Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Meeting. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Nodi penodiad y Cynghorydd Sir David Evans fel Cadeirydd

Cofnodion:

Nodwyd.

 

2.

Penodi Is-gadeirydd

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd Sir S. Woodhouse y Cynghorydd Sir J. Treharne i fod yn Is-gadeirydd, ac eiliwyd yn briodol gan y Cynghorydd Sir David Jones.

 

Penodwyd y Cynghorydd Sir J. Treharne yn Is-gadeirydd.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

4.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion ar gyfer y fforwm agored i’r cyhoedd. 

 

5.

Pwyllgorau Ardal

Cofnodion:

Anerchodd y Prif Swyddog Pobl a Llywodraethiant a Swyddog Monitro y Pwyllgor i hysbysu am y gweithgor arfaethedig i drafod Pwyllgorau Ardal. Cytunwyd y cynhelir y cyfarfod cyntaf ar 28 Gorffennaf 2021. Bydd hyn yn gyfle i ystyried newidiadau deddfwriaethol sy’n dod i rym a’n galluogi i feddwl yn fwy eang am y gwersi a ddysgwyd o gyfnod Covid.

 

Maes i’w ystyried fydd sut mae Clystyrau yn gweithio a’r cyswllt sy’n digwydd o fewn y grwpiau hynny gyda’n Cynghorau Cymuned.

 

Cytunwyd gwahodd y Pennaeth Menter a Bywiogrwydd Cymunedol i gyfarfod y gweithgor.

 

6.

Amrywiaeth mewn Democratiaeth Leol pdf icon PDF 269 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol adroddiad i’r Pwyllgor i ystyried cynllun gweithredu ac, unwaith y cytunwyd arno, i wneud argymhelliad i’r Cyngor Llawn fod Cyngor Sir Fynwy yn ymrwymo i ddod yn Gyngor Amrywiol fel y nodwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

Mae’n bwysig ystyried nad oes gennym fawr o reolaeth dros rai elfennau o’r ymrwymiad, ond mae’r cyfan wedi eu cysylltu yn yr un cynllun gweithredu.

 

Argymhellir ein bod yn penodi llysgennad amrywiaeth ym mhob gr?p gwleidyddol, ac argymhellwyd os ydym yn gwneud hynny y dylai’r llysgenhadon hynny ddod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Byddai hyn yn sicrhau fod y Pwyllgor yn derbyn adborth ac yn sicrhau y byddwn yn gwybod pe byddai angen newid y cynllun gweithredu ac ymrwymiadau.

 

Croesawodd yr Aelodau y cynigion yn yr adroddiad a nododd fod Cyngor Sir Fynwy eisoes yn cyflawni llawer ohonynt.

 

Croesawodd y Cynghorydd Watkins fod amrywiaeth yn cael ei hyrwyddo, gan gydnabod fod cynrychiolaeth dda o gynghorwyr gwryw a benyw ar Gyngor Sir Fynwy. Ychwanegodd y dylai Cyngor Sir Fynwy ymdrechu i wella cynrychiolaeth a chyfranogiad o gymunedau BAME.

 

Byddai cysgodi a mentora ar sail aelod-i-aelod ac mae’n rhywbeth a awgrymwyd yn dilyn rhaglen cynefino 2017.

 

Yn nhermau Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn mynychu sesiynau i roi profiad personol o fod yn gynghorydd, awgrymwyd y gellid ehangu hyn i Aelodau amrywiol i adlewyrchu sefyllfa bersonol yr ymgeiswyr.

 

7.

Amserau ymateb i Aelodau

Cofnodion:

Codwyd mater amserau ymateb i sylw’r Pwyllgor mewn ymateb i bryderon a godwyd gan rhai aelodau. Roedd hefyd bryderon am offer technoleg gwybodaeth a mynediad i gyfarfodydd o bell.

 

Awgrymwyd y dylid anfon arolwg at bob aelod i ddynodi meysydd o gonsyrn.

 

Cytunodd Aelodau fod amserau ymateb gan swyddogion yn amrywio, ond nodwyd nad oedd unrhyw amserlen benodol.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Woodhouse y byddai  cyfeiriadur cyfredol o fanylion cyswllt swyddogion yn fanteisiol.

 

Cytunodd y Rheolwr Democratiaeth Leol i anfon arolwg at aelodau i gael mwy o wybodaeth.

 

8.

Etholiadau 2022 pdf icon PDF 125 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Democratiaeth Leol yr adroddiad i gytuno ar feysydd penodol i ddod â nhw i’r pwyllgor er mwyn sicrhau y caiff gwaith angenrheidiol ac wedi’i dargedu ei wneud cyn etholiadau lleol 2022 ac ar gyfer cynefino cynghorwyr newydd ar gyfer y tymor nesaf.

 

Materion a godwyd

 

  • Mae cyfarfodydd wyneb i wyneb yn fanteisiol i aelodau newydd – mae’n rhaid gwneud rhai elfennau tebyg i lofnodi datganiad swydd felly byddai cysylltiad wyneb i wyneb. Gallai rhai sesiynau sy’n fwy yn seiliedig ar wybodaeth eu cynnal ar-lein. Credir y byddai’r elfennau allweddol yn rhai wyneb i wyneb.
  • Byddai mentora yn dod yn naturiol i aelodau, fel y profwyd yn dilyn yr etholiad diwethaf.
  • Mae’n bwysig fod darpar ymgeiswyr y caiff holl ddyddiadau cyfarfodydd eu hadolygu’n gyson.
  • Byddai cyfeiriadur yn ddefnyddiol ar gyfer pob aelod, gyda gofyn i aelodau ei gadw’n gyfredol.
  • Mae sesiynau cynefino wedi eu recordio yn ddefnyddiol iawn i aelodau gyfeirio atynt ar unrhyw amser.

 

9.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 213 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2021.

 

10.

Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf sef 12 Gorffennaf 2021

Cofnodion:

Nodwyd.

 

Eitem Agenda – Trafodaeth ar weddïau yn y Cyngor Llawn.