Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

3.

I ethol Cadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2019/20

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi nodi munud o ddistawrwydd fel arwydd o barch yn dilyn marwolaeth y cyn-gynghorydd Olive Evans.

 

Roedd y Cadeirydd, y Cynghorydd Sir P. Clarke, wedi diolch i bawb a oedd wedi ei gefnogi yn ystod ei flwyddyn yn y rôl, gan amlygu’r digwyddiadau cofiadwy a fynychodd drwy gydol y flwyddyn.  

 

Roedd y Cadeirydd wedi mynegi diolch i’r staff ar draws yr Awdurdod, gan werthfawrogi’r help amhrisiadwy gan Mrs. Linda Greer a Mrs. Julia Boyd. Rhoddwyd diolch hefyd i Steve Barker, gyrrwr y Cadeirydd.

 

Roedd y Cadeirydd wedi cyflwyno siec i Gwent Music am £7071.21, elusen y Cadeirydd, ac fe’i casglwyd gan gynrychiolydd yr elusen, Emma Archer.

 

Roedd yr Arweinydd wedi annerch y Cyngor ac wedi diolch i’r Cynghorydd Sir Clarke am ei flwyddyn yn y swyddfa, ynghyd â’i  gymar,  Mrs. J. Clarke.

 

Roedd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol, y Cynghorwyr Sir D. Batrouni, D. Blakebrough a J. Watkins wedi  mynegi teimladau tebyg i’r Cynghorydd Fox.

 

Gwnaed cynnig gan y Cynghorydd Sir P. Fox, ac fe’i heiliwyd gan Gynghorydd Sir S. Jones, fod y Cynghorydd Sir S. Woodhouse yn cael ei ethol fel Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy ar gyfer Blwyddyn Sifig 2019/20. Yn dilyn pleidlais, cytunwyd yn unfryd y dylid ethol y Cynghorydd  Woodhouse fel Cadeirydd.

 

Roedd y Cynghorydd Sir S. Woodhouse wedi gwneud ac arwyddo Datganiad o Dderbyn Swyddfa, a rhoddwyd Cadwyn Y Swyddfa iddo gan yr hen Gadeirydd  cyn iddo gymryd y Gadair. 

 

Roedd y Cadeirydd newydd wedi diolch i Aelodau am eu cefnogaeth ac wedi cyhoeddi mai Mr. C. Woodhouse fyddai ei chymar; cyflwynwyd Mark Soady fel y Caplan; Gwent Music a Chymdeithas Alzheimer Cymru yw elusennau dewisedig y Cadeirydd. 

 

Roedd y Cadeirydd wedyn wedi cyflwyno Bathodyn Swyddfa ar gyfer Cyn-Gadeiryddion i’w ragflaenydd.  

 

4.

Penodi Is-gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2019/20

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sir P. Fox wedi cynnig, ac eiliwyd hyn, gan y Cynghorydd Sir S. Jones y byddai’r Cynghorydd Sir B. Jones yn cael ei apwyntio fel Is-Gadeirydd y Cyngor Sir ar gyfer y Flwyddyn Sifig 2019/20.

 

Yn dilyn pleidlais, apwyntiwyd y Cynghorydd Sir  B. Jones fel Is-Gadeirydd.  

 

Roedd y Cynghorydd Sir  Jones wedi gwneud ac arwyddo’r Datganiad o Dderbyn y Swyddfa a chyflwynwyd Cadwyn y Swyddfa iddo gan y Cadeirydd, ac ymgymerodd â’i rôl fel Is-Gadeirydd.  

 

Diolchodd yr Is-Gadeirydd yr Aelodau am eu cefnogaeth a chyflwynodd ei gymar,  Mrs R. Jones.

 

Daeth y cyfarfod i ben drwy gyflwyno Cadwyn y Swyddfa i Gymar y Cadeirydd newydd, Mr. C. Woodhouse, a rhoddwyd tlws crog i Gymar y Cadeirydd blaenorol  a Chadwyn y Swyddfa i Gymar yr Is-Gadeirydd newydd.  

5.

Bydd yr eitemau canlynol yn cael eu gohirio i gyfarfod y Cyngor Sir sydd i'w gynnal ar 16eg Mai 2019:

Cofnodion:

Penderfynwyd y byddai’r eitemau canlynol yn cael eu gohirio i gyfarfod y Cyngor Sir sydd i'w gynnal ar 16eg Mai 2019.