Skip to Main Content

Agenda

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

CYN AGENDA - ARWYDDO CYFAMOD Y LLUOEDD ARFOG

2.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

3.

Datganiadau o Fuddiant

4.

Cwestiynau'r Cyhoedd

5.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 345 KB

6.

Adroddiad y Prif Swyddog dros Fenter

6a

Adnewyddu Canolfan Hamdden Cil-y-coed ac adnewyddu Campfa a Chaffi Cas-gwent pdf icon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

Adroddiad y Pennaeth Polisi a Llywodraethu

7a

Dyddiadur Cyfarfodydd 2020 - 2021 pdf icon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.

Adroddiad y Prif Swyddog dros Adnoddau

8a

Cynllun Gostwng Treth y Cyngor 2020/2021 pdf icon PDF 169 KB

9.

Rhestr o Gynigion

9a

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Batrouni pdf icon PDF 1 MB

Mae’r gr?p Llafur yn credu bod anghydraddoldeb a thlodi’n broblemau mawr yn Sir Fynwy ac y dylai’r cyngor ymgyrchu am Grant Anghydraddoldeb Incwm. (Tystiolaeth ychwanegol wedi ei atodi)

 

 

9b

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Batrouni

Bod y Cyngor hwn yn siomedig bod y Weinyddiaeth Dorïaidd wedi penderfynu cau Mounton House, yn enwedig heb unrhyw flaen gynllun ar gyfer y safle yn ei gyfanrwydd na’r ddarpariaeth o wasanaethau addysgiadol ar gyfer plant sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (SEBD). Wrth symud ymlaen bydd y Cyngor yn:


1. Gosod cyfyngiadau ar safle Mounton House sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddefnydd neu ailddatblygu gael ei ganiatáu at ddibenion addysgiadol neu er budd y gymuned leol er mwyn sicrhau nad yw’r weinyddiaeth bresennol nac unrhyw weinyddiaeth yn y dyfodol yn gwerthu’r safle ar gyfer adeiladu tai;

 

2. Dod â chynlluniau parthed y cynlluniau tymor hir ar gyfer plant SEBD yn y gymuned ymlaen i’r flwyddyn galendr hon.

 

 

 

 

 

 

 

 

9c

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir P. Fox

Y Cyngor Hwn:

 

Nodi, gyda rhwystredigaeth, bod Cyngor Sir Fynwy’n gyson yn derbyn y cyllid isaf y pen o bob awdurdod lleol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

 

Cydnabod y pwysau ariannol sylweddol ar wasanaethau awdurdod lleol, yn enwedig o ran gofal cymdeithasol ac anghenion dysgu ychwanegol.

 

Mynegi siom eithriadol bod disgwyl i Sir Fynwy, yn 2020-21, dderbyn y setliad gwaethaf o bob cyngor arall, gyda chynnydd o 3% yn unig o’i gymharu â 5.4% mewn awdurdodau cyfagos.

 

Galw ar yr Arweinydd a’r Cabinet i barhau i gyflwyno sylwadau cadarn i Lywodraeth Cymru am gyllid gwaelodol er mwyn lleihau anghydraddoldeb a chomisiynu adolygiad o fformiwla cyllido awdurdodau lleol, sy’n methu ag adnabod yr heriau sy’n gysylltiedig â chyflawni gwasanaeth mewn sir wledig fel Sir Fynwy.

 

 

10.

Cwestiynau Aelodau:

10a

Gan y Cynghorydd Sir M. Groucutt i'r Cynghorydd Sir R. John, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc a MonLife

Yn wyneb yr eitem ar ymgynghoriad ar gyllidebau sy’n cynnig bod gostyngiad o 2.5% i gyllidebau ysgolion, beth fyddai effaith ariannol uniongyrchol toriad o’r fath ar gyllidebau ein pedair ysgol uwchradd? A oes unrhyw ystyriaeth wedi ei roi i’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar ysgolion a’r ddarpariaeth y mae modd iddynt ei chynnig, yn enwedig ar gyfer ein disgyblion mwyaf anghenus ac agored i niwed?

 

 

10b

Gan y Cynghorydd Sir M. Groucutt i'r Cynghorydd Sir R. Greenland, Aelod Cabinet dros Arloesedd, Menter a Hamdden

A yw’r aelod cabinet yn bryderus yngl?n â’r diffyg ymgynghori ymddangosiadol rhwng swyddogion y Cyngor hwn a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yngl?n â chynigion a gyflwynwyd gan Awdurdod Tai Sir Fynwy i adeiladu ar dir gyferbyn â ward Lansdown, tir sydd o fewn y Parc Cenedlaethol? Mae’r cynnig yn cynnwys 70% o dai fforddiadwy a byddai gyferbyn â wardiau sydd â thlodi ac ynysigrwydd cymdeithasol sylweddol ynddynt yn barod. A fyddai datblygiad o’r fath, mewn ardal, sydd â’i ffyrdd presennol yn ei wneud yn anghyraeddadwy o ran trafnidiaeth gyhoeddus a thraffig masnachol yn creu cymuned ‘allan o olwg, allan o feddwl’ a fyddai’n gwneud y problemau cymdeithasol a wynebir yng Ngogledd y Fenni’n waeth? A fyddai modd iddo gadarnhau y bydd y cyngor yn gwrthwynebu datblygiad o’r fath pe byddai Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn mynd ymhellach na Cham 2 gyda’r cynnig yn dal yn ei Gynllun Datblygu Lleol sy’n cael ei ddatblygu. 

 

 

11.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24ain o Hydref 2020 pdf icon PDF 129 KB