Agenda and minutes

Cyngor Sir - Dydd Iau, 7fed Mawrth, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Council Chamber - Council Chamber

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sir R. Harris wedi datgan buddiant na sy’n rhagfarnus o ran eitem 6.4 sydd yn ymwneud a’i rôl fel Is-Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd  Llandeilo Bertholau; ac eitem 5.1 fel aelod o Fwrdd Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain.

 

Roedd y Cynghorydd Sir M. Powell wedi datgan buddiant na sy’n rhagfarnus o ran eitem 6.4 sydd yn ymwneud a’i rôl fel aelod o fwrdd llywodraethwyr Ysgol Gyfun Brenin Harri’r VIII.

 

Roedd y Cynghorydd Sir M. Groucutt wedi datgan buddiant na sy’n rhagfarnus o ran eitem 6.4 sydd yn ymwneud a’i rôl fel Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd  Llandeilo Bertholau.

3.

Cwestiynau Cyhoeddus

Cofnodion:

Dim.

4.

Cyhoeddiad y Cadeirydd a derbyn deisebau pdf icon PDF 76 KB

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi derbyn adroddiad y Cadeirydd. 

 

Ni chyflwynwyd unrhyw ddeisebau.

 

 

5.

Rhestr o Gynigion

5a

Oddi wrth y Cynghorydd Sirol D. Batrouni

Bod y cyngor hwn yn nodi ac yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd yn cynyddu ei grant cyfalaf i 65% - neu 75% os oes gan yr ysgol uned anghenion dysgu ychwanegol neu unedau cyfeirio disgyblion – ar gyfer rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif. Bod y cyngor yn nodi ymhellach bod cyfradd ymyrraeth y Model Buddsoddi Cydfuddiannol wedi cynyddu i 81% os dewisir yr opsiwn hwnnw. Felly, mae'r gr?p Llafur yn gofyn i'r weinyddiaeth Geidwadol ddod â'r gwaith o ailadeiladu Ysgol Gyfun Cas-gwent ymlaen, fel bod teuluoedd a phobl ifanc Cas-gwent yn cael ysgol yr 21ain ganrif yn gynt na'r bwriad ar hyn o bryd.

 

Cofnodion:

Ymatebodd yr Arweinydd mai dull y Cyngor cyfan yw darparu’r ysgolion gyda’i gilydd, heb unrhyw ragfarn wleidyddol. Mae’r weinyddiaeth yn hollol gefnogol o’r strategaeth pedair ysgol.  Mae elfen grant cyfalaf wedi cynyddu i 65% yn hytrach na 75% fel sydd wedi ei nodi yn y cynnig.

 

Roedd y Cynghorydd Groucutt wedi cefnogi’r cynnig, gan gydnabod yr heriau sydd yn wynebu ein hysgolion. Gyda phedair ysgol uwchradd newydd, rydym yn medru darparu addysgu safon uchel sydd yn sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu.  

 

Roedd yr Aelod Cabinet wedi cydnabod fod y cynnydd yn y gymhareb gyllido yn dangos fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar awdurdodau lleol. Cadarnhaodd fod y Cyngor wedi ymrwymo i’r strategaeth pedair ysgol. Ychwanegodd fod Ysgol Cas-gwent o dan arweinyddiaeth newydd ac yn awyddus i ail-ddatblygu’r ysgol cyn gynted ag y mae’n fforddiadwy. Mae’n parhau’n angerddol am y cynigion ar gyfer Ysgol Brenin Harri’r VIII.  Cynigiodd y Cynghorydd John ddiwygiad i’r cynnig:

 

Mae’r Cyngor yn nodi ac yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i gynyddu ei grant cyfalaf i 65% ar gyfer rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae hefyd yn nodi fod cyfradd ymyrraeth y Mutual Investment Model (MIM) wedi cynyddu i 81% os yw’r opsiwn yn cael ei ddewis. Felly, mae’r Cyngor yn gofyn i’r weinyddiaeth i fwrw ymlaen gydag ail-adeiladu Ysgol Uwchradd Cas-gwent cyn gynted ag sydd yn bosib fel bod teuluoedd a phobl ifanc Cas-gwent yn cael ysgol unfed ganrif ar hugain yn gynt na’r cynllun presennol. 

 

Eiliwyd y diwygiad gan y Cynghorydd Fox.

 

Yn ystod y drafodaeth, awgrymwyd y dylai’r Cyngor geisio ddatblygu Ysgol Cas-gwent cyn 2024 os yw’r MIM yn fanteisiol.

 

Yn dilyn pleidlais lawn, pasiwyd y cynnig. 

 

 

 

 

6.

Cwestiynau'r Aelodau:

6a

O'r Cynghorydd Sirol P. Pavia i'r Cynghorydd Sirol S. Jones

O ystyried y rhaniad digidol cynyddol yn ein sir, a all yr Aelod Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y broses o gyflwyno prosiect Cyflymu Cymru a'r hyn y mae'r Cyngor ei hun yn ei wneud i fynd i'r afael â mater amddifadedd digidol?

 

Cofnodion:

Ymatebodd yr Aelod Cabinet fod Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin eleni wedi arwyddo cytundeb grant gyda  BT o ran cyflwyno Cyflymu Cymru 2 yn Sir Fynwy, ac roedd y Cynghorydd Jones a swyddogion eraill yn cwrdd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar 19eg Mawrth 2019 er mwyn trafod y cam nesaf o gyflwyno hyn. Ychwanegodd fod yna rwystredigaethau yngl?n â’r modd y mae Cyflymu Cymru yn cael ei gyflwyno, fel rhan o’r cam cyntaf a’r ail gam. Mae’r gyfradd amddifadedd digidol gyfredol o fewn Sir Fynwy yn  12.5% o gymharu gydag Awdurdodau Lleol Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, lle y mae’r gyfradd rhwng  3% a 4%.

 

Awgryma ymchwil nad yw’r cam nesaf yn debygol o ddatrys y materion amddifadedd digidol yma, ac amcangyfrifir y bydd dal 9000 o dai/eiddo a fydd yn meddu ar godau post gwyn, sydd yn awgrymu bydd angen gwyntyllu datrysiadau amgen. 

 

Roedd y Cynghorydd Jones wedi cynnig llunio cynllun gweithredu ar gyfer amddifadedd digidol ac mae wedi gofyn i swyddogion i baratoi hyn a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu’r Economi a Datblygu cyn gwyliau’r haf.

 

Roedd y Cynghorydd Jones wedi diolch i Mike Powell, Rheolwr Rhaglen Wledig, am y gwaith arwrol y mae’n gwneud ar y prosiect hwn.    

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Pavia fod y Cynghorwyr yn eiddgar i graffu’r gwaith hwn ac yn croesawu cyfarfod gyda swyddogion cyn gynted ag sydd yn bosib.  

 

Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yr un mor siomedig nad yw swyddogion wedi mynychu cyfarfodydd er iddynt dderbyn ceisiadau i wneud hyn a sicrhaodd Aelodau y byddai’n gofyn i swyddogion ar 19eg Mawrth a fyddai modd i swyddogion  Llywodraeth Cymru i ddod 'nôl i’r Pwyllgor fel bod modd ei herio ar y polisi cenedlaethol o ran cyflwyno band-eang a chyfleoedd digidol.  

 

6b

O'r Cynghorydd Sirol P. Pavia i'r Cynghorydd Sirol P. Fox

Yn sgil yr adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ar barodrwydd sefydliadau yn y sector cyhoeddus ar gyfer Brexit, a all yr Arweinydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau y mae'r awdurdod yn eu cymryd i baratoi ein sir ar gyfer ymadawiad Prydain o'r Undeb Ewropeaidd?

 

Cofnodion:

Ymatebodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi sefydlu perthynas waith gyda phartneriaid allweddol fel Llywodraeth Cymru, CLlLC a chynghorydd y trysorlys er mwyn deall y cynllunio sydd angen ar gyfer unrhyw risg i Wasanaethau’r Cyngor. Mae strwythurau adrodd y  Llywodraeth Ganolog a Llywodraeth Cymru wedi eu sefydlu a daethant yn fyw ar 18fed Mawrth 2019.  Mae’r Prif Weithredwyr yn gynrychiolydd ar Banel Cynghori Parodrwydd Llywodraethau Lleol Llywodraeth Cymru sydd yn cynnig trosolwg strategol ac yn cefnogi’r broses o gydlynu gwaith paratoi o fewn llywodraeth leol. Rydym hefyd yn ymgysylltu gyda phartneriaid ar Gr?p Risg Fforwm Cadernid Lleol  Gwent.  Mae Gr?p Gwaith Brexit wedi ei sefydlu gan y Cyngor sydd yn cael ei arwain gan y Pennaeth Mentergarwch ac yn cynnwys ystod o wasanaethau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan gynnwys Amgylchedd, Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Pobl. Mae’r gwaith agos gyda CLlLC yn parhau. Mae yna adran benodol nawr ar Brexit ar ein gwefan sydd yn cyfeirio unigolion at wybodaeth berthnasol bellach.  

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Pavia a fydd yr Arweinydd a’r Aelod Cabinet ar gyfer Llywodraethiant, yn ymrwymo i weithio ag Aelodau, yn enwedig cadeiryddion craffu, er mwyn llunio hyn cyn gynted ag sydd yn bosib.  

 

Ymatebodd yr Arweinydd y byddai’r Aelod Cabinet ar gyfer Llywodraethiant yn frwd i weithio gyda chadeiryddion dethol, ac mae’n argyhoeddedig fod cynlluniau yn esblygu’n gyflym.  

 

6c

O'r Cynghorydd Sirol P. Pavia i'r Cynghorydd Sirol P. Fox

Yn dilyn cyhoeddi cam 1 Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ar gyfer yr A48 Cas-gwent, a all yr arweinydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd y mae'r awdurdod yn ei wneud i gyd-gomisiynu Cam 2 WelTAG?

 

Cofnodion:

Ymatebodd yr Aelod Cabinet drwy gynnig gwybodaeth am yr hyn sydd yn digwydd ar hyn o bryd. Cyfeiriodd at gyfarfod ar y cyd yn ddiweddar gyda’r Forest of Dean a chytunwyd yno ar bwysigrwydd y mater ac mae Gr?p Llywio Aelodau wedi ei sefydlu rhwng Cyngor Sir  Caerloyw, Cyngor Sir Forest of Dean a Chyngor Sir Fynwy.  Maent wedi mynegi cefnogaeth ar gyfer y cynllun. Mae’r gr?p swyddogion mewn cysylltiad gyda Llywodraeth Cymru am gynnwys a natur cam 2 o’r astudiaeth ac yn ceisio sefydlu ar hyn o bryd pa awdurdodau ac asiantaethau y dylid eu cynnwys ar gr?p adolygu’r swyddogion. Ar lefel Awdurdod, mae hyn yn weddol syml ond rhaid sicrhau bod Llywodraethau Cymru a San Steffan wedi ymgysylltu’n llwyr drwy gyfrwng asiantaethau fel yr Adran Drafnidiaeth, Highways England a Chynllunio Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Mae angen sicrhau bod y broses yn gywir er mwyn medru gwneud cynnydd ac mae’r fforwm yn allweddol er mwyn dwyn yr holl ddarnau ynghyd. Mae yna ddiddordeb ymhlith Aelodau ac mae swyddogion wedi derbyn cais i hysbysu Aelodau o’r datblygiadau diweddaraf wrth i’r prosiect symud yn ei flaen.     

 

Nid oes modd anwybyddu problemau seilwaith o gwmpas Cas-gwent a rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth ar agendau Llywodraethau Cymru a San Steffan.  

 

Bydd diweddariadau cyson yn cael eu darparu yn ystod y broses. 

 

Fel cwestiwn atodol, gofynnwyd i’r Cynghorydd Pavia a yw’r Arweinydd yn medru cadarnhau mai’r nod cyfredol yw y bydd ail ran o’r WELTAG yn cael ei gwblhau erbyn 2019, ac os felly, beth yw’r prif gerrig milltir a'r cyfraniadau posib sydd angen ar gyfer y gost arfaethedig o £1.3m?

 

Ymatebodd yr Arweinydd fod yr ymroddiad yn gryf a dylai fod yn barod i gymryd camau erbyn diwedd y flwyddyn. Mae hyn yn golygu bod angen i’w bartneriaid i weithredu ac mae Cyngor Sir Fynwy yn barod i gyfrannu. Byddai’n anghyfrifol i Gyngor Sir Fynwy i gynnig cymhorthdal i eraill.    

 

6d

O'r Cynghorydd Sirol L. Jones i'r Cynghorydd Sirol R. John

A fyddai'r Aelod Cabinet dros Addysg yn gwneud datganiad ar ganlyniadau categoreiddio cenedlaethol 2018/19?

 

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet Richard John wedi ymateb fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau'r categoreiddio cenedlaethol ar  31eg Ionawr 2019 ac roedd y casgliadau yn rhoi mwy o ysgolion gwyrdd i Sir Fynwy nag erioed o’r blaen. Yn  2012-13, roeddem wedi cael tair ysgol werdd ond mae gennym 15 erbyn hyn, gan gynnwys 2 ysgol uwchradd werdd am y tro cyntaf.  Roedd y Cynghorydd  John wedi talu teyrnged i’r penaethiaid a’r staff yn Ysgolion Uwchradd Harri’r VIII a Threfynwy am yr ymdrechion sylweddol a wnaed er mwyn sicrhau’r dyfarniad hwn. Mae’r nifer o ysgolion coch wedi disgyn o 2 i 1 a rhoddwyd teyrnged i bawb a oedd wedi helpu sicrhau hyn. Mae yna gynnydd wedi bod yn y nifer o ysgolion oren, a thrwy weithio gyda phartneriaid yn yr  EAS, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r ysgolion yma ar eu cynlluniau gwella.   

 

Roedd Cynghorydd Sir F. Taylor wedi datgan buddiant fel llywodraethwr ar ran yr Awdurdod Lleol yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Magwyr.  

 

Fel cwestiwn atodol, roedd y Cynghorydd Jones wedi cynnig llongyfarchiadau ar y cyraeddiadau yma ac wedi llongyfarch Ysgolion Cynradd Kymin View a Brynbuga ar sicrhau’r statws gwyrdd haeddiannol. Gofynnodd am yr hyn a oedd yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod yr un ysgol goch sydd ar ôl yn derbyn fel bod modd symud yr ysgol i’r categori oren cyn gynted ag sydd yn bosib.

 

Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd John ein bod yn parhau i weithio yn agos gyda’r uwch dîm rheoli yn yr ysgol a’r corff llywodraethu. Roedd wedi talu teyrnged i’r Cynghorydd Groucutt a oedd wedi camu i’r adwy er mwyn darparu arweinyddiaeth broffesiynol o’r corff llywodraethu. Mae cynghorwyr herio yn ymweld ac yn treulio amser gydag athrawon, yn cefnogi’r ysgol yn ei hymdrechion i wella safonau.    

7.

Cynghorydd Sirol R. John - Datganiad ar ddarpariaeth gofal plant yn Sir Fynwy

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sir R John wedi darparu’r datganiad canlynol:

 

‘Mae’r weinyddiaeth hon wedi ymrwymo i helpu teuluoedd sydd yn gweithio yn Sir Fynwy gyda gofal plant. Roeddem wedi lobïo Llywodraeth Cymru i fod ymhlith y cyntaf i weithredu’r cynllun gofal plant sy’n cynnig 30 awr am ddim yr wythnos. Yn Ionawr 2019, roeddem wedi cyflwyno ein cynnig o 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant sy’n 3 a 4 mlwydd oed, 20 mis cyn cyflwyno’r cynllun ar draws Cymru ym Medi 2020. 

 

Er mwyn diwallu’r angen am lefydd gofal plant, rydym wedi cynnig cynigion i ehangu darpariaeth meithrin yn Sir Fynwy ac mae’n bleser gennyf gadarnhau heddiw fod y cynlluniau yma wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru gyda grant o £2.1m. Byddwn yn adeiladu meithrinfeydd newydd yn Ysgol Gynradd yr Archesgob Rowan Williams yn Portskewett, Ysgol Gynradd Trellech, ynghyd â darpariaeth feithrin ddwyieithog fel rhan o Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Sir Fynwy a thrwy ehangu’r ddarpariaeth yn  Ysgol Y Ffin yng Nghil-y-coed er mwyn medru cynnig gofal plant cofleidiol. 

 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod rhieni yn medru derbyn gofal plant fforddiadwy a lleol a dyma pam ein bod mor frwdfrydig i gyflwyno’r cynllun gofal plant yma, gyda 30 awr am ddim bob wythnos, cyn llawer o’r cynghorau eraill. Rwyf wrth fy modd fod ein cynlluniau i ehangu darpariaeth meithrinfa yn  Portskewett, Trefynwy, Trellech a Chil-y-coed wedi eu cymeradwyo, sydd yn golygu y bydd mwy o blant yn Sir Fynwy yn medru elwa o’r manteision o addysg feithrin.

 

8.

Adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro:

8a

Penodi Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 61 KB

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet ar gyfer Llywodraethiant wedi cyflwyno adroddiad yn gofyn i’r Cyngor i gymeradwyo dau apwyntiad i’r Pwyllgor Safonau.

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi derbyn yr argymhelliad:

 

Cymeradwyo apwyntio  Mrs Rhian Williams-Flew a Dr Peter Easy i’r Pwyllgor Safonau.  

 

9.

Adroddiadau'r Prif Swyddog Adnoddau:

9a

Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2019/20 pdf icon PDF 331 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi derbyn Adroddiad Strategaeth Rheoli'r Trysorlys er mwyn cytuno i Bolisi’r Trysorlys ar gyfer 2019-20 a’r fframwaith strategol i swyddogion i’w ddilyn. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yna lefel briodol o ofal yn cael ei rhoi i gyllid yr Awdurdod a bod yna gyllideb ddarbodus er mwyn talu am y gweithgareddau yma.  

 

O ran y benthyciadau a’r cyllid sydd ar gael ar y farchnad, gofynnwyd a oes modd - doed a ddelo beth sydd yn digwydd gyda Brexit - i elwa o sefydliadau sy’n noddfeydd, fel cronfeydd pensiwn, yn y tymor byr. Esboniodd Pennaeth Cynorthwyol Cyllid na fyddai hyn fel arfer yn medru digwydd gan fod cronfeydd pensiwn yn bethau tymor hir fel arfer. Ein dulliau tuag at reoli’r trysorlys yw osgoi neu liniaru ein costau benthyg. 

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi cytuno gyda’r argymhellion:

 

Mae’r Cyngor yn cymeradwyo’r adroddiadau canlynol sydd wedi eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Archwilio ar 31ain Ionawr 2019:

·       Datganiad Polisi Rheoli’r Trysorlys a Darpariaeth Refeniw Isafswm  ar gyfer 2019/20 (Atodiad 1);a

·       Strategaeth Rheoli Trysorlys arfaethedig 2019/20 (Atodiad 2) gan gynnwys y Strategaethau Buddsoddi a Benthyg

 

Mae’r Cyngor yn cytuno y dylai’r Pwyllgor Archwilio  barhau i adolygu gweithgareddau trysorlys y Cyngor ar ran y Cyngor drwy dderbyn a chraffu adroddiadau canol blwyddyn a diwedd blwyddyn a thrwy graffu Strategaeth a Pholisi’r Trysorlys cyn eu trosglwyddo i’r Cyngor ar gyfer  eu cymeradwyo.

 

Mae’r Cyngor yn cytuno y bydd y Dangosyddion Darbodus yn cael eu cyflwyno yn llawn i’r Cyngor gyda’r Strategaeth Gyfalaf, a hynny er y bydd y Dangosyddion Trysorlys yn rhan o Strategaeth y Trysorlys.

 

9b

Penderfyniad y Dreth Gyngor 2019/20 pdf icon PDF 172 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad o’r Cyngor gan fod y Cyngor angen cydymffurfio gyda Statud ac amserlenni penodol er mwyn gosod y Dreth Gyngor ac mae angen gwneud datrysiadau diffiniedig. Mae’r argymhellion sydd yn ffurfio’r rhan sylweddol o’r adroddiad wedi ei dylunio er mwyn cydymffurfio gyda’r darpariaethau Statudol hynny.  

 

Mae’r datrysiadau a argymhellir hefyd yn dwyn sgil-effeithiau y Dreth  Gyngor a’r hyn a gynigir gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddau  ar gyfer Gwent a Chynghorau Tref a Chymuned, sydd felly yn caniatáu’r Cyngor Sir i sefydlu ei lefelau Treth Gyngor ei hun ar gyfer y bandiau eiddo amrywiol o fewn pob Tref neu Gymuned. 

 

Roedd Arweinydd yr Wrthblaid wedi mynegi siom yn y cynnydd mewn trethi ar drigolion Sir Fynwy tra bod gwasanaethau yn cael eu tynnu nôl. Cyfeiriodd at y cyllid ychwanegol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y meysydd a oedd wedi siomi o ran y gyllideb yn cynnwys y cynigion bagiau plastig, ffioedd parcio cynyddol a’r cynigion ar gyfer Ysgol Mounton House.

 

Ymatebodd yr arweinydd nad oedd yr wrthblaid wedi cyflwyno cyllideb amgen a bod Llywodraeth Cymru wedi gostwng y cyllid sydd yn cael ei rhoi i awdurdodau lleol o £1 biliwn.  Diolchodd i’r Aelod Cabinet ac Aelodau am eu gwaith yn cyflwyno’r gyllideb.  

 

Mynegwyd pryderon am y cynnydd mewn ffioedd parcio ac effaith hyn ar fusnesau ar yr y brif stryd.  

 

Roedd sawl aelod wedi mynegi rhwystredigaeth am y fformiwla cyllid ac awgrymwyd y dylid cynnal dadl genedlaethol yngl?n â’r Dreth Gyngor. 

 

Yn dilyn pleidlais, roedd y Cyngor wedi derbyn yr argymhellion yn unol ag adran 2 o’r adroddiad. 

 

 

 

 

10.

Rhestr Weithredu'r Cyngor Sir pdf icon PDF 76 KB

Cofnodion:

Roedd y Cyngor wedi nodi’r Rhestr Weithredu.

 

Wrth wneud hyn, roedd y Cynghorydd Pratt wedi hysbysu fod trigolion Dan y Coed wedi cwrdd â’r Peiriannydd Prosiect sydd yn gyfrifol am y prosiect ac wedi derbyn ymddiheuriad. Mae yna ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i’r gwaith peirianneg. Mae’r draenio wedi ei ddiweddaru a rhoddwyd sicrwydd na fyddai hyn yn digwydd eto.  

11.

I gadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir ar 17eg Mehefin 2019 pdf icon PDF 108 KB

Cofnodion:

Roedd cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 17eg Ionawr wedi eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

12.

I gadarnhau cofnodion cyfarfodydd y Cyngor Sir ar 21ain Mehefin 2019 pdf icon PDF 93 KB

Cofnodion:

Roedd cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 21ain Chwefror wedi eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd.