Agenda

Cyngor Sir - Dydd Iau, 15fed Mai, 2025 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiad Buddiant

3.

Ethol Cadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2025/26

4.

Penodi Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn ddinesig 2025/26

5.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ebrill 2025 pdf icon PDF 427 KB

6.

Ethol Arweinydd y Cyngor Sir a derbyn hysbysiad o ddirprwyadau yr Arweinydd (penodiadau i’r Cabinet)

7.

Adolygiad o Gynrychiolaeth Pleidiau Gwleidyddol pdf icon PDF 276 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.

Penodiadau i Bwyllgorau pdf icon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

9.

Adroddiad Cyrff Allanol pdf icon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.

Penodi Aelodau Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) Sir Fynwy ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Dogfennau ychwanegol:

11.

Cynigion gan Aelodau

11a

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Lisa Dymock

Mae’r cyngor hwn yn:

 

Nodi gyda phryder y gwaharddiad arfaethedig ar gerbydau nwyddau trwm (HGV) yn croesi M48 Pont Hafren a’r goblygiadau ar gyfer cwmnïau cludiant lleol.

 

Galw ar Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy i asesu fel mater o frys yr effeithiau traffig cyfredol a rhagamcanol yng Nghyffordd 23A M4 i Magwyr fel canlyniad i’r cyfyngiadau ar M48 Pont Hafren a chyflwyno cynigion gyda’r costau i wella’r seilwaith ffyrdd yn ac o amgylch Cyffordd 23A Magwyr i sicrhau y gellir reoli traffig yn ddiogel ac effeithlon.

 

Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i weithio’n gyflym ar ddatrysiad tymor canol i ailgyflwyno symudiadau wedi’u rheoli gan HGV ar yr M48 Pont Hafren cyn gynted ag sydd modd.

 

11b

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Frances Taylor

Bod y Cyngor hwn yn cydnabod y bwriedir i daliadau uniongyrchol wella dewis, rheolaeth ac annibyniaeth, ac mae’n ymroddedig i sicrhau y caiff y rhai sy’n cyflawni’r meini prawf cymhwyster a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 y cymorth angenrheidiol i gael mynediad i daliadau uniongyrchol mewn modd amserol os dymunant hynny.

 

12.

Cwestiynau Aelodau

12a

Gan y Cynghorydd Sir Simon Howarth i’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

A all yr aelod cabinet roi esboniad llawn i gyhoedd y sir hon am y ffens alfanedig 7tr a osodwyd ar ochr y mynydd yn y parc cenedlaethol ym Mhwll Du a hefyd y parth clustog i safle treftadaeth y byd?

 

Er y cafodd ei gosod ar gyfer diogelwch ffordd, mae’n un o’r achosion gwaethaf o gam-drin cefn gwlad agored a welais erioed ac mae preswylwyr Clydach hefyd wedi eu siomi gan na wnaed unrhyw gysylltiad gyda’u cynrychiolwyr na’r gymuned ffermio.

 

12b

Gan y Cynghorydd Sir Simon Howarth i’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

A yw’r aelod cabinet Catrin Maby yn credu fod gan finiau sbwriel yn ein trefi a phentrefi, a hefyd briffyrdd, ran ganolog mewn cadw ein cymunedau yn lân a thaclus ac yn bwysicaf oll, yn arwain drwy esiampl?

 

12c

Gan y Cynghorydd Sir Meirion Howells i’r Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd

A fedrwch roi diweddariad ar gynnydd ac unrhyw ganfyddiadau o’r adolygiad parcio sir gyfan a gynhaliwyd yn ddiweddar? Yn arbennig ar gyfer Brynbuga, lle mae pryder gwirioneddol yn fy nghyd-ward o Llanbadog a Brynbuga gan fusnesau, preswylwyr, pentrefwyr cyfagos a’r rhai sy’n gweithio yn y dref. A fedrwch ein hysbysu am y statws presennol, unrhyw newidiadau arfaethedig a’r amserlen a ddisgwylir ar gyfer cyhoeddi casgliadau’r adolygiad?

 

12d

Gan y Cynghorydd Sir Richard John i’r Aelod Cabinet dros Adnoddau

Faint o aelwydydd yn Sir Fynwy sydd wedi sicrhau eithriad treth cyngor ers 2022?

 

12e

Gan y Cynghorydd Sir Tomos Davies i’r Aelod Cabinet dros Adnoddau

Gofyn i’r Aelod Cabinet ymateb i benderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu cyllid ar gyfer partneriaeth y Western Gateway.

 

 

12f

Gan y Cynghorydd Tomos Davis i Arweinydd y Cyngor

Gofyn i’r Awdurdod pa gamau a gymerodd yr awdurdod yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus diweddar yn ymwneud â chodi ffens ar Heol Pwll Du?

 

12g

Gan y Cynghorydd Sir Lisa Dymock i’r Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu

A fedrwch roi diweddariad os gwelwch yn dda ar y digwyddiad lluoedd arfog a gynhelir gan y cyngor, yn cynnwys unrhyw fanylion am yr amserlen, y sawl sy’n cymryd rhan, ymgysylltu â’r cyhoedd a mynediad?

 

12h

Gan y Cynghorydd Sir Lisa Dymock i’r Aelod Cabinet dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu

O gofio am rôl hanfodol ein canolfan hamdden wrth gefnogi iechyd a lles y gymuned, beth mae’r cyngor yn ei wneud i sicrhau cyllid fel mater o frys ar gyfer Canolfan Hamdden Cil-y-coed a’i adnewyddu i sicrhau fod gan breswylwyr fynediad i gyfleusterau hygyrch ac ansawdd uchel sy’n annog ffyrdd o fyw actif ac iach?

 

12i

Gan y Cynghorydd Sir Rachel Buckler i’r Aelod Cabinet ros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth

Yn aml asedau cymunedol fel tafarndai lleol yw enaid pentrefi gwledig. Mae ganddynt ran hanfodol wrth blethu ein cymunedau ynghyd ac atal ynysigrwydd gwledig. Mae tafarn wledig lewyrchus yn fegwn o obaith a lletygarwch. Maent yn ffordd hanfodol i gyfeillion a chymdogion gadw mewn cysylltiad a chadw cymunedau gwledig yn fyw. Pan maent yn cau, fel y bu The Star on the Hill yn Llanfihangel Tor-y-Mynydd, mae’n niweidiol tu hwnt i’r ardal. A fydd yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig yn ymrwymo i gasglu tîm asedau cymunedol ynghyd dan arweiniad Cyngor Sir Fynwy y gall cymunedau lleol fynd ato i gael cyngor a help ar sut i sefydlu cynnig dan arweiniad y gymuned i fedru prynu eu tafarn leol er budd pawb?

 

12j

Gan y Cynghorydd Sir Fay Bromfield i’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

Beth yw safbwynt yr Aelod Cabinet ar golli tir amaethyddol o’r ansawdd uchaf ar gyfer cynhyrchu ynni?

 

12k

Gan y Cynghorydd Sir Fay Bromfield i’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

Diolch i’r swyddogion priffyrdd am eu gwaith ar oryrru yn Llangybi. Fodd bynnag, dengys data o flynyddoedd diweddar mai ychydig o effaith a gafwyd. A all yr Aelod Cabinet amlinellu unrhyw ddatrysiadau parhaol sy’n cael eu hystyried i ostwng cyflymder yn effeithlon a gwella diogelwch ar gyfer preswylwyr a holl ddefnyddwyr y ffordd?

 

12l

Gan y Cynghorydd Sir Martin Newell i’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

A fedrwch roi diweddariad os gwelwch yn dda am Goldwire Lane yn Nhrefynwy sy’n destun Gorchymyn Arbrofol Rheoleiddio Traffig (ETRO) sy’n cyfyngu gyrru i breswylwyr, ymwelwyr, dosbarthu nwyddau a gwasanaethau argyfwng?

 

12m

Gan y Cynghorydd Sir Frances Taylor i’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch

A all yr Aelod Cabinet egluro faint o breswylwyr sy’n disgwyl am asesiad gwaith cymdeithasol a rhoi awgrym o ba mor hir y maent yn aros a’r amserau aros hiraf?

 

12n

Gan y Cynghorydd Sir Frances Taylor i’r Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd

A all yr Aelod Cabinet roi diweddariad ar yr effaith bosibl ar y gyffordd gyda’r M4 ym Magwyr yng nghyswllt y cynnig i gyflwyno terfyn pwysau o 7.5t ar Bont Hafren?

 

13.

Cyfarfod nesaf – dydd Iau 26 Mehefin 2026

14.

To exclude Press and Public pdf icon PDF 34 KB