain fel Cyngor i weithio gyda'n teuluoedd a'n cymunedau, gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ymarferol i'r rhai sydd ei angen fwyaf.  Rydym yn sicrhau ein bod yn parhau i fabwysiadu dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Su McConnel

 

Mynegwyd bod hyn yn arwain yn ôl at yr angen i fynd i'r afael â'r bwlch rhwng swm y cyllid craidd i MCC gan Lywodraeth Cymru o'i gymharu â chynghorau yn gyffredinol yng Nghymru.

 

Nodwyd bod cynnydd o 100% wedi bod yn Oergell Gymunedol Cas-gwent ers iddo agor ym mis Mawrth 2022.

 

Cydnabuwyd mai un o’r problemau mwyaf yw'r gwahaniaeth rhwng incymau a chyfradd chwyddiant ar hyn o bryd.

 

Amlygodd y Cynghorydd Sir Sara Burch, Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithgar, fod Cyngor Sir Fynwy, gyda chefnogaeth LlC, wedi gallu cyflwyno rhaglen o weithgareddau'r haf trwy MonLife.  Dywedodd hefyd bod lleihau costau cartrefi yn gyfystyr â lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, a sut yr eir i'r afael â hyn drwy ailgylchu gwisg ysgol ac oergelloedd cymunedol.

 

Mynegwyd bod diffyg strategaeth tai ac y dylem ddychwelyd i adeiladu tai Cyngor.

 

Cyfeiriwyd at y cynnydd ym mhrisiau ynni a sut mae gan y Cyngor ddyletswydd rhwymedigaeth i helpu trigolion Sir Fynwy.

 

Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu sylw at y mater sy’n ymwneud â rhyw o amgylch yr argyfwng. 

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir Simon Howarth y cyfarfod am 16:32pm

 

Ar ôl ei roi i bleidlais, pasiwyd y cynnig.

 

 

 

 

 

 

7b

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Richard John

Mae’r Cyngor hwn yn:

Gwrthwynebu unrhyw gynigion gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i israddio’r gorsafoedd ambiwlans yn Nhrefynwy a Chas-gwent drwy dynnu’r Cerbydau Ymateb Cyflym.

Galw ar uwch swyddogion Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i fynychu’r pwyllgor dethol perthnasol ar gyfer craffu cyn-penderfyniad o’u cynigion adolygu roster genedlaethol cyn i Lywodraeth Cymru eu cymeradwyo a’u gweithredu.

 

Cofnodion:

Mae'r cyngor hwn yn gwrthwynebu unrhyw gynigion gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i israddio'r gorsafoedd ambiwlans yn Nhrefynwy a Chas-gwent drwy gael gwared ar y Cerbydau Ymateb Cyflym. Mae’n galw ar swyddogion gweithredol WAST i fynychu’r pwyllgor dethol priodol ar gyfer craffu cyn penderfynu ar eu cynigion o ran adolygu roster cenedlaethol cyn i Lywodraeth Cymru gymeradwyo a gweithredu.

 

Gadawodd y Cynghorydd Sir Tony Kear y cyfarfod am 16:40pm

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Alistair Neill.

 

Roedd Aelodau ar draws y siambr yn awyddus i fynegi eu cefnogaeth i’r cynnig.

 

Sylwadau y cyfeiriwyd atynt:

 

·        Effaith ar amseroedd ymateb ambiwlansys. 

·        Amser aros ambiwlansys y tu allan i Ysbyty’r Faenor yn effeithio ar amseroedd ymateb ambiwlansys.

·        Mae ardal wledig eang fel Sir Fynwy angen digon o ambiwlansiau.

·        Byddai presenoldeb WAST mewn pwyllgor craffu i gyflwyno eu cynigion yn sicrhau bod craffu diwydrwydd dyladwy yn digwydd.

·        Mae diffyg pecynnau gofal yn effeithio ar y gwelyau yn Ysbyty y Faenor.

·        Os yw’r rhan fwyaf o staff ambiwlans wedi’u lleoli mewn gorsaf ranbarthol, sut y byddant yn darparu ymateb cyflym i’r angen hwn yn Sir Fynwy wledig.  Dylai'r syniad o orsafoedd tân lleol fod yn berthnasol i gerbydau ymateb cyflym.

 

Ar ôl ei roi i bleidlais, pasiwyd y cynnig.

 

8.

Cwestiynau gan Aelodau

9.

Gan y Cynghorydd Sir Fay Bromfield i’r Cynghorydd Sir Catrin Maby, Aelod Cabinet dros newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

A wnaiff yr Aelod Cabinet roi diweddariad ar gamau i fynd i’r afael â goryrru yn Llantrisant?

 

Cofnodion:

A wnaiff yr Aelod Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gamau i fynd i’r afael â goryrru yn Llantrisant?

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod deiseb wedi dod i law gan y gymuned leol yn ceisio lleihau cyflymder ar y ffordd rhwng Brynbuga i Wentwood a bod y ddeiseb yn cael ei hadrodd i'r Pwyllgor Craffu Lleoedd ym mis Medi.  Yn y cyfamser mae swyddogion wedi ychwanegu'r cais at y rhaglen waith fel y gallant asesu'r sefyllfa a rhoi ystyriaeth deilwng i’r mater.

 

Fel nodyn atodol, roedd y Cynghorydd Sir Bromfield yn dymuno pwysleisio pryderon y trigolion a chroesawodd yr Aelod Cabinet i fynychu cyfarfod ar y ffordd er mwyn deall y pryderon dan sylw.  Cytunodd yr Aelod Cabinet i fod yn bresennol.

 

10.

Gan y Cynghorydd Sir Richard John i’r Cynghorydd Sir Rachel Garrick, Aelod Cabinet dros Adnoddau

Pa asesiad a wnaeth y weinyddiaeth am effaith ailbrisiad arfaethedig Llywodraeth Cymru o’r dreth gyngor ar breswylwyr Sir Fynwy?

 

Cofnodion:

Pa asesiad y mae’r weinyddiaeth wedi’i wneud ynghylch effaith ailwerthusiad arfaethedig y dreth gyngor gan Lywodraeth Cymru ar drigolion Sir Fynwy?

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet bod ymgynghoriad LlC ar dreth cyngor decach wedi agor ddydd Iau 14eg Gorffennaf 2022 a'i fod yn rhedeg tan fis Hydref 2022 a'i at ddibenion adolygu system treth cyngor Cymru.  Mae cwmpas yr ymgynghoriad yn cynnwys cwblhau ailwerthusiad o dreth cyngor ar gyfer yr 1.5 miliwn o eiddo yng Nghymru er mwyn ail-gydbwyso’r system i adlewyrchu gwerth eiddo.  Mae hyn oherwydd bod y system bresennol yn ei lle ers bron i 20 mlynedd ac mae wedi dyddio.  Mae’r cwmpas hefyd yn ymestyn i ddylunio system newydd o ran bandiau a chyfraddau treth sy’n fwy blaengar gan gynnwys ystyried ychwanegu mwy o fandiau i ben uchaf ac isaf y raddfa os oes angen.  Mae'n bwriadu ailwerthuso gwerthoedd tai yn amlach er mwyn cadw'r dreth cyngor wedi'i dosbarthu'n decach ac yn fwy rheolaidd.  Mae'n ceisio gwella'r fframwaith o ddisgowntiau, pobl a ddiystyrir, eithriadau a phremiymau i sicrhau bod trefniadau'n cyd-fynd â nodau Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn bwriadu gwella’r cynllun gostyngiadau'r dreth cyngor sy'n rhoi cymorth i aelwydydd incwm isel. 

 

Dyma gam cyntaf yr ymgynghoriad sy’n ystyried grantiau cynnal refeniw ac incwm y dreth cyngor.  Mae Cam 2 wedi’i dargedu ar gyfer haf 2023 ac mae CLlLC yn ystyried llunio ymateb ar y cyd a fyddai’n ystyried yr holl rwydweithiau refeniw ledled Cymru a chymdeithas Trysoryddion Cymru.  Gallwn hefyd gyflwyno ymateb fel cyngor unigol.

 

Cydnabu’r Aelod Cabinet bod pryderon ar draws y siambr ynghylch yr effaith ar Sir Fynwy a sefyllfa teuluoedd sy’n gyfoethog o ran asedau o ran eu cartrefi eu hunain ond sy’n dlawd o ran incwm.  Anogodd y Cynghorwyr i gadw mewn cof bod cwmpas yr ymgynghoriad yn cynnwys darparu cymorth i deuluoedd incwm isel.

 

At hyn, cyfeiriodd y Cynghorydd Sir John at yr ailwerthusiad blaenorol yn 2003/2004 pan oedd Cyngor Sir Fynwy yn un o’r awdurdodau lleol a gafodd ei daro galetaf a gofynnodd am sicrwydd y bydd y weinyddiaeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i amddiffyn trigolion Sir Fynwy a sicrhau nad yw’r newidiadau y mae LlC yn penderfynu arnynt yn effeithio’n anghymesur arnynt.

 

Sicrhaodd yr Aelod Cabinet y Cynghorydd Sir John na fyddent am i drigolion Sir Fynwy gael eu heffeithio’n anghymesur o gymharu â gweddill Cymru.

 

11.

Dyddiad y cyfarfod nesaf – 22 Medi 2022