Agenda and minutes

Special Council, Cyngor Sir - Dydd Iau, 15fed Chwefror, 2018 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

3.

Polisi Cyflog pdf icon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i’r Cyngor i gymeradwyo cyhoeddi Polisi Cyflog Cyngor Sir Fynwy, yn unol â’r Ddeddf Lleoliaeth

 

Cadarnhawyd y byddai'r staff a allai gael eu heffeithio gan gyflwyniad y  Model Cynnwys Amgen yn cael eu cynnwys o dan drefniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau Diogelu Cyflogaeth.

 

Penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhellion:

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Polisi Cyflog ar gyfer y flwyddyn 1af Ebrill 2017 hyd at 31ain Mawrth 2018.

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo talu dyfarniad cyflog y Cydgyngor Cenedlaethol (CC) ar gyfer Prif Swyddogion Gweithredol yr  Awdurdod Lleol, y cytunwyd arno yn genedlaethol. Mae telerau ac amodau gwaith a chyflog y Prif Swyddogion Gweithredol yn cael eu rhagnodi gan y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Prif Swyddogion Gweithredol  awdurdodau lleol. Y cytundeb cyflog a gyrhaeddwyd yn 2016 ar gyfer Y Prif Swyddogion Gweithredol  oedd codiad cyflog o 1% sy'n effeithiol o 1 Ebrill 2016 a chynnydd cyflog o 1%, sy'n weithredol 1 Ebrill 2017. Nid oes cynnig cyflog wedi'i gadarnhau ar gyfer Ebrill 2018.

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo talu'r dyfarniad cyflog y cytunwyd arno ac a negodwyd yn genedlaethol ar gyfer y cyflogeion hynny sy'n dod o

dan y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Prif Swyddogion yr Awdurdod Lleol. Rhagnodir telerau ac amodau cyflogaeth a chyflog Prif Swyddogion yr Awdurdod Lleol gan y Cydgyngor Cenedlaethol.

Roedd y cytundeb cyflog a bennwyd yn 2016 ar gyfer Prif Swyddogion yn gynnydd o 1% mewn cyflog a oedd yn weithredol o 1 Ebrill 2016 a chynnydd o 1% yn weithredol o 1 Ebrill 2017. Nid oes cynnig cyflog wedi'i gadarnhau ar gyfer Ebrill 2018. Mae'r Cyngor yn cyflogi Prif Swyddogion dan delerau ac amodau’r Cydgyngor Cenedlaethol, ac ymgorfforir hyn yn y contractau cyflogaeth. Mae'r Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Prif Swyddogion  yn negodi ar godiadau cyflog blynyddol cenedlaethol (y DU) ar gyfer y gr?p hwn, a phenderfynir unrhyw ddyfarniad ar y sail hon. Mae gan Brif Swyddogion a gyflogir o dan delerau ac amodau’r Cydgyngor Cenedlaethol hawl gytundebol i unrhyw godiadau cyflog cenedlaethol a bennwyd gan y Cydgyngor Cenedlaethol a bydd y Cyngor hwn felly yn talu'r rhain yn ôl y gofyn yn unol â gofynion cytundebol.

 

 

4.

Cynllun Corfforaethol pdf icon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor adroddiad i ystyried a chymeradwyo'r Cynllun Corfforaethol gan gyfleu diben a gwerthoedd yr awdurdod ochr yn ochr â'r rhaglen uchelgeisiol a fydd yn cael ei blaenoriaethu dros y pedair blynedd a hanner nesaf.

 

Ystyriodd Arweinydd yr Wrthblaid elfennau cadarnhaol y cynllun, gan ei amlygu fel cynllun clir o ran blaenoriaethau ac yn gynllun mesuradwy ond ychwanegodd, yn fwy cyffredinol, fod y Cynllun Corfforaethol yn gofnod o fethiant y Ceidwadwyr yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.  Nodwyd y pwyntiau a ganlyn: Roedd y bwlch o ran cyrhaeddiad ymhlith yr uchaf yng Nghymru; 800 o dai yn brin o'n cynllun ein hunain; prisiau tai; nid yw gosod offer monitro yn delio â llygredd.  Gofynnodd y Cynghorydd Batrouni am eglurhad a gwybodaeth bellach am nifer o bwyntiau.  Daeth i'r casgliad y byddai'r Gr?p Llafur yn ymatal rhag cymeradwyo'r Cynllun Corfforaethol.

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Addysg yn edrych ymlaen at gyflawni'r cynllun dros y pedair blynedd nesaf ac roedd yn hyderus y byddem yn gwneud hynny gyda chefnogaeth pawb sy'n gweithio yn y system ysgolion.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol y byddai'r cynllun hwn yn ymwneud ag atal tlodi, nid yn unig yn ei leihau ac y byddai'n ymwneud ag annog pobl i gael gwaith a gwella bywydau'r rhai sydd mewn tlodi.

 

O ran tai, roedd ymgynghoriad wedi'i gyhoeddi ym mis Tachwedd 2017 i'r cyhoedd a rhanddeiliaid ynghylch a ddylem adolygu ein Cynllun Datblygu Lleol.  Rhagwelwyd y byddai cam yn cael ei gymryd i adolygu'r CDLl.  Mae cyfarfod ychwanegol o'r Cyngor wedi'i drefnu i fwrw ymlaen â hynny ym mis Mawrth.

 

Roedd rhywfaint o syndod nad oedd sôn am drafnidiaeth gyhoeddus yn y Cynllun.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd y dylid nodi bod Sir Fynwy yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i bobl fyw bywydau annibynnol ac, mewn cyfarfod diweddar, bod Sir Fynwy wedi'i chydnabod yn gyhoeddus fel Cyngor arloesol, yn llwyddiannus iawn mewn rhai meysydd o'r gwasanaethau cymdeithasol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Sir Groucutt rwystredigaeth ynghylch yr addysg yn Sir Fynwy a dywedodd y dylem gydnabod y gwaith sylweddol sydd angen ei wneud ac nid ymdriniwyd â hyn yn y Cynllun.

 

Ymatebodd yr Arweinydd gyda siom bod y gwrthbleidiau wedi ystyried y Cynllun fel cofnod o fethiant, ac ychwanegodd nad oedd gan Aelodau'r Gr?p Llafur unrhyw syniadau.

 

Penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhellion:

 

 

Cymeradwyo'r Cynllun Corfforaethol.

 

Mabwysiadu'r amcanion sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun fel Amcanion Llesiant y Cyngor yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

 

To adopt of the objectives contained in the plan as the Council’s Well-being Objectives in accordance with the requirements of the Well-being of Future Generations Act.

5.

Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol pdf icon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Cyngor yn rhoi gwybod am ganlyniadau'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus diweddar ar y Mapiau Rhwydwaith Integredig Drafft (MRhID) ac yn gofyn am ganiatâd i gyflwyno'r  MRhIDiau terfynol i Lywodraeth Cymru (LlC).

 

O ran terfynau amser, roeddem wedi cael estyniad gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r gwaith hwn.

 

Gofynnwyd i'r llwybr a ddynodir fel Lôn Sipsiwn A18 Sipsi i'r bont newydd arfaethedig yn Llan-ffwyst gael ei ymestyn i'r fynedfa gyda Grove Farm.

 

Gofynnwyd am ystyried llwybr beicio/cerdded uniongyrchol o ben draw'r bont yn Llan-ffwyst i ganol y dref.

 

Roedd pryder bod y llwybrau teithio llesol yn canolbwyntio ar drefi yn hytrach nag ar ardaloedd gwledig. 

 

Nid yw'r B4245 yn dod o fewn y map teithio llesol a byddai'n cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor Ardal Glan Hafren.  Byddai'r cyfarfod hwn hefyd yn ymdrin â'r pryderon ynghylch terfynau cyflymder a damweiniau lle dioddefodd dau berson o anafiadau sy'n newid bywydau.

 

Penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymhelliad:

 

 

Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r MRhIDiau fel yr atodir yn Atodiadau A ac C ac yn cymeradwyo’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

6.

Model Cyflawni Amgen pdf icon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Cyngor adroddiad i nodi'r goblygiadau i'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) yn sgil newid i Fodel Cyflawni Amgen ar gyfer gwasanaethau Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant ac Ieuenctid.

 

Cafodd y broses ei hegluro gan y Swyddog Monitro, ac eglurodd y cafwyd cyfle i alw i mewn y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet ar 29ain Ionawr 2018.  Fodd bynnag, roedd dod gerbron y Cyngor heddiw yn gyfle i drafod a dadlau.

 

Croesawodd y Cadeirydd Swyddogion ac ymgynghorwyr o Anthony Collins.

 

Gwrthwynebodd y gwrthbleidiau'r MCA ac roedd yn well ganddynt y model trawsnewid mewnol, gan nodi pryderon mai model osgoi treth yw'r MCA, a'r benthyca parthed y model.  Os bydd y model yn methu, y Cyngor fyddai'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb, ac felly talwyr y dreth. Cyfeiriodd y Cynghorydd Batrouni at enghreifftiau diweddar lle'r oedd modelau o'r fath wedi methu'n ddramatig.

 

Cytunwydpe bai'r MCA yn mynd yn ei flaen y byddai aelod o'r wrthblaid ar y Bwrdd.

 

Ceisiwydsicrwydd na fyddai'r costau i'n hysgolion uwchradd, o ran yr arian y disgwylir iddynt ei dalu i ganolfannau hamdden ar gyfer darparu gwasanaethau, yn cynyddu'n uwch na chyfradd chwyddiant.

 

Ceisiwydsicrwydd y byddai cysylltiadau â'r awdurdod iechyd, ac elfen gwasanaethau cyhoeddus y canolfannau hamdden yn cael eu cynnal, heb unrhyw gostau cynyddol ar gyfer atgyfeiriadau adsefydlu.

 

Mynegodd y Cynghorydd Watts bryderon fod demograffeg benodol yn cael ei methu, a gofynnodd am fanylion ynghylch Pwll Trefynwy parthed perchenogaeth yr ased a’r ddyled.  Cadarnhawyd y byddai sylfaen yr ased yn parhau i fod yn eiddo i'r Cyngor, ac na fyddai gan y sefydliad unrhyw ddyled.

 

Mynegodd y Cynghorydd Pratt ei chefnogaeth i'r model, gan nodi manteision y MCA i drigolion Llanelly Hill.

 

Cadarnhaoddyr Aelod Cabinet dros Lywodraethu y byddai'r berthynas rhwng y MCA ac ysgolion yn cael ei diogelu, fel y cytunwyd yn y Cabinet ar 29 ain Ionawr 2018.  Ychwanegodd y byddai angen i drefniadau llywodraethu fod yn foddhaol cyn y byddai'r MCA yn mynd yn ei flaen.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr wrth yr Aelodau y byddai cymeradwyo'r adroddiad yn galluogi Swyddogion i barhau i gyflwyno adroddiad pellach ar gyfer penderfyniad y Cyngor Llawn o'u disgwyliadau ar gyfer sefydliad newydd. 

 

 

 

Penderfynodd y Cyngor gytuno’r argymelliadau:

 

Cytuno y dylai £155,000 gael ei dynnu o'r gronfa wrth gefn o fuddsoddiadau blaenoriaethol er mwyn ariannu gweithgarwch cychwynnol  ar gyfer y Model Cyflawni Amgen.

 

Cydnabodyr angen i wneud darpariaeth o fewn y CATC fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb ar gyfer cyfnod y 5 mlynedd nesaf, sef £388,000, sy'n deillio o'r penderfyniad i symud gwasanaethau Twristiaeth, Hamdden, Diwylliant ac Ieuenctid i Fodel Cyflawni Amgen sydd newydd ei sefydlu.