Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir P. R. Clarke fuddiant personol sy’n rhagfarnu, yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau, parthed cais DC/2015/00970 gan ei fod yn Gyfarwyddwr Gwesty’r Three Salmons. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na’r bleidlais.
Datganodd y Cynghorydd Sir B. Strong fuddiant personol sy’n rhagfarnu, yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau, parthed cais DC/2015/00970 gan fod ei fab yn Gyfarwyddwr Gwesty’r Three Salmons. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na’r bleidlais.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol. PDF 116 KB Cofnodion: Cadarnhawydcofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 7fed Mawrth 2017 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.
|
|
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a’r ohebiaeth hwyr a gyflwynwyd, a argymhellwyd i’w gymeradwyo, yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychodd y Cynghorydd C. Munslow, yn cynrychioli Cyngor Tref Trefynwy, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
Mynychoddasiant yr ymgeisydd, Mr. David Hamer, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd, ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
Bydd y pwll nofio’n 25 metr o hyd gyda phum lôn, sydd yn unol ? gofynion y corff llywodraethu chwaraeon.
|
|
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y 17 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynegoddyr Aelod lleol dros Dixton gyda Osbaston, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, bryder, o ganlyniad i’r gorwariant ar y gyllideb ar gyfer yr ysgol, i’radeilad gael ei newid fel ei fod nawr yn mynd i gael ei adeiladu o ddeunydd polycarbonad ac nid y fricsen lwydfelen a oedd yn rhan o’r cynnig gwreiddiol ar gyfer yr ysgol.
Nodwydmai dim ond y neuadd chwaraeon oedd yn mynd i gael ei hadeiladu o ddeunydd polycarbonad.
MynegoddAelod arall o’r Pwyllgor bryder ynghylch y to gwastad. Fodd bynnag, nodwyd bod y cynllun eisoes wedi cael ei gymeradwyo gyda tho gwastad.
Wrthnodi manylion y cais, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir B. Strong bod cais DC/2017/00030 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y 17 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Wedi’rbleidlais cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo’r cais - 10 Ynerbyn cymeradwyo’r cais - 3 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasomfod cais DC/2017/00030 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y tri amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychoddyr Aelod dros Ward Dewstow y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd a chynrychiolodd yr Aelod lleol dros Ben Gorllewinol y Ward. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
Mynychodd Mr. Cochrane, yn cynrychioli’r gwrthwynebwyr, y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
Hysbysodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol y Pwyllgor, os yw preswylwyr Ferneycross yn credu nad oes gan yr ymgeisydd hawl mynediad ar draws yr heol, yna mae yn nwylo’r preswylwyr i geisio atal mynediad. Fodd bynnag, mae hwn yn fater preifat rhwng y datblygwr a’r preswylwyr ar safle’r datblygiad ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar yr 11 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Ailgyflwynwyd y cais i’r Pwyllgor Cynllunio yn dilyn diwygiadau. Cafodd y cais ei benderfynu i’w gymeradwyo gan y Pwyllgor yn Ionawr 2016 yn amodol ar Gytundeb Adran 106 parthed darparu tai fforddiadwy a chyfraniad oddi-ar-y-safle tuag at hamdden oedolion.
Roedd y cais gwreiddiol wedi cynnig trawsnewid yr anecs i’r gwesty i saith uned breswyl ond roedd hwn nawr wedi’i gwtogi i bump. Arhosodd holl elfennau eraill y cais fel y cyflwynwyd hwy’n wreiddiol a chynhwysent ddymchwel y gweithdai gerllaw a chodi tri eiddo preswyl un llawr newydd. Cynhwysai’r cais hefyd godi heol fynediad at safonau y gellid eu mabwysiadu, parcio ar gyfer 17 car ac ardaloedd wedi’u tirlunio cysylltiedig.
Gyda’rgostyngiad yn nifer yr unedau arfaethedig, roedd yr ymgeisydd nawr wedi dangos na fyddai’r datblygiad yn hyfyw yn economaidd ac na fyddai unrhyw gyfraniad at dai fforddiadwy nac unrhyw gyfraniadau Adran 106. Roedd asesiad hyfywedd yr ymgeisydd wedi’i wirio gan Swyddog Strategaeth a Pholisi’r Cyngor a derbyniwyd y sefyllfa hon gan y swyddogion. Ystyriai argymhelliad y swyddogion y dylid cymeradwyo’r cais heb ofyniad am Gytundeb Adran 106.
Wediystyried yr adroddiad, cytunodd yr Aelodau gydag argymhelliad y swyddog ond roeddent yn siomedig na fyddai cyfraniadau at dai fforddiadwy nac Adran 106 gan na fyddai’r safle bellach yn hyfyw’n economaidd i ddarparu’r cyfraniadau hyn.
Cynigiwydgan y Cynghorydd Sir P. Murphy ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. Edwards bod cais DC/2015/00970 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr 11 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Wedi’rbleidlais cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo’r cais - 10 Ynerbyn cymeradwyo’r cais - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasomfod cais DC/2015/00970 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar yr 11 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
|
|
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y chwe amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynegoddyr Aelod lleol dros Trellech United, hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, bryder ynghylch y deunyddiau a maint adeilad storio’r ardd.
Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd gan yr Aelod lleol, mynegodd yr Aelodau bryder hefyd ynghylch maint enfawr y sied ardd arfaethedig ac nad oedd wedi’i lleoli’n briodol at ddefnydd domestig.
Cynigiwyd, felly, gan y Cynghorydd Sir D. Blakebrough ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir R. Edwards ein bod o blaid gwrthod cais DC/2016/01206 ar sail y ffaith nad oedd y sied storio arfaethedig yn yr ardd o raddfa ddomestig ac y byddai’i maint yn andwyol i AHNE Dyffryn Gwy a bod y cais yn cael ei ailgyflwyno yn y Pwyllgor Cynllunio gyda rhesymau priodol dros ei wrthod.
Wedi’rbleidlais cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid gwrthod y cais - 10 Ynerbyn gwrthod y cais - 0 Atal pleidlais - 2
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasomein bod o blaid gwrthod cais DC/2016/01206 ar y sail nad oedd yr adeilad storio yn yr ardd i raddfa ddomestig ac y byddai’i faint yn andwyol i AHNE Dyffryn Gwy ac y byddai’r cais yn cael ei ailgyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio gyda rhesymau priodol dros ei wrthod.
|
|
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo’n amodol ar y ddau amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.
MynegoddAelodau bryder ynghylch y materion yn ymwneud â’r priffyrdd parthed y cais hwn. Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir A. Wintle ein bod o blaid gohirio cais DC/2017/00035 i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a gwahodd cynrychiolydd o Adran y Priffyrdd i ateb cwestiynau’r Aelodau ynghylch y materion yn ymwneud â’r priffyrdd parthed y cais hwn.
Wedi’rbleidlais cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid gohirio’r cais - 12 Ynerbyn gohirio’r cais - 0 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasomein bod o blaid gohirio ystyried cais DC/2017/00035 i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio a gwahodd cynrychiolydd o Adran y Priffyrdd i ateb cwestiynau’r Aelodau ynghylch y materion yn ymwneud â’r priffyrdd parthed y cais hwn.
|
|
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn amodol ar y 10 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 mewn perthynas â chyfraniad ariannol o £27,685 tuag at dai fforddiadwy yn ardal yr awdurdod cynllunio lleol.
Amlinelloddyr Aelod lleol dros Frynbuga, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:
Amlinellodd y Pennaeth Cynllunio, Tai a Llunio-Lle y pwyntiau canlynol:
Wediystyried adroddiad y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir A. Wintle ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir D. Edwards bod cais DC/2017/00093 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y 10 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 mewn perthynas â chyfraniad ariannol o £27,685 tuag at dai fforddiadwy yn ardal yr awdurdod cynllunio lleol.
Wedi’rbleidlais cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo’r cais - 9 Ynerbyn cymeradwyo’r cais - 3 Atal pleidlais - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynasomfod cais DC/2017/00030 yn cael ei gymeradwyo yn amodol ar y 10 amod, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Adran 106 mewn perthynas â chyfraniad ariannol o £27,685 tuag at dai fforddiadwy yn ardal yr awdurdod cynllunio lleol.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoesomystyriaeth i’r Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Drafft (CCA) ar Addasiadau Gwledig at Ddefnydd Preswyl neu Dwristiaeth (Polisïau H4 a T2), gyda’r bwriad o ofyn am ymgynghoriad.
Penderfynasomgymeradwyo’r Cyfarwyddyd Cynllunio Atodol Drafft (CCA) ar Addasiadau Gwledig at Ddefnydd Preswyl neu Dwristiaeth (Polisïau H4 a T2), gyda’r bwriad o ofyn am ymgynghoriad, ac argymell i’r Aelod Cabinet dros Arloesi, Menter a Hamdden yn unol â hynny.
|
|
Penderfyniad Apêl: Orchard House, Llanbadog. PDF 157 KB Cofnodion: Derbyniasomadroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio a gyfeiriai at benderfyniad apêl yn dilyn ymweliad safle a wnaed ar 1af Chwefror 2017. Safle: Orchard House, Llanbadog, Brynbuga.
Caniatawydyr apêl ac roedd caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ar gyfer ‘Dymchwel eiddo a oedd yno eisoes a garej ar wahân. Codi eiddo yn lle’r un a ddymchwelwyd a garej ar wahân. Ail-leoli’r mynediad i gerbydau sydd yno eisoes’ yn unol ag amodau’r cais, Cyf DC/2015/00938, dyddiedig 28ain Gorffennaf 2015, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr atodlen i’r llythyr penderfyniad.
|